Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich 11 Ionawr 2022
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Da boch chi.
Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau gan ASau am y tro cyntaf yn 2022
Y cyfarfod yn cael ei gynnal yn rhithwir oherwydd pryderon am yr amrywiolyn Omicron.
Alun Jones
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Da boch chi.
Mae'r prif weinidog yn dweud bod "deialog gadarnhaol" wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Chlwb Pêl-droed Dinas Caer. Fodd bynnag, mae Caer wedi cadarnhau bod ei gêm gartref ddydd Sadwrn wedi'i gohirio.
Yn fwy cyffredinol, mae Llyr Gruffydd o Blaid Cymru yn gofyn "a wnewch chi o leiaf ystyried codi'r uchafswm cefnogwyr ddigon er mwyn i chwaraeon ar lawr gwlad gael bod yn weithredol, ac yn achos y clybiau mwy, efallai i ryw ganran penodol, traean neu hanner o gapasiti'r stadiwm, cyhyd, wrth gwrs, â bod rheolau ymbellhau a masgiau ac yn y blaen yn eu lle?"
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ymateb "ry' ni'n awyddus i ailedrych ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd â'i gilydd yn yr awyr agored a gwneud pethau fel cefnogi'r clybiau sy'n bwysig iddyn nhw. Ond yr amser i'w wneud e yng Nghymru yw pan mae'r cyngor meddygol, a'r cyngor eraill sy'n dod atom ni, yn dweud ei bod hi'n saff i ni i'w wneud e."
Pan ofynnwyd iddo am y ffordd fwyaf teg o asesu ansawdd y dysgu ar ddiwedd cyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5 yng ngoleuni ton ddiweddaraf Omicron, dywedodd y prif weinidog "mae arholiadau yn gywirydd pwysig i ragfarnau anymwybodol yn y system. Gwyddom fod dynion ifanc dosbarth gweithiol yn arbennig yn gwneud yn well mewn arholiadau nag yr oedd eu hathrawon wedi’i ragweld weithiau. A dyna pam ei bod yn bwysig iawn inni gael arholiadau fel rhan o’r ffordd y bydd pobl ifanc yn cael eu hasesu yng Nghymru yr haf hwn."
Mae'r system les yn "ofnadwy o gymhleth" meddai'r prif weinidog, sy'n ailadrodd ei feirniadaeth am ddiwedd y swm ychwanegol o £20 ar Gredyd Cynhwysol.
Pan darodd pandemig Covid, rhoddwyd “codiad” ychwanegol o £20 yr wythnos i’r rhai ar Gredyd Cynhwysol i’w helpu trwy gyfnod economaidd anodd.
Daeth y taliad ychwanegol i ben ar 6 Hydref.
O ran newidiadau arfaethedig i amserlenni sgrinio serfigol, mae’r prif weinidog yn dweud wrth yr Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon, “Rwy’n rhannu rhwystredigaeth Vikki Howells yn llwyr ynghylch y ffordd y cafodd stori o lwyddiant ei chyfleu mewn ffordd a achosodd gymaint o bryder i gynifer o bobl, oherwydd mae’r system sgrinio yng Nghymru yn stori o lwyddiant.
"Ni oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i newid ein system sgrinio i brawf mwy sensitif ar gyfer canser ceg y groth yn 2018. Rydym wedi cael brechiad ar gyfer HPV ymhlith merched ifanc ers 2008, a bydd y risgiau o ganser ceg y groth yn y blynyddoedd i ddod.yn wahanol iawn, ac yn llawer is, nag yr oedden nhw i gynifer o bobl yn y gorffennol.”
Bydd menywod a phobl â serfics, rhwng 25 a 49 oed, bellach yn cael eu sgrinio'n rheolaidd bob pum mlynedd yn lle tair.
Ymddiheurodd Iechyd Cyhoeddus Cymru am achosi "pryder" ynghylch sut yr eglurodd newidiadau i sgrinio serfigol.
Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn dweud "pan darodd yr argyfwng ariannol byd-eang, yna fe gynullodd Llywodraeth Cymru uwchgynhadledd economaidd frys i gyfuno syniadau ar yr hyn y gallem ni yng Nghymru ei wneud yn annibynnol ein hunain i ymateb."
