Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau gan ASau, mewn fformat hybrid oherwydd pryderon am yr amrywiolyn Omicron.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich 8 Chwefror 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Da boch chi.

  2. Staff Llywodraeth Cymru wedi'u lleoli yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymruwedi ei gyhoeddi 14:38 Amser Safonol Greenwich 8 Chwefror 2022

    Mae'r prif weinidog yn dweud wrth Cefin Campbell o Blaid Cymru fod 1,067 o staff Llywodraeth Cymru wedi'u lleoli yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

    Dywed Mr Campbell, "mae rhyw 19 y cant o boblogaeth Cymru yn byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ond eto dim ond rhyw 13 y cant o swyddi Llywodraeth Cymru sydd wedi eu lleoli yma, a, digwydd bod, mae nifer y swyddfeydd sydd gan y Llywodraeth yn y rhanbarth wedi'u lleoli ar gyrion trefi.

    "A gaf i ofyn felly, wrth inni'n araf bach symud yn ôl i ryw fath o normalrwydd ar ôl Covid, pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud ynglŷn â symud rhagor o swyddi i'r gorllewin a'r canolbarth a defnyddio adeiladau yng nghanol trefi fel swyddfeydd er mwyn adfywio'r trefi hyn yn economaidd a chymdeithasol?"

    Atebodd y prif weinidog, "mae'n well inni gofio ar ddechrau datganoli roedd bron pob un o'r bobl oedd yn gweithio i'r Swyddfa Gymreig yn gweithio yma yng Nghaerdydd, a dros y cyfnod o ddatganoli rydym ni wedi creu swyddfeydd newydd ym Merthyr Tudful, yn Llandudno ac, wrth gwrs, yn Aberystwyth hefyd."

    Ychwanegodd, "rydym ni, fel Llywodraeth, eisiau gwneud mwy i gydweithio â phobl leol i weld beth gallwn ni wneud i helpu pobl yn y cyd-destun ar ôl coronafeirws - ble bydd dim rhaid i bobl deithio bob dydd i swyddfeydd mawr - i aros yn lleol, i weithio yn lleol ac i fod yn rhan o'r economi leol ar yr un pryd."

    Agorwyd swyddfa Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth yn 2009Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Agorwyd swyddfa Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth yn 2009

  3. Etifeddiaeth y diweddar Carl Sargeant ACwedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich 8 Chwefror 2022

    Dywed y prif weinidog fod gwaith y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru yn rhan o etifeddiaeth y diweddar Carl Sargeant AC.

    Dywed y prif weinidog wrth fab Carl, Jack, a’i olynodd fel yr aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, “roeddwn yn falch iawn o gadeirio cyfarfod cyntaf y bwrdd adolygu diogelu unedig newydd, a phe bai wedi bod yno, rwy’n meddwl y byddai wedi bod yn falch o'r nifer o weithiau y cyfeiriwyd at Carl Sargeant, oherwydd mai pan oedd Carl yn weinidog y cychwynnodd ef ystyriaeth o’r ffordd yr oedd adolygiadau o ddynladdiad domestig yng Nghymru yn cael eu rhoi ar waith, i wella gwasanaethau i bobl sy’n canfod eu hunain yn ddioddefwyr cam-drin domestig.

    “Carl a ofynnodd i brif gwnstabl cynorthwyol Dyfed Powys ar y pryd, Liane James, gynnal yr adolygiad hwnnw, a Liane a gyflwynodd y gwaith sydd y tu ôl i’r bwrdd newydd yn y cyfarfod agoriadol hwnnw.”

    Cafodd Carl Sargeant ei ddyrchafu i'r cabinet ym mis Rhagfyr 2009 fel gweinidog cyfiawnder cymdeithasol a llywodraeth leol.

    Wedi hynny gwasanaethodd fel gweinidog tai a gweinidog adnoddau naturiol cyn cael ei benodi’n ysgrifennydd cabinet dros gymunedau a phlant ym mis Mai 2016.

    Roedd yn allweddol yn yr ymgyrch i basio deddfwriaeth yn 2015 i fynd i’r afael â thrais domestig.

    Carl Sargeant
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafwyd hyd i Carl Sargeant yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah ym mis Tachwedd 2017 ar ôl iddo gael ei ddiswyddo fel gweinidog yn Llywodraeth Cymru

  4. Bwrdd iechyd Hywel Ddawedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich 8 Chwefror 2022

    Dywed y Ceidwadwr Samuel Kurtz bod "teimladau cryf" yng ngorllewin Cymru yn erbyn cynlluniau posib gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer "israddio ysbytai Glangwili a Llwynhelyg a chodi ysbyty newydd rhywle rhwng Arberth a Sanclêr".

