Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau ar bynciau yn cynnwys ffoaduriaid, cam-drin domestig, y GIG, a chostau byw.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mehefin 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledigwedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mehefin 2022

    Mae'r prif weinidog yn cytuno gyda Cefin Campbell o Blaid Cymru y dylai'r Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig fod yn berthnasol mewn rhannau o Gymru.

    Mae cynllun Llywodraeth y DU yn rhoi cymorth i fodurwyr mewn rhannau o’r Alban a Lloegr drwy ddigolledu manwerthwyr tanwydd mewn rhai ardaloedd gwledig sydd â phrisiau uchel ar gyfer tanwydd i gerbydau.

    Dywed Llywodraeth y DU fod yr ardaloedd gwledig wedi’u dewis oherwydd, cyn i’r cynllun gael ei gyflwyno:

    • roedd prisiau pwmp yn yr ardaloedd hynny yn llawer uwch na chyfartaledd y DU
    • mae natur anghysbell yr ardaloedd hynny yn arwain at gostau cludo tanwydd uchel o'r burfa i'r orsaf betrol
    • mae gwerthiannau cymharol isel yn golygu na all y manwerthwyr tanwydd hyn elwa ar ostyngiadau swmp ar eu pryniannau tanwydd.
    PetrolFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Deintyddion y gwasanaeth iechydwedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mehefin 2022

    Mae'r Ceidwadwr Sam Rowlands yn dweud bod nifer fawr o etholwyr yn cysylltu ag ef i ddweud eu bod yn cael trafferth cael mynediad at ddeintyddion y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru.

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod "buddsoddiad ychwanegol, diwygio contractau, codi'r cyfyngiadau Covid yn gynyddol ac agor academi ddeintyddol gogledd Cymru ymhlith y camau sy'n cael eu cymryd i wella mynediad i ddeintyddiaeth y GIG yn rhanbarth yr Aelod".

    Deintyddion
  4. Gwasanaethau canser: 'angen mwy o frys'wedi ei gyhoeddi 14:16 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mehefin 2022

    Mae Rhun ap Iorwerth yn galw am fwy o "ymdeimlad o frys" gan Lywodraeth Cymru ar ei chynllun gweithredu gwasanaethau canser.

    Dywed y prif weinidog bod y "gwaith o lunio'r cynllun gweithredu yn cael ei wneud gyda Rhwydwaith Canser Cymru. Bydd y gwaith hwnnw yn parhau drwy gydol yr haf. Mae'r Gweinidog yn disgwyl cael copi ddrafft o'r cynllun ym mis Medi."

  5. Llywodraeth y DU yn dangos 'dirmyg' tuag at ddatganoliwedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mehefin 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn dweud bod Llywodraeth y DU wedi dangos ei “dirmyg” tuag at ddatganoli ar ôl iddi ddweud y bydd yn diddymu deddf Gymreig ar sut mae undebau llafur yn cael eu rheoleiddio yn y sector gyhoeddus.

    Ddydd Llun dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu pasio deddf a fyddai'n galluogi i weithwyr asiantaeth gymryd lle gweithwyr sydd ar streic yn y GIG neu wasanaethau eraill.

    O ganlyniad, byddai'r ddeddf honno yn diddymu deddf a basiwyd yn y Senedd - Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017.

    Mae'r undebau, llywodraeth Lafur Cymru, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu'n hallt y cynlluniau i gael gwared ar y ddeddf.

    Mae Adam Price yn herio Mark Drakeford i "ofyn am y pŵer ar gyfer refferendwm ar ddyfodol ein democratiaeth" gan weinidogion y DU.

    Fe wnaeth yr alwad toc cyn i Nicola Sturgeon egluro ei chynlluniau i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

    Dywed Mr Price y gallai Cymru gynnal ei phleidlais ar sail argymhellion comisiwn cyfansoddiadol sydd eisoes wedi ei sefydlu gan weinidogion Cymru ac sydd ar hyn o bryd yn ystyried sut y gallai'r system bresennol o bwerau sydd yng Nghaerdydd a Llundain newid.

    "Os yw'n cael ei fframio fel Cymru yn erbyn San Steffan, mae'n siŵr ei fod yn refferendwm y gallwn ei ennill?"

    Ond mae Mr Drakeford yn dweud wrth arweinydd Plaid Cymru fod yr achos yr oedd yn ei wneud wedi ei "wanhau'n angheuol" gan y ffaith nad oedd yr un blaid wleidyddol sy'n addo refferendwm o'r fath wedi ennill mwyafrif y pleidleisiau yng Nghymru mewn etholiad.

