Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich 11 Chwefror 2022
Dyna ni am heddiw, hwyl am y tro.
Gobaith y bydd yr angen i wisgo mygydau yn cael eu dileu'n llwyr yng Nghymru erbyn diwedd mis Mawrth
Y gofyniad i ddisgyblion ysgol wisgo mygydau i gael ei ollwng ar ôl hanner tymor
Pasys Covid i gael eu dileu o 18 Chwefror
Y rheolau hunan-ynysu presennol yn parhau am y tro
Dyna ni am heddiw, hwyl am y tro.
Cyn i ni orffen heddiw, mae'r ffigyrau diweddaraf ar y darlun yn ysbytai Cymru wedi eu cyhoeddi.
Mae nifer y cleifion mewn ysbytai gyda Covid wedi aros yn wastad dros yr wythnos ddiwethaf, ond mae'r nifer yn llawer is na gaeaf y llynedd.
Yn ôl y ffigyrau, roedd 70% o'r cleifion mewn ysbytai sydd wedi profi'n bositif yn cael eu trin am gyflwr arall.
Dros yr wythnos, mae cyfartaledd o 15 claf yn derbyn cymorth anadlu neu ofal dwys am Covid yn ysbytai Cymru.
Mae'r ffigwr yna'r un peth a'r wythnos gynt, a'r lefel isaf ers haf 2021.
Dafydd Rhys ydy cyfarwyddwyr Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, ac mae wedi croesawu'r cyhoeddiadau heddiw.
“Mae’n newyddion da bod y pandemig o dan y fath reolaeth a bod Llywodraeth Cymru yn teimlo ei bod yn amser bellach i lacio rhywfaint drwy beidio a mynnu bod 'na pasys Covid yn cael eu defnyddio yn y canolfannau.
"Mi oedd yn gost ychwanegol i ni oedd yn arafu y broses i bawb ac mae’n dda o beth, dwi'n meddwl bydd pawb yn hapus iawn bod dim rhaid dangos pasys pan fydda nhw'n dod i ganolfannau o 18 Chwefror.”
Plaid Cymru
Gan groesawu cyhoeddiadau diweddaraf adolygiad Llywodraeth Cymru, dywedodd aelod Plaid Cymru o'r Senedd, Llyr Gruffydd ei fod yn falch gweld y cyfyngiadau'n cael eu llacio'n raddol.
"Y peth olaf ddylen ni wneud ydy mynd tuag at y llinell derfyn yn rhy gynnar," meddai.
"Mae'n apelgar gwneud hynny - ry'n ni'n teimlo ein bod ar y ffordd yno - ond ni ddylen ni wneud unrhyw benderfyniadau y gallwn ni ddifaru.
"Mae'n bwysig i'r meddygon, y nyrsys a'r gofalwyr - sydd wedi aberthu cymaint - i beidio â thaflu'r hyn ry'n ni wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf i ffwrdd."
Ceidwadwyr Cymreig
Mae'n "dda gweld cyfyngiadau'n dechrau llacio", yn ôl yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol, Sam Rowlands.
Ond byddai ei blaid wedi hoffi gweld y broses yn digwydd yn gynt, meddai. "Rydyn ni'n croesawu'n llwyr cael gwared ar y pasys Covid ond ni ddylen nhw wedi bod yna i ddechrau", meddai.
Ychwanegodd ei fod eisiau mwy o fanylion gan Lywodraeth Cymru ar lacio pellach ddiwedd Mawrth: "Dydw i ddim yn siwr pa mor gadarn ydy hynny - byddai'n dda cael ymrwymiad cadarn gan y gweinidog."
Bydd unrhyw un sy'n dod i Gymru o Loegr ar ôl cael prawf positif am Covid yn gorfod hunan-ynysu os yw'r rheolau'n newid yno, meddai Vaughan Gething.
Dywedodd ei fod o'r farn na fyddai busnesau yng Nghymru eisiau i bobl sy'n heintus fod yn eu gweithle.
"Cyfreithiau Cymru sydd angen eu dilyn pan dy'ch chi yng Nghymru," meddai.
Yn Lloegr fe fydd yr angen i hunan-ynysu yn dod i ben ar 24 Mawrth, ond fe allai ddigwydd mor gynnar â 21 Chwefror.
Dywedodd Mr Gething nad oedd y penderfyniad hwnnw wedi'i drafod rhwng cynrychiolwyr Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a'i fod wedi bod yn "syndod" iddo.
"Pam fod y Prif Weinidog wedi mynd ar ei liwt ei hun a gwneud cyhoeddiad yn syth cyn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog? Bydd yn rhaid i chi ofyn hynny iddo ef," meddai.
Byddai'n "gamgymeriad sylweddol iawn" i roi diwedd ar y drefn o gynnig profion llif unffordd am ddim, yn ôl Mr Gething.
