Crynodeb

  • Hawl i hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored

  • Pryder am amrywiolyn Delta yn parhau

  • Modd cynnal gweithgareddau awyr agored gyda hyd at 10,000 yn eistedd neu 4,000 yn sefyll

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Dyna'r cyfan am heddiw o'r llif byw.

    Bydd rhagor o newyddion am sefyllfa’r pandemig i'w gael ar y brif hafan.

    Yn ystod cynhadledd y wasg ddydd Gwener fe wnaeth Mark Drakeford gadarnhau rhagor o lacio ar y cyfyngiadau.

    Yn eu plith bydd hawl i hyd at 30 o bobl gwrdd y tu allan. Dywedodd Mr Drakeford eu bod wedi oedi rhag llacio ymhellach er mwyn casglu mwy o wybodaeth am yr amrywiolyn Delta.

    Fe fydd Llywodraeth Cymru' yn adolygu'r sefyllfa eto cyn 21 Mehefin, a bryd hynny y bydd penderfyniad ynglŷn â digwyddiadau o dan do yn cael eu gwneud.

  2. 'Blinder Zoom' yn taro'r sgowtiaidwedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Dywed arweinwyr y sgowtiaid mai "blinder Zoom" sydd ar fai yn rhannol am eu gostyngiad mwyaf yn eu niferoedd ers yr Ail Ryfel Byd.

    Ledled y DU, cymerodd tua 100,000 yn llai o bobl ifanc ran yn y mudiad Sgowtiaid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - gostyngiad o tua 25%.

    Yng Nghymru, mae nifer y bobl ifanc dan sylw wedi gostwng 29.9%, tra bod oedolion sy'n gwirfoddoli hefyd wedi gostwng 10%.

    Yn ystod cyfnodau clo 2020 a dechrau 2021, roedd y rhan fwyaf o weithgareddau'r Sgowtiaid wedi'u cyfyngu i lwyfannau digidol.

    sgowtiaid
  3. 'Amser adolygu rheolau ymweliadau ysbyty'wedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi croesawu'r newidiadau, ond mae'n galw am "negeseuon clir a chyson" i osgoi dryswch o ran dilyn y rheolau.

    Mae Jane Dodds AS hefyd yn galw am adolygu rheolau ymweliadau ysbyty, "sy'n amrywio o fwrdd iechyd i fwrdd iechyd a heb eu diweddaru ers diwedd Ebrill".

    Ychwanegodd: "Dylai sicrhau bod pobl yn cael bod gyda theulu ac anwyliaid mewn cyfnodau anodd ac emosiynol fod yn flaenoriaeth."

  4. Plaid Cymru hefyd yn galw am fwy o gefnogaeth i fusnesauwedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Plaid Cymru

    Mae angen cefnogaeth ar fusnesau o hyd tra bod "dinistr economaidd y pandemig yn parhau", yn ôl yr AS Plaid Cymru, Sioned Williams.

    "Rydym yn croesawu'r newidiadau yma heddiw," meddai, "ond fel y mae pethau'n dechrau ailagor mae angen i ni sicrhau bod ein busnesau, yn enwedig yn y sector lletygarwch, yn cael cefnogaeth sy'n parhau a mwy o gefnogaeth."

    Ychwanegodd bod busnesau angen help "i gadw'u pennau uwchben y dŵr".

    LletygarwchFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Gwasanaethau iechyd 'yn dal dan bwysau sylweddol'wedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Wrth groesawu'r lefelau isel o achosion a marwolaethau sy'n golygu bod modd symud i Lefel Rhybudd Un, dywedodd y corff sy'n cynrychioli holl gyrff iechyd Cymru bod GIG Cymru'n "parhau dan bwysau sylweddol".

    Dywedodd Nesta Lloyd Jones, cyfarwyddwr cynorthwyol Conffederasiwn GIG Cymru: "Rydym yn gweld lefelau uchel iawn o alw ar hyn o bryd ar draws yr holl system iechyd a gofal, gan gynnwys y gwasanaeth ambiwlans, ysbytai a gofal sylfaenol.

    "Mae angen i'r cyhoedd ddefnyddio gwasanaethau'n gyfrifol i'n helpu ni ofalu am bobl sydd fwyaf ei angen."

