Crynodeb

  • Y rheidrwydd i wisgo mygydau mewn siopau, bysiau a threnau yn dod i ben ddydd Llun

  • Angen eu gwisgo mewn ysbytai a chartrefi gofal o hyd

  • Y gyfraith ar hunan-ynysu i ddod i ben ddydd Llun hefyd

  • Ni fydd profion PCR ar gyfer y cyhoedd ar gael o ddydd Llun ymlaen chwaith

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw.

    Mae'r holl wybodaeth yn cael ei grynhoi yn yr erthygl ar ein hafan, ond dyma grynodeb fer o'r hyn drafodwyd yn y gynhadledd.

    Ni fydd yn rhaid i bobl yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb yn ôl y gyfraith mewn siopau, bysiau a threnau o ddydd Llun - ond bydd angen eu gwisgo mewn ysbytai a chartrefi gofal o hyd.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â chael gwared ar ei holl gyfreithiau Covid mewn ymateb i gyfraddau cynyddol o achosion.

    Bydd y gyfraith ar hunan-ynysu hefyd yn dod i ben fel y cynlluniwyd.

    Fe fydd canlyniad yr adolygiad nesaf o'r rheolau coronafeirws yn cael ei gyhoeddi ymhen tair wythnos, ar 15 Ebrill.

    Tan hynny, diolch am ddilyn, a mwynhewch eich penwythnosau.

    MwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Y farn ar lawr gwlad yn Sir Conwywedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Mae BBC Cymru wedi bod yn casglu ymateb i'r newyddion am lacio rheolau.

    Dyma beth oedd gan rhai i'w ddweud yn Sir Conwy.

    Valerie

    Dywedodd Valerie Jones o Gyffordd Llandudno y byddai'n parhau i wisgo mwgwd "oherwydd bod gen i deulu sydd â chyflyrau iechyd eraill".

    "Dwi'n teimlo i gadw nhw'n ddiogel bydda' i'n dal [i'w wisgo] mewn archfarchnadoedd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus."

    Robert

    Mae Robert Hedge yn bensiynwr ac mae'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

    "Mae'n benderfyniad i'r unigolyn. Os ydyn nhw'n teimlo'n fwy diogel yn gwisgo mwgwd, pob lwc iddyn nhw.

    "Dydw i ddim yn poeni llawer.

    "Bosib y bydda' i [yn gwisgo mwgwd] - mae'n dibynnu sut dwi'n teimlo os oes lot o bobl."

    Michelle

    Ond i berchennog un siop yn y dref, ni fydd pob amddiffyniad yn diflannu.

    “Dwi’n meddwl ei fod yn beth da gan fod pobl yn teimlo’n fwy rhydd”, meddai Michelle Davison o’r Conwy Art and Soap Bar.

    “Ond o’n safbwynt ni, byddwn ni’n cadw’r sgriniau i fyny achos ‘da ni’n gwybod bod o [Covid] heb ddiflannu.”

  3. 'Pam ddim disgwyl ychydig wythnosau?'wedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Plaid Cymru

    Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Rydw i eisiau bod mewn safle ble nad oes angen unrhyw fesurau o gwbl i'n diogelu, ond ry'n ni mewn safle sy'n achos pryder i epidemiolegwyr a feirolegwyr.

    "Rydw i wedi bod yn darllen rhai o'u sylwadau - cwestiynu pam nawr, yn hytrach na disgwyl ychydig wythnosau?

    "Mae diddymu'r rheidrwydd i hunan-ynysu yn allweddol - yn gyntaf fe glywon ni'r Prif Weinidog yn dweud 'os oes gennych chi'r feirws, arhoswch adref'.

    "Ond mae hyn yn llwyr newid y berthynas rhwng cyflogwyr a staff - os oes gan rywun coronafeirws ond dim symptomau, mae'r cyflogwr dan bwysau i gael yr aelod staff yna i mewn, a dyna ble mae'r perygl."

  4. Ceidwadwyr eisiau 'gweld yr holl gyfyngiadau yn diflannu'wedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: "Ry'n ni wedi bod yn galw am ddiwedd y cyfyngiadau ers peth amser, a dyna y'n ni'n ei weld gan fwyaf.

    "Rwy'n cytuno gyda symud at safle o gyfrifoldeb personol, gyda mygydau'n cael eu hargymell ond ddim yn ofyniad cyfreithiol.

