Crynodeb

  • Grŵp B: Lloegr, Iran, UDA, CYMRU/ALBAN/WCRÁIN

  • Yr enwau wedi'u tynnu o'r het mewn seremoni yn Doha ar gyfer Cwpan y Byd Fifa Qatar 2022

  • Bydd Cymru yn wynebu'r Alban neu Wcráin - fwy na thebyg ym mis Mehefin - am le yn Qatar

  • Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal o 21 Tachwedd tan 18 Rhagfyr

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 18:57 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Diolch o galon i chi am ddilyn ein llif byw arbennig heddiw.

    Bydd Cymru yn wynebu Lloegr(!), Iran a'r UDA os y byddan nhw'n sicrhau lle yng Nghwpan y Byd Qatar eleni.

    Darllenwch y stori'n llawn yma.

    Yn y cyfamser, bydd y golygon yn troi at y gêm dyngedfennol honno yn erbyn un ai'r Alban neu Wcráin ym mis Mehefin. Allwn ni ddim disgwyl!

    Mwynhewch eich penwythnos.

  2. Cwestiynau'n parhau dros Qatarwedi ei gyhoeddi 18:52 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Qatar ydy'r wlad leiaf erioed i gynnal Cwpan y Byd - mae'n 11,500km2, sydd ychydig dros hanner maint Cymru.

    Ond mewn gwirionedd mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth, a phob un o'r stadiymau, wedi'u lleoli o gwmpas y brifddinas, Doha - ardal sydd yn llai o faint nag Ynys Môn.

    Mae'r wlad hefyd wedi cael ei beirniadu am eu record ar hawliau dynol, gyda chwestiynau dros hawliau gweithwyr, a nifer o'r rheiny hyd yn oed wedi marw wrth adeiladu'r meysydd.

    Yn ogystal â hynny mae pryderon wedi eu codi dros y croeso fyddai ar gyfer rhai cefnogwyr, yn enwedig o'r gymuned LGBT, o ystyried deddfau gwrth-hoyw yn Qatar ac agweddau ceidwadol y wlad.

    Y llynedd fe ddywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney y byddan nhw'n trafod y mater unwaith y byddan nhw'n saff o'u lle yn y gystadleuaeth. Amser a ddengys.

    A fyddwch chi'n mentro allan i Qatar, tybed?

    Almaen yn protestio hawliau dynol QatarFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Almaen yn un o'r timau sydd eisoes wedi protestio record hawliau dynol Qatar

  3. Ychydig o'r ymatebwedi ei gyhoeddi 18:48 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Ydy Gary a Dylan (drwy gyfrwng yr emoji a'r GIF) yn 'siarad' ar ran y genedl?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    I osgoi neges twitter 2

    Diwedd neges twitter 2

    Diolch i chi am ddilyn, Aled.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 3

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 3
  4. Record Cymru yn erbyn y triwedi ei gyhoeddi 18:42 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Mae Cymru'n hen gyfarwydd gyda Lloegr wrth gwrs, ac wedi eu chwarae nhw 103 o weithiau yn ein hanes - gan ennill dim ond 14.

    Ond os 'dach chi isio arwydd da, y tro diwethaf i ni eu cael nhw mewn grŵp twrnament, fe gollon ni... a mynd ymlaen i gyrraedd y rownd gynderfynol beth bynnag!

    Dim ond ddwywaith 'dan ni wedi chwarae'r UDA, gan golli 2-0 mewn gêm gyfeillgar yn 2003 a chael gêm ddi-sgôr yn 2020.

    Unwaith erioed 'dan ni wedi chwarae Iran, a honno'n fuddugoliaeth o 1-0 'nôl yn 1978.

    Cymru v UDAFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
    Disgrifiad o’r llun,

    Chris 'Cafu' Gunter yn wynebu'r Americanwyr yn 2020

  5. Pwy fydd ddim yn mynd i Qatar?wedi ei gyhoeddi 18:36 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Pencampwyr Ewrop Yr Eidal yw'r wlad fwyaf amlwg fydd ddim yn rhan o'r digwyddiad heddiw ar ôl eu colled yn y gemau ail gyfle yn erbyn Gogledd Macedonia. Doedden nhw ddim yng Nghwpan y Byd Rwsia yn 2018 chwaith.

    Mae Rwsia hefyd yn colli allan ar ôl cael eu gwahardd o'r gemau ail gyfle yn dilyn goresgyniad eu gwlad o Wcráin.

    Methodd Norwy â chymhwyso, sy'n golygu y bydd yn rhaid i beiriant goliau Borussia Dortmund, Erling Braut Haaland aros am ei ymddangosiad cyntaf yn y gystadleuaeth.

    Ni fydd Mohamed Salah na'r Aifft yno ychwaith ar ôl colli i Senegal ar giciau o'r smotyn.

    Ni fydd Nigeria, Algeria na Thraeth Ifori yno chwaith, tra bod timau De America, Colombia a Chile, yn colli allan hefyd.

