Crynodeb

  • Yr Eidal yn gorffen ar frig Grŵp A, gyda Chymru yn ail

  • Matteo Pessina yn rhoi'r Eidal ar y blaen cyn yr egwyl

  • Cerdyn coch i Ethan Ampadu ar ôl 56 munud

  • Gareth Bale yn methu cyfle gorau Cymru yn yr ail hanner

  • Swistir 3-1 Twrci yng ngêm arall y grŵp

  1. Amsterdam amdani!wedi ei gyhoeddi 19:28 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Anaml mae cefnogwyr yn fodlon derbyn colled, ond ni fydd cefnogwyr Cymru'n poeni'n ormodol am y sgôr heddiw.

    Cyrraedd y rownd nesaf oedd y nod, ac mae Cymru wedi gwneud hynny, gan sicrhau'r ail safle yn y grŵp.

    Amsterdam amdani y penwythnos nesaf, felly dewch yn ôl bryd hynny.

    Diolch am ddilyn, hwyl am y tro.

    Grwp
  2. Cefnogaeth i Ampaduwedi ei gyhoeddi 19:26 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Quote Message

    Y peth cynta' wnaetho ni ar y diwedd oedd nôl Ethan Ampadu.

    Neco Williams, Amddiffynnwr Cymru

    Ethan Ampadu a Harry WilsonFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ethan Ampadu a Harry Wilson yn cymeradwyo'r gefnogaeth ar y diwedd

  3. Y gallu gan Gymruwedi ei gyhoeddi 19:22 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Dylan Griffiths
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Neco Williams yn dweud bod y gallu gan Gymru i guro unrhyw dîm a ddim yn poeni pwy fydd y gwrthwynebwyr

  4. Colli ond ennillwedi ei gyhoeddi 19:20 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Joe Allen hefyd wedi dweud wrthai bod y golled yn teimlo fel buddugoliaeth!

  5. Carl yn cael yr ymatebwedi ei gyhoeddi 19:19 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Carl Roberts
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Dwi wedi holi Ramsey, Bale a Joe Allen a Chiesa - seren y gêm. Joe Allen yn anghytuno gyda'r cerdyn coch. Ramsey yn son am gymeriad ond wrth ei fodd gyda gorffen yn ail. Bale yn hapus ond yn dweud efallai oedd o'n flinedig wrth daro'r foli. Ramsey hefyd yn flinedig a methu cofio'r tro diwethaf iddo chwarae tair gêm mewn wythnos.

  6. 'Ail yn anhygoel'wedi ei gyhoeddi 19:17 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    I’r grŵp yma orffen yn ail maen nhw wedi gwneud yn anhygoel. Pan o ni’n edrych ar y grŵp pan ddaeth o allan, ro’n i’n meddwl bod o’n llawer anoddach na be’ oedd geno ni bum mlynedd yn ôl yn Ffrainc.

  7. 'Diolch byth'wedi ei gyhoeddi 19:15 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Quote Message

    Mae’n anodd peidio bod yn siomedig yn colli gêm ond tasg heddiw, a’r dasg fwya' pwysig, oedd i beni o leia’ yn ail yn y grŵp – diolch byth ni wedi gwneud hynny felly allwn ni edrych ymlaen nawr i wybod pwy ni’n mynd i chwarae nesa'.

    Joe Allen, Chwaraewr canol cae Cymru

  8. Amser dathlu!wedi ei gyhoeddi 19:12 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Cytuno, Huw!wedi ei gyhoeddi 19:09 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. 'Gweithio mor galed'wedi ei gyhoeddi 19:09 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Mae Gareth Bale wedi bod yn siarad gyda'r wasg.

    Dywedodd bod "y bechgyn wedi gweithio mor galed, rhedeg drwy'r dydd a gwneud beth oedd ei angen".

    "Oedden ni'n gwybod bydde h'n flinedig heno, ymdrech fawr gan y bechgyn a dwi'n prowd o bawb."

  11. Malcolm Allen yn hyderus iawn!wedi ei gyhoeddi 19:07 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Malcolm Allen
    Cyn ymosodwr Cymru a sylwebydd S4C

    Quote Message

    O leia’ dyda ni ddim yn mynd i weld Yr Eidal tan y ffeinal rŵan.

  12. Pwy nesaf?wedi ei gyhoeddi 19:05 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Y Ffindir neu Rwsia, dwi ddim isio dangos diffyg parch i un o'r ddwy wlad ond yn fy marn i 'da ni yn well na'r un o'r ddwy wlad yna. Bydden ni yn hyderus.

    Mae Denmarc yn bosibilrwydd hefyd, yn dibynnu ar ganlyniadau 'fory.

  13. 'Wrth eu boddau'wedi ei gyhoeddi 19:03 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Quote Message

    Tydi’r sgôr ddim yn cyfri dim nachdi - y gôl oedd mynd ymlaen i’r 16 nesa' a dyna yn union mae’r hogia' wedi gwneud. Fyddan nhw wrth eu boddau rŵan.

    Owain Fôn Williams, Cyn golwr Cymru a sylwebydd S4C

    torf cymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Ymdrech wychwedi ei gyhoeddi 19:01 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Hwyrach bod ni ddim yn grêt gyda y meddant, ac ar y gair mae Ethan Ampadu wedi dod allan o'r 'stafell newid i ddathlu gyda'r chwaraewyr. Fydd o'n teimlo yn ofnadwy wedi derbyn y cerdyn coch yna. Am ymdrech!

  15. Dwy gôl ynddiwedi ei gyhoeddi 18:57 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Dwy gôl oedd ynddi yn y pen draw. Ond mae Cymru yn sicrhau'r ail safle gyda gwahaniaeth goliau o +1, tra bod Y Swistir yn drydydd gyda gwahaniaeth goliau o -1.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. 'Perfformiad campus'wedi ei gyhoeddi 18:56 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Gwennan Harries
    Cyn ymosodwr Cymru a sylwebydd S4C

    Quote Message

    Perfformiad campus... y ffaith ein bod ni wedi lleihau'r cyfleoedd ond hefyd gatho ni gyfleodd ein hunain, a’r ffordd wnaethon ni amddiffyn yn arbennig.

  17. Arwyrwedi ei gyhoeddi 18:55 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Dylan Griffiths
    Chwaraeon BBC Cymru

    Quote Message

    Arwyr bob un ohonyn nhw, lawr i ddeg dyn gyda hanner awr i chwarae ar ôl i Ethan Ampadu gael ei hel o'r cae.

  18. Ar ben yn Baku!wedi ei gyhoeddi 18:52 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021
    Newydd dorri

    Mae Cymru yn yr 16 olaf!

    Y Swistir wedi ennill o 3-1 yn erbyn Twrci, ond Cymru'n ail ar wahaniaeth goliau.

    Felly yn Amsterdam fydd y gêm nesaf.

    diwedd gemFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Dyna ni!wedi ei gyhoeddi 18:51 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    1-0 y sgor terfynol yn Rhufain.

    Mae'r Swistir yn dal i chwarae yn Baku...

  20. Ward yn arbed etowedi ei gyhoeddi 18:50 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2021

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    Quote Message

    Dydy Danny Ward ddim yn aros i edmygu yr arbediad, mae'n sgrechian at ei amddiffynwyr o.