Crynodeb

  • Kirsty Williams yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf o'r gynhadledd am 12:15

  • £40m i gefnogi myfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol

  • Y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru yn parhau i fod dan "bwysau eithriadol"

  • Pwysig cael darlun o fywyd ffermwyr yn ystod Covid medd elusen

  1. Y llif byw wedi dod i benwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r llif byw wedi dod i ben am heddiw - fe fydd yn dychwelyd ar gyfer cynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg ddydd Mercher.

    Diolch yn fawr iawn am ddilyn ein diweddariadau heddiw - a hwyl am y tro.

  2. Y Gwasanaeth Ambiwlans dan 'bwysau eithriadol'wedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru yn parhau i fod dan "bwysau eithriadol" ar ôl profi cyfnod anoddaf y pandemig ym mis Rhagfyr - yn ôl pennaeth y gwasanaeth.

    Ar ei waethaf roedd bron i 400 o staff brys y gwasanaeth - tua 12% o'r gweithlu - i ffwrdd o'r gwaith naill ai'n sâl neu'n gorfod hunan-ynysu oherwydd Covid-19.

    Yn ôl Jason Killens roedd y broblem honno, ynghyd â nifer uchel iawn o alwadau ac oedi sylweddol wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai, yn golygu bod cleifion â chyflyrau llai difrifol wedi gorfod aros yn llawer hwy nag y dylen nhw am ofal.

    Ond mae'n dweud bod y pwysau bellach "yn llai" o'i gymharu â'r mis diwethaf, ac mae'n cyfaddef bod wythnosau anodd iawn i ddod.

    Ysbyty
  3. Nifer cleifion critigol Covid y gogledd ar ei uchaf etowedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    BBC Cymru Fyw

    Roedd mwy o gleifion Covid-19 yn derbyn gofal critigol yn ysbytai'r gogledd dros y penwythnos nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig.

    Roedd gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr 33 o gleifion yn ei ysbytai ar beiriannau anadlu neu mewn gofal critigol o achos yr haint ddydd Sadwrn a dydd Sul.

    Mae ffigurau diweddaraf y Gwasanaeth Iechyd yn dangos bod niferoedd cleifion Covid yn ysbytai'r bwrdd iechyd - yn ogystal â Chaerdydd a'r Fro - wedi codi dros yr wythnos ddiwethaf er eu bod wedi gostwng ychydig mewn ardaloedd eraill.

    Cleifion Covid yw dros 40% o'r holl gleifion yn y mwyafrif o ysbytai cyffredinol y byrddau iechyd Cymreig.

  4. 'Allweddol ailddechrau dysgu wyneb-yn-wyneb'wedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Nid fydd effaith y pandemig ar addysg plant yn gallu cael ei ddadwneud mewn un flwyddyn academaidd yn unig, yn ôl y Gweinidog Addysg.

    Wrth ateb cwestiwn am sut mae'n delio â'r pryderon am fwlch cyrhaeddiant yn tyfu rhwng disgyblion tlotaf a chyfoethocaf Cymru, dywedodd Kirsty Williams ei bod yn allweddol ail-ddechrau dysgu wyneb-yn-wyneb cyn gynted â'i fod yn ddiogel i wneud hynny.

    "Y peth cyntaf a mwyaf pwysig allwn wneud i fynd i'r afael a'r bwlch cyrhaeddiant yw cael plant yn ôl yn yr ysgol cyn gynted â phosib ar gyfer dysgu wyneb-yn-wyneb," meddai.

    "Haf diwethaf fe edrychon ni ar y posibilrwydd o newid y flwyddyn academaidd, ac ar y pryd doeddwn ni ddim yn gallu cael cefnogaeth am y cynigion yma.

    "Rydw i'n awyddus i edrych ar yr holl bosibiliadau o sut allwn wneud hynny, a sut allwn wneud y gorau o'r cyfleoedd yna".

    Dywedodd Ms Williams fod cyllid sylweddol wedi cael ei ryddhau er mwyn mynd i'r afael a'r broblem, a bod nifer o raglenni sy'n galluogi disgyblion i ddal i fyny wedi cael eu rhoi mewn lle.

