Crynodeb

  • Pryder y gallai Cymru golli hanner eu cartrefi gofal oherwydd haint coronafeirws

  • Mae nifer y marwolaethau yng Nghymru wedi cyrraedd 788 yn ôl ffigyrau dydd Sul

  • Llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru yn dweud bod y sector cyfan o dan fygythiad

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    A dyna ni gan y llif byw ar ddydd Sul.

    Heddiw cadarnhad bod 14 yn rhagor o farwolaethau yn Nghymru gan olygu fod y cyfanswm wedi cyrraedd 788.

    Bydd y newyddion diweddaraf yn parhau ar wefan Cymru Fyw ac fe fydd y llif byw yn ôl bore fory.

    Tan hynny - nos da a diolch am ddarllen

  2. Ymchwiliad i drefn cofnodiwedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Mae angen i bobl wybod eu bod yn gallu dibynnu ar y broses o gofnodi marwolaethau coronafeirws, yn ôl prif weinidog Cymru.

    Dywedodd Mark Drakeford y bydd yn derbyn adroddiad ddydd Llun ynglŷn â'r diffyg cofnodi yn y gogledd.

    Cafodd yr ymchwiliad ei lansio ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi methu cofnodi niferoedd am fis cyfan.

    Mark Drakeford
  3. Rhybudd wedi tân mynydd bwriadolwedi ei gyhoeddi 16:47 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn gofyn i bobl feddwl am ganlyniadau eu gweithredoedd wedi i griwiau orfod delio â thân mynydd bwriadol ger Llangollen yn ystod oriau mân fore Sul.

    Dywedodd Tim Owen, un o reolwyr Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd, bod hi'n debygol bod y tân wedi cael ei gynnau yn fwriadol.

    "Mae ymddygiad o'r fath," meddai, "yn gwbl annerbyniol ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys sydd o dan bwysau ar hyn o bryd."

    Tan mynyddFfynhonnell y llun, GWASANAETH TÂN AC ACHUB Y GOGLEDD
  4. Marciau uchelwedi ei gyhoeddi 16:31 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Mae'r BBC yn dweud bod eu gwasanaeth addysg newydd er mwyn helpu teuluoedd yn ystod y pandemig wedi cael dechreuad anhygoel.

    Cafodd yr adnoddau dysgu eu gweld dros 8.7 miliwn o weithiau yn ystod y pedwar diwrnod cyntaf.

    bitesizeFfynhonnell y llun, bbc
  5. Ffigyrau marwolaethau'r DUwedi ei gyhoeddi 16:17 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi fod yna 413 o farwolaethau wedi bod yn ysbytai'r DU.

    Mae'n golygu fod yna gyfanswm o 20,732 wedi marw yn ysbytai'r DU.

  6. Cleifion cyntafwedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

    Fe fydd Ysbyty Calon y Ddraig yn derbyn ei gleifion cyntaf ddydd Mawrth.

    Mae Stadiwm Principality yng Nghaerdydd wedi ei addasu'n ysbyty gyda 2,000 o wlâu, yr ail ysbyty mwyaf yn y DU, ar ôl Ysbyty Nightingale yn Llundain

    ysbyty
  7. Rhai yn parhau i anwybyddu'r rheolauwedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Heddlu'r Gogledd yn rhwystro deg o bobl oedd wedi teithio o Lundain rhag cerdded yn Eryri.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Canllawiau ymarfer corff yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Fe ddaeth canllawiau newydd i rym yng Nghymru ddydd Sadwrn ar beth sy'n dderbyniol i bobl wneud wrth ymarfer corff yn ystod y pandemig coronafeirws.

    Dywed y Llywodraeth fod angen cryfhau'r canllawiau i leihau pa mor aml mae pobl yn gadael eu cartrefi er mwyn atal lledaeniad yr haint ac osgoi straen ar y GIG.

    Maen nhw am iddi hi fod yn gwbl glir na ddylai pobl deithio i wneud ymarfer corff a bod angen i'r rhai sy'n seiclo wneud hynny mewn ardal sydd o fewn pellter cerdded i'r cartref.

    awyr agoredFfynhonnell y llun, Reuters
  9. Cymorth ar gaelwedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Tystiolaeth galonogol, o bosibwedi ei gyhoeddi 14:46 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 9,078 o bobl wedi profi'n bositif ar gyfer Covid-19 yng Nghymru.

    Mae cyfanswm o 27,753 o bobl wedi cael prawf.

    Yn ôl Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei selio ar y ffigyrau newydd "mae yna dystiolaeth yn dechrau dod i'r fei fod lefelau'r niferoedd newydd yn gostegu yng Nghymru, ac fe allai hyn fod yn arwydd fod y cyfyngiadau presennol yn gweithio.

