Crynodeb

  • 1,116 wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru

  • Arhoswch adref yw'r neges gan Lywodraeth Cymru o hyd

  • Bwriad i osod arwyddion a hysbysebion i annog pobl o Loegr i beidio dod am dro yma

  • Plaid Cymru'n galw am ddirwyon llymach i'r rheiny sy'n torri'r cyfyngiadau

  1. Amserlen: Effaith haint coronafeirws yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 20:54 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mehefin 2020

    Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.

    Read More
  2. Cyfnod newydd o gyfyngiadau coronafeirws Cymruwedi ei gyhoeddi 18:51 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Bydd modd ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd wrth i gam nesaf y cyfnod clo ddechrau yng Nghymru.

    Read More
  3. Noswaith ddawedi ei gyhoeddi 18:30 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    BBC Cymru Fyw

    Dyna ni am heddiw ar y llif byw - fe fyddwn ni yn ol unwaith eto fory gyda'r diweddaraf i chi ar sefyllfa'r pandemig yng Nghymru a thu hwnt.

    Tan hynny, mwynhewch eich noson.

  4. Dryswch ynghylch cyfarfod pobl eraillwedi ei gyhoeddi 18:27 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi egluro nad yw pobl yng Nghymru yn cael gwneud cynlluniau i gyfarfod pobl eraill yn gyhoeddus, wedi i'r Prif Weinidog Mark Drakeford awgrymu y gallen nhw.

    Mae pobl yn Lloegr bellach yn cael cyfarfod un person arall o du allan i'w cartref eu hunain, ac yn ei gynhadledd i'r wasg yn gynharach fe awgrymodd Mr Drakeford fod hynny eisoes yn wir yng Nghymru.

    Ond mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau fod hynny ond yn wir ar gyfer pobl sy'n gadael y tŷ am reswm teilwng ac yn stopio i sgwrsio gyda rhywun tra'u bod nhw allan.

    "Y broblem yw os 'dych chi wedi trefnu i'w cyfarfod," meddai llefarydd wrth BBC Cymru.

    "Y gwir ydy na ddylai grwpiau o bobl drefnu cyfarfod."

    Dywedodd yr AS Ceidwadol Andrew RT Davies fod sylwadau Mr Drakeford wedi creu "llanast", gan gwestiynu sut fyddai'r rheol yn cael ei phlismona beth bynnag.

    parcFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae pobl yn cael gadael y tŷ i ymarfer corff ond ddylen nhw ddim trefnu i gyfarfod pobl eraill wrth wneud, meddai'r llywodraeth

  5. Dirwy i weithiwr allweddol am yrru o Sir Warwick i Gymruwedi ei gyhoeddi 18:18 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud eu bod wedi rhoi 219 o ddirwyon i bobl dros benwythnos Gŵyl y Banc am dorri cyfyngiadau coronafeirws - 80% ohonynt i bobl oedd yn dod o du hwnt i'r ardal.

    Yn eu plith roedd teulu o bump - a'r gyrrwr yn weithiwr iechyd allweddol - oedd wedi teithio gyda'u ci o Sir Warwick gyda'r bwriad o fynd am dro i Lanusyllt yn Sir Benfro.

    Fe wnaethon nhw hefyd stopio teulu o Sir Northampton ger Caerfyrddin, ac er i'r rheiny gael cyfarwyddyd i fynd adref, cawsant eu dal eto yn Sir Benfro yn ddiweddarach.

  6. Sgwrs â gohebydd yn Seland Newyddwedi ei gyhoeddi 18:05 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Chwaraeon BBC Cymru

    Mae Seland Newydd bellach wedi cyhoeddi y bydd rhai gemau chwaraeon proffesiynol, gan gynnwys rygbi, yn gallu cael eu chwarae eto ymhen ychydig wythnosau.

    Gareth Blainey fu'n sgwrsio gyda Dewi Preece, gohebydd gyda TV NZ, am y sefyllfa yn Seland Newydd.

