a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl am y tro

    Heb os mae wedi bod yn ddiwrnod hanesyddol wrth i lygaid y byd wylio angladd y Frenhines Elizabeth II.

    Mae'r cyfnod ers ei marwolaeth wedi bod yn gyfnod o alaru swyddogol.

    Yn ystod yr wythnosau nesaf mae'n sicr y bydd cryn drafod am ddyfodol y frenhiniaeth - yn arbennig yma yng Nghymru wrth i Dywysog Cymru ymgymryd â'i rôl newydd.

    Ond am heddiw fe wnawn eich gadael gydag uchafbwyntiau y diwrnod hanesyddol hwn.

    Diolch am ddarllen.

    Video content

    Video caption: Cynnal angladd y Frenhines Elizabeth II
  2. Strydoedd Llundain a bywyd yn dychwelyd i normal

    Yn y cyfamser mae bywyd normal yn dychwelyd i strydoedd Llundain wedi cynnwrf y dydd.

    Llundain
    Llundain
  3. Gwasanaeth Preifat yng Nghapel Coffa Brenin Siôr y Chweched

    Am 19:30 bydd arch y Frenhines yn cael ei chladdu yng Nghapel Coffa Brenin Siôr y Chweched - y tu fewn i Gapel San Siôr - o dan arweiniad Deon Windsor. Gwasanaeth preifat i'r teulu yn unig fydd hwn.

    Bydd y Frenhines yn cael ei chladdu gyda Dug Caeredin - ar hyn o bryd mae ei gorff e yn y beddrod brenhinol ond fe fydd e bellach yn symud i fod gyda'r Frenhines yn un o siambrau claddu Capel Sain Siôr.

    Y Tywysog Phillip oedd y cyntaf o'r teulu brenhinol i orffwys yn y beddrod brenhinol ers ei fam, Y Dywysoges Alice, yn 1969 - yn ddiweddarach fe gafodd hi ei throsglwyddo i Jerwsalem.

    Wedi'u claddu yng Nghapel Coffa Brenin Siôr y Chweched hefyd mae rhieni y Frenhines a'i chwaer y Dywysoges Margaret.

    Y geiriau fydd ar garreg fedd y Frenhines fydd - ELIZABETH II 1926-2022.

    Bydd y Frenhines yn cael ei chladdu gyda'i gŵr yng Nghapel Coffa Brenin Siôr y Chweched
    Image caption: Bydd y Frenhines yn cael ei chladdu gyda'i gŵr yng Nghapel Coffa Brenin Siôr y Chweched
  4. Newid yng ngwaith y Brenin

    "Mae’r lluniau dros yr wythnos diwethaf wedi bod yn drawiadol wrth ddangos pobl yn uniaethu gyda’r Brenin newydd," meddai'r cyn-delynores brenhinol Claire Jones wrth siarad ar Newyddion S4C.

    "O ran y protocol a’r traddodiadau, bydd e nawr yn gorfod canolbwyntio mwy ar ei waith fel y Brenin, a bydd Tywysog Cymru yn cymryd drosodd ei ochr busnesol a’i waith elusennol.

    "Mae’r gwahaniaeth yna yn mynd i fod yn un mawr."

    Brenin Charles
  5. 'Cyfnod newydd o'n blaen'

    "Dwi’n credu bod cyfnod o drosglwyddo bob amser yn heriol," meddai Non Vaughan-O’Hagan, cyn-gynorthwyydd personol i Ddeon Westminster, wrth adlewyrchu ar Radio Cymru am effaith y dyddiau diwethaf ar y Brenin Charles III.

    "Yn siarad yn hollol bersonol wedi colli a galaru’n ddiweddar, wy’n credu bod unrhyw ddarn arall o ‘mywyd i sy’n newid, wy’n ffeindio fe’n anodd iawn i ddygymod ag e.

    "Ond wedi dweud hynny, mae’r hyn mae’r Brenin wedi llwyddo i’w wneud yn y deg diwrnod diwethaf yn rhyfeddol.

    "Mae e yn ymdrechu yn galed iawn i gymryd yr awennau, a mae ei fam wedi gadael ‘sgidiau mawr i’w llenwi.

    "Ond dwi’n credu bod yr hyn mae e wedi’i wneud hyd yn hyn yn arwyddocaol yn yr ystyr dwi’n credu bo’ ganddom gyfnod newydd ac mae angen symud ymlaen."

