Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau, a phob aelod yn medru bod yn y Siambr am y tro cyntaf ers Mawrth 2020.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:50 Amser Safonol Greenwich 1 Mawrth 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Unwaith eto heno, mae'r Senedd yn cael ei goleuo yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin fel arwydd o undod â hwy

    Da boch chi.

    Y Senedd wedi ei goleuo yn lliwiau baner WcráinFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Senedd wedi ei goleuo yn lliwiau baner Wcráin

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Gwasanaethau acíwt ac achosion brys yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Ddawedi ei gyhoeddi 14:49 Amser Safonol Greenwich 1 Mawrth 2022

    O ran darparu gwasanaethau acíwt a brys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn y dyfodol, dywed y prif weinidog "nad oes unrhyw gynlluniau i gael gwared ar unrhyw wasanaethau o Lwynhelyg, gan gynnwys ei ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys, cyn unrhyw newidiadau ehangach a allai gael eu gwneud i wasanaethau iechyd yn y rhan honno o Gymru."

    Ychwanegodd, “Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol y gwasanaethau hynny i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r bwrdd iechyd, gyda’i glinigwyr sy’n gyfrifol am ddatblygu cynlluniau a fydd yn rhoi gwasanaethau iechyd yn y rhan honno o Gymru ar sylfaen gynaliadwy am yr 20 mlynedd nesaf.

    "Mae cyfleoedd wedi mynd a dod yn ne-orllewin Cymru oherwydd bod ymlyniad pobl i'r status quo yn eu hatal rhag bod yn fodlon symud ymlaen gyda chynlluniau a fyddai wedi arwain at fuddsoddiad mawr yn y gwasanaethau hynny."

    Llwynhelyg
  3. Dydd Gŵyl Dewi yn 'llwyfan gwirioneddol i godi proffil Cymru'wedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich 1 Mawrth 2022

    Dywed y prif weinidog fod Dydd Gŵyl Dewi yn darparu "llwyfan gwirioneddol i ni allu codi proffil ac ymwybyddiaeth o Gymru".

    Dywed y bydd “digwyddiadau heddiw yn cael eu cynnal yn Tokyo, Dulyn, Llundain, Washington, Brwsel, Dubai, Beijing a Bangalore”.

    Fel enghraifft, dywed y bore yma iddo ffurfioli’r cyfeillgarwch rhwng Cymru ac Oita - a sbardunwyd yn 2019 yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan - drwy arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.

    arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaethFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  4. 'Ni ddylai un diferyn o olew o Rwsia gael ei ddadlwytho i Gymru'wedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich 1 Mawrth 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn tynnu sylw at y ffaith bod llongau sy’n cludo cargo o Rwsia yn dal i ddocio yng Nghymru, er gwaethaf galwadau gan Lywodraeth y DU i rwystro mynediad.

    Mae'n dweud "ni ddylai un diferyn o olew o Rwsia gael ei ddadlwytho i Gymru trwy borthladd yng Nghymru tra bod gwaed diniwed yn cael ei dywallt yn Wcráin".

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb "rwy'n cytuno'n llwyr".

    Ychwanegodd, “bydd angen i Lywodraeth y DU weithredu eto i wneud yn siŵr bod bwriad eu polisi, sef atal olew o Rwsia rhag cael ei ollwng ym mhorthladdoedd y DU—bod y polisi hwnnw’n effeithiol.

    "A phan fo bylchau neu ffyrdd o gwmpas y rheolau, ac mae’n anochel y bydd eraill yn ceisio hynny, bod Llywodraeth y DU yn cael y wybodaeth honno cyn gynted â phosibl ac yna’n gallu gweithredu arni yr un mor gyflym.”

    Mae tancer yn cario olew Rwsiaidd eisoes wedi cyrraedd Aberdaugleddau yn Sir BenfroFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae tancer yn cario olew Rwsiaidd eisoes wedi cyrraedd Aberdaugleddau yn Sir Benfro

  5. Cefnogaeth i ffoaduriaid o Wcráinwedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich 1 Mawrth 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn rhoi cefnogaeth lawn ei blaid i ffoaduriaid o'r Wcráin i Gymru.

    Mae’n awgrymu “fodel newydd yn gorfod dod i’r amlwg gan Lywodraeth Cymru ac, yn wir, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, i ymdrin â maint yr hyn sy’n ein hwynebu, fel y gall pobl gael eu cefnogi’n wirioneddol yn eu hawydd naill ai i ymgartrefu yng Nghymru neu yng ngweddill y Deyrnas Unedig, neu, yn wir, ei defnyddio fel hafan dros dro tra gobeithio y gall pethau sefydlogi yn ôl yn Wcráin, ac Wcráin yn dod yn genedl sofran balch yr ydym ni ar draws y Siambr hon am ei gweld ar gyfandir Ewrop.”

