Crynodeb

  • Pedwar person arall wedi marw yng Nghymru ar ôl cael coronafeirws

  • Dros 1,000 wedi cael prawf positif erbyn hyn

  • Heddlu'n fodlon defnyddio pwerau i ddirwyo

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 16:57 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Mae ein llif byw yn dod i ben am y dydd.

    Fe gewch chi'r newyddion diweddara' ar ein gwefan am weddill y noson.

    Hwyl am y tro.

    Cofiwch golchi dwylo
  2. Addasu mewn argyfwngwedi ei gyhoeddi 16:50 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Rydyn ni wedi gweld sawl enghraifft o bobl yn rhoi cynnig ar gynhyrchu nwyddau diogelwch i weithwyr iechyd heddiw - gan gynnwys staff Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a'r Bathdy Brenhinol.

    Mae staff y bwrdd iechyd wedi llwyddo i greu mygydau gydag argraffwr 3D, tra bod y Bathdy yn troi o gynhyrchu arian i greu mygydau hefyd.

    Bydd y Bathdy yn eu cynhyrchu 24 awr y dydd o hyn allan.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Mwgwd y Bathdy
  3. Cyflwyno prawf gwaed newydd i covid-19wedi ei gyhoeddi 16:33 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Wedi'r newyddion bod cytundeb profion y llywodraeth wedi methu, mae'r gweinidog iechyd wedi cyhoeddi y bydd prawf newydd yn cael ei ddefnyddio yr wythnos nesaf.

    Dywedodd Vaughan Gething y byddai prawf gwaed newydd yn rhoi gwybod os yw person wedi cael yr haint.

    Dywedodd y bydd y prawf newydd yn galluogi i weithwyr rheng flaen ddychwelyd i'r gwaith yn gynt nag o'r blaen, a'i fod yn "gam enfawr ymlaen" yn y frwydr yn erbyn covid-19.

    Ychwanegodd y bydd capasiti ar gyfer 1,100 o'r profion bob dydd o'r wythnos nesaf ymlaen, fydd yn cynyddu eto erbyn canol Ebrill.

  4. Cymorth ysgol i ysbyty ym Mhen-y-bontwedi ei gyhoeddi 16:22 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Mae Ysgol Llangynwyd yn rhoi stoc o sbectolau diogelwch a masgiau o'r adran wyddoniaeth i weithwyr yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Chwarae teg i chi gyd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Cwymp cytundeb yn 'siomedig iawn'wedi ei gyhoeddi 16:12 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r newyddion bod cytundeb gyda chwmni profion meddygol wedi dymchwel cyn dechrau.

    Dywedodd llefarydd ei fod yn "siomedig iawn bod cwmni oedd wedi dod i gytundeb ysgrifenedig i ddarparu profion wedi methu â chyflawni hynny".

    Byddai'r cytundeb wedi galluogi i 5,000 o brofion y dydd gael eu cwblhau.

  6. Golygfa go anarferol ar y ffyrddwedi ei gyhoeddi 15:59 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Traffig Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Cytundeb profion covid-19 wedi dymchwelwedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Mae cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni profion meddygol - fyddai wedi galluogi i 5,000 o brofion covid-19 gael eu cynnal bob dydd - wedi dymchwel, yn ôl sawl ffynhonnell.

    Ar hyn o bryd, 800 o brofion sy'n gallu cael eu cynnal bob dydd yng Nghymru.

    Ond mae'r gweinidog iechyd wedi dweud y bydd y ffigwr yn cynyddu i 6,000 yr wythnos nesaf a 9,000 erbyn diwedd Ebrill.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw, tra bod y gwrthbleidiau wedi galw am ymateb "brys".

    ProfionFfynhonnell y llun, PA Media
  8. Cynnydd mewn galwadau 999 diangenwedi ei gyhoeddi 15:29 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Heddlu Gogledd Cymru'n dweud bod galwadau 999 diangen am bobl yn torri rheolau ymbellhau cymdeithasol yn cael "effaith sylweddol" ar y gwasanaeth.

    Dywedodd yr Uwcharolygydd Neil Thomas bod y llu wedi gweld cynnydd mawr mewn galwadau'n ymwneud â materion sydd ddim yn rhai brys.

    Dywedodd bod y ganolfan alwadau yn Llanelwy yn derbyn llawer o alwadau gan bobl oedd "eisiau eglurder" ar faterion yn ymwneud â'r coronafeirws.

  9. Arian ychwanegol i gefnogi gwirfoddolwyrwedi ei gyhoeddi 14:49 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Mae Llywodraeth Cymru cyhoeddi £24m i gefnogi gwirfoddolwyr sy'n ymateb i'r coronafeirws.

    Bydd yr arian ar gael i helpu rhai o bobl fwyaf bregus Cymru, ac i gydlynu'r gwaith gwirfoddol.

    Yn ôl y llywodraeth bydd £15m pellach ar gael i sicrhau bod pobl sy'n methu gadael eu cartrefi yn cael bwyd ac eitemau hanfodol.

    Pecynnau bwyd
  10. Y Bala hefyd yn wag heddiwwedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Llyr Edwards
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae ein gohebydd yn Y Bala, Llyr Edwards, yn adrodd bod y dref hefyd yn dawel iawn heddiw.

