Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau, gyda chostau byw yn bwnc llosg.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mehefin 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Tlodi tanwyddwedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mehefin 2022

    "Gallai hyd at 45% o gartrefi Cymru eisoes fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd mewn prisiau ym mis Ebrill," rhybuddiodd y prif weinidog.

    Mae'n nodi, yn ôl Ofgem, y gellid disgwyl i filiau tanwydd deuol nodweddiadol godi i £2,800 ym mis Hydref eleni.

    Mae cost gwresogi ein cartrefi yn rhoi pwysau aruthrol ar gyllidebau cartrefiFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae cost gwresogi ein cartrefi yn rhoi pwysau aruthrol ar gyllidebau cartrefi

  3. Colli biliynau o bunnoeddwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mehefin 2022

    Mae'r prif weinidog yn mynegi siom bod biliynau o bunnoedd wedi eu colli drwy gynllun "Bounce Back Loan" Llywodraeth y DU.

    Meddai, “Dim ond traean o’r golled y mae llywodraeth y DU ei hun yn dweud y maen nhw’n disgwyl ei gwneud drwy’r cynllun hwnnw yw twyll. Collwyd pum biliwn o bunnoedd yn uniongyrchol drwy dwyll, ond £17 biliwn nad yw’r llywodraeth bellach yn disgwyl ei adennill."

    Dywed bod tystiolaeth bod benthyciadau wedi cael eu defnyddio "i dalu am brynu ceir preifat, am wersi hedfan, am wefannau pornograffi ac, mewn achos sydd o flaen y llysoedd fis nesaf, achos lle honnir bod rhywun a gafodd fenthyciad bownsio’n ôl wedi’i ddefnyddio i ariannu gweithgaredd terfysgol gan derfysgwyr y Wladwriaeth Islamaidd yn Syria.”

    Mae llywodraeth y DU wedi dweud na fyddai’n “goddef” pobol yn twyllo trethdalwyr.

    Sefydlwyd y cynllun ym mis Ebrill 2020 gyda’r nod o gadw busnesau bach i fynd yn ystod y pandemig coronafeirws.

    Cafodd cyfanswm o 1.5 miliwn o fenthyciadau gwerth £47bn eu rhoi drwy’r fenter, ar ôl i tua chwarter busnesau’r DU ymgeisio.

    ArianFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Ymddiriedolaeth Terrence Higginswedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mehefin 2022

    Mae’r prif weinidog yn un o nifer o aelodau sy’n gwisgo bathodyn “dangos calon” Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn y Senedd heddiw i ddangos cefnogaeth ac undod gyda phobl sy’n byw gyda HIV.

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  5. 'Brexit yn dechrau taflu cysgod hir'wedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mehefin 2022

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price: “Dywedodd y Ganolfan Diwygio Ewropeaidd yr wythnos ddiwethaf fod Prydain £31 biliwn yn waeth ei byd nag y byddai wedi bod heb effaith ddeuol Brexit a Covid, ond mai’r effaith fwy o bell ffordd oedd effaith Brexit. Onid yw’n wir, ymhell o’r ucheldiroedd heulog a addawyd, fod Brexit yn dechrau taflu cysgod hir ar ein heconomi ar adeg pan na allwn ei fforddio?”

    Crebachodd yr economi 0.3% ym mis Ebrill ar ôl crebachu 0.1% ym mis Mawrth, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Roedd ffigwr April yn wannach na’r disgwyl, a dyma’r tro cyntaf i’r economi grebachu am ddau fis yn olynol ers i Covid daro.

    Mae'r prif weinidog yn cytuno bod economi'r DU yn talu "pris uchel iawn" am Brexit, "ond nid yw'n effaith y dylai unrhyw un synnu ato, oherwydd tynnwyd sylw at hyn ymhell ymlaen llaw, a dywedwyd wrthym am ddiystyru barn arbenigwyr. Wel, mae arnaf ofn bod arbenigedd wedi bod yn iawn drwy'r amser."

