Crynodeb

  • Cyhoeddi pwy fydd arweinydd newydd y Ceidwadwyr a Phrif Weinidog nesaf y DU

  • Boris Johnson a Jeremy Hunt yw'r ddau olaf yn y ras i arwain y blaid

  • Caeodd y bleidlais o aelodau'r blaid ddydd Llun

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae ein llif byw yn dod i ben ond fe gewch chi fwy o ymateb a dadansoddi ar Taro'r Post ar Radio Cymru am 13:00, a hefyd crynodeb o ddigwyddiadau'r dydd ar Newyddion 9 ar S4C heno am 21:00.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    I osgoi neges twitter 2

    Diwedd neges twitter 2
  2. 'Diwrnod tywyll'wedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi trydar eu hymateb i etholiad Mr Johnson drwy ddweud ei fod yn "ddiwrnod tywyll i wleidyddiaeth Brydeinig".

    Ychwanegodd y blaid ei fod yn "warthus" fod y darpar brif weinidog yn parhau i ystyried Brexit heb gytundeb fel opsiwn.

    "Byddai hyn yn gwneud niwed anadferadwy i'n democratiaeth a'n heconomi," meddai'r blaid.

  3. Galwad am etholiad cyffredinolwedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    Llafur Cymru

    Mae Ysgrifennydd Cysgodol Cymru, yr AS Llafur Christina Rees, ychydig yn fwy beirniadol o Mr Johnson nag arweinydd ei phlaid yng Nghymru, Mr Drakeford.

    Mynnodd Ms Rees y dylai'r prif weinidog newydd nawr alw etholiad cyffredinol er mwyn gweld a oes ganddo gefnogaeth y wlad gyfan.

    "Dylai Johnson hefyd wneud yn iawn am record warthus ei blaid yng Nghymru," meddai.

    "Os yw e wir yn poeni am bobl, swyddi a'r economi fan hyn, dylai ddiystyru Brexit trychinebus heb gytundeb."

  4. Barnier eisiau gweithio tuag at Brexit 'trefnus'wedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    Twitter

    Mae Prif Drafodwr y Comisiwn Ewropeaidd, Michel Barnier, wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at weithio'n "adeiladol" gyda Boris Johnson er mwyn sicrhau Brexit "trefnus".

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Brecsitydd yn Brif Weinidogwedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Boris Johnson, wrth gwrs, yw'r prif weinidog cyntaf ers y refferendwm yn 2016 wnaeth bleidleisio dros Brexit.

    Fe gafodd y ffaith bod ei ragflaenydd, Theresa May, wedi ymgyrchu o blaid Aros ei dal yn ei herbyn gan rai, er ei bod hi wedi ceisio sicrhau Brexit drwy ei chytundeb hi gyda'r UE.

    Mae cyn-Arweinydd y Tŷ, Andrea Leadsom, wedi croesawu buddugoliaeth Mr Johnson heddiw gan ddweud ei fod yn "credu'n angerddol yn nyfodol y DU y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd".

  6. 100 diwrnod nes gadael?wedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    Twitter

    Mae gohebydd y BBC, Nick Eardley, yn nodi bod 100 o ddiwrnodau nes y dyddiad y bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Boris Johnson.

    Cyn ei ddewis yn arweinydd, dywedodd Mr Johnson y byddai'n gadael ar 31 Hydref - boed hynny hefo cytundeb gyda'r UE neu beidio.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Yr ymateb o faes y Sioewedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Gauke yn gadael y cabinetwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    Twitter

    Fel y disgwyl, mae'r Ysgrifennydd Cyfiawnder David Gauke wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y cabinet ac yn dychwelyd i'r meinciau cefn yn dilyn etholiad Boris Johnson.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Plaid Brexit eisiau 'eglurder'wedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    Plaid Brexit

    Mae Mark Reckless, yr Aelod Cynulliad o'r Blaid Brexit, wedi ymateb drwy ddweud ei bod hi "wedi bod yn glir ers wythnosau" pwy fyddai'n ennill.

    "Beth sy'n llai eglur yw a fydd y prif weinidog newydd yn mynd â ni allan o'r UE ym mis Hydref, fel mae wedi addo," meddai.

    "Os nad yw e, dwi'n poeni am yr effaith a gaiff hynny ar ein democratiaeth, ond o leia' nawr mae gennym ni Blaid Brexit."

  10. Beth nesaf?wedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Beth yw'r camau nesaf felly? Wel, fydd Mr Johnson ddim yn dod yn brif weinidog yn syth.

