Crynodeb

  • Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd cyfnod clo llym yn dod i rym ddiwedd yr wythnos

  • Bydd y cyfyngiadau'n debyg i'r rhai ym mis Mawrth, ac mewn grym o 23 Hydref nes 9 Tachwedd

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 14:15 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw - y diwrnod y cyhoeddwyd y bydd Cymru gyfan yn wynebu cyfnod clo llym am 16 diwrnod o ddydd Gwener.

    Mae crynodeb o'r cyhoeddiad ar gael yn yr erthygl ar ein hafan.

    Bydd ein llif byw yn dychwelyd yfory, pan fydd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn annerch y wasg.

    Ymunwch â ni bryd hynny ac arhoswch yn ddiogel.

  2. Y cyfnod clo newydd - beth fydd yn bosib ei wneud?wedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Mae pobl Cymru gyfan ar fin wynebu cyfyngiadau llymach am yr eildro ers dechrau'r pandemig - y tro hwn am gyfnod byr a phenodol er mwyn arafu lledaeniad y feirws.

    Rhwng 18:00 nos Wener, 23 Hydref a 00:01 fore Llun, 9 Tachwedd, bydd yn rhaid i bobl aros adref oni bai am "resymau hanfodol".

    Bydd tafarndai, bwytai, campfeydd a siopau sydd ddim yn gwerthu nwyddau hanfodol yn gorfod cau eto dros dro.

    Ond bydd holl wasanaethau'r GIG a gwasanaethau iechyd eraill yn parhau yn ystod y cyfnod dan sylw.

    Mae BBC Cymru Fyw wedi paratoi canllaw o'r hyn fydd yn bosib dan y rheolau newydd - cliciwch yma am y manylion.

    DinasFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Cadarnhau 626 o achosion newydd ac un farwolaethwedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 626 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yn y 24 awr ddiwethaf.

    Cafodd un farwolaeth ei chofnodi hefyd.

    O'r achosion newydd, roedd 103 yng Nghaerdydd, 59 yn Abertawe a 46 yr un yn Wrecsam a Sir y Fflint.

    Ers dechrau'r pandemig mae 36,253 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19 yng Nghymru, a 1,712 o'r rheiny wedi marw.

    Cafodd 10,914 o brofion eu prosesu yng Nghymru ddydd Sul.

  4. 'Rhaid i deithio i mewn ac allan o Gymru ddod i ben'wedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd y bydd yn rhaid i deithio i mewn ac allan o Gymru "ddod i ben" yn ystod y pythefnos o glo llym.

    Yn ôl y Prif Weinidog bydd teithio rhwng Cymru a Lloegr nawr "hyd yn oed yn ffwy llym" nag ers cyhoeddi'r cyfyngiadau ar deithio yma o ardaloedd risg uchel yr wythnos ddiwethaf.

    "Bydd teithio allweddol yn bosib, ond bydd yn rhaid i deithio hamdden o fewn Cymru a dros y ffin ddod i ben yn ystod y cyfnod yma," meddai.

    TeithioFfynhonnell y llun, PA Media
  5. Cwestiynau cyffredin am y cyfnod clo newyddwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Twitter

    Mae'r llywodraeth wedi paratoi atebion i gwestiynau cyffredin am y cyfnod clo newydd - mae modd darllen yr atebion wrth ddilyn y ddolen yn y neges isod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Dim disgwyl i'r henoed a'r bregus gysgodiwedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ni fydd disgwyl i'r henoed a'r bregus gysgodi i ffwrdd o weddill cymdeithas yn ystod y cyfnod clo newydd meddai Mark Drakeford.

    Ond dywedodd y Prif Weinidog y bydd y rhai sy’n cael eu hystyried yn fregus iawn i effaith yr haint yn derbyn llythyr yn rhoi cyngor iddyn nhw cyn i’r mesurau newydd gael eu cyflwyno ddydd Gwener.

    Wrth ofyn beth fyddai’r cyngor i’r rhai oedd wedi cysgodi yn ystod ton gyntaf y pandemig, dywedodd Mark Drakeford y byddai Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, yn ysgrifennu atyn nhw cyn dydd Gwener.

    "Nid yw'n angenrheidiol i'r rhai sy'n hynod fregus fabwysiadu mesurau cysgodi llym yn ystod y cyfnod hwn," meddai.