  7. Plaid Cymru'n galw am ddirwyon uwchwedi ei gyhoeddi 17:52 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Plaid Cymru

    Mae Plaid Cymru wedi galw am gynyddu'r ddirwy ar gyfer pobl sy'n torri'r cyfyngiadau coronafeirws, er mwyn annog pobl o Loegr i beidio teithio i lefydd hardd yng Nghymru i fynd am dro.

    Ar hyn o bryd mae'r heddlu'n gallu rhoi dirwy o £60 i bobl sy'n torri'r rheolau, gyda hynny'n dyblu i £120 ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau pellach.

    Ond mae Comisiynwyr Heddlu Dyfed Powys a'r Gogledd, Dafydd Llywelyn ac Arfon Jones, wedi galw am gynyddu hynny i £1,000 am y drosedd gyntaf a hyd at £3,200 i bobl sy'n parhau i wneud.

    "Dydy'r ddirwy bresennol ddim yn ddigon uchel gan fod pobl yn dal i dorri'r canllawiau a theithio cannoedd o filltiroedd ar siwrneiau sydd ddim yn angenrheidiol," medden nhw mewn datganiad.

    Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw'n bwriadu newid y dirwyon yng Nghymru ar hyn o bryd ond eu bod nhw'n "cadw'r mater dan ystyriaeth".

  8. Mae'r neges yn ddigon clir yma...wedi ei gyhoeddi 17:37 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Diwedd neges twitter
  9. Johnson yn disgrifio teithio i Gymru fel 'sefyllfa ddamcaniaethol'wedi ei gyhoeddi 17:25 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Mae Boris Johnson wedi disgrifio sefyllfa ble byddai rhywun o Loegr yn gyrru i Gymru i fynd am dro fel "sefyllfa ddamcaniaethol", wrth drafod y canllawiau coronafeirws newydd.

    Cafodd Mr Johnson ei holi gan arweinydd Llafur y DU, Keir Starmer, a fyddai teithwyr o Loegr sydd bellach yn cael mynd y car i ymarfer corff yn gorfod "troi rownd" pan yn cyrraedd y ffin gyda Chymru.

    Wnaeth y Prif Weinidog ddim pwysleisio nad yw hynny'n cael ei ganiatau yng Nghymru, gan ddweud yn hytrach y byddai pobl yn defnyddio "synnwyr cyffredin".

    "Dwi'n meddwl bod pobl Prydain yn deall mai dyma'r adeg i'r holl wlad ddod at ei gilydd a dilyn y rheolau," meddai.

    Ond mewn ymateb i gwestiwn wedyn gan Fay Jones, AS Ceidwadol Brycheiniog a Maesyfed, am bobl yn teithio i ail gartrefi, dywedodd Mr Johnson nad oedd am weld hynny'n digwydd yng Nghymru nac unrhyw le arall.

    Yn gynharach heddiw fe bwysleisiodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford na ddylai pobl deithio i Gymru i wneud ymarfer corff ac y gallen nhw gael dirwy os ydyn nhw.

    Boris Johnson
  10. Ar y Post Prynhawn heddiwwedi ei gyhoeddi 17:12 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Twitter

    Y diweddaraf o Gymru a thu hwnt gydag Alun Thomas:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Galw am ymestyn y cynllun 'furlough'wedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar Ganghellor Llywodraeth y DU i gadw'r cynllun saib o'r gwaith yn ei le y tu hwnt i ddiwedd y mis.

    Rhybuddiodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates y gallai economi Cymru gael ei tharo'n ddifrifol os na chaiff y cynllun furlough - sy'n talu 80% o gyflogau gweithwyr - ei ymestyn y tu hwnt i 1 Mehefin.

    Mae Mr Skates a'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans wedi ysgrifennu at y Canghellor Rishi Sunak yn gofyn iddo ymestyn y cynllun, neu redeg y risg bod mwy o gwmnïau'n diswyddo staff.

    Dywedodd fod Llywodraeth Cymru'n awyddus i'r cynllun barhau yn enwedig ar gyfer sectorau fel twristiaeth, y diwydiant awyr, a'r diwydiant dur.

