Crynodeb

  • Mark Drakeford yn cadarnhau cyfyngiadau coronafeirws newydd mewn cynhadledd i'r wasg a ddechreuodd am 12:15

  • Rhybuddiodd Prif Weinidog Cymru ein bod ni mewn cyfnod o "lonyddwch cyn y storm"

  • "Eleni, Nadolig llai fydd y Nadolig mwyaf diogel," meddai Mr Drakeford

  • Bydd clybiau nos yn cau yng Nghymru ar 27 Rhagfyr fel rhan o'r ymateb i amrywiolyn newydd Omicron

  • Bydd rhagor o fesurau yn dod i rym i fusnesau hefyd o'r diwrnod hwnnw, gan gynnwys rheidrwydd i gadw pellter mewn swyddfeydd ac uchafswm siopwyr mewn archfarchnadoedd

  • Hyd at £60m o gymorth ariannol i'r busnesau sy'n cael eu heffeithio, ond nifer yn poeni am effaith y rheolau dros gyfnod mor allweddol

  1. Diolch am eich cwmniwedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Dyna ddiwedd ar ein llif byw o'r gynhadledd heddiw.

    Fe gadarnhaodd Prif Weinidog Cymru y byddai cyfyngiadau newydd yn dod i rym o 27 Rhagfyr.

    Mae hynny mewn ymateb i'r pryder sydd am Omicron, amrywiolyn sy'n fwy trosglwyddadwy na Delta.

    Am fwy o fanylion ar y cyfyngiadau, darllenwch ein prif stori yma.

    Fel arall, diolch am eich cwmni a hwyl fawr.

  2. 'Rhaid gobeithio am y gorau ac am Nadolig teuluol'wedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Fe wnaeth Patricia Trew, sy'n 82 oed ac o'r Bontfaen, a'i gŵr dreulio Nadolig y llynedd ar ben eu hunain.

    Mae hi'n gobeithio na fydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn atal eu cynlluniau am Nadolig teuluol eleni.

    "Ar y funud mae e'n mynd yn ei flaen," meddai. "Mae'r rhan fwyaf yn dod ond mae'n bosib y gallai rhai ohonyn nhw benderfynu peidio...

    "Rhaid jest gobeithio am y gorau, ond rwy'n meddwl bod rhaid bwrw ymlaen gyda bywyd, felly gyda'r teulu ry'n ni'n gobeithio bod adeg Nadolig."

    Patricia Trew
  3. Deuddydd ychwanegol i ysgolion baratoiwedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Cyn i'r rheolau newydd gael eu datgan, daeth cyhoeddiad ddoe y bydd ysgolion Cymru yn cael deuddydd ar ddechrau'r tymor newydd i gynllunio ar gyfer dychweliad disgyblion a'r posibilrwydd o symud i ddysgu o bell.

    Mae'n golygu y bydd disgyblion mewn rhai ysgolion yn dychwelyd i'r dosbarth yn hwyrach na'r disgwyl ar ôl gwyliau'r Nadolig.

    Galwodd Gweinidog Addysg Jeremy Miles ar benaethiaid i gynllunio i rai dosbarthiadau neu'r ysgolion cyfan symud ar-lein os oes pwysau staffio.

    Ond mae'r cyhoeddiad wedi derbyn ymateb cymysg oddi wrth undebau addysg, gydag un yn cyhuddo'r llywodraeth o achosi "dryswch" i benaethiaid.

    Daw wrth i gyngor arall yng ngogledd Cymru gyhoeddi y bydd disgyblion yn dysgu ar-lein ar ôl 17 Rhagfyr - wrth i Gyngor Conwy ymuno ag awdurdodau eraill sydd wedi gwneud yr un penderfyniad.

    Darllenwch y stori'n llawn yma.

    dysguFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Galw am fwy i helpu gweithwyr iechyd a gofalwedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Mae angen cefnogi'r gwasanaeth iechyd hefyd, medd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, gan mai gweithwyr iechyd a gofal "fydd â'r baich fwyaf" yn y pythefnos nesaf.