    "Ond fe fyddwn i wedi hoffi gweld yr holl gyfyngiadau yn diflannu ddydd Llun.

    "Mae achosion yn cynyddu, ond dydyn ni ddim yn gweld yr un lefel o bobl yn mynd i'r ysbyty gyda Covid oherwydd llwyddiant y rhaglen frechu."

  5. Profion LFT am ddim tan mis Mehefinwedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu profion llif unffordd yn rhad ac am ddim "tra bod arian o Lywodraeth Cymru yn caniatáu hynny".

    "Pe baem ni mewn safle i allu darparu profion ar ôl mis Mehefin a phe byddai'r sefyllfa yn golygu bod yna alw, dyna be fyddwn ni yn hoffi gwneud," meddai

    "Rydym yn defnyddio ein hadnoddau ein hunain er mwyn eu cadw ar hyn o bryd, a hynny yn hirach na'u bod ar gael mewn llefydd eraill."

    Dywedodd fod ei lywodraeth hefyd wedi ymestyn taliadau hunan-ynysu yng Nghymru tan y chwarter cyntaf o'r flwyddyn ariannol newydd.

    Byddai'n anodd cynllunio ymhellach, meddai, tan fod mwy o fanylion ynglŷn â'r gyllideb sy'n dod i Gymru.

  6. 'Annhebygol' y bydd angen ailgyflwyno cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog nad yw'n rhagweld y bydd angen ailgyflwyno mesurau cyfreithiol fel hunan-ynysu a rheolau llymach ar wisgo mygydau eto.

    Ond ychwanegodd na fyddai'n diystyru hynny pe bai amrywiolyn pryderus arall yn dod i'r amlwg.

    Dywedodd ei bod yn "annhebygol y byddwn angen dychwelyd i'r lefelau o amddiffyn ry'n ni wedi'i weld mewn gaeafau blaenorol", oherwydd effaith y brechiadau.

    CovidFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Y cyhoedd angen teimlo 'synnwyr o gyfrifoldeb'wedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn cydnabod fod "risg" y gallai'r mesurau gael eu tanseilio trwy symud i ffwrdd o orfodaeth a dibynnu ar gyngor.

    Ychwanegodd ei fod yn dibynnu ar y cyhoedd yn teimlo "synnwyr o gyfrifoldeb", a'i fod yn obeithiol y bydd y cyhoedd yn ymddwyn yn gyfrifol.

    Dywedodd hefyd y bydd taliad hunan-ynysu o £500 i gefnogi pobl yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin.

  8. 'Ennill tir yn araf' yn y gwasanaeth iechydwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gael ei holi am effaith yr amrywiolyn BA2 ar ysbytai, dywedodd Mr Drakeford fod y rhan fwyaf o'r 1,400 o gleifion gyda Covid yn yr ysbyty yno yn wreiddiol oherwydd cyflwr arall.

    Ond ychwanegodd, diolch i'r brechlyn a thriniaethau eraill sydd ar gael "dyw'r niferoedd mewn gofal dwys gyda Covid ddim yn cynyddu".

    "Felly mae'r gwasanaeth iechyd yn ymdopi gyda'r her sydd o'u blaenau," meddai.

    "Rwy'n credu ein bod yn ennill tir yn ara' deg wrth ymdrin â Covid ac adfer triniaethau eraill sydd mor bwysig i bobl."

  9. 'Mwy yn credu ein bod yn symud yn rhy gyflym na rhy araf'wedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn deall y pryderon sydd gan bobl fregus am lacio'r cyfyngiadau ymhellach.

    Ychwanegodd fod mwy o bobl yn cysylltu gydag ef yn poeni fod pethau'n llacio'n rhy sydyn na'r rheiny sy'n credu fod pethau'n rhy araf.

    "Er y byddwn yn fwy dibynnol ar gyngor da, cryf, yn hytrach na'r gyfraith wrth symud ymlaen, mae angen i ni oll wneud y peth iawn," meddai.

    "Mae'n rhaid i ni ganfod ffordd o fyw yn ddiogel gyda coronafeirws."

  10. 'Ni allwn ddibynnu ar rym y gyfraith am byth'wedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â pham fod rhai o'r cyfyngiadau yn parhau mewn grym, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn meddwl fod y llywodraeth wedi cael y cydbwysedd yn gywir.