    "Mae lledaeniad cynyddol yr amrywiolyn Delta'n ein hatgoffa o bwysigrwydd dilyn y rheolau wrth i ni ddechrau cymdeithasu mwy, yn enwedig o ran pellter cymdeithasol."

    Staff ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Rhyddhad a rhybudd y sector digwyddiadau bywwedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Bydd busnesau lletygarwch a busnesau’r sector digwyddiadau byw'n teimlo "rhyddhad o weld rhagor o lacio ar y cyfyngiadau, a fydd yn hwb i fasnach dros yr haf", medd cyfarwyddwr cymdeithas y cyflogwyr, CBI Cymru.

    Ond mae Ian Price yn rhybuddio "wedi 12 mis anodd eithriadol, bydd llawer o berchnogion busnes yn croesi bysedd na fydd ailagor yn economaidd yn wynebu rhagor o drafferthion.

    "Bydd adennill refeniw sydd wedi ei golli yn anodd, a bydd sectorau gwahanol, mwyaf tebyg, yn adfer ar gyflymderau gwahanol."

    Ychwanegodd y bydd cwmnïau angen arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru o ran cadarnhau statws Covid pobl a chanllawiau pellter cymdeithasol.

    Rock the ParkFfynhonnell y llun, Rock The Park
  7. 'Dim sôn am gefnogaeth ariannol i fusnesau'wedi ei gyhoeddi 13:24 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Bydd busnesau'n bryderus bod dim cyhoeddiad hyd yn hyn ynghylch cefnogaeth ariannol, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd, Andrew RT Davies.

    "Fe fydd yna rwystredigaeth o blith y gymuned fusnes na wnaeth [Mr Drakeford] gyhoeddi unrhyw gymhorthdal ariannol newydd," meddai.

    "Mae yna £140m o arian heb ei ddosrannu yng nghoffrau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogaeth i fusnesau ond doedd dim sôn am hynny".

    Andrew RT Davies
  8. Cydymdeimlo gyda phobl sy'n trefnu priodasauwedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford ei fod "yn deall ac yn cydymdeimlo" gyda phobl sy'n trefnu i briodi wrth i gyfyngiadau barhau o ran gweithgareddau dan do.

    Mae'r cyfyngiadau'n parhau, meddai, oherwydd cyngor gwyddonol ledled y byd dros y 15 mis diwethaf.

    "Rydych chi rhwng 15 a 20 gwaith yn fwy tebygol o ddal coronafeirws dan do nac mewn lleoliadau awyr agored," meddai.

    "Dyna sut rydym wedi gwahaniaethu o'r dechrau, ac mae data ar draws y byd wedi cadarnhau nawr fod bod tu allan yn well na bod tu mewn."

    Ychwanegodd bod yr un cyfyngiadau'n berthnasol i wleddoedd priodas ag i ddigwyddiadau awyr agored eraill, a bydd cyfyngiadau ar niferoedd y bobl mewn gweithgareddau dan do yn cael eu hadolygu yn yr wythnosau nesaf.

    Priodferch mewn mwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Dim mesurau clo lleol am y trowedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford wrth y gynhadledd nad oedd o'r farn fod angen mesurau clo lleol, mewn lleoliadau fel sir Conwy yn y gogledd.

    "Nid ydym o'r farn fod yr amgylchiadau ar hyn o bryd yn gofyn am hynny," meddai.

    Ond ychwanegodd fod mesurau clo lleol yn parhau yn rhan o'r mesurau mae'n bosib i'r llywodraeth eu cymryd yn y dyfodol.

    Llandudno
  10. Pwyllo oherwydd amrywiolyn Deltawedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gyfeirio at y broses o lacio cyfyngiadau, dywedodd Mr Drakeford nad oedd yn fodlon i Gymru fynd i Lefel Un yn llwyr erbyn dydd Llun.

    "Dyw hynny ddim yn risg rwy'n fodlon ei gymryd," meddai.

    "Y rheswm am hynny - a pheidio symud yn gyfan gwbl i Lefel Un yw'r amrywiolyn newydd."

    "Tra ar hyn o bryd dyw'r niferoedd dim yn fawr yng Nghymru a does yna ddim ymlediad yn y gymuned, dwi ddim yn credu byddai'n gam synhwyrol."