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

    Fe allai staff asiantaethau weithio yn lle gweithwyr sector gyhoeddus petai Llywodraeth y DU yn cael ei ffordd
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe allai staff asiantaethau weithio yn lle gweithwyr sector gyhoeddus petai Llywodraeth y DU yn cael ei ffordd

  6. Ffoaduriaid Wcráinwedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mehefin 2022

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod ei lywodraeth wedi gorfod cyflwyno "saib" i geisiadau newydd ar gyfer ei chynllun uwch-noddwyr ar gyfer ffoaduriaid Wcráin oherwydd ei "lwyddiant".

    Dywed Mark Drakeford na fydd y cynllun yn ailddechrau tan y gall pobl adael canolfannau croeso am gartrefi. Daw wedi i'w weinidog cyfiawnder cymdeithasol Jane Hutt ddweud ddydd Mawrth fod pum canolfan groeso Cymru yn llawn.

    Mae'r prif weinidog yn dweud nad yw'r gwaith o symud ffoaduriaid allan o ganolfannau croeso i gartrefi "yn digwydd mor gyflym ag yr ydym ei angen i ddigwydd".

    "Mae'n rhaid gwirio cynigion o gymorth. Mae'n rhaid cynnal gwiriadau'r heddlu. Mae'n rhaid i adrannau gwasanaethau cymdeithasol ymweld.

    “Cyn gynted ag y bydd gennym ni gydbwysedd rhwng pobl yn gallu gadael y canolfannau croeso ac i mewn i deuluoedd, a nifer y bobl sydd eisiau dod i Gymru, yna fe fyddwn ni mewn sefyllfa i ailagor y llwybr nawdd gwych.”

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, yn codi pryderon am yr adnoddau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi yn eu lle.

    "Rydyn ni i gyd eisiau chwarae ein rhan, ond mae'n rhaid i chi briodoli'r adnoddau i ateb y galw."

    Dywed Mr Drakeford eu bod hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddod o hyd i gartrefi a fyddai fel arall yn wag.

    Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffoaduriaid gyda'i hadnoddau ei hun, a dywedodd nad oedd "ceiniog" wedi dod gan Lywodraeth y DU.

    Mae hefyd yn dwyn i gof siarad â phlentyn saith oed o Wcráin, “roedd yn ei chael hi’n anodd yn yr ychydig eiriau oedd ganddo i egluro i mi sut brofiad oedd cyrraedd Cymru, ac fe bwyntiodd i fyny a dywedodd, ‘dim rocedi yn yr awyr'."

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

    Mae dros 200 o ffoaduriaid - tua hanner ohonyn nhw yn blant bach - yn aros mewn un gwersyll yr Urdd ar hyn o bryd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae dros 200 o ffoaduriaid - tua hanner ohonyn nhw yn blant bach - yn aros mewn un gwersyll yr Urdd ar hyn o bryd

  7. Cefnogi dioddefwyr cam-drin domestigwedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mehefin 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r prif weinidog ac i weinidogion Cymru. Caiff pob aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae Joyce Watson, AS Llafur yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, yn gofyn beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig?

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyfeirio at y Strategaeth Genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, dolen allanol

    Dywed Joyce Watson iddi "gomisiynu Cymorth i Ferched Cymru i archwilio darpariaethau ar draws Cymru, a'r hyn y daethom o hyd iddo yw loteri cod post."

    Mae hi’n dweud bod “angen brys am gefnogaeth wedi’i theilwra” ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n profi trais a chamdriniaeth yn y cartref “oherwydd heb gefnogaeth gynnar, fe all arwain at oes o effeithiau andwyol.”

    Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn, dolen allanol yn darparu cymorth a chyngor ar gyfer:

    • unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol
    • pobl sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth
    • ymarferwyr sydd angen cyngor proffesiynol
    Joyce Watson
    Disgrifiad o’r llun,

    Joyce Watson

  8. Streic ar y rheilffyrdd: ni chafodd staff eu symudwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mehefin 2022

    Mae Mark Drakeford yn dechrau trwy ddiweddaru'r Senedd wedi iddo honni fod staff o Gymru wedi cael eu symud i Loegr i gynnal y gwasanaethau yno yn ystod y streic ar y rheilffyrdd.

    Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru gefnogi sylwadau y Prif Weinidog fod Network Rail wedi symud staff o Gymru i helpu gwasanaethau yn Lloegr.

    Gwadodd y cwmni eu bod wedi adleoli staff yn y fath fodd.

    Dywed y prif weinidog nawr ei fod wedi derbyn gwybodaeth sy'n nodi na chafodd staff eu symud.

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mehefin 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o ugeinfed sesiwn y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.