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  6. Amser i Newidwedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich 1 Mawrth 2022

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod "un o bob pedwar o bobl yn holl weithlu Cymru bellach yn cael eu cyflogi gan gyflogwr Amser i Newid.

    “Felly, mae hynny’n golygu bod y cyflogwr wedi ymrwymo ei hun i’r camau y gallan nhw eu cymryd i wneud yn siŵr, os yw pobl yn wynebu anhawster o’r fath, nad yw stigma yn eu hatal rhag dod ymlaen i geisio’r cymorth sydd ei angen arnynt.”

    Mae Amser i Newid Cymru yn gweithio i "roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl".

    Mark Drakeford
  7. Effaith ymosodiad Rwsia ar Wcráinwedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich 1 Mawrth 2022

    Mae’r cyfarfod llawn heddiw yn dechrau gyda Chwestiwn Brys, gyda Jack Sargeant, yr Aelod Seneddol Llafur dros Alun a Glannau Dyfrdwy, yn gofyn am ddatganiad "am effaith ymosodiad Rwsia ar Wcráin ar ddinasyddion a busnesau Cymru".

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford "fel cenedl noddfa byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl Wcráin. Mae Cymru yn agored i roi croeso a diogelwch i'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth".

    Mae'n cyhoeddi £4m o gymorth ariannol a dyngarol ar gyfer Wcráin.

    Ychwanegodd y bydd Llywodraeth Cymru yfory yn cynnal trafodaethau brys gydag arweinwyr awdurdodau lleol i sicrhau bod paratoadau yn eu lle i dderbyn ffoaduriaid.

    Wrth siarad â baner Wcráin yn cael ei harddangos yn y Siambr, dywedodd fod y GIG yng Nghymru hefyd yn edrych ar sicrhau bod cyflenwadau meddygol ar gael.

    “Mae pobol Cymru wedi eu syfrdanu gan yr ymosodiad ar Wcráin,” meddai’r prif weinidog.

    Mae baner Wcráin hefyd yn chwifio uwchben pencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, ddydd Mawrth.

    Cannoedd mewn gwylnos
    Disgrifiad o’r llun,

    Daeth tua 300 o bobl i wylnos ar risiau'r Senedd yng Nghaerdydd nos Lun i ddangos cefnogaeth i Wcráin ac i wrthwynebu ymdrechion milwrol Rwsia yno.

    Cannoedd mewn gwylnos
    Disgrifiad o’r llun,

    Yn siarad yn y rali roedd arweinydd Plaid Cymru Adam Price a Mick Antoniw o Lafur Cymru, sydd â chysylltiad teuluol ag Wcráin.

  8. Gwahoddir pob un o'r 60 Aelod i ddod i'r Siambr etowedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich 1 Mawrth 2022

    Mae cyfyngiadau’r pandemig ar Senedd Cymru yn cael eu lleddfu heddiw, gyda phob un o'r 60 aelod yn cael mynychu os ydyn nhw'n dymuno.

    Dyma'r tro cyntaf ers mis Mawrth 2020 i'r Senedd fedru cyfarfod yn llawn ym Mae Caerdydd.

    Ond mae cyfraniadau o bell yn gallu parhau trwy Zoom.

    Mae'r Senedd wedi cyfarfod ar-lein, neu mewn fformat hybrid, ers dechrau'r pandemig.

    Mae cyfarfodydd "hybrid" presennol wedi gweld nifer fach o aelodau'r yn cyfarfod yn gorfforol a'r gweddill yn cymryd rhan trwy gynhadledd fideo.

    Cyfarfodydd rhithwir y Senedd oedd y cyntaf o'u math yn y DU.

    Daeth sesiynau hybrid yn Nhŷ'r Cyffredin i ben yr haf diwethaf.

    Mae'r rhan fwyaf o'r aelodau yn mynychu'r Siambr eto
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r rhan fwyaf o'r aelodau yn mynychu'r Siambr eto

    Cyfarfodydd rhithwir y Senedd ar Zoom oedd y cyntaf o'u math ymhlith seneddau y DU
    Disgrifiad o’r llun,

    Cyfarfodydd rhithwir y Senedd ar Zoom oedd y cyntaf o'u math ymhlith seneddau y DU

  9. Dydd Gŵyl Dewi hapuswedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich 1 Mawrth 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o seithfed sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Oherwydd y sefyllfa yn Wcráin, ni fydd y digwyddiad i ddathlu Gŵyl Dewi yn mynd rhagddo yn y Senedd heddiw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 2
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 3

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 3
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 4

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 4