Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau ar bynciau yn cynnwys trafnidiaeth, y GIG, addysg a chostau byw.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:26 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. 'Risg gynyddol i les anifeiliaid o ganlyniad i’r argyfwng costau byw'wedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin 2022

    Pan ofynnwyd iddo gan Llyr Gruffydd, mae’r prif weinidog yn cydnabod bod risg gynyddol i les anifeiliaid o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

    Meddai, "Rydyn ni'n asesu'r risg honno gyda'n partneriaid yn undebau'r ffermwyr, sefydliadau trydydd sector, a thrwy grŵp iechyd a lles anifeiliaid yn Llywodraeth Cymru."

    Mae Llyr Gruffydd yn gofyn a ydy Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi cefnogaeth ariannol i nifer o elusennau anifeiliaid "oherwydd ar ddiwedd y dydd, rydyn ni'n mynd i weld lles anifeiliaid yn dioddef yn aruthrol os ydy nifer o'r anifeiliaid yma yn gorfod cael eu rhoi i lawr?"

    Atebodd y prif weinidog, "Dwi'n gwybod bod y gweinidog a'r prif swyddog yn y maes yn gweithio'n agos gyda'r trydydd sector. Maen nhw'n gwneud gwaith arbennig o dda; wrth gwrs, safbwynt y Llywodraeth yw i gefnogi pobl yn y sector yna a'u helpu nhw. Dwi ddim yn siŵr os ni'n gallu ei wneud e'n ariannol ond rydyn ni yn ei wneud e mewn ffyrdd eraill i'w cefnogi nhw yn y gwaith pwysig maen nhw'n gwneud."

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  3. Iechyd meddwl amenedigolwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin 2022

    Mae Siân Gwenllian o Blaid Cymru yn pwysleisio’r angen am wasanaethau i gefnogi merched sy’n cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl amenedigol.

    Dywed, "Mae cynifer ag un o bob pedair menyw yn gallu datblygu problem o’r fath. Dwi felly’n bryderus ar ran mamau yn fy etholaeth i, ac ar draws y gogledd, does yna ddim mynediad at uned arbenigol yn agos at gartref i’r mamau rheini. A wnewch chi ymrwymo i ddatblygu cefnogaeth arbenigol mewn man addas?"

    Ymatebodd y prif weinidog, "er mwyn i uned annibynnol weithredu, byddai angen iddi fodloni’r safonau sy’n ofynnol gyda’r colegau brenhinol perthnasol. Mae hynny’n cynnwys nifer y cleifion sydd eu hangen i gynnal uned arbenigol o’r math hwn. Dyna’r peth y mae pobl yn y gogledd yn ei drafod ar hyn o bryd. A allwn ni sefydlu uned yn y gogledd ble bydd y colegau brenhinol yn fodlon rhoi caniatâd i hynny symud yn ei flaen? Mae’r trafodaethau hynny yn parhau, a dwi’n gwybod bod pob cyfle yn cael ei gymryd i gyflymu’r broses o gytuno ar gyfres o gynigion ymarferol."

    Siân Gwenllian
    Disgrifiad o’r llun,

    Siân Gwenllian

  4. Prydau ysgol am ddimwedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin 2022

    Dywed Mark Drakeford fod y syniad o ddarparu prydau ysgol am ddim yn deillio o ymweliad ag ysgol yn Rhondda Cynon Taf gan y Prif Weinidog ar y pryd Rhodri Morgan.

    "Fe gwrddodd â phrifathrawes a ddywedodd wrtho os oedd un peth yr hoffai hi weld Llywodraeth Cymru yn ei wneud, hynny fyddai cymryd camau i atal plant yn ei hysgol rhag troi lan bob bore yn rhy newynog i ddysgu. Roedd honno'n ennyd sobreiddiol iawn."

    Bydd plant dosbarth derbyn yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim o fis Medi.

    Disgwylir i bob un o tua 272,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd y wlad gael cinio am ddim erbyn 2024.

    Mae’n rhan o gytundeb rhwng Plaid Cymru a llywodraeth Lafur Cymru.

    cinio ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Llinellau picedwedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin 2022

    Mae nifer o ASau Llafur wedi dangos cefnogaeth i streiciau rheilffordd yr wythnos hon drwy ymddangos mewn llinellau piced y tu allan i orsafoedd, er gwaethaf rhybuddion gan swyddfa Syr Keir Starmer.

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn cyfeirio at adroddiadau y dywedwyd wrth uwch ASau Llafur yn San Steffan i beidio â dangos cefnogaeth i'r streiciau.