    "Mae'r feirws ma'n golygu eu bod wirioneddol ar eu gliniau, yn nhermau niferoedd a diffyg gweithwyr iechyd sy'n gallu mynd i'r gwaith am eu bod yn hunan-ynysu neu wedi eu heffeithio'n uniongyrchol," meddai Jane Dodds.

    "Felly fyswn i wedi licio gweld mwy [i'w helpu] ac rwy'n gobeithio y gwelwn ni fwy am sut rydan ni'n mynd i gefnogi ein gwasanaethau iechyd."

    Paratoi i roi brechiadFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. 'Tair gwaith yn fwy eisiau brechiad adref'wedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae tair gwaith cymaint o bobl wedi bod yn gofyn am gael eu brechiad atgyfnerthu gartref o'i gymharu â'r cyfnod yn gynharach yn y rhaglen frechu, meddai'r Prif Weinidog.

    "Mae yna lawer mwy o bobl yn edrych i gael y pigiad atgyfnerthu gartref ac mae'n ffordd llafurddwys iawn o ddarparu'r brechlyn," meddai Mark Drakeford.

    "Ond yn ystod y dyddiau diwethaf ry'n ni wedi gwneud cryn dipyn i gynyddu faint o arian rydyn ni'n ei ddarparu i feddygon teulu (GPs) i frechu gartref.

    "Ac rydym yn gobeithio y bydd hynny'n golygu y bydd gennym fwy o'u hamser i wneud y rhan hon o'r rhaglen frechu, oherwydd mai nhw, mewn sawl ffordd, yw'r rhai mwyaf addas i wneud hynny."

  6. Rheolau newydd yn 'iawn, fwy neu lai'wedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Plaid Cymru

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod pob llywodraeth yn wynebu gwaith "cydbwyso anodd" wrth wneud penderfyniadau ar gyfyngiadau Covid.

    "Credaf fod y llywodraeth wedi cael hyn fwy neu lai yn iawn," meddai.

    Dywed bod y sefyllfa yng Nghymru yn rhoi "gofod i anadlu" cyn y Nadolig.

    "Ond yn amlwg rydym yn wynebu sefyllfa anodd iawn, iawn wedi hynny," meddai.

    Galwodd Mr Price ar Drysorlys y DU i ailgyflwyno'r cynllun ffyrlo er mwyn "gallu darparu'r lefel o gefnogaeth y bydd ei hangen ar y sector lletygarwch a busnesau eraill".

    APFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. £60m 'ddim ar gyfer talu cyflogau'wedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Yn y gynhadledd, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu helpu i dalu cyflogau i bobl sy'n gweithio mewn sectorau fel clybiau nos, lleoliadau priodas a pharlyrau harddwch.

    Dywedodd fod y pecyn cymorth o £60m y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu i helpu gyda phethau fel rhent neu ardrethi busnes.

    "Mae’r £60m ar gyfer mis Ionawr," meddai.

    "Bydd yn ddigonol i ddidoli costau y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu eu talu o'r blaen."

    Pan ofynnwyd iddo a allai sectorau fel clybiau nos, busnesau priodas a pharlyrau harddwch gael help, dywedodd: "Nid ydym erioed wedi gallu talu cyflogau - cyfrifoldeb llywodraeth y DU fu hynny erioed."

    Ond dywedodd "nid ydym wedi cael yr arwyddion hyd yma" gan Lywodraeth y DU ar y gefnogaeth honno.

  8. 'Mae mwy o arian ar gael i helpu busnesau'wedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd yn galw am fwy o eglurder ynghylch y £60m y mae Llywodraeth Cymru am ei gynnig i gefnogi busnesau o ganlyniad addasu'r rheolau Covid yn sgil Omicron.

    Er yn croesawu'r arian sydd wedi ei addo, dywedodd Andrew RT Davies bod mwy o arian gan y llywodraeth i helpu busnesau.

    "Mae yna £600m yn eistedd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru sydd ar gael iddyn nhw wario ar fesurau Covid," meddai.

    "Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn cael rhywfaith o eglurder ynghylch yr arian hwnnw wrth fynd rhagddi i gefnogi busnesau sy'n cael eu heffeithio gan gyfyngiadau."

    Andrew RT Davies
  9. Clybiau nos: 'Diogelu, nid cosbi, pobl iau'wedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    "Gwarchod iechyd pobl a fyddai fel arall yn rhoi eu hunain mewn perygl o niwed" yw'r rheswm am y penderfyniad i gau clybiau nos o 27 Rhagfyr, medd Mr Drakeford.

    Fe wadodd awgrym y byddai'n "cosbi" pobl ifanc.

    "Os edrychwch chi ar Lundain a gweld lle bu'r twf cyflymaf yn achosion amrywiolyn Omicron, mae wedi bod ymhlith pobl yn eu hugeiniau a'u tridegau," meddai.

    "Yn yr achos yma, fe allwch chi ddweud ein bod yn gwahaniaethu o blaid pobl iau trwy gymryd camau mewn cyd-destun ble maen nhw'n fwyaf tebygol o fynd yn groes i wybodaeth am y ffordd y mae Omicron â chyfradd uwch ymhlith grwpiau iau."

    Clwb nosFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Pasys Covid wedi bod yn 'effeithiol iawn'wedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog wedi mynnu bod pasys Covid "wedi bod yn effeithiol iawn".

    Dywedodd Mark Drakeford fod y pasys a gyflwynwyd ym mis Hydref "wedi helpu nifer o leoliadau i aros ar agor neu ddigwyddiadau i'w cynnal, na fyddai fel arall wedi bod yn bosib".

    Ond ychwanegodd fod yr amrywiolyn Omicron wedi newid y sefyllfa.

    "Pe baem ond yn delio â Delta yna rwy'n credu mai aros ar agor gyda phas fyddai'r llwybr yr oeddem arno," meddai.

    "Yn anffodus, mae'r awyr wedi tywyllu gyda'r amrywiadau newydd rydyn ni'n gwybod sy'n dod ein ffordd ni."

  11. 'Pobl i golli gwaith' o achos cyfyngiadau Omicronwedi ei gyhoeddi 12:58 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Dyma fydd y tro cyntaf i gyfyngiadau newydd gael eu cyflwyno yng Nghymru ers mis Awst.

    Read More
  12. Drakeford yn ymosod ar y Trysorlyswedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r system o dalu am y bil ar gyfer unrhyw gyfnodau clo pellach yn deg, meddai Mr Drakeford.

    Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig £60m i helpu busnesau sy'n cael eu taro gan y cyfyngiadau diweddaraf.

    Ond byddai cloeon pellach angen iawndal i fusnesau a thaliadau ffyrlo i weithwyr, rhywbeth y gallai Trysorlys Llywodraeth y DU yn unig ei ariannu'n realistig.

    "Dim ond nhw sydd gan y pŵer i allu gosod pecyn cymorth ariannol os oes rhaid i ni fynd y tu hwnt i'r hyn sydd gennym ni heddiw, meddai Mr Drakeford.

    "Y pwynt rydw i wedi'i wneud dro ar ôl tro i Weinidogion y DU yw nad yw'r system bresennol yn deg.

    "Pe bai Gweinidog o Lywodraeth y DU, yn gweithredu dros Loegr, yn penderfynu cymryd mesurau pellach, bydd y Trysorlys yno i'w gefnogi. Pe bawn i'n penderfynu, neu pe bai Prif Weinidog yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn penderfynu, nid oes cefnogaeth o'r fath.

    "O ystyried ein bod yn siarad am fywydau pobl ac iechyd y cyhoedd, nid dyna'r ffordd y dylai'r system weithio."