    Mae'r prif weinidog rhybuddio'r aelod i beidio "rhwystro ymdrechion pobl leol i fuddsoddi miliynau o bunnoedd mewn gwasanaethau iechyd y byddant yn dibynnu arnynt yn y dyfodol."

    Glangwili
  5. Strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymruwedi ei gyhoeddi 14:15 Amser Safonol Greenwich 8 Chwefror 2022

    O ran strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru, mae’r Ceidwadwr Tom Giffard yn cyfeirio at ddatganiad ysgrifenedig gan y prif weinidog y llynedd lle “fe wnaethoch chi sôn y byddai’r rhan fwyaf o’r gwaith hwn yn cael cyhoeddusrwydd drwy dudalennau Twitter, Instagram a Facebook @walesdotcom.

    “Yn wir, mae llawer o gyhoeddusrwydd rhyngwladol Cymru i fod i gael ei wneud drwy @walesdotcom.

    “Ond, brif weinidog, a ydych chi’n ymwybodol, o’r bore yma, mai dim ond un post gwreiddiol a fu i’r tudalennau Twitter a Facebook - y soniasoch amdanynt y llynedd fel rhan annatod o’ch strategaeth ryngwladol - yn ystod y tri mis diwethaf, ac mae’r dudalen Instagram dim ond wedi postio unwaith ers mis Medi?"

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “Does gen i ddim amheuaeth o gwbl bod yr aelod yn treulio mwy o’i amser yn edrych ar y postiadau cyfryngau cymdeithasol hynny nag ydw i.

    “Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho, wrth gwrs, yw bod Llywodraeth Cymru, drwy’r strategaeth ryngwladol, yn brysur bob dydd yn sicrhau bod Cymru’n cael ei hyrwyddo dramor a’n bod yn defnyddio ein diwrnod cenedlaethol fel llwyfan i wneud yn siŵr bod proffil Cymru, cyfleoedd ar gyfer busnes yng Nghymru, gwaith ein sefydliadau celfyddydol, ein sefydliadau chwaraeon yn hysbys ar draws y byd, a bod proffil Cymru yn cael ei gryfhau yn unol â hynny.”

    Y Ddraig GochFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Gwasanaethau fasgwlaidd: Galw am fesurau arbennigwedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich 8 Chwefror 2022

    Mae Rhun ap Iorwerth yn holi yn lle arweinydd Plaid Cymru Adam Price, ac mae e hefyd yn cwestiynu’r prif weinidog ar yr adroddiad beirniadol gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr ar wasanaethau fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

    Dywed, "Dwi ar y cofnod yn dweud y dylid cael gwared ar fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr oni bai eu bod nhw'n gallu dod yn ôl y trywydd cywir, ac mae gen i ofn bod yr adroddiad yma rydyn ni wedi'i weld rŵan yn gwneud dim i roi hyder inni yn nyfodol y bwrdd."

    Ychwanegodd, "roedd cwestiynau gwirioneddol ynghylch a oedd Betsi Cadwaladr yn barod i ddod allan o fesurau arbennig, yn gyfleus iawn cyn yr etholiad diwethaf. Rwy'n edrych am sicrwydd y prynhawn yma y bydd gwasanaethau fasgwlaidd yn y gogledd yn mynd yn ôl i fesurau arbennig gydag ymyrraeth wedi'i thargedu i ddatrys y llanast hwn.

    “Ac a wnaiff y prif weinidog, wrth fyfyrio, nawr gytuno bod diwedd mesurau arbennig bryd hynny yn gynamserol?”

    Atebodd y prif weinidog, "Fi oedd y gweinidog a roddodd Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig. Rwy'n cofio cael gwybod gan Aelodau ar lawr y Siambr fod hynny'n gyfleus at ddibenion gwleidyddol, yn union fel yr wyf wedi arfer â phleidiau eraill sy'n ceisio hawlio bod y penderfyniad i ddod â’r bwrdd allan o fesurau arbennig wedi’i ysgogi rhywsut yn wleidyddol.

    "Yn syml iawn, canlyniad ydoedd o'r broses sydd ar waith.

    "Ni allaf roi'r gwarantau y mae'n gofyn amdanynt y prynhawn yma i'r Aelod, oherwydd nid penderfyniadau gwleidyddol mo'r rheini. Nawr, efallai ei fod yn meddwl mai ef, fel gwleidydd, sydd â'r atebion ac y dylem yn syml ddibynnu ar ei farn wleidyddol, ond hynny nid dyma'r ffordd y mae'r penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud yng Nghymru."

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

  7. Prif weinidog: 'nid wyf yn cael unrhyw anhawster i ymddiheuro'wedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich 8 Chwefror 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn galw ar y prif weinidog i ymddiheuro am ganfyddiadau adroddiad i wasanaethau fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

    Mae'r adroddiad beirniadol gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr yn gwneud pum argymhelliad brys "i fynd i'r afael â risgiau diogelwch cleifion".