    "Mae'r rheolau sydd ar waith eu hunain yn gweithredu i leihau cylchrediad y feirws a thrwy gadw'n gaeth at y rheolau, bydd pobl sy'n agored i niwed yn lleihau eu risg o ddod i gysylltiad ag ef."

    Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, roedd 121,000 o bobl yng Nghymru yn y categori cysgodi a gofynnwyd iddynt aros gartref, gyda chefnogaeth ychwanegol ar gael ar eu cyfer.

  7. Croesawu'r newyddion am addysg prifysgolion yn parhauwedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Mae'r corff sydd yn cynrychioli prifysgolion Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad gan Mark Drakeford heddiw.

    Dywedodd Amanda Wilkinson, cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru: “Rydym yn croesawu cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru y gall prifysgolion barhau i ddarparu cyfuniad o ddysgu ar-lein ac yn bersonol trwy gydol pythefnos y cyfnod clo.

    “Mae'r dulliau cyfunol y mae prifysgolion yn eu darparu yn sicrhau cyrsiau deniadol o ansawdd uchel wrth gydymffurfio â rheoliadau iechyd cyhoeddus a blaenoriaethu diogelwch a lles staff a myfyrwyr.

    "Mae prifysgolion ledled Cymru wedi gwneud addasiadau i gampysau er mwyn sicrhau eu bod yn amgylcheddau diogel, gan gadw at reolau pellter cymdeithasol."

    Ychwanegodd: “Yn ogystal â bod yn rhan bwysig o’r profiad dysgu, mae addysgu personol hefyd yn rhoi cyfleoedd i staff prifysgol gysylltu gyda myfyrwyr a chefnogi eu lles - rhywbeth sy’n bwysicach nag erioed yn yr hinsawdd sydd ohoni.

    “Yn ystod y 'toriad tân' ac o ystyried parhad dysgu cyfunol, gan gynnwys addysgu personol, gofynnir i fyfyrwyr aros yn eu llety yn ystod y tymor.

    “Rydym yn cydnabod y gwytnwch a ddangosir gan bob myfyriwr ac rydym yn gwerthfawrogi'r ymdrechion a wneir gan fyfyrwyr i gydymffurfio â chyfyngiadau. Wrth i ni fynd i mewn i’r cyfnod clo dros dro hwn, byddwn yn parhau i weithio gyda’n myfyrwyr, eu hannog a’u cefnogi.”

    PrifysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Y cyfnod clo yn gyfle i gyflwyno gwelliannauwedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd y cyfnod o bythefnos yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno gwelliannau pellach i systemau atal coronafeirws Cymru yn ôl y Prif Weinidog.

    Dywedodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd y bydd y system Profi, Olrhain, Diogelu yn cael ei gryfhau, y bydd mwy o waith yn cael ei wneud ar ysbytai maes ac y byddan nhw'n adolygu'r system ddirwyo.

    Ychwanegodd y bydd mwy o staff yn cael eu recriwtio i weithio ar y system olrhain er mwyn "dal i fyny â'r swm anferth o gysylltiadau sydd angen cael gafael arnynt".

    Dywedodd hefyd y bydd y cyfnod yn cael ei ddefnyddio i gyflymu'r cynlluniau ar gyfer ysbytai maes ledled Cymru ar gyfer y gaeaf.

  9. Cwmni dosbarthu bwyd yn pryderu am effaith y cyhoeddiadwedi ei gyhoeddi 13:19 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Mae cwmni dosbarthu bwyd wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn rhybuddio y bydd swyddi yn y fantol o achos y cyfnod clo newydd a chyfnodau clo lleol yn Lloegr.

    Dywed Harlech Foodservice, sydd wedi ei leoli yng Nghricieth a Chaer, y bydd y cyfyngiad cenedlaethol newydd yn costio £2m i'r cwmni.

    Roedd y cwmni wedi gorfod gosod gweithwyr ar gytundebau tymor byr yn barod, gan olygu gostyngiad o 40% i gyflogau gweithwyr.

    Mae llawer o fusnes y cwmni ymysg y sector lletygarwch, "sydd wedi disgyn oddi ar ochr dibyn" o ganlyniad i don gyntaf y pandemig.

    Bu'n rhaid i Harlech Foodservice ailstrwythuro ond mae'r cwmni'n rhybuddio y bydd y cyfnod clo newydd yn fygythiad gwirioneddol i swyddi.

    HarlechFfynhonnell y llun, HFS
    Disgrifiad o’r llun,

    David Cattrall - rheolwr gyfarwyddwr Harlech Foodservice

  10. 'Ergyd ddifrifol arall i fusnesau ledled Cymru'wedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Dywedodd cymdeithas fusnes CBI Cymru bod y cyfyngiadau diweddaraf yn "ergyd ddifrifol arall i fusnesau ledled Cymru".

    Yn ôl y cyfarwyddwr Ian Price: "Mae busnesau'n llwyr ymwybodol mai iechyd cyhoeddus ydy'r flaenoriaeth ac wedi bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel.

    "Ond gall rheoli lledaeniad y feirws nawr helpu er mwyn osgoi cyfyngiadau pellach yn y misoedd nesaf.

    "Dylid canmol Llywodraeth Cymru am ymgynghori yn eang cyn cyhoeddi'r mesurau newydd yma, ond mae'r cyfyngiadau yn ergyd ddifrifol arall i fusnesau ledled Cymru - yn enwedig yn y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth."

  11. Ymateb cadarnhaol o Gaerffiliwedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Cyngor Caerffili

    Mae arweinydd Cyngor Caerffili - yr ardal gyntaf yng Nghymru ddaeth dan amodau clo lleol - wedi croesawu'r cyhoeddiad gan y prif weinidog.

    Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden, arweinydd y cyngor: “Rydym yn cydnabod bod y trefniadau newydd yn ofyniad angenrheidiol i helpu lleihau lledaeniad y feirws llethol hwn yn ein cymuned, fel y gallwn fwynhau'r Nadolig gyda'n teulu a'n ffrindiau.

    “Bydd y dull newydd ‘byr a llym’ hwn ledled Cymru yn darparu eglurder a chysondeb, gan ei gwneud yn haws i bawb ddilyn yr un rheolau.

    “Caerffili oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i fynd i mewn i glo lleol ac mae ein preswylwyr wedi dangos y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol os ydym oll yn tynnu at ein gilydd.

    "Gyda'n gilydd rydym wedi llwyddo i leihau twf y feirws yn ein sir. Heb ein cyfyngiadau lleol, byddem yn sicr yn wynebu her lawer mwy.

    “Byddwn yn annog y gymuned gyfan i barhau â’n hymdrechion ar y cyd a dilyn y rheolau newydd hyn yn llym er mwyn amddiffyn ein hanwyliaid.

    "Nid oes yr un ohonom eisiau gweld cyfyngiadau ychwanegol ar ein bywydau, ond mae'r rhain yn amseroedd digynsail ac mae'n amlwg bod angen ymateb digynsail arnom er mwyn mynd i'r afael â'r pandemig hwn."

    CaerffiliFfynhonnell y llun, Wales News Service
  12. 'Angen i bob rhan o Gymru wneud eu cyfraniad'wedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford eu bod wedi penderfynu ar gyfyngiadau cenedlaethol yn hytrach na lleol yn rhannol oherwydd bod "y bwlch rhwng y llefydd ble nad oes cyfyngiadau a'r llefydd dan glo wedi bod yn gostwng".

    Yn ôl y Prif Weinidog mae angen "ymdrech genedlaethol" yn hytrach na safbwynt rhanbarthol.

    "Mae nifer o ardaloedd yng Nghymru eisoes wedi bod yn gweithredu er mwyn amddiffyn y rheiny sy'n bellach i'r gorllewin a'r gogledd, ble mae lledaeniad y feirws wedi bod yn arafach," meddai.

    Ond dywedodd bod nawr angen "ymdrech gan bob un person a phob rhan o Gymru i wneud eu cyfraniad".

  13. BMA Cymru'n croesawu'r cyhoeddiadwedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Wrth ymateb i'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfnod clo byr a llym, dywedodd Dr David Bailey, cadeirydd cyngor BMA Cymru: “Mae BMA Cymru yn croesawu’r penderfyniad i gyflwyno cyfnod clo yng Nghymru.

    "Gyda'r cynnydd pryderus mewn heintiau yn dangos dim arwyddion o arafu, mae'n angenrheidiol bod mesurau cloi llymach ar waith i amddiffyn GIG Cymru ac i achub bywydau.

    “Mae cyflwyno cyfyngiadau cryfach yng Nghymru ar y pwynt hwn yn hanfodol - mae’r ymchwydd mewn achosion ochr yn ochr â’r pwysau y bydd tymor y gaeaf yn ei olygu yn anochel ac mae’r ôl-groniad enfawr o gleifion sydd eisoes yn y system berygl o lethu gwasanaethau.

    "Mae ein haelodau yn poeni'n fawr am allu'r gwasanaeth i ymdopi. Gobeithiwn y bydd y toriad tân yn atal y cynnydd mewn achosion ac yn cadw achosion ar lefel lle gall y GIG ymdopi, tra hefyd yn darparu ychydig bach o ryddhad i'r staff sy'n ymladd y firws hwn ar y rheng flaen.

    “Yr allwedd i drechu’r firws hwn yw mesurau ataliol clir a chadarn, felly rhaid bod strategaeth atal genedlaethol tymor hwy yn cyd-fynd â’r toriad tân."

    BMAFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. 'Fedrwn ni ddim mynd rownd a rownd mewn cylchoedd'wedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Plaid Cymru

    Wrth siarad ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth, AS Plaid Cymru: "Beth sy' ar goll fan hyn yw beth sy’n digwydd wedyn. Mae angen cynlluniau clir yn eu lle wedyn i'w atal rhag dod yn ei ôl.

    "Maen nhw'n fwy pellgyrhaeddol na faswn ni wedi eu disgwyl. Faswn i ‘di hoffi cyn lleied â phosib o gyfyngiadau ond bod nhw’n cael eu plismona yn llym."

    Ychwanegodd: "Rydym yn mynd yn ôl i ble o’n ni fis Mawrth ac Ebrill. Mae angen iddyn nhw egluro pam nad oedd modd cael rhyddhad mewn rhai meysydd. Sut ydych chi’n sicrhau bo' chi ddim yn dod nôl i’r lle yma mewn rhai wythnosau?

    "Mae pobl yn pryderu allan ni ddod nôl i fan hyn ar gyfer trydydd, pedwerydd, pumed ton. Hwn ydy’r peth hawsa. Ond os gneud hynny, i beth ‘da chi’ neud o? Ac os gwasgu’r botwm reset, pam 'da chi’ neud o?

    "Fyddai’n od iawn pe bai ni dim yn cefnogi’r cyfnod clo 'ma. Ond dan ni agen y data cliriaf posib. Fedrwn ni ddim mynd rownd a rownd mewn cylchoedd, ma’r boen yn ormod i hynny."

  15. 'Dyma'r cyfle gorau sydd gennym'wedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi gwneud y cyhoeddiad heddiw "gyda chalon drom".

    Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol bod pawb "wedi blino â coronafeirws a'r rheolau a chyfyngiadau y mae'n rhaid i ni fyw gyda nhw".

    "Ry'n ni oll eisiau gweld y pandemig yn dod i ben a'n bywydau yn dychwelyd i'r arfer, ond yn anffodus does gennym ni ddim brechlyn eto fydd yn ein galluogi ni i wneud hynny.

    "Felly dyma'r cyfle gorau sydd gennym o gael rheolaeth ar y feirws ac osgoi cyfnod clo cenedlaethol llawer hirach a mwy dinistriol."

  16. Dim Tân Gwyllt yn ystod y 'toriad tân'wedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford na fydd modd cynnal digwyddiadau Calan Gaeaf a thannau gwyllt yn ystod y cyfnod clo, sydd yn cael ei ddisgrifio fel 'toriad tân' - neu fire break.

    Ond fe ychwanegodd y bydd digwyddiadau Sul y Cofio ar ddydd Sul 8 Tachwedd, ychydig ddyddiau cyn diwedd y cyfnod clo byr, yn cael caniatâd i barhau.

    Dywedodd: “Rhaid i ni fod yn hollol glir gyda phobl; y rheolau, ni fydd y gyfraith fel y mae'n berthnasol yng Nghymru yn caniatáu cyfarfodydd ar gyfer coelcerth nac ar gyfer Calan Gaeaf.

    “Yn y cyfnod rhyfeddol hwn, mae'n rhaid i ni i gyd wneud popeth y gallwn ei wneud, oherwydd bydd pob cam bach a gymerwn i weithio gyda'n gilydd yn gwneud a gwahaniaeth.

    ”Bydd y gwaharddiad yn golygu hunan-blismona ac fe fydd yn amlwg iawn os yw pobl yn ceisio torri’r gyfraith”.

    Ond mae cynnal digwyddiadau i nodi Sul y Cofio yn “bwysicach nag erioed” mewn cyfnod anodd, meddai.