Mae adroddiadau bod Llywodraeth y DU yn ystyried y newid.
Dywedodd Mr Gething y dylai penderfyniad o'r fath gael ei wneud "ar sail trafodaeth rhwng llywodraethau [y DU] ond hefyd cyngor iechyd cyhoeddus llawn...".
Dylai unrhyw gyngor o'r fath gael ei gyhoeddi, fel bod y cyhoedd yn gwybod nad "penderfyniad canghellor sy'n ceisio arbed arian" fyddai hynny.
"Oherwydd bod y coronafeirws dal gyda ni nid yw'n teimlo fel y peth call i'w wneud ar hyn o bryd."
Mae diwedd pasys Covid yn "newyddion da iawn" yn ôl rheolwr Sinema Brynaman, Thomas Smith.
"Pan ddaeth y pasys mewn ro'n i'n teimlo bod e'n ormod i ni a'r cwsmeriaid.
"Allwn ni ddim dweud pa mor fuddiol maen nhw wedi bod, ond maen nhw wedi bod yn drafferth i staff ac ry'n ni'n meddwl bod hi'n eitha' personol i ofyn am y pas."
Mae'n bosib y bydd holl gyfyngiadau Covid - gan gynnwys hunan-ynysu - yn cael eu diddymu erbyn diwedd Mawrth, ond dim ond os yw'n seiliedig ar wyddoniaeth, meddai'r Gweinidog Economi.
Ychwanegodd ei bod yn bosib y bydd penderfyniad ar wisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei wneud ymhen tair wythnos.
"Mae hynny, wrth gwrs, yn dibynnu ar y dystiolaeth ar y pryd ac fe fyddwn ni'n cymryd y cam yna dim ond os yw'n gymesur ac ar sail cyngor iechyd cyhoeddus," meddai.
"Dyna'r safbwynt ry'n ni wastad wedi'i gymryd, sy'n wahanol i'r ffordd y mae ambell ran arall o'r DU wedi gwneud pethau."
Dywedodd Mr Gething y byddai'n parhau i wneud y "peth iawn" pan ddaw at wisgo mwgwd pan fydd y rheolau'n newid.
Bydd yn parhau i wisgo mwgwd mewn ardaloedd dan do pan yn Stadiwm Principality yfory, meddai.
"Dydy hyn ddim am amddiffyn fy hun, ond am amddiffyn eraill, yn union fel mae'r prif weinidog yn ei wneud wrth ynysu heddiw..."
Wrth ateb cwestiynau gan y wasg, dywedodd Mr Gething bod amseru'r llacio yn "cyd-fynd gyda'r cyngor ry'n ni'n ei gael [a] sicrhau bod y cyhoedd yn ein cefnogi".
Dywedodd bod Llywodraeth Cymru'n bod yn "onest am y ffaith bod hyn yn cael ei gefnogi gan y cyngor iechyd diweddaraf".
Ychwanegodd ei fod yn credu y bydd llawer o bobl yn parhau i wisgo mygydau ar ôl i'r rheol ddod i ben.
"Dy'n ni'n gwybod o'r polau bod cynllun graddol Llywodraeth Cymru'n cael ei gefnogi gan bobl Cymru, ond hefyd gan fwyafrif pobl Lloegr.
"Os unrhywbeth, mae pobl yn bryderus ein bod yn symud yn rhy gyflym. "Felly dyma ni'n symud yn unol â'r cyngor, gan ddod â'r cyhoedd gyda ni."
Dywedodd Angharad Morgan o Siop Inc: "Fi'n croesawu bod y cyfyngiadau yn llacio, a fi credu bod e'n bryd symud 'mlaen, ond eto i gyd o ran y siop fi ddigon hapus bod pobl dal i wisgo mygydau achos mae'n meddwl bod y busnes yn cael aros ar agor a pharhau i weithredu."
Ychwanegodd Ffiona Kettle, cyd-berchennog Bespoke Hair and Beauty yn y dref: “Fi'n hapus bo' nhw yn aros, a ma' well 'da fi bod ni'n gallu aros ar agor a chadw gweithio, yn enwedig gan ein bod ni'n gweithio mor agos i gwsmeriaid.
"Mae'n rhoi bach mwy o protection i ni a phawb arall, a bod pawb arall yn teimlo'n saff o'n cwmpas ni.”
Llywodraeth Cymru
Ychwanegodd Vaughan Gething fod y llywodraeth wedi "ystyried yn ofalus" y rheolau am hunan-ynysu os ydy rhywun yn cael prawf positif am Covid-19.
Yn Lloegr fe fydd yr angen i hunan-ynysu yn dod i ben ar 24 Mawrth, ond fe allai ddigwydd mor gynnar â 21 Chwefror.
Ond fe fydd y rheolau presennol - sef bod angen ynysu am o leiaf pum diwrnod - yn parhau yng Nghymru am y tro.
