Crynodeb

  • Pryder bod rhieni yn peidio â gofyn am gymorth meddygol i'w plant

  • 17 yn rhagor wedi marw yng Nghymru ddydd Iau gan ddod â'r nifer i 641 a chofnodwyd 234 o achosion newydd

  • Nyrsys dan hyfforddiant yn gorfod dewis rhwng gweithio ar reng flaen y frwydr yn erbyn coronafeirws, neu wynebu saib yn eu hyfforddiant

  • Cymunedau fel yr un yn Hendy-gwyn ar Daf yn profi daioni a charedigrwydd yn ystod yr haint

  1. Hwyl fawr am y trowedi ei gyhoeddi 18:04 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw.

    Fe fyddwn ni'n dychwelyd bore fory gyda'r holl bytiau newyddion am coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt gydol y dydd.

    Diolch am ddarllen, a hwyl fawr i chi.

  2. Tanau'n creu pwysau diangen mewn cyfnod heriolwedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Heddlu De Cymru

    Wedi nifer o danau gwair mawr diweddar ar draws de Cymru, mae'r heddlu'n apelio ar y rhai sy'n gyfrifol am eu cynnau i ystyried y canlyniadau i'w cymunedau - a'r "straen sylweddol" ar y gwasanaethau brys, sydd eisoes yn rhan o'r ymateb i'r pandemig Covid-19.

    Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Andy Valentine: "Mae fy neges i unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r tanau hyn yn syml. Ystyriwch eich gweithredoedd, stopiwch nawr neu byddwch yn wynebu grym llawn y gyfraith."

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  3. Adolygu rhai o'r cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 17:52 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Pryder bod llai yn adrodd symptomau canserwedi ei gyhoeddi 17:46 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Mae pobl sy'n amau bod ganddyn nhw symptomau canser yn cael eu hannog i beidio oedi cyn gofyn am gyngor a thriniaeth oherwydd Covid-19.

    Daw'r apêl gan feddygon Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar ôl i feddygfeydd adrodd bod gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n adrodd bod ganddyn nhw symptomau canser ers dechrau'r pandemig.

    Fe wnaeth hyn arwain at bryderon bod y cyfle i ddarparu triniaeth gynnar lwyddiannus yn cael ei golli.

    Dywedodd y bwrdd iechyd ei fod yn "annog pobl i beidio oedi cyn gofyn am gyngor a chymorth".

  5. Pryderon meddyg wrth ddychwelyd i'r DU o Indiawedi ei gyhoeddi 17:33 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Mae un o ymgynghorwyr meddygol Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi mynegi pryderon fod dim digon o fesurau diogelwch i atal lledaeniad Covid-19 ym meysydd awyr y DU ar ôl hedfan yn ôl o India.

    Dywedodd Dr Latha Srinivas wrth BBC Cymru bod dim cwestiynau ynghylch ei hiechyd wrth iddi fynd drwy maes awyr Heathrow.

    Roedd hefyd yn synnu nad oedd disgwyl i neb wisgo masgiau - sy'n orfodol yn India - a "doedd dim sôn am ymbellhau cymdeithasol pan wnaethon ni gyrraedd".

  6. Cysur, galar ac urddas: Cynnal angladd mewn pandemigwedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Profiad gwahanol tri pherson o angladdau yng nghanol y pandemig - gweinidog, ymgymerwr a mab wedi colli ei dad

    Read More
  7. Ehangu profion yn Lloegrwedi ei gyhoeddi 17:09 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020
    Newydd dorri

    Dywedodd Mr Hancock fod y broses o gynnal profion Covid-19 yn cael ei ehangu yn Lloegr, ac y bydd gweithwyr allweddol yn medru mynd ar wefan arbennig i archebu prawf.

    Byddan nhw hefyd yn cyflwyno profion y gellir eu gwneud adre, gyda'r fyddin yn cynorthwyo i'w dosbarthu, ac fe fydd canolfannau profi symudol.

    hancock
  8. Cynhadledd ddyddiolwedi ei gyhoeddi 17:05 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, Matt Hancock sy'n siarad yn y gynhadledd heddiw.

    Cadarnhaodd bod 616 o farwolaeth sy'n gysylltiedig gyda Covid-19 wedi digwydd ar draws y DU, gyda'r cyfanswm bellach yn 18,738.

  9. Mwy o offer diogelwch ar y ffordd...wedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Mae'r gweithgarwch i gefnogi gweithwyr rheng flaen yn parhau tua Thregaron.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Jeremy Miles i arwain y gwaith o adfer o Covid-19wedi ei gyhoeddi 16:48 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles fydd yn cymryd rheolaeth o adferiad Cymru o'r pandemig coronafeirws, yn ôl y Prif Weinidog.

    Dywedodd Mark Drakeford mai dod yn ôl i'r arfer o'r argyfwng yw'r "her fwyaf rydyn ni wedi'i wynebu fel llywodraeth ddatganoledig".

    Eglurodd mai Mr Miles fydd â chyfrifoldeb am y gwaith yma i Lywodraeth Cymru.