    Dywedodd byddai oedi am tua phythefnos yn caniatáu i fwy o dystiolaeth gael ei gasglu ac i fwy o bobl gael eu brechu.

  11. Dim tystiolaeth bod amrywiolyn Delta'n lledu ar lefel gymunedolwedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    O'r 97 achos amrywiolyn Delta sydd wedi eu cofnodi yng Nghymru, mae "mwyafrif helaeth" yn bobl nad oedd wedi cael eu brechu, medd Mr Drakeford, ond mae rhai ohonyn nhw "wedi cael brechiad yn y gorffennol".

    Ond does "dim tystiolaeth hyd yma" bod unrhyw un o'r 97 wedi gorfod cael triniaeth ysbyty.

    "Mae mwyafrif clystyrau'r amrywiolyn newydd yn glystyrau clos ble mae timau iechyd cyhoeddus yn cofnodi cysylltiadau yn fanwl, wedi eu holrhain ac yn gwybod beth mae pobl yn ei wneud.

    "Clwstwr Conwy yw'r un fwyaf. Rydym wedi gweld esiamplau yno o bobl yn dal y feirws mewn ysgolion ac yn y gweithle,

    "Mae hyd at 300 o bobl yn hunan-ynysu o ganlyniad, ond does gyda ni ddim tystiolaeth bendant bod e nawr yn lledu ar lefel gymunedol."

    canolfan brofi
  12. Canolbwyntio ar frechu mwy o bobl cyn 21 Mehefinwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Bydd y penderfyniadau nesaf o ran llacio cyfyngiadau digwyddiadau a gweithgareddau dan do yn cael eu gwneud cyn 21 Mehefin, medd y Prif Weinidog, "pan fydd gyda ni fwy o wybodaeth am yr amrywiolyn Delta".

    Bydd hynny hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru, meddai, i ganolbwyntio ar y rhaglen frechu.

    "Erbyn 21 Mehefin, bydd 90,000 yn ragor o bobl wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn a 180,000 yn fwy wedi cael y cwrs dau ddos."

    Ychwanegodd: "Mi wnâi ddweud mwy am ein rhaglen frechu wych ac ein cynlluniau ar gyfer cwblhau brechu holl oedolion Cymru yn fy nghynhadledd nesaf ddydd Llun."

    BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. '15-20 gwaith llai o risg o haint yn yr awyr agored'wedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Pwysleisiodd Mr Drakeford bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yng Nghymru'n "parhau'n dda" ar hyn o bryd, ond bod amrywiolyn Delta'n "ychwanegu lefel newydd o ansicrwydd a chymhlethdod".

    Dyna, meddai, yw'r rheswm dros bwyllo wrth adolygu'r rheolau coronafeirws wrth symud i Lefel Rhybudd 1 o ddydd Llun.

    Dywedodd eu bod wedi canolbwyntio ar lacio cyfyngiadau digwyddiadau awyr agored yn y lle cyntaf "gan fod y dystiolaeth yn awgrymu bod y risg i gael eich heintio rhwng 15 a 20 gwaith yn is nag yw dan do."

    Mark DFfynhonnell y llun, LLYWODRAETH CYMRU
  14. Llacio pellachwedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Yn ystod y cyfarfod cyfeiriodd Mr Drakeford at y llacio pellach o ddydd Llun fydd yn cynnwys hawl i hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored a bod modd cynnal gweithgareddau awyr agored mawr.

    Bydd modd hefyd cynyddu maint aelwydydd estynedig i hyd at dair aelwyd.

    Dywedodd Mr Drakeford y bydd y symudiad i lefel rhybudd 1 yn raddol, gan ailddechrau digwyddiadau awyr agored yn gyntaf.

    Fe fydd Llywodraeth Cymru'n adolygu'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd eto cyn 21 Mehefin.

  15. Annog pobl Sir Conwy i gael prawf yn sgil amrywiolyn Deltawedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford bod amrywiolyn Delta wedi datblygu'n "sydyn" i fod yr un mwyaf cyffredin o blith yr achosion sydd wedi eu cofnodi yn Lloegr (dros 10,700) a'r Alban (1,500).

