Hwyl fawr am heddiwwedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich 18 Rhagfyr 2020
A dyna'r cyfan o gynhadledd Llywodraeth Cymru, a'r cyfan oddi wrth tîm y llif byw.
Bydd mwy am y straeon yma ar ein hafan ni gydol y dydd.
Am y tro, hwyl fawr.
Nifer y marwolaethau yng Nghymru o ganlyniad i Covid-19 wedi croesi trothwy 3,000.
Deg AS Ceidwadol wedi ysgrifennu at y prif weinidog yn cwestiynu'r penderfyniad dros gyfnod clo arall yng Nghymru ar ôl y Nadolig.
Plant i ddychwelyd i'r ysgol ar wahanol adegau ar ôl gwyliau'r Nadolig oherwydd y cyfnod clo newydd.
A dyna'r cyfan o gynhadledd Llywodraeth Cymru, a'r cyfan oddi wrth tîm y llif byw.
Bydd mwy am y straeon yma ar ein hafan ni gydol y dydd.
Am y tro, hwyl fawr.
Mae un o fenywod hynaf Cymru - Mary Keir, 108 oed, ymhlith rhai o'r preswylwyr cartrefi gofal cyntaf i dderbyn y brechlyn COVID-19 newydd.
Roedd Mary ymhlith 37 o drigolion cartref gofal Awel Twyi yn Llandeilo i dderbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn Pfizer-Biontech ddoe.
Dywedodd ei bod yn rhyddhad cael y pigiad.
“Roeddwn yn hapus iawn i gael y brechlyn. Rydyn ni wedi bod yn aros iddo fod yn barod.
“Diolch i Dduw am y bobl sydd wedi gallu ei gael i ni. Rydyn ni'n lwcus iawn. Erbyn hyn rwy'n teimlo'n llawer mwy diogel a hapusach. "
Mae Mary ei hun yn nyrs wedi ymddeol a fu'n gweithio fel chwaer ward yn Ysbyty Llandough yng Nghaerdydd, yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Daw hi'n wreiddiol o Tyddewi yn Sir Benfro, ond yn ddiweddarach bu'n byw yn Llansteffan yn Sir Gaerfyrddin cyn symud i Awel Tywi bron i naw mlynedd yn ôl.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae'r Swyddfa Ystadegau wedi cyhoeddi fod canran y bobl sydd yn profi'n bositif am goronafeirws wedi cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Yr amcangyfrif oedd fod 33,400 o bobl mewn cartrefi yng Nghymru wedi eu heintio yn yr wythnos rhwng 6-12 a Ragfyr - sydd gyfystyr a 1.10% o'r boblogaeth.
Mae hyn yn gynnydd ar y ffigwr o 25,600 o bobl oedd wedi eu heintio rhwng 29 Tachwedd a 5 Rhagfyr, oedd yn 0.84% o'r boblogaeth.
Ychwanegodd y Swyddfa Ystadegau fod angen bod yn ofalus gyda'r dadansoddiad o achos y nifer gymharol isel o brofion a chanlyniadau positif oedd yn ran o sampl y sefydliad.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Plaid Cymru
Wrth ymateb i gyhoeddiad Eluned Morgan yn y gynhadledd i'r wasg y bydd £110m ychwanegol ar gael i fusnesau, dwyedodd llefarydd economi Plaid Cymru Helen Mary Jones fod y newyddion i'w groesawu, ond bod angen mwy o wybodaeth am y cynllun cymorth newydd.
Dywedodd: “Yr hyn y mae busnesau yn ei ddweud wrthym yw ei bod yn bwysig iawn cael y gefnogaeth gywir i'r busnesau cywir.
"Un peth rydyn ni wedi bod yn gofyn amdano yn benodol yw cydnabod bod angen i rai busnesau aros ar gau tan fis Mawrth, ac rydyn ni am fod yn siŵr bod y pecyn newydd hwn y mae'r llywodraeth yn ei gyflwyno yn mynd i alluogi'r busnesau hynny i aeafgysgu.
“Rydyn ni'n gwybod nawr y bydd y cynllun ffyrlo ar gael ac fe fydd hynny'n help mawr, ond mae gan fusnesau eu costau sefydlog o hyd, rhenti i'w talu, costau cynnal a chadw ac ati.”