    Y Frenhines a Charles
  6. Disgwyl trafodaeth ar y frenhiniaeth yng Nghymru wedi'r angladd

    Wrth i'r cyfnod galaru swyddogol am y Frenhines Elizabeth II ddirwyn i ben, heb os, bydd trafodaethau ar ddyfodol y frenhiniaeth yng Nghymru.

    Ddydd Gwener yn y Senedd dywedodd Brenin Charles III bod gan ei fab, William, Tywysog newydd Cymru "gariad mawr at Gymru".

    Mae rhai wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd y Tywysog William a'r Dywysoges Catherine yn dod yn Dywysog a Thywysoges newydd Cymru. Ond mae penderfyniad Brenin Charles III wedi ysgogi eraill i alw am roi'r gorau i ddefnyddio'r teitl.

    Mae degau o filoedd o bobl bellach wedi arwyddo deiseb yn galw ar i'r teitlau gael eu diddymu.

    Mae'r gwrthwynebwyr yn dadlau bod y teitlau yn symbol o orthrwm Lloegr a'u bod yn sarhad ar Gymru.

    William a Kate
  7. Y Frenhines wedi dewis cael y pibydd i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth

    Tra bydd arch y Frenhines yn cael ei rhoi lawr yn y gladdgell frenhinol, bydd Deon Windsor yn adrodd Salm.

    Bydd pibydd y Frenhines yn chwarae galarnad - rhywbeth y gwnaeth y Frenhines ei hun argymell ac yna bydd Archesgob Caergaint yn rhoi’r fendith.

    Pan fyddai'r Frenhines yn Windsor fe fyddai hi'n gorchymyn y pibydd i chwarae am ryw chwarter awr bob bore - ac mae'n debyg ei bod wrth ei bodd.

    Ar ddiwedd y gwasanaeth bydd yr anthem 'God Save the King' - i'w chlywed unwaith eto.

    windsor
  8. Ymweld â Chymru am y tro diwethaf yn 2021

    Hydref 2021 oedd y tro diwethaf i'r Frenhines ddod i Gymru a hynny i agor chweched sesiwn y Senedd yn swyddogol mewn seremoni fer ym Mae Caerdydd.

    Dywedodd y Frenhines wrth aelodau'r Senedd fod "llawer o heriau o'u blaenau" yn y sesiwn bresennol.

    "Wrth i chi weithio gyda'ch gilydd i hyrwyddo llesiant pobl Cymru, a chefnogi'r ymdrech adfer, mae Tywysog Cymru, Duges Cernyw a minnau'n estyn ein dymuniadau cynhesaf i chi ar gyfer chweched sesiwn y Senedd hon, a gobeithio y cewch bob llwyddiant gyda'ch ymdrechion," meddai.

    Wrth gloi ei haraith yn y siambr, dywedodd y geiriau canlynol yn Gymraeg: "Diolch o galon."

    Yn 2021 fe wnaeth dogfennau llywodraeth y DU, a oedd newydd eu rhyddhau, ddangos bod y Swyddfa Gartref wedi rhoi cyngor cyn refferendwm datganoli 1997 na ddylai'r Frenhines agor Cynulliad Cymreig, petai'n dod i fodolaeth.

    Y Frenhines 2021
    Image caption: 2021 oedd y tro diwethaf i'r Frenhines fod yng Nghymru
  9. Y Beibl o gymorth i'r Frenhines mewn cyfnodau anodd

    Roedd y Frenhines Elizabeth II yn noddwr i Gymdeithas y Beibl ers 1952

    Disgrifiodd y Beibl fel "llyfr rheolau ar gyfer bywyd yn ei gyfanrwydd i Dywysogion Cristnogol" a’r "peth mwyaf gwerthfawr y mae’r byd hwn yn medru ei gynnig i ni".

    Roedd yn troi at yr ysgrythur yn gyson ac yn enwedig mewn cyfnodau anodd - roedd yn rhan hanfodol o’i ffydd.

    Beibl
  10. Torri gwialen fel arwydd bod dyletswyddau brenhinol ar ben

    Cyn yr emyn olaf, mae Coron y Wladwriaeth Imperialaidd, y Gronnell a’r Deyrnwialen yn cael eu tynnu oddi ar arch y Frenhines a’u gosod ar yr allor.

    Ar ddiwedd yr emyn bydd y Brenin yn gosod baner Gwarchodlu’r Grenadwyr ar arch y Frenhines.

