Crynodeb

  • Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi na fydd unrhyw arholiadau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn haf 2021.

  • Y Gweinidog Addysg yn dweud mai asesiadau athrawon fydd yn cael ei ddefnyddio i ddyfarnu graddau.

  • Yn ôl Kirsty Williams mae hi'n amhosib i arholiadau fod yn deg oherwydd effaith y pandemig ar addysg.

  • Ond bydd asesiadau i helpu dyfarnu graddau, gan gynnwys profion fydd yn cael eu gosod a'u marcio yn allanol.

  1. Mwy o drafod ar lif byw Senedd Fywwedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw, wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi na fydd arholiadau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn cael eu cynnal yn yr haf oherwydd effeithiau'r pandemig.

    Bydd rhagor o ddadansoddi ar lif byw Senedd Fyw yn ystod y prynhawn.

    Fel rhan o'r trafodaethau yn y Senedd bydd y Gweinidog Addysg yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn â'r penderfyniad i ganslo'r arholiadau ar gyfer 2021, gyda'r sesiwn honno yn dechrau am 14:30.

    Diolch am ddilyn, ac arhoswch yn ddiogel.

  2. Galw am gael gwared ag asesiadau TGAU yn llwyrwedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe y dylid cymryd y cyfle yma i gael gwared ar system TGAU yn llwyr ar ôl 2021.

    Yn ôl y comisiynydd dylid cael gwared ar yr arholiadau a chael addysg sy'n eu paratoi yn well ar gyfer y dyfodol yn eu lle.

    "Nawr fwy nag erioed, mae angen i ni fod yn paratoi ein pobl ifanc nid yn unig ar gyfer gwaith, ond ar gyfer bywyd o safon," meddai.

    "Mae'n rhaid i ni barhau i feddwl yn arloesol wrth ystyried ffyrdd newydd o addysgu'r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol."

    Sophie Howe
  3. 'Mwy o gwestiynau nac atebion' wedi'r cyhoeddiadwedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    GMB

    Mae undeb y GMB wedi galw am fwy o eglurder gan y Gweinidog Addysg, gan ddweud y bydd nifer yn "ansicr beth mae'r cyhoeddiad heddiw yn ei olygu iddyn nhw".

    Dywedodd llefarydd addysg yr undeb Nicola Savage: "Mae'r cyhoeddiad yn arwain at fwy o gwestiynau nac atebion, ac oll y gallwn ni ddweud ar hyn o bryd ydy y bydd yn rhaid disgwyl am y manylion.

    "Ar y funud bydd nifer o athrawon a disgyblion yn ansicr beth mae'r cyhoeddiad heddiw yn ei olygu iddyn nhw, ac mae'r Gweinidog Addysg angen gweithredu'n gyflym i dawelu eu meddyliau."

    Fe wnaeth yr undeb hefyd feirniadu Llywodraeth Cymru am beidio ag ymgynghori gyda nhw cyn gwneud y penderfyniad.

  4. Achosion Covid-19 mewn 82% o ysgolion uwchraddwedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Daw penderfyniad Llywodraeth Cymru yn dilyn pryder ymysg disgyblion ac athrawon am effaith anghyfartal y pandemig ar addysg, oherwydd bod rhai disgyblion wedi colli mwy o amser o'r ysgol nag eraill.

    Mae cyrsiau eisoes wedi cael eu haddasu gan y bwrdd arholi, i gydnabod effaith cau ysgolion ym mis Mawrth.

    Ond ers i ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol llawn amser ym mis Medi, mae nifer ohonynt wedi gorfod hunan-ynysu am bythefnos neu fwy oherwydd achosion positif o Covid-19 ymhlith disgyblion neu staff.

    Yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 82% o ysgolion uwchradd Cymru wedi gweld o leiaf un achos ers mis Medi.

    DisgyblFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. 'Dyma'r penderfyniad cywir i'n pobl ifanc'wedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    ASCL Cymru

    Mae corff ASCL Cymru, sy'n cynrychioli arweinwyr ysgolion, hefyd wedi croesawu penderfyniad y Gweinidog Addysg.

    "Dyma'r penderfyniad cywir i'n pobl ifanc," meddai'r cyfarwyddwr Eithne Hughes.

    "Mae'n cydnabod y ffaith y byddan nhw wedi'u heffeithio i raddau gwahanol gan effaith y pandemig, ac mae'n rhoi cymaint o amser â phosib i ddal lan gyda'r addysg sydd wedi'i golli.