    Rhybuddiodd: "Os yw'r patrwm yna'n parhau, ni fyddwn yn ddiogel rhagddo yma yng Nghymru.

    "Eisoes rydym wedi cofnodi 97 o achosion yng Nghymru ac fe fydd yna ragor."

    Cyfeiriodd at "glwstwr mawr o achosion yng Nghonwy, sy'n cael ei ymchwilio'n fanwl" a'r profion sy'n cael eu cynnig yn y gymuned yn ardaloedd Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Penrhyn.

    "Byddwn yn annog pawb yn y cymunedau hyn o ddod ymlaen am brawf," meddai.

  16. 'Dim marwolaethau Covid am naw diwrnod'wedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn falch iawn o allu cadarnhau na chafodd rhagor o farwolaethau yn gysylltiedig gyda Covid-19 eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod y naw diwrnod diwethaf.

    Ond rhybuddiodd y prif weinidog yng nghynhadledd ddydd Gwener fod coronafeirws dal yn parhau yn glefyd angheuol a fod ei deimladau gyda'r rhai sy wedi colli anwyliaid.

    Dywedodd fod y ffigyrau diweddara yn golygu fod y nifer sydd yn ein hysbytai gyda'r haint ar ei lefel isaf ers dechrau'r pandemig.

    Dywedodd nad oedd y gwasanaeth iechyd yn aros yn ei hunfan a'i fod yn brysur yn ymateb gyda phroblemau eraill yn y maes iechyd, yn enwedig gwaith y bu'n rhaid oedi oherwydd y pandemig.

    Wrth droi at y rhaglen frechu dywedodd fod bron i 60% o'r rhai rhwng 18 a 29 oed wedi cael eu brechiad cyntaf, ac erbyn hyn fod bron i 1.2 miliwn o bobl Cymru wedi cael dau ddos.

  17. 71 achos newydd o Covid-19wedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae 71 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu cofnodi dros y cyfnod 24 awr ddiweddaraf, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Ni chafodd yr un farwolaeth ychwanegol ei chofnodi dros yr un cyfnod, sy'n golygu bod cyfanswm y marwolaethau yn aros ar 5,569.

    212,999 yw cyfanswm nifer yr achosion ers dechrau'r pandemig.

    Mae 2,169,624 o bobl yng Nghymru wedi cael brechiad cyntaf ac mae 1,181, 259 wedi cael y cwrs llawn.

    coronaFfynhonnell y llun, bbc
  18. Dilynwch y gynhadledd yn fyw...wedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Prinder staff lletygarwch yn 'argyfwng'wedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Mae prinder staff sy'n gweithio yn y sector lletygarwch bellach yn "argyfwng enfawr" yn ôl nifer yn y sector.

    Dywedodd John Evans, perchennog Tafarn y Black Boy, yng Nghaernarfon ei fod wedi gorfod canslo dros 500 o archebion am fwrdd yn y bwyty dros y pythefnos nesa.

    Mae'n dweud ei fod yn gweld hi'n amhosib recriwtio staff i weithio mewn ceginau, yn gweini bwyd, glanhau ac yn gosod gwlâu.

    tafarnFfynhonnell y llun, bbc
  20. 'Edrych ymlaen' at gael torf yng ngemau prawf tîm rygbi Cymruwedi ei gyhoeddi 11:59 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mehefin 2021

    Undeb Rygbi Cymru

    Mae Undeb Rygbi Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd modd trefnu digwyddiadau mawr unwaith yn rhagor, fel cyngherddau a gweithgareddau chwaraeon, gyda hyd at 4,000 o bobl yn sefyll a 10,000 o bobl yn eistedd.

    Dywed yr undeb eu bod ''yn edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr yn ôl i Stadiwm Principality yr haf hwn".

    Bydd yn rhaid i holl drefnwyr digwyddiadau a gweithgareddau gynnal asesiad risg llawn a gosod mesurau i atal lledaeniad y coronafeirws, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol.

    Mae'r undeb yn dweud y byddan nhw'n cyhoeddi gwybodaeth yn fuan ynghylch tocynnau a'r canllawiau i'r cyhoedd "unwaith y bydd gyda ni eglurder pellach ynghylch y protocolau a'r gweithdrefnau angenrheidiol dan y canllawiau diweddaraf".

    Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru