Crynodeb

  • Cynghorau yn erfyn ar ymwelwyr i gadw draw

  • Saith o bobl eraill wedi marw a 71 achos newydd

  • Dim gwasanaethau mewn addoldai ar draws Cymru

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn ateb cwestiynau'r cyhoedd

  • Yr heriau sy'n wynebu banciau bwyd wrth i wirfoddolwyr hŷn hunan ynysu

  • Ar Sul y Mamau, bwytai ar gau i ddiogelu'r cyhoedd

  1. Nos dawedi ei gyhoeddi 16:10 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Radio Cymru

    A dyna ni am heddiw gan ein tîm llif newyddion byw ar ddiwrnod lle mae pryder gwirioneddol am nifer yr ymwelwyr sy'n tyrru i ardaloedd gwledig a lan môr.

    Y neges glir gan gynghorau a Llywodraeth Cymru yw arhoswch adref.

    Bydd ein llif newyddion byw yn ôl bore fory gyda'r diweddaraf.

    Am 8.30 fore Llun ar Radio Cymru, bydd cyfle i chi ffonio arbenigwyr yn rhifyn estynedig o'r Post Cynta ar 03703 500500.

    Bydd Dylan Jones yn cyflwyno eich cwestiynau i westeion - yn eu plith Dr Dai Lloyd a Dafydd Evans, Cadeirydd Colegau Cymru.

    Tan hynny - hwyl a diolch am ddarllen.

  2. Siopau crydd Timpsons yn cau am gyfnodwedi ei gyhoeddi 15:49 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Bydd siopau crydd Timpsons yn cau dros dro o fory ymlaen.

    Ddoe cyhoeddodd cwmni John Lewis y byddan nhw'n cau eu siopau am gyfnod - gan gynnwys y siop yng Nghaerdydd.

  3. Her i fanciau bwydwedi ei gyhoeddi 15:46 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Mae un o drefnwyr banc bwyd yn y canolbarth wedi bod yn sôn am yr heriau sy'n wynebu banciau bwyd wrth i nifer o wirfoddolwyr hŷn gadw draw oherwydd risg coronafeirws.

    Ar raglen Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru dywedodd y Parchedig Gareth Reid fod mentrau elusennol fel banc bwyd Llandysul yn ddibynnol iawn ar bobl hŷn.

    "Byddwn i'n amcan fod tua dwsin o bobl, wedi gorfod cadw draw," meddai.

    Ychwanegodd fod rhai o'r rhai sydd wedi gorfod rhoi'r gorau iddi am y tro ymhlith y pwyllgor sy'n gyfrifol am y banc bwyd.

    banc bwyd
  4. Sut i ddiddanu'r plant?wedi ei gyhoeddi 15:41 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Wrth i rieni ar draws y wlad feddwl sut y byddan nhw'n diddanu'r plant yn ystod yr wythnosau nesaf - mae nifer wedi bod yn hel syniadau.

    lluniau LizzieFfynhonnell y llun, Driftwood Designs
  5. Cau parciau yn Llundainwedi ei gyhoeddi 15:32 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae un cyngor yn Llundain wedi penderfynu cau parciau.

    Bwrdeistref Hammersmith a Fulham yw'r cyntaf i gyhoeddi hynny ac fe fydd holl barciau'r cyngor yn cau heno am 19.00.

  6. Ddim wedi methu oedfa ers 1984!wedi ei gyhoeddi 15:26 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Dydd Sul gwahanol i nifer heddiw - yn enwedig i selogion capel fel Hefin Jones.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Sul y Mamau Hapuswedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Gan fod Sul y Mamau eleni yn mynd i fod yn wahanol mae nifer wedi bod yn rhannu lluniau â Chymru Fyw.

    O ganlyniad i coronafeirws a'r cyngor i osgoi cyswllt diangen, mae nifer fawr yn gorfod dathlu'r achlysur o bell y flwyddyn yma.

    Mae rhai mamau mewn cartrefi gofal a does dim modd mynd i'w gweld.

    Lynne Williams o Aberystwyth a'i mam
    Disgrifiad o’r llun,

    Lynne Williams o Aberystwyth a'i mam

  8. Prysurdeb ar y Bannauwedi ei gyhoeddi 15:12 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Mae nifer o rybuddion wedi bod yn ystod y dydd am i ymwelwyr gadw draw o ardaloedd gwledig ond roedd nifer wedi parcio ger canolfan Storey Arms yn y Bannau bore 'ma.