"Mae hunan-ynysu yn ffordd bwysig o dorri'r gadwyn o heintiadau, ac atal mwy o bobl rhag cael y feirws," meddai.
Llywodraeth Cymru
Mae'r Gweinidog Economi wedi cadarnhau'r amserlen a gyhoeddwyd eisoes o ran pasys Covid, fydd yn dod i ben yng Nghymru o 18 Chwefror, ond bydd modd i ddigwyddiadau neu leoliadau barhau i'w defnyddio os ydyn nhw eisiau.
O 28 Chwefror ni fydd yn rhaid gwisgo mwgwd mewn lleoliadau fel addoldai, sinemâu ac amgueddfeydd, ond fe fyddan nhw'n dal yn orfodol mewn siopau, trafnidiaeth gyhoeddus, siopau trin gwallt, salonau, ac yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Ychwanegodd bod cyngor y llywodraeth wedi'i ddiweddaru i egluro y gall oedolion dynnu eu mygydau pan yn ymwneud â babanod neu blant ifanc mewn dosbarthiadau rhieni a phlant.
Bydd y gofyniad i ddisgyblion ysgol wisgo mygydau mewn ystafelloedd dosbarth o 28 Chwefror, a mater i ysgolion unigol a chynghorau lleol fydd penderfynu ar y rheolau wedi hynny.
Yna, gobaith y llywodraeth yw y bydd modd diddymu'r angen am fygydau yn llwyr, mewn unrhyw sefyllfa, erbyn diwedd Mawrth.
Llywodraeth Cymru
Cadarnhaodd Vaughan Gething y camau nesaf o ran llacio cyfyngiadau, gan ddweud y bydd Cymru'n aros ar gyfyngiadau lefel sero am y tair wythnos nesaf.
"Trwy gydol y pandemig ry'n ni wedi gweithio'n galed er mwyn sicrhau fod y cyfyngiadau a'r amddiffyniadau sydd mewn lle yn gymesur," meddai.
Dywedodd fod llwyddiant y rhaglen frechu a sefyllfa'r pandemig yng Nghymru yn golygu bod modd "llacio rhai o'r mesurau lefel sero yn raddol ac yn ofalus".
"Fyddwn ni ddim yn diddymu'r holl fesurau ar yr un pryd," meddai.
Llywodraeth Cymru
Yn ôl y Gweinidog Economi mae pwysau'r pandemig ar ysbytai yn parhau, gyda thua 1,100 o gleifion Covid yn ysbytai Cymru ar hyn o bryd, ac 16 mewn unedau gofal dwys.
"Mae cyfraddau salwch ac absenoldeb ar draws y GIG wedi gostwng o'r brig a welwyd fis diwethaf, ond mae problemau staffio yn parhau i gael effaith ar wasanaethau, gan ychwanegu at bwysau ehangach y gaeaf," meddai Vaughan Gething.
"Yn drist iawn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i adrodd marwolaethau pobl gyda coronafeirws pob dydd."
Llywodraeth Cymru
Ychwanegodd Mr Gething fod y gyfradd achosion yn uwch ym mhob gwlad arall yn y DU, ond yn enwedig yng Ngogledd Iwerddon.
Dywedodd nad yw'n amlwg eto pam fod hynny, ond fod adroddiadau bod is-amrywiolyn Omicron - o'r enw BA.2 - yn achosi'r cynnydd yno.
"Mae achosion o'r ffurf yma o Omicron - sy'n lledaenu hyd yn oed yn gynt - wedi'i adnabod ym mhob rhan o'r DU, a hyd yma mae 246 achos wedi bod yng Nghymru," meddai.
"Fe fyddan ni'n parhau i gadw golwg fanwl iawn ar y datblygiad yma."
Llywodraeth Cymru
Dywedodd y Gweinidog Economi fod heintiadau bellach yn gostwng yng Nghymru - ble roedden nhw'n cynyddu ychydig pan gynhaliwyd y gynhadledd ddiwethaf dair wythnos yn ôl.
Ond ychwanegodd fod y gyfradd bresennol ledled Cymru - 400 achos ar gyfer pob 100,000 o bobl dros saith diwrnod - yn "dal yn uchel iawn".
Dywedodd Vaughan Gething hefyd nad yw'r data mor fanwl ac y bu yn y gorffennol oherwydd eu bod yn cofnodi profion PCR yn unig, nid rhai llif unffordd, ond eu bod yn rhoi awgrym o gyfeiriad y pandemig.
Mae data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cefnogi'r awgrym fod achosion yn gostwng erbyn hyn, gydag awgrym fod un ym mhob 25 person yng Nghymru wedi'u heintio yn wythnos gyntaf Chwefror.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r gynhadledd ar fin dechrau, ond cyn hynny, dyma'r ffigyrau diweddaraf ar niferoedd brechu yng Nghymru.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.