Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau, am y tro olaf cyn toriad y Sulgwyn.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mai 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto ar ôl toriad y Sulgwyn.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Senedd Cymru

  2. 'Argyfwng hinsawdd'wedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mai 2022

    Mae'r prif weinidog yn rhestru'r camau y mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r "argyfwng hinsawdd" - "creu coedwig genedlaethol, cynnal bioamrywiaeth, datgarboneiddio tai, blaenoriaethu ynni adnewyddadwy ac atal llifogydd".

    Wrth gael ei holi yn benodol am Wastadeddau Gwent, mae "mwy rydyn ni'n gwybod y gallwn ni ei wneud" i gefnogi eu cadwraeth, meddai.

    Mae Gwastadeddau Gwent yn dirwedd unigryw, wedi'i hadfer o'r môr yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Gwastadeddau Gwent yn dirwedd unigryw, wedi'i hadfer o'r môr yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid

  3. 'Effaith anghymesur ar gartrefi incwm isel'wedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mai 2022

    “Mae Covid wedi cael effaith anghymesur ar gartrefi incwm isel,” meddai’r prif weinidog, sy’n galw am weithredu gan lywodraeth y DU i fynd i’r afael â chostau byw cynyddol.

    "Bydd chwyddiant, codiadau treth a methiant i ddiogelu incwm yn arwain at gwymp mewn safonau byw ac yn rhoi pwysau sylweddol ar aelwydydd bregus. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu, o fewn y pwerau sydd gennym, i ddarparu cefnogaeth iddynt," meddai.

    ArianFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Ail gartrefi a busnesau gwyliauwedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mai 2022

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn rhybuddio y bydd busnesau gosod gwyliau yng Nghymru yn anhyfyw os bydd newidiadau i'r gyfraith yn mynd rhagddynt.

    Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru yn cynnwys premiwm treth gyngor o 300% ar ail gartrefi a’i gwneud yn anoddach i’r eiddo hynny fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes yn lle’r dreth gyngor.

    Mae Mr George yn dyfynnu Paul Martin, sy'n rhedeg busnes ym Mhowys, sydd wedi dweud bod y trothwy deiliadaeth 182 diwrnod yn anghyraeddadwy y tu allan i'r mannau gwyliau mwyaf poblogaidd.

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “lle mae busnesau yn fusnesau, yna wrth gwrs fe ddylen nhw gael eu rheoleiddio o dan system fusnes, a dylen nhw fanteisio, lle gallan nhw, ar unrhyw ryddhad rhag ardrethi busnes. Os nad ydych chi’n gosod eiddo am hanner y flwyddyn, yna nid wyf yn meddwl ei fod yn iawn eich bod yn cael eich ystyried fel busnes. Gallwch barhau i weithredu, wrth gwrs y gallwch. Nid oes neb yn dweud nad yw'r busnes yn parhau; yn syml, yn yr amgylchiadau hynny, dylech dalu treth y cyngor a gwneud hynny'n rhan o'ch cynllun busnes."

    Bu protestiadau niferus yn erbyn perchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf
    Disgrifiad o’r llun,

    Bu protestiadau niferus yn erbyn perchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf

  5. Cyfrif Plastig Mawrwedi ei gyhoeddi 14:11 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mai 2022

    Mae'r prif weinidog yn diolch i bawb a gymerodd ran yn y Cyfrif Plastig Mawr.

    Anogwyd cartrefi ar draws y DU i gyfrif yr holl ddeunydd plastig y gwnaethant ei daflu i ffwrdd yr wythnos ddiwethaf.

    Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i gynnal ei chyfradd ailgylchu yn ystod y pandemig ac mae bellach wedi perfformio’n well na’r gwledydd eraill am o leiaf 10 mlynedd yn olynol.

    Ailgylchodd Cymru 56.5% o wastraff cartref yn 2020, sy'n uwch na chyfartaledd y DU o 44.4%.

    Ailgylchwyd 694,000 tunnell o wastraff cartref yng Nghymru yn 2020Ffynhonnell y llun, LLYWODRAETH CYMRU
    Disgrifiad o’r llun,

    Ailgylchwyd 694,000 tunnell o wastraff cartref yng Nghymru yn 2020

  6. 'Mater o amser yn unig yw hi' cyn bod achosion o frech mwnci yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mai 2022

    "Mater o amser yn unig yw hi" cyn bod achosion o frech mwnci yng Nghymru, meddai'r prif weinidog.

    "Nid yw Cymru'n imiwn rhag afiechyd o'r math hwn. Rydym yn y sefyllfa ffodus, os mai dyna'r ffordd gywir i'w roi, ein bod, gydag achosion yn digwydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, wedi gallu rhoi ein hymateb mewn lle cyn i achosion ddod i Gymru," ychwanega.

    Mae'r feirws prin - sy'n achosi brech a thwymyn - wedi'i weld ledled y byd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

    Mae arbenigwyr iechyd yn pwysleisio bod y risg gyffredinol yn parhau i fod yn isel, ac y gellir cyfyngu'r afiechyd.

    Ymhlith y symptomau mae twymyn, cur pen, poenau yn y cyhyrau, poen cefn, oerfel a blinderFfynhonnell y llun, Science Photo Library
    Disgrifiad o’r llun,

    Ymhlith y symptomau mae twymyn, cur pen, poenau yn y cyhyrau, poen cefn, oerfel a blinder

  7. Hiliaeth mewn ysgolionwedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mai 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn codi mater hiliaeth mewn ysgolion, ar ôl adroddiadau bod bachgen wedi colli ei fys wrth geisio ffoi rhag cael ei fwlio.

    Fe gafodd Raheem Bailey, 11, ei anafu wrth geisio dringo ffens i ddianc. Cafodd driniaeth ond doedd dim modd achub ei fys.

    Dywed ei fam, Shantal Bailey, bod ei mab - disgybl yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri ym Mlaenau Gwent - wedi dioddef hiliaeth a bwlio.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud ei fod yn achos "ysgytwol".

    Ychwanegodd "fe fydd ein cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth yn cael ei gyhoeddi fis nesaf, fydd yn cynnwys y cyd-destun addysg."

    Mae'n gwrthod galwad Adam Price am ymchwiliad.

    “Mae gen i fwy o ddiddordeb mewn gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu cymryd y camau hynny, camau rydyn ni wedi cytuno arnyn nhw gyda chynifer o leisiau sydd wedi ein helpu ni i greu’r cynllun hwnnw, nag ydw i mewn ymchwiliad arall eto.”

    Dywed Mr Price nad yw profiad Raheem Bailey “yn anffodus o bell ffordd yn unigryw yng Nghymru”.

    Mae’n awgrymu y gallai ymchwiliad adolygu hyfforddiant gwrth-hiliaeth, adnoddau i addysgwyr, casglu data, polisïau bwlio a rôl arolygu Estyn wrth fonitro.

    Cafodd Raheem chwe awr o lawdriniaeth i geisio achub ei fysFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd Raheem chwe awr o lawdriniaeth i geisio achub ei fys

  8. Gwario £4.25m ar fferm ym Mhowyswedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mai 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi gwario £4.25m ar fferm ym Mhowys y mae gweinidog yn dweud allai sicrhau dyfodol gŵyl y Dyn Gwyrdd.

    Roedd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi dweud bod y llywodraeth am sicrhau bod gan y digwyddiad "gartref parhaol" yng Nghymru.

    Mae Mr Davies hefyd yn dyfynnu trefnwyr yr ŵyl yn dweud: "Does dim cynlluniau i symud Gŵyl y Dyn Gwyrdd i Fferm Gileston."

    Mae'r prif weinidog yn gwadu bod y rheini'n ddatganiadau sy'n gwrth-ddweud ei gilydd, gan egluro bod yr ŵyl yn credu bod "mwy y gallan nhw ei wneud i gyfrannu at yr economi ... gyda lle i ddatblygu'r posibiliadau hynny."

    Meddai Andrew RT Davies: “Sut y gall gŵyl y Dyn Gwyrdd sicrhau gwerth £4.25m o gymorth gan y llywodraeth heb unrhyw gynllun busnes pan fyddai’n rhaid i unrhyw fusnes arall yma yng Nghymru gyflwyno’r darn angenrheidiol iawn hwnnw o wybodaeth i gael hyd yn oed ffracsiwn o'r arian hwnnw i gefnogi eu cynllun busnes?"

    Ond mae Mr Drakeford yn dweud bod yr arian wedi prynu "ased y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddal sy'n werth mwy na'r swm hwnnw" ac nad oedd unrhyw arian na thir wedi mynd i'r Dyn Gwyrdd.

    Mae’n galw’r Dyn Gwyrdd yn “stori lwyddiant fawr i Gymru”, gan ychwanegu: “Rydym yn gweithio gyda phartner y gellir ymddiried ynddo.

    “Rydym yn gweithio gyda chwmni y mae Llywodraeth Cymru wedi ei adnabod ac wedi gweithio ochr yn ochr â nhw dros gyfnod estynedig o amser wrth iddo dyfu i fod ymhlith y pumed mwyaf llwyddiannus o’i fath yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.”

    Lleolir yr ŵyl ym Mharc Cenedlaethol Bannau BrycheiniogFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Lleolir yr ŵyl ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

  9. Gwaith cynnal a chadw ystadau tai newyddwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mai 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r prif weinidog ac i weinidogion Cymru. Caiff pob aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Daw'r cwestiwn cyntaf gan Rhys ab Owen, sy'n gofyn: "A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol?" Mae'n codi achos Y Felin/The Mill yn Nhreganna, Caerdydd.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb na fydd ei lywodraeth yn gwneud hynny ond yn hytrach "mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio'r ffordd y mae taliadau ystad yn cael eu codi ar fannau agored cyhoeddus a chyfleusterau. Mae'r trefniadau presennol yn rhy gymhleth ac yn rhy aml yn annheg. Byddwn yn cyflwyno cynigion ar gyfer diwygio, ar gyfer ystadau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes."

    Ar ôl dadl yn y Senedd ym mis Chwefror 2018 ynghylch materion yn ymwneud â ffyrdd heb eu mabwysiadu, sefydlodd Llywodraeth Cymru Dasglu i ymchwilio i’r materion, a gyhoeddodd ei adroddiad terfynol ym mis Hydref 2020, dolen allanol.

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  10. Croesowedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mai 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o chweched sesiwn ar ddeg y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.