  13. Effaith fawr ar wasanaethau cyhoeddus yn degybolwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'n "anorfod" y bydd cynnydd mawr mewn achosion Omicron yn cael effaith ar wasanaethau cyhoeddus, medd y Prif Weinidog.

    Mae'r GIG, cynghorau sir, yr heddlu a gwasanaethau eraill yn gweithio'n galed i drefnu "pa bynnag fesurau fydd eu hangen fel bod gwasanaethau'n parhau i bobl Cymru", meddai.

    Ychwanegodd: "Os yw'r amrywiolyn yma'n lledu yn y ffordd y mae rhai o'r modelau'n awgrymu, yna bydd y bobl ry'n ni'n dibynnu arnyn nhw i ofalu amdanom mewn argyfwng yn cael eu heffeithio ganddo eu hunain."

    Fe wnaeth Mr Drakeford gadeirio cyfarfod gyda phenaethiaid gwasanaethau cyhoeddus Cymru ddoe.

    "Dydw i ddim am guddio rhag unrhyw un y pryderon a gafodd eu mynegi yno ynghylch y ffordd y gallai'r amrywiolyn Omicron effeithio'n fawr ar nifer y bobl sydd ar gael yn y gweithle."

  14. 'Rhaid osgoi gweld pawb ar yr un tro'wedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford bod Omicron yn lledu'n hawdd o berson i berson wrth i bobl ymgynnull mewn niferoedd mawr dan do.

    Mae'n galw ar bobl i leihau faint y bobl maen nhw'n eu cwrdd "yn arbennig os rydych chi'n gweld pobl hŷn neu fregus dros y Nadolig".

    Mae'n erfyn ar bobl i gael eu brechu ac i gymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan, mynd i wneud siopa Nadolig neu ymweld â phobl.

    "Os yw'r prawf yn bositif, peidiwch â mynd allan o gwbl," meddai.

    "Mae cwrdd tu allan yn well na dan do. Os rydych chi'n cwrdd dan do, gwnewch yn siŵr bod y lle wedi ei awyru'n dda."

    Mae hefyd yn annog pobl, wrth ymweld â ffrindiau a pherthnasau "i beidio gweld pawb ar yr un tro".

    cymdeithasuFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Beirniadu Llywodraeth y DU dros ffyrlowedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gadarnhau y bydd clybiau nos yn cau o 27 Rhagfyr, dywedodd Mr Drakeford y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu cefnogaeth ariannol ond fe feirniadodd Lywodraeth y DU am "wrthod" ailgyflwyno'r cynllun ffyrlo.

    Dywedodd y byddai trafodaethau gyda chynrychiolwyr y sector, cynghorwyr iechyd cyhoeddus a chyrff chwaraeon am ddigwyddiadau dros y dyddiau nesaf.

    Bydd pecyn cymorth ariannol o hyd at £60m ar gael i fusnesau sy'n cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd, meddai.

    Ond dywedodd fod ei allu "i ddarparu a chynnal cefnogaeth economaidd tymor hwy" yn ystod y don newydd hon wedi ei "gyfyngu'n ddifrifol gan sefyllfa bresennol Trysorlys y DU a'i wrthodiad i agor cynlluniau cymorth hanfodol, fel ffyrlo.

    "Dylai'r cynlluniau hyn fod ar gael i bob gwlad pan fydd eu hangen ac nid dim ond ar yr adeg pan gyflwynir cyfyngiadau yn Lloegr."

  16. Cartrefi gofal a gweithio o adrefwedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywed y Prif Weinidog y bydd canllawiau ynghylch ymweld â chartrefi gofal yn cael eu diweddaru a'u cyhoeddi o fewn yr wythnos.

    Dywedodd Mark Drakeford y byddai'r prif swyddog meddygol, Dr Frank Atherton, yn ysgrifennu at bawb ar y rhestr gysgodi am y camau y gallan nhw eu cymryd i amddiffyn eu hunain.