    Dywed Mr Davies "yn lle trio'r un peth drosodd a throsodd a chael yr un canlyniadau, mae angen diwygio ac ailstrwythuro radical ar Betsi er mwyn i ni allu gweld newid i bobl gogledd Cymru".

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod y canfyddiadau yn "siomedig iawn" ac yn dweud ei fod yn disgwyl i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â'r materion.

    Dywed, "nid wyf yn cael unrhyw anhawster i ymddiheuro. Nid wyf yn rhannu'r un safonau â'r Blaid Geidwadol, lle mae'r prif weinidog yn gwrthod ymddiheuro dro ar ôl tro am y pethau y mae wedi bod mor uniongyrchol gyfrifol amdanynt.

    “Rwyf wedi ymddiheuro yn y gorffennol am fethiannau’r bwrdd iechyd yn y gogledd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfres o fesurau i gynorthwyo’r bwrdd iechyd i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau y mae pobl yn eu cael o’r safon y mae ganddynt hawl i'w derbyn."

    Mewn cam dadleuol, canolwyd gwasanaethau fasgwlaidd cymhleth o Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty Maelor Wrecsam i Ysbyty Glan Clwyd ym mis Ebrill 2019.

    Ar ôl i gleifion a staff godi ofnau am y gwasanaeth newydd yn Ysbyty Glan Clwyd, fe gomisiynodd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr Goleg Brenhinol y Llawfeddygon i gynnal adroddiad.

    Roedd rhan un o’r adroddiad hwnnw, a gyhoeddwyd yr haf diwethaf, yn gwneud naw argymhelliad brys ac yn codi materion gan gynnwys gormod o drosglwyddo cleifion i’r ganolfan ganolog, diffyg gwelyau fasgwlaidd ac oedi aml wrth drosglwyddo.

    Roedd rhan olaf yr adroddiad, a gyhoeddwyd ar 3 Chwefror, yn canolbwyntio ar gofnodion clinigol 44 o gleifion yn dyddio o 2014 - bum mlynedd cyn canoli - hyd at Orffennaf 2021, ddwy flynedd ar ôl i hyb Ysbyty Glan Clwyd agor.

    Cafodd gwasanaethau fasgwlaidd eu canoli o Ysbyty Gwynedd ym mis Ebrill 2019 i Ysbyty Glan Clwyd
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd gwasanaethau fasgwlaidd eu canoli o Ysbyty Gwynedd ym mis Ebrill 2019 i Ysbyty Glan Clwyd

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  8. 'Degawd o lymder wedi gadael llawer mwy o bobl mewn tlodi'wedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich 8 Chwefror 2022

    Dywed Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford fod ei lywodraeth wedi "galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i weithredu i atal yr argyfwng [costau byw] y maen nhw eu hunain yn gyfrifol amdano. Mae degawd o lymder wedi gadael llawer mwy o bobl mewn tlodi ac yn methu â rheoli'r sefyllfa y maent yn awr yn cael eu hunain ynddi."

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  9. Cyllid wedi Brexit 'gryn dipyn yn llai'wedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich 8 Chwefror 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Daw'r cwestiwn cyntaf gan Rhianon Passmore, AS Llafur Islwyn, sy'n gofyn pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyllid y bydd Cymru'n ei gael gan Lywodraeth y DU i gymryd lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd?

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb y bydd "Cymru'n derbyn cryn dipyn yn llai o arian gan Lywodraeth y DU o gymharu â'r hyn rydyn ni wedi'i dderbyn gan yr Undeb Ewropeaidd."

    Meddai, "byddai Cymru wedi derbyn £375 miliwn o gyllid yn y flwyddyn galendr hon o gronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Beth fyddwn ni'n ei gael mewn gwirionedd—£47 miliwn."

    Tra'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd fe dderbyniodd Cymru arian i helpu ei hardaloedd tlotaf, ond mae'r arian yna yn dod i ben yn raddol gan orffen yn llwyr y flwyddyn nesaf.

    Beth yw'r Gronfa Ffyniant Gyffredin?

    Wedi Brexit fe addawodd Llywodraeth y DU y byddai'n cael ei ddisodli gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

    Mae yna £2.6bn ar ei chyfer, ond dyw hi ddim yn glir sut y bydd yn gweithio.

    Mae'r cynllun yn dweud y bydd yn cael ei ddatganoli i ardaloedd lleol yng Nghymru - sy'n awgrymu mai cynghorau yn hytrach na Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud cais am yr arian.

    Tra'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd fe dderbyniodd Cymru arian i helpu ei hardaloedd tlotafFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Tra'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd fe dderbyniodd Cymru arian i helpu ei hardaloedd tlotaf

  10. Croesowedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich 8 Chwefror 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o bumed sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.