Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich+1 8 Hydref 2021
A dyna ddiwedd ein llif byw o gynhadledd Llywodraeth Cymru lle wnaeth y Prif Weinidog gadarnhau y bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero o ran cyfyngiadau'r pandemig.
Mae nifer yr achosion dal yn uchel, meddai, ond dywedodd eu bod nhw'n gostwng.
Cafwyd cadarnhad ei bod hi'n debygol y bydd holl fusnesau Cymru'n aros ar agor drwy'r hydref a'r gaeaf os ydi'r sefyllfa bresennol yn parhau.
Fe ddywedodd Mr Drakeford hefyd y bydd hi'n haws o heddiw ymlaen i ymweld ag anwyliaid mewn cartrefi gofal.
Bydd mwy o hyblygrwydd gan y cartrefi i ganiatáu i ymwelwyr wneud prawf yn y tŷ cyn treulio amser yn y cartref. Bydd cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol o fewn y cartrefi gofal hefyd yn cael eu llacio.
Mwynhewch eich penwythnos a chofiwch bod y straeon diweddaraf i'w gweld ar hafan Cymru Fyw.
Diolch am eich cwmni.