    "Rydyn ni'n barod wedi buddsoddi dros £29m y flwyddyn hon mewn pethau'n ymwneud â galluogi disgyblion i ddal lan. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau addysg lleol i gynllunio adnoddau ychwanegol a rhaglenni dal lan addas, oherwydd nid yw'r effaith ar addysg methu a chael ei ddadwneud mewn un flwyddyn academaidd.

    "Mae angen i ni gyd fod yn rhan o ymdrech i gael plant yn ôl i'r ysgol pan mae'n ddiogel i wneud hynny mewn ffyrdd creadigol, yn ogystal ag edrych wedyn ar ffyrdd o ddal lan er mwyn mynd i'r afael a'r golled addysgol sy'n barod wedi digwydd".

  5. Sylwadau am y broses frechu'n 'rhwystredig iawn'wedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    Plaid Cymru

    Mae sylwadau Mark Drakeford am gyflwyno’r brechlyn yng Nghymru yn “rhwystredig iawn”, meddai llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth AS:

    “Ymddengys bod Cymru bellach y tu ôl i Loegr yn ddramatig o ran cyflwyno brechlyn, felly mae gweld y prif weinidog yn ymlacio ynglŷn â chyflymder cyflwyno’r brechlyn yma yn rhwystredig iawn, iawn.

    “Mae'r data diweddaraf o GIG Lloegr a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod Cymru ar ei hôl hi.

    "Mae ffigurau o Ionawr 17 yn dangos bod mwy na 3.7 miliwn dos wedi cael eu rhoi yn Lloegr - bron i hanner miliwn ohonynt yn ail ddos. Yng Nghymru mae ffigurau o 16 Ionawr yn dangos bod 126,504 o frechlynnau wedi'u rhoi, gan gynnwys dim ond 129 ail ddos.

    “O gymharu maint y boblogaeth, pe bai Cymru’n brechu ar yr un raddfa, byddem wedi brechu tua 190,000."

    Ychwanegodd Mr ap Iorwerth:

    “Rhaid i Lywodraeth Cymru roi diweddariad ar frechlynnau sydd ar gael i Gymru - o bob math - ynghyd â niferoedd sydd wedi’u brechu yng Nghymru o gymharu â Lloegr, gan ddefnyddio’r gwahanol fathau o frechlyn, ac ar y cyflenwad o frechlynnau yn yr wythnosau i ddod...

    “Mae tryloywder yn hanfodol ar hyn o bryd fel y gellir mesur cynnydd, ac y gellir dal y ddwy lywodraeth yn atebol a’u cwestiynu ar gynnydd lle bo angen.”

    Plaid Cymru
  6. Angen trafod 'ffyrdd mwy creadigol' o addysguwedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Kirsty Williams fod angen i Gymru “fod yn agored” i ddulliau newydd o ddysgu myfyrwyr.

    Gwnaeth Ms Williams y sylwadau wrth ateb cwestiwn ynghylch pryd y gallai myfyrwyr prifysgol ddychwelyd i gampws ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb.

    Wrth siarad â newyddiadurwyr, dywedodd ei bod am “leihau aflonyddwch i addysg a chynyddu hyfforddiant wyneb yn wyneb i'r eithaf” ond roedd eisiau dilyn cyngor pwyllgor SAGE wrth chwilio am ddewisiadau amgen eraill allai helpu i atal yr haint rhag lledaenu.

    Dywedodd ei bod yn bwysig i fyfyrwyr ac athrawon “fod yn agored” i ddulliau newydd, ac ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn “awyddus iawn” i gael sgyrsiau gyda phrifysgolion a’r undebau sy’n cynrychioli’r sector i “edrych ar ffyrdd mwy creadigol” i gyflwyno addysg i fyfyrwyr.

  7. Atal mynediad i gynllun Erasmus 'yn siomedig iawn'wedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams ei bod yn "siomedig iawn" am benderfyniad Llywodraeth y DU i atal mynediad i gynllun prifysgol Erasmus yr UE.

    Mae Erasmus yn rhaglen sy'n cael ei redeg gan yr UE ac mae'n helpu myfyrwyr i astudio mewn gwledydd tramor.

    Ni fydd yr Alban, Lloegr na Chymru yn cymryd rhan bellach, ond bydd Gogledd Iwerddon yn parhau i fod yn rhan o'r cynllun.