    Dim ond gobeithio na fyddwn ni'n ychwanegu enwau fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey at y rhestr...

    Erling Haaland a Mo Salah - rhai o'r chwaraewyr na fydd yn QatarFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Erling Haaland a Mo Salah - rhai o'r chwaraewyr na fydd yn Qatar

  6. Aros i weld gydag amserlen y gemauwedi ei gyhoeddi 18:30 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Mae FIFA eisoes wedi cadarnhau union ddyddiadau'r gemau, gyda'r twrnament yn rhedeg o 21 Tachwedd tan 18 Rhagfyr.

    Ond hyd yn oed ar ôl i'r grwpiau gael eu dewis heddiw, fydd dim cadarnhad yn syth o ba stadiwm fyddan nhw'n chwarae a faint o'r gloch fydd y gemau.

    Gan fod yr wyth stadiwm yn Qatar mor agos i'w gilydd, mae'r trefnwyr am weld gyntaf pwy sy'n chwarae pwy cyn penderfynu ym mhle fyddan nhw, a bydd amser y gemau hefyd yn dibynnu ar gynulleidfa deledu y gwledydd hynny.

    Nid fod hynny am boeni Cymru rhyw lawer - rhaid cyrraedd yno gyntaf!

    Stadiwm LusailFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Stadiwm Lusail i'r gogledd o Doha fydd yn cynnal y ffeinal - ond mae beriniadaeth wedi bod am ymdriniaeth gweithwyr yn Qatar wrth adeiladu'r meysydd ar gyfer y gystadleuaeth

  7. 'Hyfryd'?wedi ei gyhoeddi 18:29 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Trefn y gemau grŵpwedi ei gyhoeddi 18:24 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Dyma fydd trefn y gemau OS ydan ni'n cyrraedd Cwpan y Byd:

    21 Tachwedd: UDA v Cymru

    25 Tachwedd: Cymru v Iran

    29 Tachwedd: Cymru v Lloegr

  9. Lloegr, UDA ac Iranwedi ei gyhoeddi 18:21 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Reit, ac anadlu!

    Beth 'dan ni'n ei feddwl o hwnna felly? Haws nag y gallai fod wedi bod?

    A'r hen elyn mewn twrnament unwaith eto!

  10. Grŵp Fwedi ei gyhoeddi 18:18 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Gwlad Belg, Croatia, Morocco, Canada

  11. Grŵp Hwedi ei gyhoeddi 18:17 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Portiwgal, Uruguay, De Corea, Ghana

  12. Grŵp Gwedi ei gyhoeddi 18:17 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Brasil, Serbia, Swistir, Cameroon

  13. Grŵp Bwedi ei gyhoeddi 18:15 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022
    Newydd dorri

    Lloegr, Iran, UDA, CYMRU/ALBAN/WCRÁIN

  14. Grŵp Ewedi ei gyhoeddi 18:15 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Sbaen, Almaen, Japan, Costa Rica/Seland Newydd

  15. Grŵp Cwedi ei gyhoeddi 18:14 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Ariannin, Mecsico, Gwlad Pwyl, Saudi Arabia

  16. Grŵp Awedi ei gyhoeddi 18:13 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Qatar, Yr Iseldiroedd, Senegal, Ecuador

  17. Grŵp Dwedi ei gyhoeddi 18:12 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Ffrainc, Denmarc, Tunisia, UAE/Awstralia/Peru

  18. Tro Cymru...wedi ei gyhoeddi 18:10 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Reit, dyma ni... tro Cymru!

  19. Y grwpiau - Pot 3wedi ei gyhoeddi 18:03 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Grŵp A: Qatar, Yr Iseldiroedd, Senegal

    Grŵp B: Lloegr, UDA, Iran

    Grŵp C: Yr Ariannin, Mecsico, Gwlad Pwyl

    Grŵp D: Ffrainc, Denmarc, Tunisia

    Grŵp E: Sbaen, Yr Almaen, Japan

    Grŵp F: Gwlad Belg, Croatia, Morocco

    Grŵp G: Brasil, Swistir, Serbia

    Grŵp H: Portiwgal, Uruguay, De Corea

    Fydd Cymru felly ddim yn gallu bod yn rhan o grwpiau D, E, F na G, am fod dwy wlad o Ewrop eisoes yn y rheiny.

  20. Y grwpiau - Pot 2wedi ei gyhoeddi 17:55 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2022

    Grŵp A: Qatar, Yr Iseldiroedd

    Grŵp B: Lloegr, UDA

    Grŵp C: Yr Ariannin, Mecsico

    Grŵp D: Ffrainc, Denmarc

    Grŵp E: Sbaen, Yr Almaen

    Grŵp F: Gwlad Belg, Croatia

    Grŵp G: Brasil, Y Swistir

    Grŵp H: Portiwgal, Uruguay

    Ar hyn o bryd ni fydd Cymru yn gallu bod yn rhan o grwpiau D, E na F am fod dwy wlad o Ewrop eisoes yn y rheiny.