    Storey Arms
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd yna gryn brysurdeb yn Storey Armes ar y Bannau ddydd Sul

  9. Pobl yn heidio i lan môrwedi ei gyhoeddi 14:59 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Mae hi wedi bod yn benwythnos prysur hefyd ym Mhorthcawl.

    Dywedodd y Cynghorydd Sean Aspey ei fod yn credu bod 6,000 o bobl wedi ymweld â'r dre ddydd Sadwrn

    Ychwanegodd bod nifer yn ciwio y tu allan i siopau sglodion a bob pobl yn yfed gan beidio pellhau yn gymdeithasol.

    "Mae gennym ni gyfradd uchel o henoed ac mae nhw ofn marwolaeth.

    "Roedd gweld hyn yn gryn sioc.

    "Gallen ni gael nifer o achosion o'r haint a dim ein bai ni yw e."

    Mae Ynys y Barri hefyd yn brysur ddydd Sadwrn a Sul - wrth i nifer o ymwelwyr dyrru i lan môr.

    BarriFfynhonnell y llun, Wales News Service
    Disgrifiad o’r llun,

    Y dorf yn Y Barri ddydd Sul

  10. Cynulliad: Cyhoeddi blog i roi gwybodaeth angenrheidiolwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Chwilio am fwy o wybodaeth am effaith coronafeirws - dyma ganllawiau'r Cynulliad.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Diogelu tenantiaid yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno y bydd y mesur sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth y DU i atal achosion o droi allan o lety cymdeithasol neu gartref wedi’i rentu’n breifat yn gymwys i denantiaid Cymru.

    Ymysg y mesurau diogelu newydd dan y mesur brys bydd y canlynol:

    • Ni fydd modd i landlordiaid ddechrau achosion meddiannu i droi tenantiaid allan am gyfnod o dri mis o leiaf yn ystod yr argyfwng
    • Bydd y cynnig i ohirio taliadau morgais am dri mis yn cael ei ymestyn i forgeisi Prynu i Osod er mwyn diogelu landlordiaid.

    Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James: “Mae’n hanfodol sicrhau na fydd unrhyw un sy’n rhentu cartref yng Nghymru yn cael ei droi allan yn ystod y cyfnod anodd hwn, na welwyd ei debyg o’r blaen.

    "Bydd y mesurau hyn yn lleddfu’r pwysau ar landlordiaid i wneud taliadau morgais, gan ostwng y pwysau ymhellach ar denantiaid o ganlyniad”.

    Julie James
    Disgrifiad o’r llun,

    "Rhaid sicrhau na fydd unrhyw un sy’n rhentu yn cael ei droi allan," medd Julie James

  12. Croeso Cymru: Dim Croesowedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Croeso Cymru

    Dim croeso ar hyn o bryd i ymwelwyr, medd Croeso Cymru wedi i nifer heidio i ardaloedd gwledig dros y penwythnos.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Yr Ardd Fotaneg wedi cau am y trowedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gâr wedi cau.

    Mewn datganiad dywedodd llefarydd: "Mae haint Covid-19 yn datblygu yn gloi ac ry'n wedi penderfynu cau er mwyn diogelu staff, ymwelwyr a phoblogaeth ehangach a chefnogi y mesurau sydd wedi'u gwneud gan arbenigwyr iechyd er mwyn osgoi rhoi gormod o bwysau ar y GIG."

    gardd fotanegFfynhonnell y llun, PA
  14. 394 yn rhagor wedi marw yn Sbaenwedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r awdurdodau yn Sbaen yn dweud bod 394 yn rhagor o bobl wedi marw ers ddoe o achosion cysylltiedig â haint coronafeirws - ac y mae nifer y marwolaethau bellach yn 1,720.

    Yn ogystal mae 3,600 o achosion newydd.

    Dywed swyddogion bod 28,572 o achosion i gyd ond bod 2,575 o bobl wedi gwella.

  15. 'Ddewn Ni Drwyddi'wedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Mae'r faner hon ac un Saesneg gyfatebol wedi ymddangos yng Nghaerfyrddin ddydd Sul.

    baner caerfyrddinFfynhonnell y llun, Meleri Llwyd O'Leary
  16. 'Dim ymwelwyr'wedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Siroedd y gorllewin yw'r diweddaraf i rybuddio ymwelwyr i gadw draw.

    Mewn datganiad ddydd Sul y cyngor gan arweinwyr cynghorau sir Ceredigion, Penfro Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac aelodau seneddol a chynulliad yr ardal oedd i ymwelwyr gadw draw.

