Crynodeb

  • Gêm olaf Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru, a hynny yn erbyn ei famwlad

  • Chwe chais i'r Crysau Duon yn drech na dau gais Cymru

  • Steve Hansen yn gorffen gyda medal efydd yn ei gêm olaf fel hyfforddwr Seland Newydd

  1. Hwyl fawr.wedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw.

    Roedd hi'n ymdrech ardderchog gan Gymru, ond Seland Newydd oedd y tîm gorau, a llongyfarchiadau mawr iddyn nhw am ennill y Fedal Efydd yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2019.

    Hwyl fawr!

    crysau duonFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. 'Un gêm yn rhy bell'wedi ei gyhoeddi 11:02 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Dywedodd Warren Gatland: "Roedd hon yn un gêm yn rhy bell i ni dwi'n meddwl, ond dwi'n falch iawn o'r bois.

    "Mae chwarae De Affrica a'r Crysau Duon o fewn wythnos yn gofyn lot... gofyn gormod... ond fe wnaethon ni'n dda iawn mewn mannau."

    siomjFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Hansen yn ffarwelio gyda buddugoliaethwedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Yn ei flynyddoedd fel hyfforddwr y Crysau Duon, dim ond 10 gêm y mae Steve Hansen wedi'u colli.

    Mae'n ddiwedd cyfnod i lawer heno yn Tokyo.

    hansenFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. 'Cyfnod cofiadwy'wedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    "Mae 12 mlynedd [Warren Gatland] wedi bod yn sbesial i Gymru. Siomedig heno wrth gwrs, ond ni wedi gweld chwaraewyr ifanc yn cale cyfle heno a nhw yw'r dyfodol nawr i Gymru," medd Ken Owens.

  5. 'Falch o'r crys coch'wedi ei gyhoeddi 10:53 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    "Roedden ni am drio cael gêm gofiadwy, ac er bod y sgôr yn siomedig yn y diwedd ry'n ni'n falch o fod wedi gwisgo'r crys coch unwaith eto," medd Alun Wyn Jones.

    alun wynFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Seren y gêmwedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Brodie Retallick o Seland Newydd sydd wedi ei enwi yn Seren y Gêm.

    Brodie RetallickFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 10:50 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 17-40 Seland Newydd

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Dyma'r gem roedd nifer yn ofni, ac efallai yn disgwyl.

    Anafiadau a blinder yn tanseilio Cymru, tra bod y Crysau Duon yn dangos eu cryfder a'u dyfnder efo perfformiad ardderchog.

  8. Emyr Lewis yn gweld gobaithwedi ei gyhoeddi 10:48 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Emyr Lewis
    Cyn-wythwr Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru

    "Dwi wedi mwynhau’r gêm. Dwi ychydig yn fwy calonogol - o leiaf mae Cymru wedi ceisio lledu’r bel. Dwi’n siŵr fod y chwaraewyr gyda ni sy’n gallu mabwysiadau'r dull newydd yma o chwarae.

    Dyna’r dull fydd Wayne Picak a Stephen Jones am ei weld."

  9. Y fedal efydd i Seland Newyddwedi ei gyhoeddi 10:48 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Sgôr terfynol - Cymru 17-40 Seland Newydd

  10. Mo'unga'n methu trosi ei gaiswedi ei gyhoeddi 10:45 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 17-40 Seland Newydd

  11. Chweched cais y tro hwnwedi ei gyhoeddi 10:43 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 17-40 Seland Newydd

    Richie Mo'unga sy'n cael y chweched cais.

    caisFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Ystadegyn anffoduswedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Rhywbeth i ddathlu o'r diweddwedi ei gyhoeddi 10:38 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    fansFfynhonnell y llun, getty
  14. Record i Adamswedi ei gyhoeddi 10:32 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 17-35 South Africa

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Diolch i'w seithfed gais o'r gystadleuaeth, mae Josh Adams nawr yn dal y record ar gyfer y nifer fwyaf o geisiau i Gymru mewn un Cwpan Byd, heibio record Shane Williams o chwe chais yn 2007.

    Dim ond un arall sydd angen ar Adams i fod yn hafal a'r record cyffredinol ar gyfer Cwpan y Byd, wyth, gan Bryan Habana, Julian Savea a Jonah Lomu.

  15. Cyn ac ar ôl egwylwedi ei gyhoeddi 10:29 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 17-35 Seland Newydd

    Emyr Lewis
    Cyn-wythwr Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru

    "Chi'n gweld Seland Newydd yn rhoi pwyslais mawr ar sgori cyn hanner amser ac yn syth ar ôl hanner amser.

    "Mae'r 14 pwynt gafon nhw yn y cyfnodau yna yn mynd i neud gwahaniaeth mawr heno falle."

  16. Trosiad Biggar yn llwyddowedi ei gyhoeddi 10:26 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 17-35 Seland Newydd

  17. CAIS I GYMRU!wedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Cymru 15-35

    Seithfed cais Josh Adams yng Nghwpan y Byd gan guro record Shane Williams i Gymru!

    joshFfynhonnell y llun, getty
  18. Dadansoddiad Catrin Heledd yn Tokyowedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Catrin Heledd
    Gohebydd chwaraeon yn Tokyo

    Mae rhywun yn cael y teimlad bod y llifddorau ar fin agor. Fydd Shaun Edwards ddim yn hapus os taw dyna’r achos. Mae e’n gosod targed i bob gêm a fydd e ddim eisiau mynd heibio’r 50 pwynt yn ei gêm olaf.

    Mae angen fflach o ysbrydoliaeth o rywle.

  19. Cymru yn rhwystredigwedi ei gyhoeddi 10:23 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Emyr Lewis
    Cyn-wythwr Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru

    Dywed Emyr Lewis ar BBC Radio Cymru fod Cymru yn amlwg yn rhwystredig eu bod yn methu cael y bas i mewn a thorri drwy amddiffyn y Crysau Duon.

  20. Pedwar eilydd i'r Crysau Duonwedi ei gyhoeddi 10:22 Amser Safonol Greenwich 1 Tachwedd 2019

    Sonny Bill Williams yw un o'r pedwar sy'n gadael - diolch byth medd Cymru!

    sonnyFfynhonnell y llun, Getty Images