Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau, ychydig ddyddiau cyn yr etholiadau cyngor.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:42 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mai 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Ramadan: torri'r ymprydwedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mai 2022

    Mae’r prif weinidog yn ymuno â John Griffiths i anfon dymuniadau gorau - Eid Mubarak - at Fwslimiaid sydd wedi treulio’r mis diwethaf yn ymatal rhag bwyta ac yfed o wawr tan fachlud haul.

    Ramadan yw'r mis mwyaf sanctaidd yn y calendr lleuad Islamaidd.

    Maen nhw'n gorffen yr ympryd bob dydd gyda phryd o fwyd iftar lle mae teuluoedd a chymunedau yn dod at ei gilydd.

    Mae lftar yn amser i bobl ddod at ei gilydd yn ystod Ramadan boed gartref neu yn y mosgFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae lftar yn amser i bobl ddod at ei gilydd yn ystod Ramadan boed gartref neu yn y mosg

  3. 'Angen cynyddu nifer y prentisiaethau gradd'wedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mai 2022

    Mae'r Ceidwadwr James Evans yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gynyddu nifer y prentisiaethau gradd ar draws Cymru.

    Yn ôl y prif weinidog, "mae dros 1,200 o brentisiaethau gradd wedi'u cymryd yn ystod tair blynedd gyntaf y rhaglen yng Nghymru. Bydd ein ffocws ar gyfer ehangu yn blaenoriaethu meysydd sy'n mynd i'r afael â bylchau sgiliau, yn hybu cynhyrchiant ac yn cyfrannu at ein huchelgeisiau sero-net."

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  4. 'Angen glanhau'r ffordd y mae clybiau pêl-droed yn prynu a gwerthu chwaraewyr'wedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mai 2022

    Ynglŷn â goruchwyliaeth rheoleiddiwr pêl-droed newydd Lloegr, mae Jenny Rathbone yn pwysleisio'r angen i "lanhau'r ffordd y mae clybiau pêl-droed yn prynu a gwerthu chwaraewyr".

    Mae hi’n cyfeirio at farwolaeth Emiliano Sala – roedd y pêl-droediwr o’r Ariannin ar ei ffordd i ymuno â Chaerdydd o glwb Nantes mewn cytundeb £15m pan ddigwyddodd y ddamwain awyren dros sianel Lloegr ym mis Ionawr 2019.

    Dywed y prif weinidog fod FIFA bellach yn cydnabod, cyn belled ag y mae asiantau yn y cwestiwn, fod yna "gyfraith y jyngl, gyda gwrthdaro buddiannau yn rhemp a chomisiynau afresymol".

    Mae'n dweud bod yn rhaid i lywodraeth y DU "weithio gydag eraill i ddod â gweithrediad asiantau pêl-droed yn ôl o dan drefn reoleiddio sylweddol ac amddiffynadwy".

    Roedd Emiliano Sala newydd arwyddo gyda thîm pêl-droed Caerdydd cyn y ddamwainFfynhonnell y llun, AFP
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Emiliano Sala newydd arwyddo gyda thîm pêl-droed Caerdydd cyn y ddamwain

  5. Trosglwyddo Covid yn ansymptomatigwedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mai 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price hefyd yn canolbwyntio ar ddyfarniad yr Arglwydd Ustus Bean a Mr Ustus Garnham, a ddaeth i'r casgliad bod penderfyniadau’r ysgrifennydd iechyd yn Lloegr ar y pryd, Matt Hancock i wneud a chynnal cyfres o bolisïau sydd wedi’u cynnwys mewn dogfennau a gyhoeddwyd ar 17 a 19 Mawrth ac 2 Ebrill 2020 yn anghyfreithlon.

    Roeddent o'r farn bod hyn ar y sail bod drafftwyr y dogfennau hynny wedi methu ag ystyried y risg i drigolion oedrannus a bregus o drosglwyddo ansymptomatig.

    Dywedodd Mr Price fod y methiant i gydnabod y risg o drosglwyddo ansymptomatig wedi arwain at "ganlyniadau angheuol".