    Dywedodd Ms Williams bod cynllun newydd Llywodraeth y DU, o'r enw'r cynllun Turing, yn "opsiwn gwael" a byddai'n gweithio gyda'i swyddogion yn y llywodraethau datganoledig eraill i weld os oes ffordd o ail-ymuno ag Erasmus.

  8. 'Myfyrwyr sy'n dioddef fwyaf i gael blaenoriaeth'wedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Anogodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru brifysgolion i sicrhau bod y myfyrwyr sy'n dioddef yn fwyaf yn cael eu helpu'n gyntaf.

    Cyhoeddodd Kirsty Williams £40m o gyllid ychwanegol i helpu myfyrwyr sy'n ei chael hi'n anodd yn ystod y pandemig yn dilyn protestiadau dros rent a ffioedd dysgu myfyrwyr.

    Bydd myfyrwyr sy'n astudio ym mhrifysgolion Cymru ac sy'n ei chael hi'n anodd talu rhent yn gallu gwneud cais i gronfa caledi'r brifysgol, yn ôl Ms Williams.

    Dywedodd Ms Williams bod "holl brifysgolion Cymru wedi cytuno i gefnogi'r holl fyfyrwyr sy'n byw mewn neuaddau preswyl ac sy'n methu cymryd lan eu lle yno ar hyn o bryd".

    Er hyn, dywedodd "bod y sefyllfa'n fwy cymhleth i'r rheiny sy'n rhentu llety preifat.

    "Dyna pam rydyn ni'n cyfeirio'r adnoddau ariannol hyn tuag at gronfeydd unigol caledi prifysgolion a bydd fyfyrwyr sy'n methu a thalu eu rhent ar hyn o bryd yn gallu gwneud cais," meddai.

    Ychwanegodd y Gweinidog Addysg, "rydyn ni'n annog prifysgolion i sicrhau bod myfyrwyr sy'n dioddef yn ariannol yn cael eu helpu'n gyntaf".

    MyfyrwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Myfyrwyr gyda 'hawl i brofiad o safon'wedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Gweinidog Addysg fod gan fyfyrwyr yng Nghymru “hawl i brofiad o safon” ond nid yw wedi ei darbwyllo i wneud penderfyniad ar alwadau pellach i ad-dalu ffioedd dysgu myfyrwyr.

    Dywedodd Kirsty Williams os oes gan fyfyrwyr "bryderon" am ansawdd y "dysgu cyfunol a'r dysgu o bell" y dylent gysylltu gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a'u prifysgolion.

    Gofynnwyd i Ms Williams a oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried ad-dalu ffioedd dysgu wrth i fyfyrwyr wynebu oedi pellach wrth ddychwelyd i addysgu wyneb yn wyneb.

    "Mae ein prifysgolion yn gweithio yn galed iawn ac wedi gwneud hynny yn llwyddiannus dros rhan gyntaf y flwyddyn academaidd i ddarparu dull dysgu o ansawdd uchel, ac mae llawer ohonynt wedi cyflogi staff ychwanegol i allu gwneud hynny ac wedi gwneud y mwyaf o ddysgu wyneb yn wyneb lle mae'n ddiogel i wneud hynny.

    "Ar hyn o bryd, yn amlwg, mae'n rhaid i ni gofio sefyllfa iechyd y cyhoedd ac mae'n hollol iawn mai'r rhai sydd angen bod ar y campws yw'r myfyrwyr sydd ar y campws ar hyn o bryd.

    "Os oes gan fyfyrwyr bryderon am ansawdd y dysgu cyfunol a'r dysgu o bell y maent yn ei dderbyn gan y brifysgol, byddwn yn eu hannog i drafod hynny â'u undeb myfyrwyr lleol a'u prifysgol oherwydd bod ganddynt hawl i gael profiad o safon, er ar hyn o bryd , rwy’n cydnabod, mae’n brofiad gwahanol nag efallai y byddent wedi’i ragweld."

    Dywedodd hefyd y byddai’r £40m ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn “cefnogi myfyrwyr yn ariannol, o ran eu sefyllfa ariannol unigol eu hunain, ond hefyd i ddefnyddio adnoddau ychwanegol i brifysgolion i’w cefnogi’n ymarferol o ran darpariaeth iechyd meddwl a chymorth ymarferol."

