Disgwyl tarfu addysg plant 'am gyfnod sylweddol'wedi ei gyhoeddi 09:23 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020
Y gweinidog addysg yn dweud na fydd newid buan iawn i'r drefn o gadw ysgolion ar gau o achos Covid-19.
Read More60 yn rhagor o farwolaethau gan fynd â'r cyfanswm i 463, a 272 o achosion newydd - cyfanswm o 6,118 yng Nghymru
Pryder am yr effaith ar nyrsys o weithio dan yr amgylchiadau presennol
Cwyno am y drefn o brofi am coronafeirws
Y gweinidog addysg yn dweud na fydd newid buan iawn i'r drefn o gadw ysgolion ar gau o achos Covid-19.
Read More60 marwolaeth a 272 o achosion newydd lle mae pobl wedi profi'n bositif am Covid-19 yng Nghymru.
Read MoreDyna'r cyfan gan dîm y llif byw am heddiw. Fe fyddwn ni nol bore fory.
Yn y cyfamser cofiwch edrych ar ein hafan, bbc.co.uk/cymrufyw am y newyddion diweddaraf.
Hwyl am y tro.
Clwb Pêl-droed Casnewydd
Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi cyhoeddi bod staff a chwaraewyr y clwb, sydd yn chwarae yn Ail Adran Cynghrair Lloegr, wedi eu gosod ar seibiant cyflog.
“Mae’r penderfyniad hwn wedi ei wneud er mwyn sicrhau diogelwch ariannol hir dymor y clwb ar gyfnod sydd yn ddigynsail,” meddai’r clwb mewn datganiad.
Mae Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau presennol yn parhau yno tan 9 Mai.
Dywedodd y prif weinidog Arlene Foster fod y penderfyniad wedi ei wneud ar ôl cyfarfod hir ddydd Mercher.
Pan gafodd ei holi a oedd gofal am gleifion iau wedi cael blaenoriaeth a bod pobl hŷn wedi marw yn ddiangen, atebodd Mr Hancock "ei bod yn amlwg nad dyna oedd wedi digwydd."
Yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth y DU dywedodd yr ysgrifennydd iechyd Matt Hancock na fyddai'r cyfyngiadau presennol yn dod i ben "tan ei bod hi'n ddiogel i wneud hynny."
Dywedodd fod capasiti y gwasanaeth iechyd wedi cyrraedd 2,657 o welyau a "hyd yma" roedd pawb a oedd angen gofal ysbyty wedi ei gael.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Traffig Cymru

Mae chwaraewr rygbi Cymru, Leigh Halfpenny, wedi diolch i'w chwaer am fod yn "arwres", ynghyd a'i chydweithwyr yn Ysbyty Treforys yn Abertawe lle mae hi'n gweithio fel cynorthwyydd gofal.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae tîm plismona cymunedol wedi cau campfa ym Mhen-y-bont ar ôl cael galwad dienw.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Bob blwyddyn yn Aberystwyth, mae ffotomarathon poblogaidd yn cael ei gynnal, gyda'r nod o gymryd chwe llun mewn chwe awr ar chwe thema wahanol.
Wrth gwrs, oherwydd nad yw hi'n bosib gadael y tŷ rhyw lawer, nid yw digwyddiad o'r fath yn bosib ar hyn o bryd. Ond roedd y trefnwyr dal yn awyddus i drefnu rhywbeth i adlonni dros benwythnos y Pasg.
Felly, dyma gynnal ffotomarathon unigryw - tynnu pedwar llun ar bedwar thema dros bedwar diwrnod, ond i wneud hynny drwy gadw at y cyfyngiadau sydd mewn grym.
Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi bod yn rhoi gwaed er mwyn pwysleisio pwysigrwydd cynnal y stoc gwaed yn ystod pandemig y coronafeirws.
Mae Mr Drakeford yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd pawb iach, heini a heb symptomau’n mynd ar wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru i drefnu i roi gwaed.
Er bod y rheoliadau newydd yn gofyn i bobl aros gartref, mae teithio i roi gwaed i achub bywydau yn hanfodol oherwydd angen meddygol.
Yn ystod y tair wythnos ddiwethaf, mae nifer y bobl sy’n rhoi gwaed yng Nghymru wedi gostwng 30%.
Rydym wedi gweld negeseuon diolch yn cael eu hysgrifennu ar balmentydd a llwybrau a lluniau o'r enfys wedi'u paentio a'u rhoi mewn ffenestri ledled y wlad.
Nawr mae perchnogion gwesty yn y Bala, Gwynedd, wedi defnyddio eu hoffer garddio i fynegi eu gwerthfawrogiad i feddygon a nyrsys.
Torrodd trigolion yn y Bala Lake Motel lythyrau enfawr ar y bryn i ddweud diolch.
Mae Geraint Thomas eisoes wedi cyrraedd ei darged codi arian o £100,000 ar gyfer y GIG - ychydig dros chwe awr i mewn i'r diwrnod cyntaf o'i daith dridiau.
Ar hyn o bryd mae enillydd Tour de France 2018 ar y cyntaf o dri chyfnod 12 awr ar ei feic statig yn ei gartref yng Nghaerdydd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae dyn fu'n ymddwyn yn fygythiol gyda chyllell a 'knuckeduster' mewn meddygfa wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Ymddangosodd Rhodri ab Eilian, 27 oed o Nant Peris yng Ngwynedd, ar gyswllt fideo oherwydd y cynfyngiadau coronafeirws.
Roedd wedi mynd i'r feddygfa dau ddiwrnod wedi i'r cyfyngiadau gael eu cyhoeddi a'u gweithredu.
Dywedodd y Barnwr Huw Rees: "Fe wnaethoch chi gyflawni'r troseddau lle'r oedd pobl fregus yn bresennol ac yn erbyn staff oedd yn ceisio gofalu amdanyn nhw nhw amgylchiadau o argyfwng go iawn."
Mae Ymchwil y Senedd wedi bod yn cynhyrchu cyfres o erthyglau gyda ffeithiau swyddogol am yr argyfwng coronafeirws.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
golwg360
Yn ei flog diweddaraf ar wefan Golwg360, mae Dylan Iorwerth, dolen allanol yn ddi-flewyn-ar-dafod am rôl llywodraeth y DU wrth i'r pandemig coronafeirws ymledu ar draws y wlad.
"Er fod hwn yn argyfwng heb ei debyg a’r penderfyniadau’n ddychrynllyd o anodd, mae’n amlwg bellach fod yna wendidau mawr yn ymateb y Llywodraeth a’r rheiny’n symptomau o wendidau dyfnach."