    "Rhaid ffeindio ffordd i fyw gyda coronafeirws, ond mae'n bwysig bod yn ofalus a derbyn y ffaith fod cynifer o bobl yn dost yn cynyddu.

    "Rhaid ffeindio ffordd i fyw gyda hyn. Ni allwn ddibynnu ar rym y gyfraith am byth.

    Ychwanegodd y byddai'r brechlyn yn parhau fel prif arf yn erbyn y feirws.

  11. Y Prif Weinidog yn teimlo 'tristwch ac edmygedd'wedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    A hithau bron i ddwy flynedd yn union ers cyflwyno'r cyfnod clo cyntaf, dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi bod yn edrych yn ôl ar y cyfnod.

    "Rydw i'n teimlo tristwch ar un llaw, ac edmygedd ar y llaw arall," meddai.

    "Tristwch am yr hyn ry'n ni wedi'i golli, ond edmygedd am y ffordd mae pawb yng Nghymru wedi sefyll gyda'n gilydd trwy'r argyfwng yma.

    "Nawr, o'r diwedd, ry'n ni'n gallu dechrau gweld dyfodol ble nad yw popeth wedi'i ddominyddu gan y feirws ofnadwy yma."

  12. Tri chwarter y boblogaeth dros 12 wedi cael tri brechiadwedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Mark Drakeford fod bron i dri chwarter y boblogaeth dros 12 oed wedi derbyn tri brechiad bellach.

    "Mae pobl yn parhau i ddod pob dydd i gael eu dos cyntaf o'r brechlyn hefyd," meddai.

    "Dyw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru."

    Ychwanegodd y bydd pobl fregus a'r rheiny mewn cartrefi gofal yn parhau i dderbyn brechlyn atgyfnerthu arall yn ystod y gwanwyn.

    BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Dim newid i'r canllawiau i ysgolionwedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Ni fydd unrhyw newid yn y canllawiau i ysgolion nes diwedd y tymor, meddai Mark Drakeford.

    "Byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ar y trefniadau ar ôl y Pasg," meddai.

    "Yn y cyfamser, dylai mygydau gael eu gwisgo gan staff, disgyblion uwchradd ac ymwelwyr tu allan i'r ystafell ddosbarth."

    Ysgol
  14. Hunan-ynysu yn parhau i gael ei 'argymell yn gryf'wedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog eu bod wedi gobeithio gallu llacio'r holl gyfyngiadau ddydd Llun, ond bod sefyllfa'r feirws yn golygu fod angen cadw rhai ohonynt am gyfnod.

    Bydd y rheidrwydd i wisgo mwgwd mewn sefyllfaoedd iechyd a gofal yn parhau, ac mae pobl yn cael eu hannog i barhau i'w gwisgo mewn mannau cyhoeddus dan do hefyd.

    Fe fydd hefyd yn ofynnol o hyd i gwmnïau gymryd rhagofalon ac asesu risg coronafeirws ar eu heiddo.

    "Bydd hunan-ynysu yn dilyn prawf positif yn rhywbeth ry'n ni'n argymell yn gryf, yn hytrach na gofyniad cyfreithiol," ychwanegodd Mark Drakeford.

    "Mae ynysu os oes gennych chi symptomau yn un o'r pethau pwysicaf allwn ni wneud er mwyn atal trosglwyddo'r feirws."

    YnysuFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. 'Un ym mhob 12 person yng Nghymru â Covid'wedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Mr Drakeford fod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi amcangyfrif fod gan un o bob 16 person yng Nghymru y feirws yn eu hadolygiad diweddaraf.

    Ond dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn credu fod hynny bellach yn nes at un ym mhob 12.

    Mae cyfradd achosion Cymru wedi cynyddu'n sylweddol ers yr arolwg diwethaf hefyd - o 160 achos ar gyfer pob 100,000 o bobl dair wythnos yn ôl i 430 heddiw.

    Dywedodd fod hynny yn cael effaith ar y gwasanaeth iechyd hefyd, gyda dros 1,400 o gleifion â Covid yn ysbytai Cymru - y lefel uchaf ers Mawrth y llynedd.

