Crynodeb

  • Y Prif Weinidog Mark Drakeford fu'n cynnal y gynhadledd am 12:15

  • Bu'n amlinellu'r camau nesaf i Gymru pan fydd y cyfnod clo yn dod i ben

  • "Rhaid i bawb leihau'r cysylltiadau â phobl eraill," meddai'r Prif Weinidog

  • Tlodi wedi cynyddu yng Nghymru oherwydd Covid, yn ôl adroddiad

  • Galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried addoldai yn hanfodol

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw, pan gyhoeddwyd pa fesurau fydd mewn lle yng Nghymru wrth i'r cyfnod clo ddod i ben ar 9 Tachwedd.

    Mae modd darllen crynodeb o'r hyn a gyhoeddwyd y gynhadledd yn yr erthygl ar ein hafan.

    Bydd y llif byw yn ôl yfory ar gyfer cynhadledd arall Llywodraeth Cymru.

    Yn y cyfamser, diolch am ddilyn ac arhoswch yn ddiogel.

  2. Cadarnhau 1,646 o achosion a thair marwolaethwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 1,646 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19 yma dros y 24 awr ddiwethaf.

    Cafodd tair marwolaeth yn ymwneud â coronafeirws eu cofnodi dros yr un cyfnod.

    O'r achosion newydd, roedd 252 yng Nghaerdydd, 201 yn Rhondda Cynon Taf, 182 yn Abertawe a 145 yng Nghaerffili.

    Mae 53,337 o bobl wedi cael prawf positif am coronafeirws yng Nghymru ers dechrau'r pandemig bellach, a 1,891 o'r rheiny wedi marw.

    Cafodd 13,842 o brofion Covid-19 eu prosesu yng Nghymru ddydd Sul.

  3. Rhannu'r profiad o effeithiau hirdymor dal Covid-19wedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Alun Rhys
    Gohebydd BBC Cymru

    I'r rhan fwyaf o bobl mae Covid-19 yn gyflwr sy'n para rhyw bythefnos ac wedyn mae pobl yn gwella.

    Ond mae yna fwyfwy o dystiolaeth yn awgrymu fod y feirws yn effeithio yn wahanol ar rai pobl ac yn achosi salwch sy'n para am fisoedd ar ôl i'r feirws ei hun ddiflannu.

    Cafodd Nicola Leanne Hughes Evans, sy'n byw yn Y Felinheli, y feirws ym mis Ebrill.

    Bron i saith mis yn ddiweddarach mae hi'n dal yn methu byw bywyd llawn ac yn dioddef o flinder llethol a nifer o symptomau eraill.

    Gohebydd BBC Cymru, Alun Rhys fu'n sgwrsio gyda hi am effeithiau hirdymor dal Covid-19.

    Nicola Leanne Hughes Evans
  4. Iechyd meddwl yn 'esgus rhesymol' dros adael eich cartrefwedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd hawl gan bobl i ymweld â chartref rhywun arall os oes ganddyn nhw bryder am eu hiechyd meddwl, meddai Mark Drakeford.

    Dywedodd wrth y gynhadledd bod iechyd meddwl eisoes yn "esgus rhesymol" dros adael eich cartref, ac y bydd hynny'n parhau dan y rheolau newydd.

    "Pob tro ry'n ni mewn cysylltiad â rhywun arall mae'n risg, ond pan fo rheswm gwirioneddol a lles meddyliol yn y fantol, mae hawl gwneud hynny," meddai.

  5. Llywodraethau i gydweithio ar gynllun ar gyfer y Nadoligwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth y DU

    Mae arweinwyr pedair llywodraeth y DU wedi dweud y byddan nhw yn cydweithio ar gyfer "cynllun tebyg ar gyfer cyfnod y Nadolig".

    Fe wnaeth y llywodraethau gwrdd y bore 'ma mewn cyfarfod oedd wedi'i gadeirio gan y Gweinidog Michael Gove.

    Ychwanegodd Llywodraeth y DU bod trafodaeth wedi'i chynnal am ymestyn y cynllun ffyrlo a "phwysigrwydd cydlynu negeseuon cyhoeddus" am unrhyw gyfyngiadau newydd.