    Dywed, "yn argyfwng rheilffyrdd San Steffan, mae'n ymddangos bod cystadleuaeth rhwng gwleidyddion i weld pwy all fod y mwyaf anweledig. Ai Grant Shapps sy'n gwrthod eistedd i lawr gyda'r undebau rheilffyrdd, neu Keir Starmer yn gwahardd ei Gabinet cysgodol rhag bod mewn llinell biced. Roeddwn mewn llinell biced RMT y bore yma—yn falch o fod yno yn mynegi fy undod gyda gweithwyr yn ymladd am swyddi a chyflogau ac amodau gweddus. Ar adeg pan fo undebau llafur a gweithwyr yn cael eu pardduo, cael eu troi’n fychod dihangol, cael eu pardduo i dynnu sylw oddi ar fethiannau niferus Boris Johnson, onid yw’n bwysicach fyth ein bod yn dangos ein cefnogaeth iddynt?”

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb nad oes unrhyw waharddiad yn bodoli i atal ei weinidogion a'i aelodau ef rhag dangos eu cefnogaeth i undebau llafur.

    Ond ychwanega, "Mae Keir Starmer mewn sefyllfa wahanol iawn. Pe bai'n cymeradwyo hynny, ni fyddai'r stori byth yn ymwneud â chefnogaeth i'r mudiad undebau llafur. Byddai'r Torïaid yn llwyddo yn eu dymuniad i bortreadu hyn fel rhywsut enghraifft o'r wlad yn dychwelyd i ddyddiau a adawyd ymhell yn ôl."

    Gweithwyr yn picedu ger gorsaf Caerdydd Canolog fore Mawrth
    Disgrifiad o’r llun,

    Gweithwyr yn picedu ger gorsaf Caerdydd Canolog fore Mawrth

  6. Dim ond dau Aelod o'r Senedd ar Zoomwedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin 2022

    Dim ond dau Aelod o'r Senedd sydd ar Zoom heddiw, sy’n arwain at y Llywydd Elin Jones yn tynnu sylw at lefelau sŵn yn y Siambr.

    "Rwy'n clywed yr effaith o'm cwmpas".

    Siambr
  7. 'Ydych chi'n cefnogi'r streiciau?'wedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin 2022

    Ar ddiwrnod y streiciau rheilffordd, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn gofyn "ydych chi'n cefnogi'r streiciau?"

    "Nid oes streiciau yng Nghymru" atebodd y prif weinidog, "nid oes anghydfod rhwng Trafnidiaeth Cymru a'r undeb llafur. Lle rwy'n gyfrifol am y pethau hyn, nid yw gweithwyr ar streic, oherwydd y ffordd y mae Llywodraeth Cymrug yn gweithredu ar sail partneriaeth gymdeithasol i ddod â phobl o amgylch y bwrdd at ei gilydd i wneud yn siŵr bod sgyrsiau’n cael eu cynnal a bod atebion yn cael eu cyrraedd.”

    Mae'n dweud nad yw'r rhan fwyaf o drenau yn rhedeg yng Nghymru oherwydd bod Llywodraeth y DU "wedi creu anghydfod gyda Network Rail, ac mae Network Rail wedi tynnu rhai o'r staff, a allai fod wedi bod ar gael i wneud i drenau redeg yng Nghymru, er mwyn cadw trenau i redeg yn Lloegr."

    Dywed Mr Davies “mae angen i ni symud i ffwrdd o arferion gwaith y 1950au a symud i’r 2020au—arferion sy’n gweld pobl ddim yn rhannu faniau i gyrraedd yr un safle i weithio, arferion sy’n rheoli peidio â defnyddio dronau ar gyfer iechyd a diogelwch neu’r gallu i ddefnyddio apiau ar ffonau i anfon negeseuon at weithwyr sydd mewn lleoliadau bregus."

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  8. Gofal iechydwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r prif weinidog ac i weinidogion Cymru. Caiff pob aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae'r Ceidwadwr Samuel Kurtz yn gofyn "pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella y ddarpariaeth o ofal iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?"

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb bod camau gweithredu yn cynnwys "diwygio'r contract deintyddol i wella mynediad at ofal y GIG".

    Mae Mr Kurtz yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i helpu i recriwtio gweithwyr iechyd, yn enwedig i feddygfeydd gwledig.

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "rydym wedi cael profiad da iawn yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf o recriwtio meddygon teulu i bractisau hyfforddi yma yng Nghymru. Mae'r niferoedd hynny wedi rhagori ar y trothwy a osodwyd gennym y llynedd a'r flwyddyn flaenorol.

    "Rwy’n teimlo’n hyderus bod yr egwyddor gyffredinol yn sefyll i fyny i archwiliad, sef os ewch i hyfforddi yn rhywle, a’ch bod yn treulio amser yno, mae’n cynyddu’r siawns mai dyna lle byddwch chi eisiau gweithio'n barhaol."

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o nawfed sesiwn ar ddeg y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.