Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 13:20 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021
Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw, wrth i'r Prif Weinidog gadarnhau na fydd unrhyw newidiadau mawr i'r rheolau coronafeirws am bedair wythnos arall.
Ychwanegodd bod Cymru "ar drothwy trydedd don", ond nad yw'r sefyllfa yn agos at fod angen cyfnod clo arall.
Bydd rhai mân newidiadau yn dod i rym ddydd Llun, gan gynnwys y bydd nifer y bobl a gaiff fynychu priodas neu de angladd yn cael ei bennu gan faint y lleoliad ac ar sail yr asesiad risg.
Fe fydd modd hefyd i hyd at 30 o blant ysgol gynradd aros dros nos mewn canolfannau preswyl addysg awyr agored.
Diolch am ddilyn, a mwynhewch eich penwythnosau!