    "Doedd gwyddoniaeth trosglwyddo ansymptomatig ddim yn wahanol yma yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr."

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod y "materion cwbl briodol hyn sy'n haeddu cael eu clywed yn y manylder y byddai eu hangen arnynt gyda'r archwiliad fforensig y bydd yr ymchwiliad yn ei ddarparu".

    “Ac yna fe gawn ni weld a oedd y penderfyniadau a wnaethpwyd yma yng Nghymru gyda'r wybodaeth ar y pryd, gyda’r dystiolaeth a’r cyngor oedd ar gael i ni, a oedd y penderfyniadau hynny’n rhai y gellir eu hamddiffyn ai peidio.”

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  6. 'Angen ymchwiliad penodol i Gymru' ar Covidwedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mai 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at y ffaith bod polisïau llywodraeth y DU ar ryddhau cleifion heb eu profi o’r ysbyty i gartrefi gofal yn Lloegr ar ddechrau’r pandemig Covid wedi’u dyfarnu’n anghyfreithlon gan yr Uchel Lys.

    Dywed y prif weinidog na chymerodd Cymru unrhyw ran yn yr achos ond bydd yn cyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad y DU ar y pandemig.

    Dywed Mr Davies fod cleifion o Gymru yn agored i fwy o risgiau oherwydd iddi gymryd pythefnos i Gymru "ddal i fyny" gyda phrofion ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno dros y ffin.

    Mae Mr Davies yn ailadrodd ei alwad am ymchwiliad penodol i Gymru, gan ofyn: "Ai'r gwir, brif weinidog, yw eich bod yn atal yr ymchwiliad hwn rhag digwydd yma yng Nghymru oherwydd bod gennych ofn craffu, neu haerllugrwydd bod eich safbwynt yn gywir ac na ddylai ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru graffu arno?"

    Meddai Mr Drakeford: "Ni fyddai ymchwiliad annibynnol sy'n canolbwyntio ar Gymru yn unig fyth yn gallu gwneud synnwyr o union y math o benderfyniadau y mae wedi cyfeirio atynt."

    Mae disgwyl i ymchwiliad cyhoeddus i “ddysgu gwersi” o’r pandemig ar gyfer y dyfodol ddechrau’r flwyddyn nesaf. Mae ei fandad yn cynnwys edrych ar ba mor barod oedd y DU ar gyfer pandemig a sut mae'r GIG wedi ymdopi ag ef.

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. Etholiadau lleol 2022wedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mai 2022

    Yn ystod dyddiau olaf ymgyrchu ar gyfer yr etholiadau lleol, mae ASau yn cyfnewid barn ar sawl cyngor unigol.

    Bydd pleidleisio yn digwydd ym mhob un o 22 awdurdod lleol Cymru ddydd Iau, 5 Mai gyda chyfanswm o 1,234 o gynghorwyr i’w hethol.

    Etholiad
  8. 'Argyfwng costau byw'wedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mai 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r prif weinidog ac i weinidogion Cymru. Caiff pob aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae Alun Davies, aelod Llafur Blaenau Gwent, yn gofyn "pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gynorthwyo aelwydydd ym Mlaenau Gwent gyda'r argyfwng costau byw presennol?"

    Mae cynlluniau ariannu ar gael gan lywodraethau Cymru a’r DU, gyda’r nod o gymryd pwysau oddi ar deuluoedd wrth i gost biliau hanfodol barhau i gynyddu.

    Dywed Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £380 miliwn mewn pecyn cymorth i aelwydydd incwm isel.

    Mae'r prif weinidog yn ymuno â Mr Davies i alw am dreth ffawdelw ar gwmnïau olew a nwy.

    Mae elw BP am dri mis cyntaf eleni wedi mwy na dyblu ar ôl i brisiau olew a nwy godi'n aruthrol. Adroddodd y cwmni elw sylfaenol o $6.2bn (£4.9bn) o'i gymharu â $2.6bn yn yr un cyfnod y llynedd - mwy na'r disgwyliadau.

    ArianFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mai 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o drydydd sesiwn ar ddeg Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Senedd