Y Frenhines â'r byd chwaraeon yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022
Roedd gan y Frenhines gysylltiadau â'r byd chwaraeon yng Nghymru.
Bu'n noddwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru.
Ym mis Rhagfyr 2016, a'r Frenhines bellach yn 90 oed, daeth cyhoeddiad y byddai ei hŵyr, y Tywysog William, yn dod yn noddwr Undeb Rygbi Cymru yn ei lle, a hynny wrth i aelodau eraill o'r Teulu Brenhinol ysgwyddo rhywfaint o'i chyfrifoldebau.
Pan gafodd Stadiwm y Mileniwm ei agor yng Nghaerdydd yn 1999, a Chymru'n gartref i Gwpan Rygbi'r Byd, cyflwynodd y Frenhines Gwpan Webb Ellis i John Eales, capten tîm Awstralia.
Yn Hydref 2015 croesawodd y Frenhines aelodau tîm rygbi Cymru i dderbyniad arbennig ym Mhalas Buckingham adeg Cwpan Rygbi'r Byd wrth i Gymru gyrraedd rownd yr wyth olaf.
Roedd y Frenhines hefyd yn gysylltiedig â nifer o fudiadau ac elusennau eraill yng Nghymru - yn eu plith Meysydd Chwarae Cymru, YMCA Cymru a Chymdeithas Swyddogion y Gwarchodlu Cymreig.