    Dywedodd y llywodraeth y bydd cyfarfod arall yn ddiweddarach yr wythnos hon er mwyn trafod teithio rhyngwladol.

    NadoligFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Caniatâd i fwy o ddigwyddiadau dan do dros y gaeafwedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd modd cynnal digwyddiadau dan do dros y gaeaf am ei bod yn fwy anodd cwrdd tu allan, yn ôl y Prif Weinidog.

    Wedi'r cyfnod clo bydd hawl gan 15 o bobl i gymryd rhan mewn digwyddiadau dan do, a hyd at 30 tu allan.

    Bydd yn rhaid dilyn yr holl fesurau coronafeirws eraill wrth gynnal y digwyddiadau yma, fel cadw pellter a golchi dwylo.

  7. Drakeford wedi cael gwybod am gyfnod clo Lloegr yn y papurauwedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford ei bod yn "syndod" iddo i ddysgu am gyfnod clo Lloegr gan y papurau newydd dros y penwythnos.

    Yn ôl Mr Drakeford dyma oedd y tro cyntaf iddo glywed am y bwriad i osod cyfnod clo ar gyfer Lloegr gyfan.

    Ond ychwanegodd nad oedd yn "beirniadu unrhyw un am wneud y penderfyniadau anodd hynny o ystyried yr amgylchiadau".

  8. 'Mater i Lywodraeth y DU yw cyfnod clo Lloegr'wedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Paul Davies, fod y penderfyniadau am gyfnod clo yn Lloegr yn “fater i Lywodraeth y DU”.

    Mae’r Ceidwadwyr wedi cael eu beirniadu am wrthwynebu'r penderfyniad i gyflwyno cyfnod clo am 17 diwrnod yma yng Nghymru, cyn i gyfnod clo am fis o hyd i Loegr gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Geidwadol y DU dros y penwythnos.

    Dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru: “Mae'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr wrth gwrs yn fater i Lywodraeth y DU a Boris Johnson, ac mae ei lywodraeth wedi gwneud y penderfyniad hwnnw. Mae'r hyn sy'n digwydd yma yng Nghymru yn fater gwahanol, a dyna hanfod datganoli.

    “Mae'r prif weinidog Cymru a'r prif weinidog Boris Johnson wedi dweud bod llywodraethau datganoledig weithiau'n gwneud gwahanol benderfyniadau, ac rydyn ni wedi ei gwneud hi'n hollol glir ein bod ni'n meddwl bod y cyfnod clo cenedlaethol dros dro yma yn benderfyniad anghywir.

    "Ond rydyn ni lle rydyn ni, ac rydyn ni'n gobeithio y gwelwn ni hyn atal y feirws yma."

  9. 'Cenhedlaeth newydd o brofion' ar gael cyn hirwedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog wrth y gynhadledd ei fod yn obeithiol y bydd "cenhedlaeth newydd o brofion" fydd yn darparu canlyniadau yn gynt ar gael yng Nghymru cyn hir.

    "Bydd pobl yn gallu eu cymryd nhw eu hunain a chael canlyniad yn sydyn o fewn tua hanner awr," meddai.

    Ychwanegodd Mark Drakeford y bydd cael y math yma o brofion i mewn i gartrefi gofal yn "flaenoriaeth" pan fyddan nhw ar gael.

    Fe roddodd esiampl, ble y gallai rhywun sydd eisiau ymweld ag aelod o'u teulu mewn cartref gofal gymryd prawf sydyn cyn gwneud hynny er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel iddyn nhw ymweld â'r cartref.

  10. Y ffrae am ffyrlo 'ddim yn cryfhau'r achos dros annibyniaeth'wedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw ffrae dros gyllid ar gyfer cynllun ffyrlo gweithwyr bob ochr i’r ffin yn cryfhau’r achos dros annibyniaeth Cymru, meddai Mark Drakeford heddiw.

