Crynodeb

  • Buddugoliaeth yn sicrhau lle Cymru yn rownd yr wyth olaf

  • Cymru'n ddi-guro mewn tair; Fiji wedi ennill un a cholli dwy

  • Tri diwrnod o seibiant cyn y gêm nesaf yn erbyn Uruguay ddydd Sul

  1. Dyna ni!wedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mewn gêm galed y canlyniad oedd yn bwysig.

    Roedd y gêm yn llawn camgymeriadau, cardiau melyn a thaclo cryf, ond Cymru lwyddodd i ennill a sicrhau pwynt bonws a lle yn wyth olaf y gystadleuaeth.

    Uruguay fydd nesaf a bydd Cymru Fyw unwaith eto yn barod gyda llif byw fore Sul.

    Diolch am ymuno gyda ni heddiw.

  2. 'Disgwyl newidiadau'wedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Andrew Coombs
    Cyn-glo Cymru

    Mae Andrew Coombs yn disgwyl i Gymru wneud newidiadau i'r tîm i wynebu Uruguay ddydd Sul.

  3. Ymateb Warren Gatlandwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    "Roedd rhaid i ni aros yn y gêm pan oedden ni 10-0 i lawr.

    "Y neges oedd ceisio aros yn y gêm.

    "Wnaethon ni ddim creu digon o gyfleoedd mewn gêm galed iawn.

    "Roedd Josh Adams yn wych, roedd rhaid i ni gadw'r bêl a doedden ni ddim yn cicio ddigon da heddiw.

    "Bydd y tîm meddygol yn gweithio'n galed yn y dyddiau nesaf rŵan gan mai dim ond pedwar diwrnod sydd yna nes i ni wynebu Uruguay," meddai.

    Warren GatlandFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. 'Parch mawr i Fiji'wedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Alun Wyn Jones yn canmol Fiji yn dilyn gêm galed

    "Mae lot i weithio arno ar ôl heddiw ond parch mawr am y ffordd wnaeth Fiji chwarae."

    Alun WYn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Cymru drwoddwedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Buddugoliaeth i Gymru yn golygu fod gwŷr Warren Gatland yn camu i rownd wyth olaf y gystadleuaeth.

  6. Dyna ni!wedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 29-17 Fiji

    BBC Cymru Fyw

    Dyna ni, y chwiban olaf a buddugoliaeth i Gymru yn Oita

    Cymru 29-17 Fiji

  7. 'Cyrff tost'wedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Emyr Lewis
    Cyn-wythwr Cymru a sylwebydd Radio Cymru

    "Fydd ‘na gyrff tost bore fory yng ngwesty tîm Cymru"

  8. Bron yno!wedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 29-17 Fiji

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Gyda phum munud yn weddill, mae'r fuddugoliaeth bron yn sicr i Gymru - ac mae'r pwynt bonws wedi'i sicrhau yn barod - ond mae'n anodd peidio edrych ar Jonathan Davies ar y fainc.

    Mae'r canolwr yn edrych mor drist yn dilyn ei anaf.

  9. 'Rhyddhad yn Oita'wedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Gareth Charles
    Gohebydd Rygbi BBC Cymru

    "Mae’r rhyddhad yn stadiwm Oita yn gwbl gwbl amlwg ar ol brwydr a hanner!"

    Gareth Charles

  10. Taclo ffyrnigwedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 29-17 Fiji

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r taclo'n dechrau troi'n ffyrnig yma yn Oita ac wrth i Liam Williams gael triniaeth ar drwyn gwaed.

  11. Dau eilydd i Gymruwedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Wyn Jones i ffwrdd am Rhys Carre

    Jake Ball yn gadael ac Aaron Shingler yn camu ymlaen i'r maes.

  12. Cais arall i Gymruwedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Cais arall i Gymru a phwynt bonws yn y fargen.

    Gareth Davies yn rhyddhau Liam Willams sy'n rhedeg yn gwbl rydd dan y pyst .

    Patchell yn cicio'n gywir y tro hwn ac agor mantais o 12 pwynt i Gymru.

    Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Davies wedi'i anafuwedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 22-17 Fiji

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Mae Jonathan Davies yn edrych yn hollol ddigalon ar fainc Cymru.

    Byse'n drychinebus i Gymru tase'r canolwr ddim ar gael am amser hir.

    Davies yw un o ganolwyr gorau'r byd ac, heb law am Alun Wyn Jones, efallai fe yw chwaraewyr pwysicaf Cymru.

  14. Hat-tric i Adamswedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 22-17 Fiji

    BBC Cymru Fyw

    Pas ardderchog gan Jonathan Davies yn rhyddhau Josh Adams sy'n croesi unwaith eto am ei drydedd cais o'r gêm wedi 61 munud.

    Patchell yn taro'r postyn gyda'r trosiad, felly pum pwynt o fantais i Gymru.

    Josh AdamsFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. 'Patchell yn plesio'wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    BBC Radio Cymru

    Mae Derwyn Jones ar Radio Cymru yn hapus gyda Rhys Patchell:

    "Mae Patchell wedi dechrau'r gêm yma yn union fel orffennodd y gêm ddiwethaf yn erbyn Awstralia. Cicio gwych gan Patchell."

  16. Cic gosb i Gymruwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 17-17 Fiji

    BBC Cymru Fyw

    Cyfraniad cyntaf Rhys Patchell oedd cicio'r bêl rhwng y pyst o 42m i ddod a'r sgor yn gyfartal.

  17. 'Erchyll'wedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 14-17 Fiji

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Roedd hwna'n edrych yn erchyll i Dan Biggar wrth i Liam Williams daro mewn iddo'n ddamweiniol.

  18. Anaf arall i Biggarwedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 14-17 Fiji

    BBC Cymru Fyw

    Unwaith eto yn y gystadleuaeth mae Dan Biggar wedi anafu ei ben yn dilyn gwrthdrawiad gyda Liam WIlliams.

    Mae Rhys Patchell newydd gamu ymlaen yn ei le wedi 55 munud.

    Dan BiggarFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Fiji yn ôl ar y blaenwedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 14-17 Fiji

    BBC Cymru Fyw

    Cais gôsb i Fiji. Mae'r dyfarnwr wedi rhedeg dan y pyst a rhoi cais gosb yn dilyn trosedd gan Gymru.

    Mae Fiji yn ôl ar y blaen.

  20. 'Amser tyngedfenol'wedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    BBC Radio Cymru

    "Galle'r ddeng munud nesa fod yn dyngedfenol i obeithion Cymru o ennill y gêm" medd Derwyn Jones ar Radio Cymru