    Dywed Mr Price "mae Gogledd Iwerddon, wrth gwrs, o fewn y farchnad sengl... dyna pam maen nhw wedi perfformio'n well dros y ddwy flynedd ddiwethaf o gymharu â Chymru ac, yn wir, pob rhan arall o'r DU y tu allan i Lundain."

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  6. Pum mlynedd ers tân Grenfellwedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mehefin 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn nodi bod heddiw yn bum mlynedd ers tân Grenfell, pan gollodd 72 o bobl eu bywydau.

    Mae'n gofyn beth sy'n cael ei wneud i helpu pobl yng Nghymru sy'n byw gyda chladin peryglus.

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod ei lywodraeth yn datblygu rhaglen ddiwygio sylweddol i ddarparu trefn gynhwysfawr ar gyfer diogelwch adeiladau.

    Dywed “byddwn yn dod â’n rhaglen lesddaliad ymlaen cyn diwedd y mis hwn, a bydd honno’n nodi manylion y ffyrdd y mae lesddeiliaid sydd wedi’u heffeithio’n wael gan werth eu heiddo ar y farchnad agored o ganlyniad i bryderon ynghylch y safonau y cwblhawyd yr adeiladau hynny iddynt, sut y byddwn yn eu helpu hefyd."

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

    Mae paneli cladin fflamadwy wedi cael eu beio am ledaeniad cyflym tân Tŵr Grenfell yn 2017, a arweiniodd at 72 o farwolaethauFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae paneli cladin fflamadwy wedi cael eu beio am ledaeniad cyflym tân Tŵr Grenfell yn 2017, a arweiniodd at 72 o farwolaethau

  7. 'Mae'r Torïaid bob amser yn chwerthin ar dlodi'wedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mehefin 2022

    Mae cynnwrf yn y Siambr, gyda bloedd o "warth" o feinciau'r Ceidwadwyr, pan ddywed Alun Davies, AS Llafur Blaenau Gwent, "mae'r Torïaid bob amser yn chwerthin ar dlodi... maen nhw bob amser yn chwerthin pan fydd pobl yn dioddef".

    Dywed y prif weinidog fod taliadau sefydlog "yn un o sgandalau'r diwydiant ynni, ac yn arbennig felly i bobl ar fesuryddion rhagdalu. Pan fyddwch chi'n rhedeg allan o gredyd ac yn methu â chynhesu'ch cartref, mae'r tâl sefydlog hwnnw'n parhau i gynyddu ddydd ar ôl dydd."

    YnniFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Inswleiddio'r tai mwyaf aneffeithlon o ran ynniwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mehefin 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r prif weinidog ac i weinidogion Cymru. Caiff pob aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae Jenny Rathbone, Aelod Llafur dros Ganol Caerdydd, yn gofyn pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i inswleiddio'r tai mwyaf aneffeithlon o ran ynni.

    Ar ôl misoedd o gynnydd ym mhrisiau nwy, cododd biliau ynni ymhellach i lawer yn y DU pan gynyddodd y cap ynni ar 1 Ebrill. Mae tai hefyd yn cyfrif am 9% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.

    Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb drwy gyfeirio at ‘Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio’ Llywodraeth Cymru i ôl-osod tai cymdeithasol gydag inswleiddiad.

    Bydd y Rhaglen Cartrefi Cynnes, a fydd yn cwmpasu cartrefi preifat, yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn, meddai.

    Mae Jenny Rathbone yn galw am "raglen frys i amddiffyn y cartrefi mwyaf bregus sy'n byw mewn tlodi tanwydd".

    Mae'r prif weinidog yn ateb "mae yna gyfres o rwystrau, rwy'n ofni, i gychwyn rhaglen frys o insiwleiddio cartrefi. I ddechrau, yn syml iawn, nid oes gennym ni'r cyfalaf ar gael i Lywodraeth Cymru i gynnal rhaglen o'r fath."

    inswleiddioFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 14 Mehefin 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o wythfed sesiwn ar ddeg y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.