    "Ond, mae'n parhau yn rhy gynnar i allu dweud hyn i sicrwydd, ac felly mae'n rhy gynnar i lacio'r mesurau presennol ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol."

  11. 14 yn fwy o farwolaethauwedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi fod yna 14 yn fwy o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19.

    Mae'n golygu fod cyfanswm o 788 wedi marw yma.

    Hefyd mae yna 178 o achosion newydd, gan olygu cyfanswm o 9,078.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Gwylio mynwentyddwedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Cyngor Caerdydd

    Mae wardeiniaid cyngor Caerdydd wedi bod yn cadw llygad ar fynwentydd er mwyn sicrhau fod ymwelwyr yn ufuddhau i reolau cadw'r pellter cywir oddi wrth ei gilydd.

    Ddydd Gwener fe wnaeth y cyngor gyhoeddi ei fod yn ailagor pedair o fynwentydd.

    Daeth hyn ar ôl stori Malchay O'Donnell, 73 oed o Drelái, oedd yn methu ag ymweld â bedd ei wraig.

    Roedd Caerdydd yn un o wyth cyngor yng Nghymru oedd wedi cau eu mynwentydd i'r cyhoedd.

    mynwentFfynhonnell y llun, TONY HODGE/ GEOGRAPH
    Disgrifiad o’r llun,

    Mynwent gorllewin Trelái

  13. Dychwelyd i'w waithwedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Mae disgwyl y bydd Boris Johnson yn ôl wrth ei waith ddydd Llun ar ôl bod yn sâl am dair wythnos gyda Covid-19.

    Fe wnaeth prif weinidog y DU dreulio tair wythnos yn yr ysbyty, gan gynnwys tair noson mewn uned gofal dwys.

    BorisFfynhonnell y llun, AFP
  14. Niferoedd yn sefydlogi?wedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Ddydd Sadwrn fe wnaeth un o brif swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru ddweud fod tystiolaeth yn dechrau awgrymu fod niferoedd yr achosion newydd o Covid-19 yn sefydlogi.

    Dywed Dr Chris Williams y gall hyn fod yn arwydd o effeithlonrwydd y mesurau ymbellhau cymdeithasol caeth.

    Er hynny, fe ychwanegodd ei bod yn rhy gynnar i fod yn bendant am hyn, a'i bod hefyd yn rhy gynnar i newid rheolau caeth yr ymbellhau cymdeithasol sy'n bodoli.

    graffFfynhonnell y llun, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  15. Pwy fyddai'n credu?wedi ei gyhoeddi 13:28 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Heddlu De Cymru

    Mae'r heddlu sydd ar ddyletswydd yn ardal cronfa Llwyn Onn yn ardal Merthyr wedi rhoi rhybudd i gwpl oedd wedi teithio i dde Cymru o Gaerlŷr er mwyn "casglu rug".

    Fe roddodd yr heddlu nodyn orchymyn i'r ddau am dorri rheolau Covid-19 a'u hanfon nôl adref.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Arian i wasanaethau profedigaeth yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru yn rhoi arian ychwanegol i wasanaethau profedigaeth yng Nghymru yn sgil haint coronafeirws.

    Read More
  17. Osgoi cosbwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Mwy o brofionwedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Mae'r prif weinidog wedi amddiffyn yr oedi sydd wedi bod cyn lansio system archebu ar gyfer profion coronafeirws ar gyfer gweithwyr allweddol yng Nghymru.

    Dywedodd Mark Darkeford fod mwy o "systemau" yn eu cyrraedd ar gyfer profion, fydd yn cynyddu’r nifer dyddiol o 1,300 i 1,800.

    Ar raglen Politics Wales BBC Cymru dywedodd fod profion wedi eu cynnal ar system archebu arlein yr wythnos diwethaf "er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gweithio dan bwysau".

    Dywedodd fod system debyg yn Lloegr wedi "cwympo" o fewn oriau o gael ei lansio yr wythnos diwethaf.

  19. Cyfle i ymarferwedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Sbaen yn llacio cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2020

    Am y tro cyntaf ers dros fis, mae Sbaen wedi cofnodi llai na 300 o farwolaethau'n ymwneud â Covid-19 yn eu ffigyrau dyddiol.

    Mae dros 23,000 o bobl wedi marw yno ers dechrau'r pandemig.

    Mae'r cyfyngiadau yn cael eu llacio rywfaint o heddiw gan alluogi plant i adael eu cartrefi yng nghwmni eu rhieni unwaith y dydd.

    SbaenFfynhonnell y llun, Reuters