    "Ry'n ni'n hyderus bod y cynllun yma yn un cadarn, ac y bydd yn osgoi'r problemau a welwyd yr haf hwn.

    "Gall rhieni fod yn siŵr bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camu er mwyn sicrhau na fydd y cynllun yma yn rhoi disgyblion yng Nghymru dan anfantais o'i gymharu â gwledydd eraill y DU.

  6. 'Cydnabod y sefyllfa anodd iawn sydd yn wynebu ein plant'wedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    BBC Radio 4

    Mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi bod ar raglen World at One BBC Radio 4 y prynhawn 'ma yn trafod y penderfyniad i ganslo arholiadau.

    "Ar y funud mae plant yn wynebu cael eu gorfodi i ruthro drwy gynnwys rhag ofn y bydd yr arholiadau yn mynd yn eu blaen, a hefyd gwneud nifer o asesiadau cyson oherwydd nad yw athrawon yn gwybod beth fyddai angen cyflwyno er mwyn cefnogi penderfyniad ar blentyn," meddai.

    "Beth ni’n gwneud heddiw yw cydnabod y sefyllfa anodd iawn sydd yn wynebu ein plant ac ein hathrawon."

    Kirsty Williams
  7. Galw am eglurder ar frys am yr asesiadauwedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Plaid Cymru

    Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Siân Gwenllian mai dyma'r "penderfyniad cywir i bobl ifanc Cymru".

    Ond ychwanegodd bod yr ansicrwydd ynglŷn â beth yn union fydd yr asesiadau, mae Plaid Cymru'n dweud y gallai hynny ychwanegu at y pwysau sydd ar ddisgyblion heb fod angen.

    Roedden nhw o blaid system fyddai'n ddibynnol ar asesiadau athrawon yn unig, yn hytrach na defnyddio asesiadau allanol hefyd.

    Dywedodd Ms Gwenllian bod angen eglurder ar frys am yr asesiadau.

    "Y cynharaf y gallwn fod yn glir ar y manylion ar y disgwyliadau ar bawb, y cynharaf y gallwn baratoi ein dysgwyr am flwyddyn ansefydlog arall."

    Siân Gwenllian
  8. 'Gadewch iddyn nhw sefyll arholiadau os ydyn nhw'n dymuno'wedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mae plaid yr Independent Alliance for Reform, sydd â thri aelod yn y Senedd, wedi galw ar y llywodraeth i ailystyried ac i ganiatáu i ddisgyblion sefyll arholiad os ydyn nhw eisiau gwneud hynny.

    "Ar ôl ffiasgo canlyniadau TGAU a Safon Uwch yr haf diwethaf, ni allwn fentro i fyfyrwyr Cymru gael eu siomi eto gan benderfyniad Llywodraethau Cymru i sgrapio arholiadau," meddai Mandy Jones AS.

    "Derbyniodd llawer o fyfyrwyr raddau is na'r disgwyl ar ôl cael gwared ar eu hawl i sefyll arholiadau ac felly mae'n hanfodol ein bod yn caniatáu'r dewis i fyfyrwyr Cymru sefyll y set nesaf o arholiadau os ydyn nhw'n dymuno."

  9. 'Anodd dylunio unrhyw fath o gyfres arholiadau yn 2021'wedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Yn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd cadeirydd y Panel Adolygu Annibynnol ar Gymwysterau yng Nghymru, Louise Casella ei bod yn "croesawu'r cyhoeddiad heddiw".

    "Mae penderfyniad y gweinidog yn rhoi'r pwys mwyaf ar degwch i ddysgwyr ac yn adlewyrchu'r amgylchiadau unigryw sy'n parhau i darfu ar brofiadau addysgol a bywydau personol y rhai sy'n wynebu asesiad ar gyfer cymwysterau yn 2021," meddai.

    "Trwy benderfynu mai canlyniadau canolfan ar gyfer pob cymhwyster yw'r ffordd orau ymlaen yng Nghymru, gellir sicrhau bod dysgwyr yn treulio cymaint o amser gyda'u hathrawon a'u darlithwyr ag sy’n bosib, gan adeiladu ar eu gwybodaeth a’u hyder er mwyn symud ymlaen gyda chamau nesaf eu bywydau

    "Clywodd y Panel Adolygu Annibynnol gan filoedd o ddysgwyr, eu rhieni, cefnogwyr, ysgolion a cholegau, wrth iddynt drafod eu pryderon am yr effaith anghyson y mae Covid-19 wedi cael ar eu haddysg ers mis Mawrth 2020.