    Astudio
  10. Cyhoeddi manylion asesiasau addysg ddydd Mercherwedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Kirsty Williams y byddai'n darparu mwy o fanylion am yr hyn fydd yn digwydd gydag asesiadau ysgolion a cholegau ddydd Mercher.

    Meddai: "Mae fy mhrif ffocws wedi bod ar sicrhau bod ein dull yn cefnogi lles a dilyniant dysgwyr. Treuliais lawer o'r wythnos ddiwethaf yn siarad yn uniongyrchol â dysgwyr i drafod eu profiadau a'u pryderon.

    "Mae'r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflenwi yn gweithio ar gyflymder gan gyfarfod ddwywaith yr wythnos diwethaf i edrych ar sut y gallwn addasu ein dulliau, i fod yn ymatebol i'r aflonyddwch parhaus".

    Ychwanegodd: "Byddaf yn derbyn cynigion polisi'r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflenwi yn gynnar yr wythnos hon, y byddaf wedyn yn eu trafod gyda Cymwysterau Cymru a CBAC. Byddaf yn darparu manylion pellach brynhawn Mercher".

    Cynhadledd
  11. Wrecsam â'r gyfradd uchaf o Covid-19wedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    BBC Cymru Fyw

    Wrecsam oedd â'r gyfradd uchaf o achosion o goronafeirws yng Nghymru, gyda 792.2 o achosion am bob 100,000 person dros yr wythnos ddiwethaf.

    Yn dilyn Wrecsam y mae Sir y Fflint gyda 522.1 o achosion, a Phen-y-bont gyda 397.1 o bob 100,000 o'r boblogaeth.

    Map o gyfradd achosion Covid-19 yng Nghymru
  12. £40m yn ychwanegol i brifysgolionwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Kirsty Williams y bydd £40m ar gael yn ychwanegol i brifysgolion Cymru i gefnogi myfyrwyr sydd wedi dioddef fwyaf yn ystod y pandemig.

    Wrth siarad yng nghyfarfod briffio coronafeirws Llywodraeth Cymru, dywedodd Ms Williams: "Mae angen i lawer o'n myfyrwyr dalu am eu llety yn ystod y tymor, ond, am resymau iechyd cyhoeddus pwysig iawn, dydyn nhw methu â byw yno mewn gwirionedd.

    "Mae cyfran fawr o fyfyrwyr hefyd yn methu â chael gafael ar y swyddi rhan-amser y byddent fel arfer yn dibynnu arnynt.

    "Dyna pam rwy'n falch o gyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £40 miliwn yn ychwanegol i brifysgolion i gefnogi myfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol, gan helpu'r myfyrwyr sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan y pandemig."

  13. Myfyrwyr wedi dioddef 'cryn aflonyddwch'wedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Ar ddechrau'r gynhadledd i'r wasg heddiw, dywedodd Kirsty Williams fod myfyrwyr wedi dioddef "cryn aflonyddwch" eleni, yn enwedig ym misoedd y gaeaf.

    "Er gwaethaf gwaith aruthrol ein prifysgolion, eu staff, myfyrwyr, a gwirfoddolwyr, gyda phrofion a chynlluniau ychwanegol ar waith i wneud dysgu mor ddiogel â phosibl, yn anffodus mae'r straen Covid newydd wedi ei gwneud hi'n angenrheidiol gofyn i fwyafrif y myfyrwyr astudio adref am y tro.

    "Mae hyn yn golygu bod degau o filoedd o fyfyrwyr bellach yn helpu i gadw Cymru yn ddiogel trwy aros i ffwrdd o'r campws."

    Ychwanegodd fod nifer fawr o fyfyrwyr hefyd methu â chael mynediad i swyddi rhan-amser, a bod y llywodraeth yn cydnabod pa mor heriol yw hyn.

    Myfyrwyr
  14. Y gynhadledd wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae modd dilyn yr hyn sydd gan y gweinidog addysg i'w ddweud yn ystod y gynhadledd isod:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. 20 marwolaeth Covid - a 151,000 o frechiadauwedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae 20 o bobl yn rhagor wedi marw gyda Covid-19, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Bellach mae cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru yn 4,294.

