Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau, am y tro cyntaf ers toriad y Pasg.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Mynediad at wasanaethau deintyddol y GIGwedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2022

    O ran mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG, dywed y prif weinidog bod posibilrwydd y bydd gofyn i gleifion ddarparu eu hanes anadlol er mwyn helpu i ddychwelyd i wasanaethau fel yr oeddynt cyn y pandemig.

    Mae'n esbonio, "y cynnig yw y byddai pob claf sy'n mynd at ddeintydd yn darparu hanes anadlol cyn eu hapwyntiad. I bobl sydd â hanes o salwch anadlol, bydd rhai o'r amddiffyniadau Covid sydd ar waith ar hyn o bryd yn parhau i fod yn angenrheidiol".

    Ond i eraill, bydd "rhai o’r cyfyngiadau ar y ffordd y mae deintyddion yn gweithredu oherwydd Covid yn gallu cael eu codi, a’u codi’n ddiogel.”

    Deintydd
  3. 'Gormod o blant yn derbyn gofal y tu allan i Gymru'wedi ei gyhoeddi 14:26 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2022

    O ran gofal i blant a phobl ifanc mewn cartrefi preswyl arbenigol, mae'r prif weinidog yn cydnabod bod "gormod o blant yng Nghymru yn derbyn gofal y tu allan i Gymru; mae gormod o blant yng Nghymru yn derbyn gofal y tu allan i'r sir sydd â chyfrifoldeb rhiant amdanynt."

  4. Gwrthdaro dros gronfa ffyniant gyffredinwedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2022

    Mae dau gwestiwn pellach ar y gronfa ffyniant gyffredin, gan Aelodau o'r Senedd Llafur a Phlaid Cymru.

    Mae'r prif weinidog yn ailadrodd y pwyntiau o wrthdaro dros y swm o arian y bydd Cymru yn ei dderbyn a thros sut y bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu.

    “Mae’n parhau i fod yn safbwynt Llywodraeth Cymru na allwn gymeradwyo dull gweithredu sy’n tynnu cyllid a phenderfyniadau oddi ar Gymru.”

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  5. Pam fod cyfraddau goroesi canser mor isel yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn gofyn "pam mae Cymru wedi cael cyfraddau goroesi canser gwael yn gyson o gymharu â gwledydd datblygedig tebyg?"

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “mae yna lawer o resymau pam nad yw cyfraddau goroesi lle y byddem yn dymuno iddynt fod yng Nghymru.

    "Mae hynny’n cynnwys ein treftadaeth ddiwydiannol a’i heffaith ar iechyd pobl, mae’n cynnwys, yn arbennig, gyflwyniad hwyr.

    “Mae’n anodd iawn cael y cyfraddau goroesi yr hoffem eu gweld pan fydd cymaint o ganserau yng Nghymru ond yn dod i’r amlwg pan fyddant eisoes wedi datblygu i bwynt lle mae’r technegau ymyrryd a fyddai ar gael yn y camau cynnar eisoes wedi mynd heibio."

    Dywed Mr Price fod elusennau canser yn galw am "strategaeth ganser gynhwysfawr newydd i Gymru".

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  6. 'Argyfwng cynhyrchu bwyd'wedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn galw am gryfhau elfen cynhyrchu bwyd y bil amaethyddiaeth gohiriedig.

    Mae'r prif weinidog yn dweud "nad oes argyfwng yn y cyflenwad bwyd yng Nghymru" er bod "pwysau mewn marchnadoedd bwyd byd-eang oherwydd y rhyfel yn Wcráin".

    "Mae yna argyfwng," meddai Mr Davies, gan restru costau uwch sy'n wynebu cynhyrchwyr.

    “Mae gwrtaith, sydd ei angen arnoch i dyfu cnydau, bellach yn £900 i £1,000 y dunnell; mae fel arfer tua £300 i £350 y dunnell. Mae gwenith—yr elfen allweddol o wneud bara— yn fwy na £300 y dunnell; mae fel arfer yn masnachu ar £140 i £150 y dunnell. Mae cig eidion yn £440 y cilo; mae fel arfer yn masnachu ar £340 i £360."

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. Arian sydd gan gynghorau lleol wrth gefnwedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2022

    Yn ystod yr wythnos lawn olaf o ymgyrchu ar gyfer yr etholiadau lleol, mae ASau yn cyfnewid barn ar faint o arian sydd gan gynghorau lleol wrth gefn.

    Bydd pleidleisio yn digwydd ym mhob un o 22 awdurdod lleol Cymru ddydd Iau, 5 Mai gyda chyfanswm o 1,234 o gynghorwyr i’w hethol.

    Dywed y prif weinidog, "mae yna gyfres o resymau pam mae cynghorau yn cadw arian parod wrth gefn. Bydd llawer iawn o'r arian hwnnw'n gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi. Mewn geiriau eraill, nid arian sydd ar gael i'r cyngor ei wario yn unig ydyw; mae yno oherwydd mae ganddynt raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, er enghraifft, a bod arian eisoes wedi’i ddyrannu i wneud yn siŵr bod y rhaglen honno’n gallu mynd yn ei blaen.”

    ArianFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Y gronfa ffyniant gyffredinwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2022

    Mae'r Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r prif weinidog ac i weinidogion Cymru. Caiff pob aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae Vikki Howells, AS Llafur Cwm Cynon, yn gofyn am botensial y gronfa ffyniant gyffredin i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru.

    Dywed Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fod Cymru £1bn ar ei cholled.

    Y ffigwr hwnnw o £1bn yw'r swm ychwanegol y mae gweinidogion yng Nghaerdydd yn dweud y byddai Cymru wedi'i dderbyn mewn cymorth gan yr UE erbyn 2025.

    Dywed Mr Drakeford bod y "gronfa'n methu â mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd oherwydd cyfres o ddiffygion sylfaenol. Mae'n torri addewid allweddol gan y Ceidwadwyr na fyddai Cymru geiniog ar ei cholled."

    Gyda gwariant o Frwsel yn dod i ben, mae Llywodraeth y DU bellach wedi lansio'r gronfa newydd.

    Bwriad yr arian yw helpu ardaloedd difreintiedig drwy brosiectau fel adfer strydoedd mawr, ac annog pobl yn ôl i'r gweithle

    Yn wahanol i gynllun yr UE - a welodd tua £2bn yn cael ei wario yng Nghymru rhwng 2014 a 2020 - fe fydd rôl gan Aelodau Seneddol ac arweinwyr cynghorau lleol wrth benderfynu ble caiff yr arian ei wario.

    Yn ôl Llywodraeth y DU bydd £585m ar gael dros y tair blynedd nesaf.

    Mae gweinidogion yn San Steffan yn dadlau y bydd hyn yn hafal i'r arian a fyddai wedi bod ar gael o'r UE.

    Ariannwyd ffordd Blaenau'r Cymoedd gyda chymorth yr UEFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ariannwyd ffordd Blaenau'r Cymoedd gyda chymorth yr UE

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich+1 26 Ebrill 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o ddeuddegfed sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Senedd