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i "ystyried galw uwchgynhadledd gymdeithasol Gymreig i helpu i ddyfeisio ymateb traws-lywodraethol brys i'r argyfwng costau byw sy'n wynebu pobl a theuluoedd yn 2022".
Mae’r prif weinidog yn ymateb, “Ar draws Llywodraeth Cymru, rydym eisoes yn cymryd camau, boed honno’n gronfa cymorth aelwydydd gwerth £51 miliwn, a fydd yn cynnig cymorth gyda biliau tanwydd i deuluoedd yng Nghymru y gaeaf hwn; gyda’n hymrwymiad i leihau’r dreth gyngor, mae 60 y cant o aelwydydd yng Nghymru yn cael cymorth drwy gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor; drwy’r miliynau o bunnoedd yn ychwanegol yr ydym wedi’u rhoi yn y gronfa cymorth dewisol; a thrwy’r camau yr ydym yn eu cymryd drwy ein cronfa gyngor sengl i wneud yn siŵr. bod pobl yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fyddant yn hawlio’r pethau y mae ganddynt hawl iddynt.”
Dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, nad yw rhai o gyfyngiadau Llywodraeth Cymru "i'w gweld yn gwneud synnwyr".
Mae’n galw am fap allan o’r cyfyngiadau, gan gynnwys ParkRuns – a benderfynodd ganslo eu digwyddiadau 5k yng Nghymru o 1 Ionawr ymlaen gan na fyddai mwy na 50 o bobl yn cael mynychu – a phencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae’r prif weinidog yn ateb, “Mae’r holl gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn rhai sydd wedi’u hargymell i ni ac wedi’u cymeradwyo gan ein cynghorwyr clinigol a gwyddonol.
“Dyma Lywodraeth sy’n dilyn y wyddoniaeth, ddim yn treulio ei hamser yn ceisio rhoi pwysau ar wyddonwyr i roi cyngor a fydd yn wleidyddol gyfleus i ni.
“Nid wyf ychwaith yn cytuno ag ef ei bod bron yn amhosibl gwneud rhai o’r pethau a ddywedodd; rwy’n gweld llawer, llawer o bobl yn rhedeg yn y parc mewn grwpiau wedi’u trefnu o fewn y lefel bresennol o amddiffyniadau."
Ychwanegodd, "yr wythnos nesaf fydd diwedd cyfnod adolygu o dair wythnos.Os ydym yn ffodus iawn, ac mae’n ‘os’ mawr iawn, a’n bod yn canfod ein bod wedi mynd heibio’r brig hwnnw a’n bod ar ostyngiad dibynadwy yn effaith y coronafeirws arnom, yna byddwn yn edrych i weld beth y gallwn ei wneud i lacio rhai o'r amddiffyniadau y bu'n rhaid i ni eu rhoi ar waith."
Dywed Mark Drakeford ei bod yn aneglur a yw ffigurau diweddar sy’n ymddangos fel pe baent yn dangos gostyngiad yn nifer achosion Covid yn “gwympiadau gwirioneddol” neu’n ganlyniad i lai o bobl yn mynd am brofion PCR oherwydd newidiadau diweddar sy'n golygu nad oes angen y rhai sy’n cael prawf llif unffordd cadarnhaol ddilyn i fyny gyda phrawf PCR.
Mae lefelau Covid yn dal i fod yn “eithriadol o uchel” - dyna rybudd y prif weinidog, gan ychwanegu y bydd ychydig ddyddiau cyn i ni wybod a oes gostyngiad gwirioneddol yn y ffigurau.
Wrth ymateb i’r Ceidwadwr Natasha Asghar, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud “nad yw lefelau staffio mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru, ar lefel eu cyflenwad, yn anniogel—wrth gwrs nad ydyn nhw; maen nhw’n bodloni gofynion gwahanol y Coleg Brenhinol.”
Ychwanegodd, "ar hyn o bryd, oherwydd yr amrywiolyn Omicron, mae gennym ni gyfrannau sylweddol o staff yn y GIG, a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru, yn methu â bod yn y gweithle."
Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o sesiwn gyntaf Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.
Mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal drwy gynhadledd fideo.