    Mae'r heddlu allan yn y dref, ond mae'r meysydd parcio yn dawel.

    Y penwythnos diwethaf roedd sawl un yn yr ardal wedi galw ar berchnogion ail gartrefi yno i gadw draw er mwyn lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn lleol.

    Bala
  11. Achosion newydd yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    O ardaloedd byrddau iechyd Cymru, roedd y nifer uchaf o achosion newydd yng Nghaerdydd a'r Fro - 62.

    Yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan mae'r nifer uchaf o achosion - 482.

  12. Covid-19 'ymhob rhan o Gymru'wedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Mae'r ffigyrau diweddara' yn cadarnhau bod dros 1,000 o bobl nawr wedi cael prawf positif am covid-19 yng Nghymru bellach.

    Dywedodd Dr Robin Howe o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod yr haint "ymhob rhan o Gymru yn awr".

    "Y cam gweithredu unigol pwysicaf y gallwn ni i gyd ei gymryd er mwyn brwydro yn erbyn Coronafeirws yw aros gartref er mwyn gwarchod y GIG ac achub bywydau."

  13. Pedwar marwolaeth arall yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020
    Newydd dorri

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi cyhoeddi bod pedwar yn rhagor o bobl wedi marw ar ôl dal y coronafeirws yng Nghymru.

    Ychwanegodd ICC bod 172 o bobl yn rhagor wedi cael prawf positif, gan gynyddu'r cyfanswm i 1,093.

    Gan nad yw pawb yn cael eu profi, mae'n debyg bod llawer yn fwy o achosion mewn gwirionedd.

  14. 'Y mwyafrif yn aros gartref'wedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    David Grundy
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae gohebydd BBC Cymru, David Grundy wedi bod yn gohebu yn Y Barri heddiw, lle mae'n dweud ei bod hi'n dawel iawn a bod y mwyafrif yn aros gartref.

    Y Barri
  15. Arhoswch adref!wedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Mae'r heddlu'n parhau i stopio gyrwyr dros y wlad i sicrhau nad oes unrhyw un yn teithio heb fod gwir angen.

    Ymysg y rhesymau sydd wedi eu rhoi i swyddogion heddiw oedd rhywun o Fryste oedd wedi teithio er mwyn mynd am dro.

    Heddlu DP
  16. Myfyrwyr yn helpu yn y frwydrwedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Prifysgol Abertawe

    Mae myfyrwyr trydedd flwyddyn o Brifysgol Abertawe yn helpu'r GIG yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws ar hyn o bryd.

    Mae'r myfyrwyr parafeddygaeth a bydwreigiaeth yn galluogi i'r gwasanaeth ryddhau staff eraill i weithio ar y rheng flaen, yn ôl Andy Swinburn o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

    "Mae gweithio mewn partneriaeth fel hyn yn amhrisiadwy ar gyfnod fel hyn ac fe fydd o fudd i'r myfyrwyr ac yn hollbwysig yn ehangu'r gweithlu."

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Elusen yn diolch am rodd Ramseywedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Ramsey

    Mae elusen wedi diolch i bêl-droediwr Cymru a Juventus, Aaron Ramsey, am ei rodd tuag at ymgyrch i gasglu arian.

    Cafodd £10,000 ei roi i ymgyrch Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro yn enw Ramsey.

    Bydd yr arian yn cael ei wario ar bobl fregus yn y gymuned.

    Dywedodd yr elusen: "Diolch enfawr i Aaron, ti yw ein seren ni."

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Strydoedd y brifddinas yn dawel iawnwedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Heddlu De Cymru

    Fel mae trydariad Heddlu De Cymru'n ei ddangos, mae strydoedd a pharciau Caerdydd yn dawel iawn heddiw o'i gymharu â phenwythnos arferol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Meddwl am ddydd Llun yn barod?wedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    BBC Bitesize

    A hithau'n ddydd Sadwrn, mae'n siwr bod y plant yn cael seibiant rhag unrhyw waith ysgol heddiw, ond os ydych chi eisiau bod yn drefnus a pharatoi rhywbeth addysgiadol at fore Llun, yna ewch dim pellach.

    Mae gan BBC Bitesize adnoddau i blant oed cynradd ac uwchradd, ac mae syniadau ar wefan BBC Cymru am sut i gadw'r teulu'n brysur wrth ynysu adref.

    Bitesize
  20. Pryderon am y drefn o gasglu meddyginiaethauwedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich 28 Mawrth 2020

    Mae pryderon y gallai pobl sy'n fregus ac sydd wedi cael gorchymyn i aros adref am 12 wythnos oherwydd covid-19 orfod gadael eu cartrefi er mwyn casglu meddyginiaethau.

    Un sy'n poeni ydy Timothy Maddison, sy'n 80 ac o Gaerffili.

    Mae sawl problem iechyd ganddo, ond mae'n poeni y bydd rhaid iddo adael ei gartref er mwyn casglu presgripsiwn o'r fferyllydd.

    "Beth mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud yn gorfodi dyn 80 oed na ddylai adael y tŷ i gerdded a sefyll am awr a hanner gyda phobl allai fod wedi eu heintio?"

    Mae'r llywodraeth wedi cael cais am sylw.