    "Daeth y panel i'r casgliad y byddai'n anodd dylunio unrhyw fath o gyfres arholiadau yn 2021 a byddai’n cael ei chyflwyno gyda hyder, neu’n adlewyrchu'n llawn y cymhlethdodau a'r anawsterau sy'n wynebu dysgwyr ledled Cymru."

  10. Penderfyniad fydd yn rhoi 'llawer mwy o straen ar ddisgyblion'wedi ei gyhoeddi 13:24 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Yn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Zach, sy'n ddisgybl blwyddyn 12 yn Ysgol Gyfun Glantaf: "Mae rhaid i fi ddweud rydw i wedi siomi ychydig - dim dyna'r penderfyniad o'n i'n edrych amdano yn bersonol am sawl rheswm.

    "Fi yn gallu gweld y rhesymu dros wneud y penderfyniad yma, ond yn bersonol fi'n credu bydd llawer o ddisgyblion yn ymateb yn well i amgylchiadau arholiadau yn lle asesu rheolaidd.

    "Fi'n credu bydd hwnna'n dod â llawer mwy o straen ar ddisgyblion a dysgwyr i berfformio ar 100% eu gallu trwy gydol y flwyddyn.

    "Ond dyna ni - nawn ni cracio ymlaen 'da fe, a gweld beth sy'n digwydd blwyddyn nesaf!"

    Zach
  11. 'Y pandemig wedi effeithio ar bawb yn wahanol'wedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    BBC Radio Wales

    Yn siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd Jonathon Dawes, sy'n ddisgybl blwyddyn 13 yng Ngholeg Cambria ei fod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru.

    "Mae'r anisicrwydd am arholiadau wedi bod yn rhywbeth rydw i a phobl ifanc eraill wedi delio ag o ers diwrnod canlyniadau, pan oedden ni'n rhan o'r hyn ddygwyddodd gyda'r algorithm.

    "Roedd hwnnw'n ddiwrnod hunllefus felly mae'r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru heddiw i'w groesawu.

    "Mae'r pandemig wedi effeithio ar bawb yn wahanol - mae rhai o fy ffrindiau wedi bod mewn pob dydd, ac eraill wedi gorfod hunan-ynysu am bedair wythnos a dysgu o adref.

    "Ond hefyd, os ydy'r pedair gwlad yn defnyddio systemau gwahanol, fe allai roi mantais neu anfantais i bobl ifanc wrth symud 'mlaen."

  12. 'Y gweinidog wedi gwneud y penderfyniad cywir'wedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Comisiynydd Plant Cymru

    Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland: “Dwi’n credu bod y gweinidog wedi gwneud y penderfyniad cywir heddiw a dwi mor hapus fod llais a hawliau plant wedi chwarae rhan ganolog ym mhenderfyniadau’r llywodraeth.

    “Fy ffocws i nawr fydd i sicrhau fod y broses – y manylion – yn deg ac yn gwarchod lles pobl ifanc.

    "Mae’n rhaid sicrhau mai blwyddyn o ddysgu yw hon, nid blwyddyn o ofidio.

    "Dylai’r penderfyniad yma dawelu meddwl pobl ifanc fydd yn eu galluogi i weithio tuag at eu cymwysterau.

    "Dwi am iddyn nhw fwynhau eu dysgu a’r holl all ysgolion a cholegau gynnig a’n bod ni’n rhoi rhyddid i athrawon i wneud beth maen nhw’n gwneud orau: nid rheoli ffactori arholiadau ond dysgu a datblygu sgiliau hanfodol fydd yn galluogi ein pobl ifanc gyrraedd eu llawn botensial.

    "Cadwch ddysgu, cadwch addysgu ac fe wnawn ni barhau gweithio i sicrhau fod hawliau a llais plant yn ganolbwynt i’r camau nesaf.”

  13. Pryder am waith ychwanegol i athrawonwedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd Suzy Davies MS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg: "Roedd y sefyllfa eisoes wedi drysu yn dilyn yr adolygiad i dymor arholiadau 2021 yng Nghymru gan Gymwysterau Cymru a alwodd am i rai arholiadau fynd yn eu blaenau, tra bod ail adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn galw am ddileu arholiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

    "Y mater hanfodol i mi yw bod asesiadau'n cael eu gosod yn allanol a'u marcio'n allanol.