    Cofrestrwyd 1,332 o achosion eraill hefyd, gan godi'r cyfanswm i 181,493.

    Mae nifer y bobl sydd wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn Covid yng Nghymru wedi mynd dros 150,000.

    Mae 'r ffigurau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod cyfanswm y brechiadau bellach yn 151,737.

    Mae nifer y bobl sydd wedi derbyn dau ddos ​​o'r brechlyn yn 201.

  16. BMA Cymru'n lleisio pryder am gynllun brechuwedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    Twitter

    Mae cymdeithas feddygol BMA Cymru wedi ychwanegu at y feirniadaeth sydd wedi ei anelu tuag at y prif weinidog Mark Drakeford, yn dilyn ei sylwadau am gynllun brechu Cymru.

    Mewn cyfweliad ar BBC Radio 4 dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fod yn rhaid i gyflenwad Cymru o'r brechlyn Pfizer bara tan fis Chwefror ac felly nad yw'n cael ei ddefnyddio i gyd ar unwaith.

    Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y penderfyniad i oedi yn un "peryglus" a bod angen i'r llywodraeth ail-feddwl.

    Ond dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r rheswm dros oedi dosbarthu'r brechlyn ydy nad ydyn nhw eisiau ei wastraffu trwy yrru mwy o ddosau na'r hyn y mae'r byrddau iechyd yn gallu ei ddefnyddio.

    Mae'r GIG yn cael cymaint o frechlynnau Covid-19 ag y gall ymdopi â nhw, yn ôl meddyg blaenllaw.

    Dywedodd Dr Gill Richardson, cadeirydd bwrdd brechu Cymru, fod byrddau iechyd yn derbyn y dosau y gwnaethon nhw ofyn amdanyn nhw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Dechrau gwersi BBC Bitesize ar S4Cwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Beirniadu'r broses o ddosbarthu brechlynwedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    Twitter

    Mae Golwg360 yn adrodd fod y Prif Weinidog Mark Drakeford yn wynebu beiriniadaeth, dolen allanol am ymestyn cyfnod dosbarthu brechlyn Covid-19 dros chwe wythnos.

    Mae cyfanswm o 88,163 o bobl wedi cael eu brechu, ar ôl i o leiaf 327,000 dos gael eu danfon.

    Dywedodd Mark Drakeford mai un o'r rhesymau na ddefnyddiwyd mwy o'r cyflenwad ar unwaith oedd atal "brechwyr rhag sefyll o gwmpas heb ddim i'w wneud".

    Dywedodd cyn Ysgrifennydd Cymru, yr AS Ceidwadol Stephen Crabb, fod ei sylwadau’n “syfrdanol”.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Y gynhadledd yn dechrau'n fuanwedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Ton gyntaf Covid wedi cael effaith fawr ar gefn gwladwedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr 2021

    BBC Cymru Fyw

    Mae dadansoddiad o'r marwolaethau o Covid yn ystod y don gyntaf wedi dangos sut cydiodd yr haint, yn annisgwyl, mewn ardaloedd gwledig.

    Yn ôl arbenigwyr nid amddifadedd economaidd, oed ac ethnigrwydd sydd i gyfrif am bob marwolaeth.

    Mae'r astudiaeth gan y Swyddfa Ystadegau (ONS) yn dweud bod angen mwy o waith ymchwil ar ffactorau fel teithio a swyddi risg uchel.

    Mae'r gwaith ymchwil wedi bod yn olrhain 2,000 marwolaeth o'r feirws yng Nghymru gan ganolbwyntio ar 400 o ardaloedd lleol tan ddiwedd Awst.

    Er bod nifer uchel o farwolaethau mewn ardaloedd sy'n cael eu hystyried yn ddifreintiedig - mannau fel cymoedd y de - roedd yna nifer uwch na'r disgwyl o farwolaethau mewn ardaloedd gwledig llai yn siroedd Powys, Gwynedd a Môn.

    Mae'r gwaith yn awgrymu fod ffactorau megis teithio, galwedigaethau, byw a gweithio mewn lleoliadau gwahanol a symud o ardaloedd trefol i ardaloedd gwledig wedi cyfrannu at nifer yr achosion.

    MapFfynhonnell y llun, ONS