    "Bydd y gwaith allweddol yma yn cael effaith ar bob rhan o fywydau pobl Cymru; bydd yn hynod bwysig i wasanaethau cyhoeddus, yr economi a chymdeithas," meddai Mr Drakeford.

    Jeremy Miles
  11. Dau fedr o dennyn yn gwneud gwahaniaeth!wedi ei gyhoeddi 16:42 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Cyngor Caerdydd

    A'r un yw'r cyngor i berchennog pob ci o Fôn i Fynwy.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Biliau cartrefi gofal yn cynyddu £7,000 yr wythnoswedi ei gyhoeddi 16:36 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Mae perchennog dau gartref gofal yng Ngwynedd yn dweud bod biliau'r cartrefi wedi cynyddu dros £7,000 yr wythnos yn ystod y pandemig.

    Dywedodd Ceri Roberts - rheolwr gyfarwyddwr Cartrefi Gofal Cariad ym Mhorthmadog a Chricieth - ei bod yn costio dros £100 y pen i gadw'r 78 o breswylwyr yn ddiogel.

    Ychwanegodd Ms Roberts, sy'n aelod o Fforwm Gofal Cymru, bod gofal cymdeithasol wedi cael addewid o £40m gan Lywodraeth Cymru "ond dydyn ni ddim yn gwybod sut na phryd y byddwn yn ei gael".

    Ceri Roberts
  13. Pâr o Lundain wedi ceisio dringo'r Wyddfawedi ei gyhoeddi 16:28 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Heddlu Gogledd Cymru'n dweud eu bod wedi atal dau berson o Lundain rhag dringo'r Wyddfa ddoe

    "Mae trigolion Llanberis yn cadw at arweiniad Covid-19" meddai'r llu.

    "Yn anffodus roedd dau o bobl o Lundain yn teimlo'n wahanol ddoe, ac wedi penderfynu gyrru'r holl ffordd yma er mwyn iddyn nhw allu cerdded i fyny'r Wyddfa.

    "Diolch byth, gyda chymorth y gymuned leol, llwyddasom i atal y cerbyd.

    "Cafodd y gyrrwr a'r teithiwr eu cynghori'n briodol a'u hanfon yn ôl... ond nid cyn cael eu riportio am droseddau o dan ddeddfwriaeth Covid-19."

    WyddfaFfynhonnell y llun, Matthew Cattell
  14. Plaid Cymru'n galw am ddiswyddo'r Gweinidog Iechydwedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Maen nhw'n dweud fod rheg at AC Llafur yn arwydd fod Vaughan Gething "methu derbyn beirniadaeth".

    Read More
  15. Ymateb i'r angen yn Nyffryn Ogwenwedi ei gyhoeddi 16:18 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Enghraifft eto fyth o'r ymdrechion lu ar lawr gwlad i helpu'r gymuned leol trwy'r argyfwng presennol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Euro 2020 ddim am newid ei enwwedi ei gyhoeddi 16:09 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Mae corff llywodraethol pêl-droed Ewropeaidd, UEFA, wedi penderfynu cadw at yr enw Euro 2020 ar gyfer y bencampwriaeth er mai yn 2021 y bydd hi'n cael ei chynnal.

    Dywedodd UEFA mai'r rhesymeg yw bod llawer o eitemau eisoes wedi cael eu cynhyrchu gyda'r logo presennol, ac y byddai'n rhaid dinistrio'r eitemau hynny pe bai'r enw'n cael ei newid.

    Bydd Cymru'n herio'r Swistir, Twrci a'r Eidal yn eu grŵp nhw yn y twrnament.

    Euro 2020Ffynhonnell y llun, Getty Images
  17. Golygfa i godi'r galon o Fodelwyddanwedi ei gyhoeddi 15:59 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Gan ddymuno gwellhad buan i'r claf cyntaf i gael gofal dwys yn Ysbyty Glan Clwyd ar ôl cael ei heintio â coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Canllaw yng nghyfnod Ramadanwedi ei gyhoeddi 15:47 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Ry'n ni eisoes wedi sôn am Ramadan gwahanol i Fwslemiaid yng Nghymru.

    Dyma ganllaw y llywodraeth ...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Dim ond 465 diwrnod tan Eisteddfod Ceredigion...wedi ei gyhoeddi 15:38 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Prifysgolion Cymru'n wynebu colli bron i £100mwedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 23 Ebrill 2020

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Fe allai prifysgolion Cymru golli £98m mewn incwm a cholli 1,200 o swyddi o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws, yn ôl adroddiad.

    Mae'r ymchwil gan Undeb y Prifysgolion a Cholegau yn amcangyfrif y gallai 13,000 yn llai o fyfyrwyr fod yn astudio yng Nghymru yn y flwyddyn academaidd nesaf.

    Daw'r adroddiad yn dilyn rhybudd y gallai rhai prifysgolion yn y DU fynd i'r wal heb nawdd brys.

    Mae corff Prifysgolion Cymru wedi galw am weithredu brys gan weinidogion.

    Prifysgol