  12. Anogaeth i ymarfer corffwedi ei gyhoeddi 16:42 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Gweithio yn Orlando wrth i'r pandemig ymleduwedi ei gyhoeddi 16:31 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Twitter

    Mae Ceri Lois Owen wedi bod yn rhannu ei phrofiadau ar wefan Caernarfon360 am ei chyfnod yn gweithio i gwmni Walt Disney yn Orlando, cyn i bopeth ddod i stop o achos y pandemig coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Cadw'r ffyrdd yn ddiogel a chlirwedi ei gyhoeddi 16:13 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Rygbi'n dychwelyd i Seland Newyddwedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Twitter

    Daw'r cyhoeddiad wedi i'r wlad ymdopi'n hynod o lwyddiannus gyda'r pandemig, gyda rheolau cymdeithasol cadarn yn parhau i fod mewn grym.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Cyfyngiadau'n parhauwedi ei gyhoeddi 15:51 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Tair wythnos 'hanfodol' i Geredigionwedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Cyngor Ceredigion

    Mae Cyngor Ceredigion wedi atgyfnerthu'r neges nad oes dim wedi newid yn sylweddol o ran y cyfyngiadau cymdeithasol yn y sir.

    Dywed y cyngor fod y tair wythnos nesaf yn rhai "hanfodol" i'r ardal. Mewn datganiad, dywedodd llefaryd ddydd Llun:

    "Ar hyn o bryd, rydym ar ein mwyaf bregus ac mae’r tair wythnos nesaf yn hanfodol i Geredigion. Mae gan Geredigion y ganran uchaf o boblogaeth hŷn yng Nghymru ac mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i’w diogelu.

    "Mae’r niferoedd isel yn ganlyniad i’r ymdrechion enfawr a wnaed gan drigolion Ceredigion. Fodd bynnag, oherwydd y niferoedd isel hyn, mae gennym wytnwch cyfyngedig, ac mae hyn yn ein gwneud ni i gyd yn agored i niwed."

    Ychwanegodd y datganiad:

    "Trwy gydnabod y cyfarwyddyd y bydd y cyfyngiadau symud yn parhau yng Nghymru, dros y tair wythnos nesaf, bydd Llyfrgelloedd a Safleoedd Gwastraff Cartref yng Ngheredigion yn parhau i fod ar gau.

    "Os gallwn barhau i wneud beth rydym wedi’i wneud hyd yn hyn, rydym yn gobeithio y gallwn ddod trwy’r gwaethaf a pharhau i ddiogelu trigolion Ceredigion.

    "Ond mae arnom angen help pawb i gyrraedd y fan hon. Diolch am aros adref ac am beidio â gadael eich cartref oni bai ei fod yn hanfodol. Bydd hyn yn sicrhau na fydd yr holl waith da yn cael ei ddad-wneud."

  18. Rhai o Loegr yn 'methu mynd i'w harfordir agosaf'wedi ei gyhoeddi 15:27 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Mae aelod seneddol o Loegr wedi cythruddo sawl un ar y cyfryngau cymdeithasol wedi iddo ddweud nad oes modd i rai yn Lloegr fynd i'w traethau agosaf yng Nghymru.

    Dywedodd Daniel Kawczynski, sy'n aelod seneddol dros Yr Amwythig ag Atcham ei fod wedi cael llond bol ar gyfyngiadau gwahanol mewn rhannau gwahanol o'r DU.

    Galwodd am gael gwared o Senedd Cymru hefyd.

    "Mae'r gagendor presennol sydd yn datblygu o ganlyniad i'r argyfwng yn arwain at y prif weinidog yn dweud wrth fy etholwyr eu bod yn cael mynd am dro i'r traeth, ond chewch chi ddim croesi'r ffin i gyrraedd eich arfordir agosaf."

    Ychwanegodd fod angen refferendwm arall i gael gwared ar "Gynulliad Cymru", gan ddychwelyd i un drefn wleidyddol i Gymru a Lloegr.

  19. Dim newid i gyfyngiadau gwersylla ymawedi ei gyhoeddi 15:18 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Angen creadigrwyddwedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2020