    "Ar y lefel yma, mae gwasanaethau ehangach yn cael eu heffeithio oherwydd bod cymaint o welyau yn llawn, ac yn anffodus, mae'r perygl o drosglwyddo Covid-19 o fewn ysbytai yn cynyddu," meddai.

    YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. 'Achosion yn cynyddu'n sydyn iawn ledled Cymru'wedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Ar ddechrau'r gynhadledd dywedodd y Prif Weinidog fod sefyllfa coronafeirws yn wahanol iawn nawr i'r hyn a welwyd pan wnaed yr adolygiad diwethaf dair wythnos yn ôl.

    Bryd hynny roedd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn gwella, ond dywedodd fod "achosion yn cynyddu'n sydyn iawn ledled Cymru" erbyn heddiw.

    Dywedodd Mark Drakeford mai math gwahanol o amrywiolyn Omicron - BA2 - yw'r rheswm dros hyn.

    "Mae'n ffurf o'r feirws sy'n trosglwyddo'n gynt", meddai, ac mae'n debygol mai'r amrywiolyn yma sy'n gyfrifol am fwyafrif yr achosion newydd yng Nghymru bellach.

  17. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Beth ydy ymateb y gwrthbleidiau?wedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, fod Llywodraeth Cymru yn "wrth-fusnes".

    "Ar adeg pan ddylai'r llywodraeth fod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i hybu swyddi a chynhyrchiant, a yw'n iawn i fusnesau barhau i lenwi gwaith papur heb fawr o werth?"

    Dywedodd llefarydd iechyd a gofal Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod angen cynllun ar sut i ddelio gydag absenoldebau staff o fewn y GIG pe bai achosion yn parhau i gynyddu.

    "Gyda phrinder staff ar draws lleoliadau iechyd, gofal ac addysg, bydd pryderon gwirioneddol ynghylch effaith codi'r amddiffyniadau sy'n weddill, ar adeg pan fo achosion yn cynyddu," meddai.

    "Rhaid i'r llywodraeth nodi'n union sut mae'n bwriadu lleddfu'r pwysau - yn enwedig ar ein gwasanaethau iechyd a gofal - pe bai achosion cynyddol yn effeithio ar lefelau gwasanaeth ymhellach."

  19. Drakeford: 'Cynnydd annymunol mewn achosion'wedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Yn cyhoeddi'r newidiadau i'r cyfyngiadau, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Rydym wedi gweld cynnydd annymunol mewn achosion o'r coronafeirws ledled Cymru, sy'n adlewyrchu'r sefyllfa yn y rhan fwyaf o'r DU.

    "Rydym wedi ystyried y dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf yn ofalus ac mae angen inni gadw rhai mesurau diogelu cyfreithiol ar waith ychydig yn hirach, er mwyn helpu i ddiogelu Cymru.

    "Drwy gydol y pandemig, rydym wedi mabwysiadu dull graddol a gofalus wrth inni lacio mesurau diogelu.

    "Rydym ar y trywydd iawn i adael ymateb i argyfwng y pandemig y tu ôl inni a dysgu byw gyda'r coronafeirws yn ddiogel."

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Pryder meddyg fod y llacio'n rhy gynnarwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich 25 Mawrth 2022

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Mae rhai o fewn y maes iechyd yn poeni fod y llywodraeth wedi llacio yn rhy gynnar.

    Un o'r rheiny ydy Dr Harri Pritchard, meddyg teulu o Amlwch, fu'n rhannu ei bryderon ar Dros Frecwast y bore 'ma.

    "Mi fasa'n well gen i weld hyn yn cario 'mlaen am ryw fis arall ac ella ailedrych ar y peth adeg hynny i weld os fedran ni lacio," meddai.

    "Fel y dywedodd y gweinidog mae 'na dros 1,000 yn yr ysbyty felly dydy'r ffigyrau ddim yn fach iawn chwaith, a'r mwya'n byd o bobl fregus fydd yn cael Covid, mwya'n byd o bobl fydd mynd i'r ysbytai a mwya'n byd fydd yn marw.

    "Dwi'n meddwl bod gofyn i bobl wisgo masg wrth fynd i siopa, neu ar drafnidiaeth gyhoeddus ddim yn ormod i ofyn am ryw fis arall nes bod yn rhifau'n dod i lawr yn naturiol ac wedyn, galluogi ni i symud ymlaen."