    "Bydd hyn yn rhoi rhywfaint o gymaroldeb iddyn nhw ag arholiadau blynyddoedd blaenorol ac yn amddiffyn athrawon rhag unrhyw gyhuddiadau o ragfarn anfwriadol.

    "Yr hyn a oedd yn fy mhoeni am yr adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru oedd lefel y gwaith ychwanegol y byddai'n rhaid i athrawon ei wneud ar adeg pan fyddan nhw'n dal i fyny trwy Covid ac yn mynd i'r afael â'r cwricwlwm newydd.

    "Mae'n drueni nad yw myfyrwyr Safon Uwch yn cael cyfle i sefyll o leiaf un arholiad.

    "Hon fydd yr ail flwyddyn lle na fydd gan fyfyrwyr chweched dosbarth a myfyrwyr coleg y profiad o sefyll arholiadau pan fyddan nhw'n cystadlu am leoedd prifysgol gydag eraill sydd wedi."

    Suzy Davies
  14. 'Llawer o waith i’w wneud' ar yr asesiadau amgenwedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    UCAC

    Mae undeb addysg UCAC wedi croesawu'r penderfyniad i ganslo arholiadau allanol, ond yn dweud bod "llawer o waith i’w wneud" o ran y trefniadau ar gyfer asesiadau.

    Dywedodd Rebecca Williams, is-ysgrifennydd cyffredinol a swyddog polisi'r undeb:“Rydym yn cytuno gyda’r gweinidog mai dyma’r opsiwn gorau o safbwynt sicrhau lles a thegwch ar draws y system mewn blwyddyn ble mae tarfu ar addysg disgyblion yn anorfod, er gwaethaf ymdrechion gorau pawb.

    "Yn ogystal, mae’n ymestyn y cyfnod dysgu ac addysgu’n sylweddol, fydd yn help i roi darpariaeth lawn er gwaethaf unrhyw darfu.

    “Nodwn fod Grŵp wedi’i sefydlu i bennu manylder y trefniadau asesu amgen. Mae llawer o waith i’w wneud, a thrafodaethau manwl a thechnegol i’w cael.

    "Mi fydd yn bwysig cael y penderfyniadau’n gywir yn arbennig o safbwynt faint o’r trefniadau’n sy’n digwydd yn fewnol yn yr ysgolion a faint o rôl fydd gan CBAC neu eraill er mwyn sicrhau cysondeb.

    “Pwyswn fodd bynnag am argymhellion a phenderfyniadau buan - yn ddelfrydol erbyn diwedd 2020 - i ganiatáu i ysgolion rhoi’r trefniadau priodol yn eu lle, ac i ddisgyblion gael deall sut byddant yn cael eu hasesu. Tra bod ansicrwydd yn para, bydd athrawon a disgyblion yn parhau i bryderu.”

  15. 'Allwn ddim ailadrodd yr hyn ddigwyddodd dros yr haf'wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Arweinydd Plaid Cymru ar Twitter

    Plaid Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Y cyhoeddiad yn 'rhyddhad mawr' i ddisgyblionwedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Dywedodd Fflur, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Maes y Gwendraeth yn Sir Gâr, bod penderfyniad y Gweinidog Addysg yn "rhyddhad mawr".

    "Dwi newydd glywed y cyhoeddiad gan Kirsty Williams y Gweinidog Addysg yn dweud ei bod hi'n mynd i ganslo arholiadau Lefel A a TGAU am eleni," meddai.

    "Roedd hyn yn rhyddhad mawr i mi a nifer o ddisgyblion eraill gan ei fod yn rhoi llai o straen arnom ni fel disgyblion yn ystod y flwyddyn i ddod.

    "Dwi'n credu bod y penderfyniad yn deg iawn i bob disgybl ar draws Cymru."

    Fflur
  17. Y diwydiant addysg angen 'eglurder a thegwch'wedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    BBC Radio Wales

    Dywedodd pennaeth Ysgol Glan Clwyd, Gwyn Tudur y bore 'ma bod y diwydiant addysg angen "eglurder a thegwch" am arholiadau.