    Ar yr un pryd, bydd yr Arglwydd Chamberlain, cyn bennaeth MI5, y Barwn Parker yn torri ei wialen a’i gosod ar yr arch.

    Mae torri'r wialen wen yn arwydd bod ei wasanaeth fel prif swyddog y Frenhines yn y cartref brenhinol yn dod i ben.

    Roedd yr Arglwydd Chamberlain yn gyfrifol am angladd Dug Caeredin a hynny yn fuan wedi ei benodiad i'r swydd o fod yn gyfrifol am seremonïau brenhinol.

    Roedd yr Arglwydd Chamberlain yn gyfrifol am angladd Dug Caeredin
    Image caption: Roedd yr Arglwydd Chamberlain yn gyfrifol am angladd Dug Caeredin
  11. Arwyddocad Castell Windsor i'r frenhiniaeth

    Mae'r hanesydd Dr Elin Jones wedi bod yn esbonio arwyddocad Castell Windsor fel man gorffwys terfynol Y Frenhines Elizabeth II.

    "Fan hyn y bydd hi’n cael ei chladdu, wrth ochr ei gŵr hi, wrth ochr ei rhieni hi hefyd a’i chwaer hi, oherwydd dyma’r capel Brenhinol, Capel San Siôr," meddai.

    "Ac yn ôl y chwedl, rhywle yn nho y capel yna mae un o dlysau coron Gwynedd wedi’i chuddio, sef Y Groes Naid, darn o’r groes sanctaidd.

    "Dwi ddim yn siwr os yw hynny’n wir ai peidio, ond mae traddodiadau a hanes canrifoedd yn dod at ei gilydd yn Windsor, yr ail gastell consentrig mwyaf yn y byd.

    "Fan hyn roedd y Frenhines a’i diweddar gŵr yn byw gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod clo. Ro’n nhw’n cael bod yn ŵr a gwraig gyda’i gilydd.

    "Er mor anferth yw’r Castell, er mor canolog eu rôl yn gyfansoddiadol, gŵr a gwraig o’n nhw ar ddiwedd eu dyddiau, a dyma ble ro’n nhw’n cael eu dyddiau olaf, y pâr priodasol."

    Castell Windsor
  12. Pwy yw Deon Windsor?

    David John Conner yw deon presennol Windsor ac mae wedi bod yn y swydd ers 1998.

    Rhwng 2001 a 2009 roedd e'n Esgob y Lluoedd Arfog,

    Y Deon yw pennaeth ysbrydol canonau Capel San Siôr.

    Fe hefyd a oedd yn gyfrifol am angladd Dug Caeredin yng Nghapel San Siôr yn 2021.

    Deon Windsor
  13. Y cyn-Dwrnai Cyffredinol: 'Braint cael bod yn Windsor'

    Un sy'n bresennol yn ail ran yr angladd yw'r Arglwydd John Morris, y cyn-Dwrnai Cyffredinol, a mae hynny yn "fraint", meddai.

    "Mae'r Frenhines wedi bod yno'r rhan fwya o'n oes i. Cychwyn gyda'r coroni, fel aelod seneddol dros ddeugain mlynedd, ac yna'n aelod o Dŷ'r Arglwyddi am bron i ugain mlynedd.

    "Dw i ddim yn gwybod dim gwahanol na bod y Frenhines yno - dyna brofiad pawb - does neb yn cofio amser cyn hi.

    "Mae hi wedi gwneud cymaint o waith dros y blynyddoedd a phobl yn teimlo ei bod hi'n agos atyn nhw, ac mi roedd hi.

    Wrth adlewyrchu ar y cyfnod o alaru a'r miloedd sydd wedi bod yn talu teyrnged i'r Frenhines, dywedodd yr Arglwydd Morris fod "pobl am fod yno".

    "Dw i'n synnu fod pobl ifanc, gymaint ohonyn nhw, yno.

    "Roedd 'yn wyrion i eisiau mynd - o'n i'n synnu bo' nhw'n dyheu i fynd."

    john morris
    Image caption: Yr Arglwydd John Morris: 'Pobl yn teimlo bod y Frenhines yn agos atyn nhw'
  14. Rhywfaint o'r gerddoriaeth wedi'i chyfansoddi gan athro piano Elizabeth II

    Mae rhywfaint o gerddoriaeth y gwasanaeth traddodiant wedi’i chyfansoddi gan Syr William Henry Harris, a wasanaethodd fel Organydd Capel San Siôr rhwng 1933 a 1961, drwy gydol plentyndod y Frenhines.

