Crynodeb

  • 4,591 o achosion Covid-19 yng Nghymru bellach a 315 wedi marw

  • Cyfyngiadau i barhau am beth amser eto

  • Yr heddlu'n brysur wrth i nifer dorri'r rheolau a theithio yng Nghymru

  1. Hwyl am y tro!wedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r cyfan o'n llif byw ar Ddydd Gwener y Groglith, 10 Ebrill.

    Fe fyddwn ni'n dychwelyd bore fory gyda'r diweddaraf am y coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt, ond mae'n amlwg mai'r neges glir i bawb am weddill y penwythnos yw...

    ARHOSWCH ADRE.

    Mwynhewcch weddill yr ŵyl, a diolch am ddarllen.

  2. Coronafeirws heb gyrraedd ei anterthwedi ei gyhoeddi 17:52 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Ychwanegodd yr Athro Van Tam ei bod yn anodd dweud pryd fydd coronafeirws yn cyrraedd ei anterth, gan gymharu'r sefyllfa i ddefnyddio pibell ddŵr yn yr ardd.

    "Pan ydych chi'n diffodd y tap," meddai, "mae dŵr yn dal i ddod allan o'r bibell am gyfnod.

    "Mae'r sefyllfa yn debyg - fyddwn ni ddim yn gweld y budd llawn o rai mesurau yn syth a fedrwn ni ddim llacio tan i'r gwelliannau yna amlygu eu hunain."

  3. Ystyried yr economi cyn codi cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 17:44 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Gorffennodd Mr Hancock drwy ddweud y byddai'n ystyried pryd a sut i godi'r cyfyngiadau presennol wedi iddo drafod nifer o faterion gydag aelodau eraill y cabinet.

    Ond cyfaddefodd bod yr effaith ar yr economi yn debyg o fod yn un pwysig, ac y byddai'r Canghellor Rishi Sunak yn rhan o'r trafod.

  4. Dim mygydau i bawbwedi ei gyhoeddi 17:38 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Yn y gynhadledd newyddion dywedodd yr Athro Jonathan Van Tam nad oedd tystiolaeth y byddai gofyn i bawb wisgo mwgwd yn mynd i fod yn fuddiol wrth daclo coronafeirws.

    Yn fwy pryderus, dywedodd nad oedd yn credu y byddai'r DU yn cyrraedd sefyllfa pan na fyddai'r feirws yn bresennol am gyfnod hir iawn i ddod.

  5. Her fwyafwedi ei gyhoeddi 17:21 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Lloegr, Ruth May, mai dyma'r her iechyd fwyaf i wynebu'r DU erioed.

    Dywedodd hefyd bod yr arfer o gymeradwyo staff gofal iechyd bob nos Iau yn golygu llawer iawn iddi hi a'i chydweithwyr.

    Ond gorffennodd drwy ddweud mai'r ffordd orau o ddiolch i weithwyr iechyd dros yr wythnosau anodd o'n blaenau yw.... i aros adre.

    may
  6. Faint o brofion?wedi ei gyhoeddi 17:10 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Dywedodd Mr Hancock fod 19,116 o brofion wedi cael eu gwneud dros y diwrnod diwethaf ar draws y DU.

    Fe wnaeth 5,076 o'r profion brofi'n bositif.

    Roedd yn dal i fynnu y bydd y llywodraeth yn cyrraedd ei addewid o 100,000 o brofion dyddiol erbyn diwedd Ebrill.

  7. 980 wedi marw drwy'r DUwedi ei gyhoeddi 17:08 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Ar ôl dechrau drwy bwysleisio'r neges y dylai pawb aros adre dros benwythnos y Pasg, aeth Mr Hancock ymlaen i ddweud bod 980 o bobl wedi marw dros y DU yn y 24 awr diwethaf.

    Mae hynny'n uwch na'r ffigwr dyddiol gwaethaf yn yr Eidal.

    Mae 8,958 o bobl wedi marw yn y DU gyda COVID-19.

    hancock
  8. Cynhadledd ddyddiol Llywodraeth y DUwedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Yr Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock fydd yn arwain cynhadledd newyddion ddyddiol llywodraeth y DU heddiw.

    Fe fydd yn dechrau ymhen ychydig funudau.