    "Dwi'n meddwl mai canslo arholiadau ydy'r unig opsiwn," meddai wrth Radio Wales y bore 'ma.

    "Mae'r criw sy'n wynebu arholiadau yn 2021 wedi cael eu heffeithio gymaint.

    "Caewyd ysgolion ym mis Mawrth, fe wnaethon nhw ailddechrau am ychydig cyn gwyliau'r haf ac ni wnaethon nhw ailagor fel yr arfer ym mis Medi.

    "Dydy'r disgyblion ddim wedi cael addysg ddi-dor am y mwyafrif o'u cyfnod TGAU neu Safon Uwch, felly byddai eu rhoi trwy arholiadau ffurfiol ym mis Mai yn hollol annheg.

    "Mae'r gaeaf o'n blaenau hefyd felly fe fydd 'na ragor o amharu ar eu haddysg - dyna'r sefyllfa anffodus 'da ni ynddi.

    "A dim ots pa mor effeithiol ydy ein system addysgu o adref, dydy o ddim yr un peth â bod yn yr ysgol."

    Ysgol Glan ClwydFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych
  18. Arholiadau wedi'u canslo 'mewn enw yn unig'wedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    NAHT Cymru

    Er y cyhoeddiad, mae undeb NAHT Cymru yn pryderu bod arholiadau wedi'u canslo "mewn enw yn unig".

    Dywedodd llywydd yr undeb, Ruth Davies: "Ry'n ni'n croesawu'r gydnabyddiaeth bod angen i bethau fod yn wahanol yn 2021, ond mae pryder gwirioneddol mai cael gwared ag arholiadau mewn enw yn unig fydd hyn.

    "Mae wedi'i gyhoeddi y bydd disgyblion yn parhau i wynebu profion sydd wedi'u gosod a'u marcio yn allanol, ond bod hynny yn y dosbarth. Dydyn ni ddim yn allu deall sut bod hynny ddim yn arholiad.

    "Mae pryderon hefyd ei bod yn bosib na fydd rhai disgyblion yn gallu mynychu'r ysgol ar y diwrnod hwnnw, ac y bydd arholiadau yn profi pynciau nad oedd modd eu dysgu.

    "Allwn ni ddim cael sefyllfa ble mae disgyblion yn cael eu hasesu ar addysg dydyn nhw ddim wedi'i dderbyn."

  19. Beth ydy'r sefyllfa mewn rhannau eraill o'r DU?wedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mae penderfyniadau am arholiadau haf 2021 eisoes wedi cael eu gwneud mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

    Yn Yr Alban fe fydd gwaith cwrs ac asesiadau athrawon yn lle arholiadau National 5, sy'n cyfateb a TGAU, ond fe fydd 'na arholiadau o hyd ar gyfer yr Highers.

    Ar hyn o bryd bwriad Lloegr a Gogledd Iwerddon yw cynnal arholiadau ond yn hwyrach yn yr haf.

  20. Pryder am 'lwyth gwaith anferth' i athrawonwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    NASUWT

    Tra'n cydnabod nad oes modd bwrw 'mlaen gydag arholiadau fel arfer, mae undeb dysgu yr NASUWT yn poeni bod y sefyllfa'n cynyddu llwyth gwaith athrawon.

    Yn ôl Sion Amlyn, swyddog maes a pholisïau'r undeb, mae angen eglurder am y ffordd ymlaen.

    "Mae'r athrawon, ein haelodau ni'n dweud eu bo' nhw'n cynnal dwy system asesu - maen nhw'n paratoi ar gyfer TGAU a Lefel A ond ma' nhw hefyd yn paratoi system asesu parhaus ac mae rhedeg dwy system gyfochrog yn fyrdwn llwyth gwaith anferth," meddai.

    Mae'r undeb yn awyddus i'r bwrdd arholi fod yn gyfrifol am unrhyw asesiadau er mwyn rheoli'r pwysau ar ysgolion.

    Wrth sôn am y posibilrwydd o gael gwared ar arholiadau Safon Uwch, dywedodd Mr Amlyn bod angen sicrhau bod system "cryf a chadarn" mewn lle.

    "Byddai prifysgolion, nid yn unig yng Nghymru ond tu hwnt hefyd yn gallu derbyn yr asesiad yna fel un teg a theilwng ac yn un sy'n gallu cael ei gymharu ochr yn ochr ag asesiadau ar draws gwledydd Prydain," ychwanegodd.