    Meddai'r datganiad: "Un pryder mawr yr ydym yn dechrau ei weld yw mewnlifiad o dwristiaid i Orllewin Cymru a'r canlyniadau y gallai hyn eu cael yn yr wythnosau nesaf ac yn enwedig y perygl difrifol y bydd pwysau aruthrol, diangen ar ein gwasanaethau a'n cadwyni cyflenwi."

    Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Rydym mewn cyfnod o argyfwng byd-eang digynsail gydag ymlediad Coronofeirws Covid-19.

    “Rydym yn erfyn ar y rhai hynny sy’n ystyried ymweld â Gwynedd ac Eryri i beidio gwneud hynny. Mae hyn er mwyn osgoi lledaeniad y feirws ac i leihau’r effaith fydd ymwelwyr yn ei gael ar ein gwasanaethau iechyd a gofal sydd eisoes o dan bwysau eithriadol yn lleol.

    “Os ydych yng Ngwynedd yn barod ar eich gwyliau, mewn carafán neu ail-gartref er enghraifft – rydym yn erfyn arnoch i ddychwelyd i’ch prif gyfeiriad cartref a pheidio dod yn ôl i’r ardal hyd nes bydd y sefyllfa wedi gwella."

    Maes parcio Pen-y-Pass ddydd SadwrnFfynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
    Disgrifiad o’r llun,

    Maes parcio Pen-y-Pass ddydd Sadwrn

  17. Mwy o achosionwedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod 71 o bobl eraill â haint coronafeirws yng Nghymru.

  18. Y cymun yn Llandudnowedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Fel ag a nodwyd eisoes mae eglwysi ac addoldai eraill ar gau heddiw yn sgil haint coronafeirws.

    Dyma'r olygfa yn Eglwys St Paul's yn Llandudno bore 'ma lle cafwyd gwasanaeth cymun y tu ôl i ddrysau caeedig wedi'i ddarlledu ar y we.

    cymun llandudno
  19. Trefniadau gofalu am blant o ddydd Llun ymlaenwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    Ddydd Llun bydd yr ysgolion ar gau ond bydd plant rhieni sy'n gweithio mewn swyddi allweddol yn derbyn gofal mewn canolfannau sydd wedi'u neilltuo gan gynghorau sir.

    Dywed Cyngor Sir Caerfyrddin fod "gofal wedi cael ei ddarparu ar gyfer tua 500 o blant y mae eu rhieni yn gweithio mewn swyddi allweddol yn y GIG a'r sector gofal cymdeithasol"

    Dywedodd Gareth Morgans, y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant: “Yn dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru rydym yn lleihau cyswllt cymdeithasol i amddiffyn ein plant, ein pobl ifanc a'n staff, ac yn lleihau'r risg o ledaenu'r feirws.

    “Cynghorir rhieni i gadw eu plant gartref pryd bynnag y bo hynny'n bosibl ac yn hynny o beth rydym yn cadw niferoedd mewn lleoliadau addysgol neu ofal plant i'r lleiafswm posibl gan flaenoriaethu gofal yn y lle cyntaf ar gyfer plant meddygon, nyrsys, bydwragedd, staff gofal cymdeithasol a pharafeddygon. Lle mae gennym gapasiti, mae wedi bod yn bosibl cynnwys gweithwyr gofal.

    “Rydym yn sylweddoli efallai nad yw'r dull hwn yn bodloni'r holl anghenion ar hyn o bryd, ond ein nod yw bodloni'r galw erbyn dydd Mercher wrth i ragor o ganolfannau gofal agor.

    “Mae hon yn sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen, ac rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth a dealltwriaeth rhieni yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

    Mae mesurau wedi'u rhoi ar waith yn y canolfannau gofal i sicrhau diogelwch y plant a'r staff.

    Bydd plant yn derbyn gofal gan staff cymwys a phrofiadol, ac mae timau wedi'u sefydlu i gynnig addysg, seicoleg, cwnsela ac anghenion gofal cymdeithasol eraill.

    Mae bwyd yn cael ei ddarparu ac mae trefn lanhau wedi'i chynllunio.

    Mae mesurau hefyd wedi'u rhoi ar waith i wirio am symptomau salwch yn ogystal â sicrhau diogelwch plant wrth iddynt gael eu gollwng a'u casglu.

  20. Rhywbeth i ddod â gwênwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich 22 Mawrth 2020

    Facebook

    Mae'r grefftwraig Fiorella Wyn o Borthmadog wedi bod yn 'vandalettering' ac yn ei geiriau hi yn "ysgrifennu negeseuon neis mewn sialc ogwmpas y lle",

    fiorellawynFfynhonnell y llun, fiorellawyn