  9. Ar y Post Prynhawn...wedi ei gyhoeddi 16:57 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    BBC Radio Cymru

    Bydd y Post Prynhawn ar Radio Cymru am 17:00 yn cynnwys adroddiad gan Aled Scourfield o Sir Benfro am drafferthion yno gyda phobl yn torri rheolau coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Diwedd neges twitter
  10. Cyfle i fynd allan!wedi ei gyhoeddi 16:51 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Mae rhai wedi defnyddio'i un trip allan heddiw i fynd i siopa - wel lot a dweud y gwir.

    Roedd y ciw y tu allan i siop Tesco yng Nghroes Cwrlwys, Caerdydd amser cinio heddiw yn rhyfeddol (ac o fewn y rheolau 2m wrth gwrs).

    tesco
  11. Heddlu'n gofyn am gymorthwedi ei gyhoeddi 16:37 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Mae yna sibrydion fod cynlluniau gan rai i gynnal rȇfs mewn rhannau o gefn gwlad Cymru dros y penwythnos i ddod.

    Bydd mwy am hyn ar wefan Cymru Fyw yfory, ond yn y cyfamser mae Heddlu Dyfed Powys wedi gofyn am gymorth i cyhoeddi i atal digwyddiadau o'r fath, sydd yn anghyfreithlon beth bynnag ond sydd hefyd yn mynd yn gwbl groes i'r cyfyngiadau coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Trafferthion yn Sir Gârwedi ei gyhoeddi 16:25 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    WalesOnline sy'n adrodd bod yr heddlu wedi gorfod delio gyda chriw o feicwyr modur oedd wedi ymgasglu ger Pontyberem yn Sir Gaerfyrddin.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Cyfle arall i fusnesau gael cymorthwedi ei gyhoeddi 16:14 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws barhau, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion am yr ail gam o'r gronfa gadernid economaidd.

    I unrhyw fusnes sy'n chwilio am gymorth ariannol, fe allan nhw weld a ydyn nhw'n gymwys drwy ddilyn y ddolen isod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Coronafeirws: Cronfa elusennau yn cyrraedd £1mwedi ei gyhoeddi 16:05 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Mae cronfa i helpu elusennau yn ystod argyfwng coronafeirws wedi codi £1m mewn ychydig dros wythnos.

    Read More
  15. Y ffyrdd wedi taweluwedi ei gyhoeddi 15:56 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Ry'n ni wedi clywed hanesion am bobl yn torri'r rheolau ac yn teithio yng Nghymru heb fod angen heddiw.

    Ond o feddwl sut mae ffyrdd y gogledd ar Ŵyl y Banc arferol, mae'n rhyfedd o ddistaw ar hyn o bryd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Coronafeirws ddim yn tawelu'r gerddorfa!wedi ei gyhoeddi 15:44 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    BBC Cymru Wales

    Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi recordio fersiwn arbennig o un o ddarnau pwysig y Pasg yn arbennig yn y cyfnod hwn o hunan ynysu.

    Bravo!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Taith ddiangen arall!wedi ei gyhoeddi 15:30 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Fe wnaeth y un beiciwr modur yrru o Gaer i Fangor heddiw.

    Cafodd ei stopio gan yr heddlu ar yr A55 ger Bangor am dorri rheolau coronafeirws... ac am nad oedd ganddo blatiau Dysgwr ar ei feic!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Nifer yr achosion newydd wedi neidiowedi ei gyhoeddi 15:20 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Oherwydd newid yn yr amser y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn mesur y ffigwr, roedd nifer yr achosion newydd o coronafeirws yng Nghymru ddoe yn isel iawn.

    Ond o fynd yn ôl at gyfnod cyfri o 24 awr, mae nifer yr achosion newydd heddiw yn uchel dros ben - y nifer dyddiol uchaf ers i'r haint daro Cymru.

    achosion
  19. Heddlu Gwent yn cael cymorth trigolionwedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Dros 300 wedi marw yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich+1 10 Ebrill 2020

    Bu farw 29 o bobl gyda COVID-19 yng Nghymru yn y 24 awr diwethaf.

    Mae hynny'n llai na'r 41 fu farw y diwrnod blaenorol, ond mae'n mynd â chyfanswm y marwolaethau gyda coronafeirws yng Nghymru dros 300 - 315 i fod yn fanwl.

    marwolaethau