    Fis diwethaf gwrthododd y Trysorlys alwadau am dalu hyd at 80% o dâl gweithwyr wrth i Gymru ddechrau ar ei chyfnod cloi cenedlaethol, yn hytrach na'r 60% oedd ar gael.

    Bydd y cymorth nawr yn codi yn ôl i hyd at 80% ledled y DU ar ôl i Loegr benderfynu dechrau ar ei chyfnod cloi ei hun - rhywbeth y mae Mr Drakeford wedi ei ddisgrifio fel “annheg”.

    Ond dadleuodd na fyddai unrhyw gynllun ffyrlo mewn bodolaeth heb yr Undeb, ac roedd gan Gymru eisoes “camau annibynnol i weithredu” wrth fynd i’r afael â Covid-19.

    “Wrth gwrs mae’n fy nharo, a bydd yn taro pobl Cymru mor annheg oedd clywed pan ddywedwyd wrthym, wrth drafod hyblygrwydd, nad oedd dim yn bosibl, a phan benderfynodd llywodraeth y DU symud yn sydyn yn achos Lloegr fe ddaethant o hyd i hyblygrwydd," meddai.

    "Y Trysorlys yw’r Trysorlys ar gyfer y DU gyfan, nid dim ond ar gyfer un rhan ohoni.”

    Ychwanegodd: “Lle mae annibyniaeth yn y cwestiwn, mae gennym ni Senedd annibynnol yma yn gallu gwneud penderfyniadau sy'n iawn i Gymru. Trwy gydol y cyfnod coronafeirws rwyf wedi defnyddio y pwerau sydd gennym fel Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau sy'n iawn i Gymru.

    “Felly rwy’n meddwl weithiau bod y ddadl begynol rhwng annibyniaeth a’r hyn sydd gennym ni yn methu’r pwynt, a dweud y gwir."

  11. 'Angen ystyried oedi cyn ailagor popeth yn llawn'wedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Plaid Cymru

    Yn ymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price y dylid ystyried oedi cyn ailagor popeth yn llawn pan ddaw'r cyfnod clo i ben yr wythnos nesaf.

    Dywedodd, er enghraifft, y gallai tafarndai orfod cau am 18:00 am bythefnos cyn ailagor yn llawn.

    Ond ychwanegodd Mr Price ei bod yn "allweddol" bod cymorth ariannol ar gael i'r sector lletygarwch.

  12. Teithio i Loegr ar gyfer 'rhesymau angenrheidiol' yn unigwedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford mai ar gyfer "rhesymau angenrheidiol" yn unig y bydd pobl yn cael croesi'r ffin i Loegr o ddydd Llun nesaf ymlaen.

    Ychwanegodd Mr Drakeford y bydd hawl gan bobl yng Nghymru i fynd ar wyliau o fewn y wlad pan fydd y cyfnod clo yn dod i ben.

    "Ni fyddan nhw yn gorfod aros o fewn eu hardal leol fel oedd yr achos yn ystod y cyfnod clo," meddai.

  13. Cloi Lloegr yn effeithio ar amseru llacio cyfyngiadau lletygarwch ymawedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Pe na bai Boris Johnson wedi cyhoeddi cyfnod clo yn Lloegr dros y penwythnos, yna fe fyddai Mark Drakeford wedi cyhoeddi heddiw y byddai modd i fusnesau lletygarwch ailagor ddydd Llun, meddai.

    Dywedodd ei fod eisiau gweld y busnesau hynny yn ailagor yng Nghymru, ond bod penderfyniad Prif Weinidog y DU yn creu “cyd-destun gwahanol".

    Dywedodd Mr Drakeford pe bai tafarndai ar gau ar hyd y ffin yn Lloegr “mae’n siŵr y bydd risg y bydd pobl yn ceisio torri’r gyfraith".

    Ychwanegodd nad oedd am i “ein heddluoedd gael eu dargyfeirio i orfod plismona’r ffin” oherwydd sefyllfa “nid oeddem wedi rhagweld ac nid ydym wedi cael cyfle i feddwl drwyddo".