    Bydd rhaid iddo aros gyntaf nes i Theresa May gynnal ei sesiwn olaf o Gwestiynau i'r Prif Weinidog fory yn Nhŷ’r Cyffredin.

    Yna fe fydd Mrs May yn cyflwyno'i hymddiswyddiad yn swyddogol i'r Frenhines yn y prynhawn.

    Wedi hynny fe fydd Mr Johnson yn ei holynu, a hynny wedi iddo yntau ymweld â Phalas Buckingham.

  11. 'Anrheg i'r mudiad annibyniaeth'wedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    Plaid Cymru

    Mae Arweinydd Seneddol Plaid Cymru wedi galw etholiad Mr Johnson yn "anrheg" i'r mudiad annibyniaeth yng Nghymru.

    Dywedodd Liz Saville Roberts: "Yn ystod yr argyfwng gwleidyddol mwyaf mewn degawdau, mae clown ar fin dod yn brif weinidog.

    "Ond nid yw hyn yn jôc."

    Ychwanegodd bod annibyniaeth i Gymru bellach "nid yn fater o 'os' ond 'pryd'".

  12. Croeso i Johnson gan Geidwadwyr Cymruwedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae Paul Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, eisoes wedi llongyfarch Mr Johnson ar ei fuddugoliaeth.

    "Nes i bleidleisio dros Boris a chefnogi ei ymgyrch arweinyddol am fy mod i'n credu bod y sefyllfa wleidyddol bresennol yn gofyn am arweinyddiaeth garismataidd, ddyrchafol a phositif - dyna gawn ni gyda Boris fel arweinydd," meddai.

    "Gyda Boris Johnson gallwn gadw Jeremy Corbyn allan o 10 Downing Street, ei atal rhag ein llusgo ni 'nôl i'r 1970au, a chyda'n gilydd dod ag 20 mlynedd o reolaeth ddi-dor Llafur yng Nghymru i ben.

    "Dwi'n edrych ymlaen at groesawu Boris yn ôl i Gymru fel y Prif Weinidog yn y dyfodol agos ac i barhau i adeiladu perthynas gref a phositif er mwyn siapio dyfodol Cymru a'r Deyrnas Unedig, gan sicrhau ein bod ni'n manteisio'n llawn ar gyfleoedd Brexit."

    paul davies
  13. Dymuniadau da gan Drakefordwedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    Llywodraeth Cymru

    Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn dymuno'n dda i Mr Johnson yn ei swydd newydd, gan alw am "aeddfedrwydd" gwleidyddol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. 'Cyflawni Brexit a threchu Corbyn'wedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Boris Johnson nawr yn diolch i Theresa May, ac i aelodau'r blaid am ei ddewis.

    Mae'n cydnabod hefyd bod 'na bobl yn y wlad, "ac hyd yn oed yn yr ystafell yma", fydd yn cwestiynu "doethineb" y dewis hwnnw.

    Ond mae'n mynnu bod "greddf" y Blaid Geidwadol yn y lle cywir pan mae'n dod at amddiffyn hawliau'r unigolyn ac edrych ar ôl y rheiny sy'n llai ffodus.

    Mae wedyn yn dweud y bydd yn "cyflawni Brexit, uno'r wlad a threchu Jeremy Corbyn" - brawddeg sy'n dod a chymeradwyaeth gan yr ystafell.

    Boris JohnsonFfynhonnell y llun, bbc
  15. Llongyfarchiadau gan Theresa Maywedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Wedi'r cyhoeddiad, mae Theresa May wedi llongyfarch yr arweinydd newydd, gan ddweud y bydd hi'n rhoi ei "chefnogaeth lawn" iddo o'r meinciau cefn.

  16. Y canlyniad yn llawnwedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dyma oedd y canlyniad terfynol o ran nifer y pleidleisiau:

    Boris Johnson - 92,153

    Jeremy Hunt - 46,656

    Roedd 159,320 o aelodau'r blaid yn gymwys i bleidleisio, gydag 87.4% ohonynt yn bwrw pleidlais.

  17. Boris Johnson yw'r arweinydd newyddwedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019
    Newydd dorri

    BBC Cymru Fyw

    Mae Boris Johnson wedi ei ethol yn arweinydd newydd y Blaid Geidwadol a Phrif Weinidog y DU.

  18. Cheryl Gillan AS sy'n cyhoeddiwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

  19. Mae'r ymgeiswyr wedi eu cyflwyno...wedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

  20. Cyhoeddiad yn agoswedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 23 Gorffennaf 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Brandon Lewis wedi camu ar y llwyfan yn barod i gyhoeddi'r canlyniad, ond does dal dim golwg o Boris Johnson yn y neuadd...