Ychwanegodd fod angen i'r cynllun gael ei dargedu'n fwy at y busnesau cywir yn hytrach na bod yn achos o'r "cyntaf i'r felin."
Llywodraeth Cymru
Mae angen i Gymru ddechrau’r cyfnod clo ar ôl y Nadolig “fel un genedl” gyda’r un rheolau, meddai Eluned Morgan heddiw.
Roedd hi'n ymateb i lythyr sydd wedi cael ei arwyddo gan o ASau Ceidwadol yn dweud bod y mesurau yn anghymesur o ystyried niferoedd is o achosion mewn rhai ardaloedd yn y gogledd.
Mae Gweinidogion wedi cyfaddef y gallai rhai amrywiadau rhanbarthol fod yn bosibl yn y dyfodol.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Lles Meddwl: “Rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn ein bod ni'n edrych ar lefydd fel Ynys Môn a Chonwy lle mae lefelau'r firws yn isel, ond am y tro rydyn ni'n hollol benderfynol o sicrhau ein bod ni'n wynebu'r cyfyngiadau hyn fel un genedl.
"Efallai, yn hwyrach, ein bod yn meddwl am ddod allan o'r cyfyngidau'n raddol, ar wahanol lefelau ond mae hynny'n dibynnu ar sut mae'r firws yn ymddwyn yn ystod yr wythnosau nesaf."
Ychwanegodd ein bod ni i gyd “yn gyd-ddibynnol fel cenedl” gyda’r firws yn debygol o symud rhwng ardaloedd.
Llywodraeth Cymru
Yn y gynhadledd i'r wasg, dywedodd Eluned Morgan y byddai gwasanaethau sylweddol yn cael eu gosod mewn lle i sicrhau fod pobl yn derbyn cefnogaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl dros gyfnod y gaeaf, a hynny er mwyn osgoi "argyfwng".
"Os ydych yn cael trafferth ymdopi gyda theimladau o bryder, iselder, ofn ac anobaith hyd yn oed, mae cymorth a chyngor ar gael i chi", meddai'r Gweinidog.
Ychwanegodd: "Rwyf am sicrhau ein bod yn deall yn iawn wir effaith y pandemig ar bobl yng Nghymru, yn enwedig ar y rhai sy'n gweithio yn rhai o'r gwasanaethau a'r swyddi mwyaf heriol.
"Os gallwn asesu'r angen am unrhyw gymorth ychwanegol a darparu cefnogaeth nawr, gallwn atal yr hyn sydd eisoes yn argyfwng iechyd cyhoeddus rhag troi'n argyfwng iechyd meddwl tymor hir."
Llywodraeth Cymru
Mae’n rhaid i’r cyhoedd ymddwyn yn gall dros y Nadolig er mwyn osgoi “amser caled iawn” ym mis Ionawr, meddai Eluned Morgan.
Roedd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles yn siarad wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos bod achosion Covid yn parhau i godi, ac un bwrdd iechyd yn dweud bod ei holl unedau ICU eisoes yn llawn gyda chleifion Covid.
Erbyn hyn mae tua 500 o gleifion coronafirws ar draws tri ysbyty Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn Llantrisant, Merthyr a Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae gweinidogion eisoes wedi cyhoeddi lleihad yn nifer yr aelwydydd sy'n gallu cwrdd dros y Nadolig o dri i ddau, gyda gyda chyfnod clo newydd yn cael eu cyflwyno o Ragfyr 28ain.
“Mae yn nwylo’r cyhoedd yng Nghymru yn llwyr,” meddai Ms Morgan.
“Gallwn roi mesurau ar waith a chyfyngiadau ar waith, ond os nad yw pobl yn eu parchu, yna gallwn ddisgwyl trafferth o’n blaenau.”
Ychwanegodd: “Rhaid i ni ddeall bod hwn yn glefyd cyffredin iawn. Os gwelwn hyn yn parhau fel y mae, fe allen ni wynebu amser caled iawn yn y flwyddyn newydd, felly byddwn yn annog pobl i gymryd gofal mawr y Nadolig hwn, i ymddwyn yn gall, i ddilyn y rheolau ac os nad oes angen i chi i gymysgu â phobl eraill, yna peidiwch â gwneud hynny.”
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £110m yn ychwanegol ar gael i fusnesau sydd wedi eu heffeithio gan reolau'r cyfnod clo diweddaraf.