    MD

    "Nid wyf yn credu y bydd yn cynghori pobl i fynd yn ôl i'r drefn gysgodi wreiddiol, ond bydd yn rhoi'r cyngor gorau i bobl ar sut y gallant gadw eu hunain yn ddiogel yng nghyd-destun yr amrywiad Omicron," meddai Mr Drakeford.

    "Dyma fydd y math o gyngor ymarferol y mae wedi'i ddarparu o'r blaen."

    Ychwanegodd hefyd y bydd y llywodraeth yn newid y gyfraith er mwyn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i bobl weithio gartref "lle bynnag y gallant".

  17. 'Rhaid paratoi ar gyfer derbyn mwy o bobl yn yr ysbyty'wedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Fe all y ffaith bod Omicron yn cael ei drosglwyddo mor hawdd olygu bod niferoedd mawr yn gorfod cael triniaeth ysbyty, rhybuddiodd Mr Drakeford.

    Mae cynnydd eisoes, meddai, yn niferoedd y cleifion Covid-19 sy'n gorfod mynd i'r ysbyty yn Llundain, a "dyliwn ni fod yn barod i'r un peth ddigwydd yn fan hyn".

    Dywedodd mai nod penderfyniadau'r cabinet wrth newid y rheolau yw "ein cadw'n saff yn y cyfnod cyn Nadolig tra bod Delta yn dal yn fwyaf cyffredin ac i gymryd mesurau cryfach i'n diogelu wedi hynny, wrth inni baratoi ar gyfer ton fawr o heintiadau".

    YsbytyFfynhonnell y llun, PA Media
  18. 'Dal yn delio â Delta - ond Omicron ar gynnydd'wedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ddechrau'r gynhadledd, dywedodd Mark Drakeford mai amrywiolyn Delta yw "mwyafrif helaeth" yr achosion coronafeirws yng Nghymru ar hyn o bryd, a bod nifer yr achosion - tua 500 i bob 100,000 o bobl - yn sefydlog.

    "Rydym yn meddwl taw Delta fydd prif achos heintiadau coronafeirws yng Nghymru hyd at Nadolig," meddai, "ond gosteg cyn y storm yw hyn.

    "Rydym yn gweld cynnydd yn achosion Omicron bob dydd yng Nghymru, ac ar draws y Deyrnas Unedig.

    "Mae tua 100 o achosion wedi eu cadarnhau yng Nghymru ac maen nhw yn ardal pob bwrdd iechyd.

    "Erbyn diwedd Rhagfyr, dyna fydd ffurf amlycaf y feirws yn y Deyrnas Unedig."

  19. Gwyliwch yn fywwedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Brechlyn: Blaenoriaethu menywod beichiogwedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich 17 Rhagfyr 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod bellach yn blaenoriaethu menywod beichiog ar gyfer y pigiad atgyfnerthu ar ôl i'r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) gynghori y dylid eu hystyried yn y grŵp mewn perygl.

    "Mae nifer y menywod beichiog sy'n dod ymlaen i gael eu brechu wedi bod yn is nag y byddem ni eisiau iddo fod, ac mae hyn yn rhoi mamau a'u babanod mewn perygl," meddai llefarydd.

    "Yn seiliedig ar y data am ddiogelwch, ynghyd â'r risg uwch o Covid-19, mae'r JCVI wedi cynghori y dylid ystyried menywod beichiog fel grŵp risg clinigol a'u blaenoriaethu ar gyfer brechu Covid-19."

    Mae'r llywodraeth yn galw ar y rhai sydd heb gael eu dos cyntaf ac ail ddod o'r brechlyn i gysylltu â'u byrddau iechyd i gael apwyntiad.

    Fe ddylai'r rhai sy'n aros am drydydd dos - neu'r booster - ddisgwyl am yr alwad fel grwpiau blaenoriaeth eraill.

    brechuFfynhonnell y llun, Getty Images