    Credir iddo ddysgu’r Dywysoges Elizabeth ifanc i ganu’r piano.

  15. Nifer o weddïau yng ngwasanaeth traddodi'r Frenhines

    Mae'r gwasanaeth yma o dan arweiniad Deon Windsor, Y Gwir Barchedig David Conner.

    Bydd gweddïau gan rheithor Sandringham, gweinidog Crathie Kirk a chaplan Windsor Great Park a bydd y fendith yn cael ei rhoi gan Archesgob Caergaint.

    Mae côr Capel San Siôr yn canu yn ystod y gwasanaeth.

    Mae gweinidog Crathie Kirk yn yr Alban yn rhan o'r gwasanaeth yn Windsor
    Image caption: Mae gweinidog Eglwys Crathie Kirk yn yr Alban yn rhan o'r gwasanaeth yn Windsor
  16. Y Frenhines i'w chladdu yn y Gladdgell Frenhinol gyda Dug Caeredin

    Dyma yw'r drefn yn y capel yng Nghastell Windsor.

    gfx
  17. Beth yw pwrpas Gwasanaeth y Traddodiant?

    Mae golygydd rhaglenni crefydd BBC Cymru, John Roberts, yn esbonio beth sy'n wahanol am Wasanaeth y Traddodiant o'i gymharu â'r gwasanaeth cynharach yn Abaty Westminster.

    "Cyflwyno’r corff i’w gladdu yw’r traddodiant, ond yn yr achos yma maen nhw wedi’i ymestyn o rywfaint i’w wneud o’n gwasanaeth cyfan," meddai.

    "Fe allwch chi ei gymharu i brofiad llawer o bobl i angladd mewn amlosgfa – fydd ‘na ddim pregeth, ond mi fydd ‘na ddarlleniadau, ambell i emyn a chôr yn canu."

    Ychwanegodd y byddai'r awyrgylch yn debyg "i’r gwasanaeth ag oedd yn Westminster" gan bod dal 800 o bobl yn bresennol.

    "Ond heno yn y gwasanaeth preifat na fydd yn cael ei ddarlledu, na’r cyhoedd yn cael mynediad, dyna pryd fydd y gwasanaeth gwirioneddol breifat i’r teulu," meddai.

    "Mi ddylan ni gofio, ymuno â theulu mewn galar ydan ni beth bynnag y seremoni, a hwnna sydd isio’i gofio."

    i John
  18. 'Cysylltiad hir' gyda Phrifysgol Aberystwyth

    Doedd yna ddim dangosiadau swyddogol o'r angladd yng Nghymru ond fe ddewisodd rhai mannau ddangos yr angladd - yn eu plith Eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth.

    Yn y cyfamser perthynas hir wedi bod gan Brifysgol Aberystwyth gyda'r Teulu Brenhinol, meddai Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Dr Rhodri Llwyd Morgan.

    Video content

    Video caption: Cysylltiad Prifysgol Aberystwyth gyda'r teulu Brenhinol
  19. Gwasanaeth y Traddodiant yw'r gwasanaeth cyhoeddus olaf

    Gwasanaeth y Traddodiant yng Nghapel San Siôr, Castell Windsor yw'r gwasanaeth cyhoeddus olaf - yn hwyrach heno bydd gwasanaeth preifat i'r teulu'n unig.

    Yn y fan hon mae'r gynulleidfa yn fwy personol a phreifat na chynulleidfa Abaty Westminster.

    Mae'r rhai sydd wedi gwasanaethu’r Frenhines yn uniongyrchol drwy gydol ei theyrnasiad wedi eu gwahodd, gan gynnwys staff yr ystadau preifat.

    Gydol y dydd mae 10,000 o staff milwrol wedi bod ynghlwm â'r trefniadau.

    Brenin Charles III yn cyfarfod â Syr Tony Radakin, un o'r penaethiaid milwrol, ddydd Sadwrn
    Image caption: Brenin Charles III yn cyfarfod â Syr Tony Radakin, un o'r penaethiaid milwrol, ddydd Sadwrn
  20. Yr hers wedi cyrraedd

    Mae'r hers bellach wedi cyrraedd Capel San Siôr, Castell Windsor a'r arch yn cael ei chludo i mewn.

    Hers yn cyrraedd