    Dywedodd pe na bai’r penderfyniad hwn wedi’i wneud am Loegr, yna byddai “yn syml yn cyhoeddi heddiw y byddai popeth yn ailagor ar yr un telerau ag y byddent wedi gweithredu ar 22 Hydref".

    Ni ddywedodd pryd y byddai gan y sector lletygarwch eglurder ynghylch yr hyn sydd yn bosib iddynt ei wneud o 9 Tachwedd ymlaen, ond dywedodd ei bod yn bwysig siarad â'r sector i gael “set o drefniadau sy'n gweithio iddyn nhw” ac “atal canlyniadau anfwriadol".

    Ychwanegodd fod yn bwysicach dod i'r penderfyniad cywir yn hytrach na'i wneud yn gyflym.

  14. 'Peidiwch ymestyn y rheolau' wedi'r cyfnod clowedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog bod y rheolau newydd yn ddibynnol ar "bobl yng Nghymru'n gwneud y peth iawn".

    "Os ydy pobl yn cymryd y safbwynt 'beth ydy'r mwyafrif alla i ei wneud, faint o bethau alla i gymryd rhan ynddyn nhw, faint o bobl alla i gwrdd â nhw, pa mor bell alla i deithio?' yna bydd hynny'n ein harwain yn ôl at y trafferthion rydyn ni wedi'u cael yn ystod yr hydref," meddai.

    "Peidiwch ymestyn y rheolau i geisio gwneud mwy - cymrwch gyfrifoldeb i wneud y pethau sy'n ein cadw ni oll yn ddiogel.

    "Pan fo'r cyfnod clo yn dod i ben dydw i ddim eisiau i hynny fod yn arwydd i bobl y gall eu hymdrechion ddod i ben."

  15. Hawl i deithio yng Nghymru - ond dim i Loegr am y trowedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Mr Drakeford wedi cyhoedd na fydd cyfyngiadau ar deithio yn fewnol o fewn ffiniau Cymru pan ddaw'r cyfnod clo i ben yma.

    Ond fe ychwanegodd: "Yn ystod y cyfnod clo am fis yn Lloegr, ni fydd hawl i deithio tu allan i Gymru heb reswm dilys."

    Dywedodd y byddai ysgolion yn ailagor yma yng Nghymru fel arfer o ddydd Llun nesaf ymlaen, ac fe fydd gweithio o adref yn dod "hyd yn oed yn fwy pwysig".

    Bydd busnesau sydd wedi bod ar gau ers 23 Hydref yn cael ailagor hefyd ar 9 Tachwedd, ac fe fydd gwasanaethau awdurdodau lleol yn ailagor os yw'r amgylchiadau lleol yn caniatáu hynny.

    Fe fydd addoldai yn ailagor hefyd - fe fydd modd i hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do, a 30 o bobl tu allan yn yr awyr agored.

  16. Rheolau ar gwrdd yw'r 'anoddaf i'w hystyried'wedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog mai'r rheolau ar gwrdd pobl eraill "o bosib yw'r anoddaf mae'n rhaid i ni eu hystyried".

    O ddydd Llun nesaf ymlaen bydd hawl ffurfio cartref estynedig unwaith eto, ond gydag un aelwyd arall yn unig.

    "Ry'n ni'n gofyn i bobl feddwl am yr hyn y dylen nhw ei wneud, yn hytrach na'r hyn mae hawl ganddynt i'w wneud," meddai Mark Drakeford.

    "Ry'n ni'n gwybod na fydd newid y rheolau i alluogi i ddau gartref gyfuno yn adlewyrchu teuluoedd nifer o bobl yng Nghymru, ac ni fydd yn galluogi i ffrindiau a phobl ifanc i gwrdd."

    MD
  17. 'Agwedd ofalus' i ddod wrth symud ymlaenwedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford y bydd ystod o reolau newydd yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod clo yn hytrach na'r cyfyngiadau lleol oedd mewn grym cyn dechrau'r cyfnod clo.

    Dywedodd Mr Drakeford: “Gallwn gyflwyno deddfau newydd ond dim ond os ydym i gyd ohonom yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau ein cysylltiad gyda'r haint trwy gadw cyn lleied â phosibl o'r cysylltiadau sydd gennym â phobl eraill - gartref; yn y gwaith a phan fyddwn yn mynd allan."