  17. 'Ni fyddwn yn gweld effaith y cyfyngiadau am rai wythnosau'wedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn ôl y Prif Weinidog ni fydd modd gweld effaith y clo cenedlaethol am rai wythnosau wedi iddo ddod i ben.

    "Rydw i wedi clywed rhai yn dweud 'ni fydd y ffigyrau yn isel erbyn 9 Tachwedd felly bydd y cyfnod yn parhau', ond nid dyna'r prawf," meddai.

    "Ry'n ni'n gwybod nawr na fyddwn yn gweld y budd o fewn y cyfnod o bythefnos," meddai.

    "Bydd y cyfnod yn dod i ben ar 9 Tachwedd ond bydd effaith hynny yn ymestyn tu hwnt i'r cyfnod hynny."

    Mark Drakeford
  18. Angen i' prif weinidog 'ddod i'r Senedd ar frys' i ateb cwestiynnauwedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd Paul Davies arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru: “Yn anffodus, mae’r Prif Weinidog wedi methu â chael cefnogaeth y cyhoedd i’r ail gyfnod clo hwn ledled Cymru, gan fethu â bod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â’r dystiolaeth i gyfiawnhau’r cloi hwn a beth fydd yn ei olygu ar gyfer y dyfodol.

    “Nid egwyl o bythefnos yw hwn i ddatrys y pandemig, mae'n debygol y byddwn yn gweld cloeon yn rheolaidd dros weddill y flwyddyn.

    "Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn glir pa gamau y maent yn eu cymryd yn ystod y cyfnod clo i atal mwy o gloi yng Nghymru fydd yn cael effaith sylweddol ar fywydau a bywoliaeth pobl."

    Ychwanegodd: “Y prif bryder yw nad yw'r broses gloi genedlaethol hon yn gymesur.

    "Bydd yr effaith ar fusnesau mewn ardaloedd fel Powys, Sir Benfro a Ceredigion, sydd â'r gyfradd isaf o achosion Covid-19 yng Nghymru, yn ddifrifol ar adeg pan maen nhw'n brwydro'n daer i wella o'r pandemig.

    “Mae angen i’r Prif Weinidog ddod i Senedd Cymru ar frys ac ateb y cwestiynau hyn, i wynebu craffu effeithiol gan gynrychiolwyr etholedig a pheidio â rhedeg ei lywodraeth drwy'r cyfryngau.”

    PDFfynhonnell y llun, bbc
  19. Cronfa o £300m i gefnogi busnesauwedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford y bydd cefnogaeth ychwanegol ar gael i fusnesau sy'n cael eu heffeithio gan y cyfnod clo llym, a bod cronfa gwerth £300m ar gael.

    "Bydd pob busnes sy'n derbyn cefnogaeth busnesau bach yn derbyn taliad o £1,000," meddai.

    "Bydd unrhyw fusnes bach neu ganolig yn y sectorau lletygarwch a hamdden yn derbyn taliad o £5,000 os oes yn rhaid iddyn nhw gau.

    Dywedodd y bydd modd cael y gefnogaeth trwy gynlluniau Llywodraeth y DU, gan ychwanegu mai "dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r gallu ariannol i ddarparu'r lefel o gefnogaeth y mae gweithwyr ei angen".

  20. 'Busnesau lletygarwch yn cael eu taro’n arbennig o galed'wedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 19 Hydref 2020

    Ceidwadwyr

    Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am y cyfnod clo, dywedodd yr aelod seneddol Ceidwadol dros Breseli Penfro, Stephen Crabb: “Mae'r dystiolaeth i gefnogi cyfnod clo dros Gymru i gyd yn wan ac rwy'n amheus y bydd 'toriad tân' fel y'i gelwir yn mynd i'r afael â'r sefyllfa yn y rhannau hynny o Gymru lle mae cyfraddau heintiau wedi bod allan o reolaeth.

    “Mae costau enfawr i gyfnodau clo o ran niwed i’r economi ac i les emosiynol a meddyliol pobl.

    "Does dim amheuaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i Lywodraeth y DU ariannu'r broses gloi hon a gobeithio y bydd cymaint o fusnesau yn cael cefnogaeth ag sydd ei hangen.

    "Bydd busnesau lletygarwch yn cael eu taro’n arbennig o galed gan y cyfyngiadau diweddaraf hyn."

    Crabb