Mae'r arian yn ychwanegol i'r £340m gafodd ei gyhoeddi ddiwedd y mis diwethaf.
O dan y cyfyngiadau newydd bydd holl siopau manwerthu nad ydynt yn hanfodol yn cau ar noswyl Nadolig, a'r holl fusnesau lletygarwch yn cau erbyn 18:00 ar ddydd Nadolig.
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio hyd yma a rhannu cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU.
Fe fydd yr arian newydd yn talu grantiau i fusnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol trwy'r system ardrethi busnes.
Bydd busnesau twristiaeth, hamdden a chadwynau cyflenwi yn gymwys i gael yr un gefnogaeth os yw eu trosiant wedi gostwng 40% neu fwy.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles a’r Iaith Gymraeg, fod tua £20m eisoes wedi ei ddosbarthu, gan ychwanegu bod y cynllun yn cynnig taliadau mwy hael na’r un yn Lloegr.
Llywodraeth Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 38 marwolaeth arall yn gysylltiedig gyda'r haint Covid-19 a 2,081 o achosion newydd.
Mae hynny'n golygu bod Cymru wedi pasio'r trothwy o dros 3,000 o farwolaethau - cyfanswm o 3,011 i gyd - ac 117,367 o achosion positif ers dechrau'r pandemig.
Mae'r achosion newydd yn cynnwys 297 yn Rhondda Cynon Taf, 283 yn Abertawe, 269 yng Nghaerdydd, 225 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 224 yng Nghaerffili, a 219 yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'r gyfradd achosion dros saith diwrnod yn parhau i fod uchaf ym Merthyr Tudful ar 1,128.9 ac yna Pen-y-bont ar Ogwr ar 952.1, Blaenau Gwent ar 863.1, Castell-nedd Port Talbot yn 850.6 a Chasnewydd yn 837.9.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae 10 Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru wedi ysgrifennu at y prif weinidog Mark Drakeford yn cwestiynu pam fod angen cyfyngiadau cenedlaethol ar Gymru.
Bydd y cyfyngiadau diweddaraf yn effeithio ar bob rhan o Gymru ac yn dod i rym ar 28 Rhagfyr.
Mae'r ASau meinciau cefn yn gofyn am y dystiolaeth sydd yn cefnogi'r camau cenedlaethol pan "mae cyfraddau heintiau yn dra gwahanol ymhlith y rhanbarthau".
Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw ar y llythyr, ond fe wnaeth llefarydd ategu mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw cadw pobl Cymru'n ddiogel.
Fe fydd ysgolion yn ail-agor bob yn dipyn ar ôl gwyliau'r Nadolig, meddai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Fe fydd dysgu ar-lein yn parhau ar ddechrau'r tymor ac fe fydd ysgolion yn darparu addysg wyneb yn wyneb i fwyafrif y disgyblion erbyn 11 Ionawr.
Y gobaith yw y bydd holl ddisgyblion ysgolion wedi dychwelyd erbyn 18 Ionawr.
Bydd trefniadau arbennig yn cael eu gwneud ar gyfer plant bregus a phlant gweithwyr hanfodol.
Llywodraeth y DU
Mae'r Trysorlys wedi cyhoeddi y bydd y cynllun cefnogi swyddi i weithwyr y DU yn cael ei ymestyn am fis arall, tan ddiwedd mis Ebrill.
Mae'n golygu y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau gweithwyr sydd ar gyfnod ffyrlo.
Hefyd mae gan fusnesau sy'n wynebu trafferthion oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws tan ddiwedd Mawrth i ymgeisio am fenthyciadau.
Dywedodd y Canghellor, Rishi Sunak y bydd ymestyn y gefnogaeth yn rhoi sicrwydd i fusnesau trwy ddechrau'r flwyddyn newydd, a'u "galluogi i gynllunio o flaen llaw, beth bynnag yw trywydd y feirws".
Prynhawn da i chi a chroeso i'r llif byw.
Yma y byddwn ni'n dod â chrynodeb o gynhadledd Llywodraeth Cymru, fydd heddiw o dan ofal Gweinidog y Gymraeg, Lleisiant ac Iechyd Meddwl, Eluned Morgan AS.
Mae disgwyl i'r gynhadledd gychwyn am 12.15 a bydd linc yn ymddangos yma i chi weld y gynhadledd os hoffech.
Felly arhoswch gyda ni....