    Ychwanegodd: “Pan ddaethom allan o'r cyfnod clo yn y gwanwyn, fe wnaethom gymryd agwedd ofalus, gan ymlacio cyfyngiadau’n raddol i sicrhau na wnaethom golli’r holl fanteision a gawsom wedi gweithio mor galed i'w sicrhau.

    "Byddwn unwaith eto yn defnyddio'r dull hwnnw - am y pythefnos cyntaf ar ôl i'r cyfnod clo ddod i ben bydd y mesurau cenedlaethol wedi'u cynllunio i gynyddu effaith y gwaith rydym i gyd wedi bod yn ei wneud i reoli lledaeniad y feirws. Byddwn yn adolygu’r sefyllfa ymhen pythefnos i weld a allwn wneud newidiadau pellach”.

  18. Beth yw'r mesurau newydd?wedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd y mesurau cenedlaethol newydd ar ddiwedd y cyfnod clo ar 9 Tachwedd yn cynnwys y canlynol medd y llywodraeth:

    • Bydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr a gwisgo masg wyneb mewn mannau cyhoeddus caeedig, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus a thacsis, yn parhau;
    • Bydd y gofyniad i weithio gartref pan fo’n bosibl yn parhau;
    • Ni ddylai pobl ond cwrdd â’r rhai sy’n rhan o’u ‘swigen’ yn eu cartref eu hunain a dim ond dwy aelwyd fydd yn gallu ffurfio ‘swigen’. Os bydd un person o’r naill aelwyd neu’r llall yn datblygu symptomau, dylai pawb hunan-ynysu ar unwaith.
    • Caiff hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd dan do wedi’i drefnu a hyd at 30 mewn gweithgaredd awyr agored wedi’i drefnu, cyn belled â’u bod yn dilyn yr holl fesurau o ran cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo a mesurau diogelu eraill;
    • Bydd pob safle, megis bwytai, caffis, tafarndai a champfeydd, a wnaeth gau yn ystod y cyfnod atal byr, yn gallu ailagor. Yn dilyn y cyhoeddiad am y cyfyngiadau yn Lloegr, mae Gweinidogion yn parhau i drafod y rheolau manwl ar gyfer ailagor â’r diwydiant lletygarwch. Mae hyn yn cynnwys rheolau ynglŷn â chwrdd mewn mannau cyhoeddus dan do;
    • Fel rhan o’n hymdrech i leihau ein risgiau cymaint â phosibl, dylai pobl osgoi teithio os nad yw’n hanfodol. Ni fydd cyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn Cymru ar gyfer preswylwyr, ond dylai teithio rhyngwladol fod ar gyfer rhesymau hanfodol yn unig.
  19. Cyfnod clo Cymru'n bendant o orffen ar 9 Tachweddwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog wrth y gynhadledd ei fod wedi treulio'r penwythnos yn trafod "set newydd o fesurau cenedlaethol" fydd yn dod i rym wedi i'r cyfnod clo ddod i ben ddydd Llun nesaf.

    Yn ôl Mark Drakeford bu'n rhaid addasu'r cynlluniau wedi'r "cyhoeddiad annisgwyl" gan Boris Johnson y byddai Lloegr yn mynd i gyfnod clo am fis o ddydd Iau.

    Dywedodd ei fod yn bendant y bydd y cyfnod clo yn dod i ben yng Nghymru ar 9 Tachwedd ond bod yn rhaid "ystyried yr effaith y bydd y cyfnod clo yn Lloegr yn ei gael ar y camau ry'n ni'n eu cymryd yng Nghymru".

    "Bydd y cyfnod clo yn Lloegr yn cael effaith ar bobl sy'n byw yng Nghymru ond yn gweithio yn Lloegr, ar gwmnïau sy'n gweithio yn y ddwy wlad ac ar fusnesau sy'n masnachu ar hyd y ffin," meddai.

  20. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich 2 Tachwedd 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter