Crynodeb

  • Torfeydd yn un miloedd yn Llundain ar gyfer angladd gwladol y Frenhines Elizabeth II yn Abaty Westminster

  • Traddodi'r Frenhines yng Nghapel San Siôr yng Nghastell Windsor

  • Seremoni breifat am 19:30 ar gyfer y teulu Brenhinol yn unig i orffen digwyddiadau'r dydd

  • Rhai yn ymgasglu mewn lleoliadau ar draws Cymru i weld yr angladd

  • Canslo apwyntiadau gan fod hi'n Ŵyl y Banc

  1. Cerddoriaeth 'yn rhan allweddol'wedi ei gyhoeddi 11:12 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    "Mae heddiw yn ddiwrnod pwysig iawn mewn hanes, gyda llygaid y byd yn edrych ar y digwyddiadau yma – arlywyddion o bob man ar draws y byd," meddai'r cyn-delynores brenhinol Claire Jones ar Newyddion S4C.

    "Mae’r gerddoriaeth yn mynd i fod yn rhan allweddol o’r gwasanaeth.

    "Mae gyda ni Gôr Abaty Westminster yn canu, ac hefyd Côr y Brenin o’r Capel Frenhinol."

    Yr emyn cyntaf yw 'The day thou gavest, Lord, is ended' - geiriau John Ellerton.

    claire jones
  2. Yr arch wedi ei gosodwedi ei gyhoeddi 11:12 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Teulu ac arch wedi ei gosod
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae aelodau blaenllaw y Teulu Brenhinol yn eistedd ger yr arch

  3. Y dorf yn fudwedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Elliw Mai
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae'r dorf ar y Mall yn hollol fud wrth i'r angladd gael ei ddarlledu dros yr uchel-seinydd.

    Gerllaw mae cerflun y Fam-Frenhines yn gwylio dros y dorf.

    Y Mall
  4. 'Wedi gweithio mor galed i baratoi at heddiw'wedi ei gyhoeddi 11:06 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae Non Vaughan-O’Hagan yn gyn-gynorthwyydd personol i ddeon Westminster.

    "Mae’n anodd peidio meddwl am fy nghyd-weithwyr, sydd wedi gweithio mor galed i baratoi ar gyfer heddiw," meddai ar Newyddion S4C.

    "Mae fy nghalon yn curo achos fy mod i’n gwybod cymaint o ymroddiad mae pawb wedi rhoi i sicrhau bod y foment yma yn iawn.

    "Mae e’n rhywbeth i weld yr holl drefniadau ar bapur, ma fe’n rhywbeth hollol wahanol i weld e yn y cnawd fan hyn.

    "Allai ddim disgrifio faint o wefr dwi’n cael wrth weld hyn i gyd a chlywed y gloch."

    abaty
  5. Archesgob Caergaint, Justin Welby, yn traddodi'r bregethwedi ei gyhoeddi 11:02 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Yn arwain y gwasanaeth mae Deon Abaty Westminster, David Hoyle ac yn traddodi'r bregeth mae Archesgob Caergaint, Justin Welby.

    Bydd y Prif Weinidog, Liz Truss, yn darllen llith.

    Daw’r gweddïau gan Archesgob Efrog, Archesgob Gardinal Westminster, Llywydd Cynulliad Cyffredinol Eglwys yr Alban a Llywydd yr Eglwysi Rhyddion.

    Does yna ddim angladd Brenin neu Frenhines wedi bod yn Abaty Westminster ers y 18fed Ganrif - ond yma cafodd angladd y Fam Frenhines ei gynnal yn 2002.

    Yng Nghapel San Siôr yn Windsor yr oedd angladd tad y frenhines, y Brenin George VI, yn 1952 ac yn y capel hwnnw y bydd y Frenhines yn cael ei thraddodi a'i chladdu yn hwyrach heddiw.

    WelbyFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Archesgob Caergaint, Justin Welby, yn siarad â'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog wythnos diwethaf

  6. Yr arch yn cael ei chludo i'r Abatywedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Disgrifiad,

    Y Brenin Charles III yn dilyn arch y Frenhines

    Mae'r arch wedi cael ei chludo yno gan Gerbyd Gynnau y Llynges Frenhinol o Neuadd Westminster i'r Abaty, gydag aelodau blaenllaw o'r teulu yn dilyn.

  7. Angladd gwladol - y cyntaf ers 1965wedi ei gyhoeddi 10:58 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae disgwyl i 2,000 o westeion fod yn bresennol yn yr angladd.

    Mae'n angladd gwladol ac felly yn dilyn protocol arbennig gan gynnwys gorymdaith filwrol a chyfnod o orffwys cyhoeddus - sydd bellach wedi dod i ben.

    Brenin neu frenhinoedd sy'n cael angladd gwladol fel arfer ond fe gafodd y diweddar Brif Weinidog, Winston Churchill, angladd gwladol yn 1965 ar gais y Frenhines Elizabeth II.

    angladd Churchill
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr angladd gwladol diwethaf oedd un Winston Churchill yn 1965

  8. 'Galaru'n gyhoeddus iawn, iawn'wedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Wrth siarad ar Radio Cymru mae John Roberts, cynhyrchydd rhaglenni crefydd BBC Cymru, yn dweud ei bod hi'n bwysig cofio mai "dathlu bywyd" yw pwrpas angladd, "a gwneud hynny o flaen Duw".

    "Mae hynny’n eithriadol o bwysig. Reit ar ddechrau’r gwasanaeth mae’r brawddegau agoriadol yn drawiadol iawn, iawn," meddai.

    "Mae’r rhain sydd wedi’u defnyddio fel mae’n digwydd mewn angladdau brenhinol ers y 18fed Ganrif sef: 'Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd; Mi wn fod fy mhrynwr yn fyw'.

    "Yna y darlleniad o Timotheus – 'ein bod wedi dod i’r byd heb ddim a dan ni’n mynd o’r byd heb ddim'.

    "Mae hynna rhywsut yn symleiddio’r peth, er waetha’r rhwysg, er waetha’r militraiaeth fawr fydd tu allan, pan 'dach chi’n dod i’r Eglwys, o flaen Duw maen nhw, ac o flaen Duw 'dan ni gyd yr un fath.

    "Ac yn hynny o beth, yn y gwasanaeth, cofio ydy’r pwyslais, cofio’i chyfraniad hi nid yn unig yn Lloegr, a Chymru, a’r Alban a thrwy’r byd, ond cofio’i chyfraniad hi hefyd i sefydlogrwydd ein cymdeithas ni ar hyd y blynyddoedd.

    "Ond yn fwy na dim byd arall, gwasanaeth angladd ydy gwasanaeth i gydymdeimlo efo’r teulu, ac i gofio’r teulu ac i lapio am y teulu.

    "Ac efallai y dylwn ni gofio hynny achos y geiriau sydd wedi aros efo fi oedd geiriau Y Frenhines Elizabeth yr II i gyn-Archesgob Efrog, Sentamu: 'peth mor anodd ydy galaru’n gyhoeddus'.

    "A dwi’n meddwl y dylan ni heddiw fod yn cofio’r teulu sydd yn galaru, ac yn galaru’n gyhoeddus iawn, iawn."

    coffin
  9. Tywysog George a'r Dywysoges Charlotte yn yr angladdwedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    George, Charlotte, Tywysoges Cymru a'r Frenhines GydweddogFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe gyrhaeddodd y Tywysog George a'i chwaer, y Dywysoges Charlotte, gyda Thywysoges Cymru a'r Frenhines Gydweddog

  10. Aelodau blaenllaw o'r teulu brenhinol yn dilyn yr archwedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae aelodau blaenllaw o'r teulu brenhinol yn dilyn yr arch - yn eu plith y Brenin newydd, y Tywysog William a'r Tywysog Harry.

    Yn arwain yr orymdaith mae drymiau a phibau catrodau yr Alban ac Iwerddon, aelodau o'r Llu Awyr Brenhinol a'r Gurkhas.

    Yn sefyll mewn rhesi ar y ffordd mae aelodau o'r Llynges Frenhinol a'r Môr-filwyr Brenhinol.

    Ers marwolaeth ei fam ar 8 Medi mae'r Brenin newydd wedi cael cyfnod hynod o brysur wrth iddo ymweld â'r gwledydd datganoledig - ddydd Gwener roedd yng Nghaerdydd.

    Charles yng nghaerdyddFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Ddydd Gwener roedd y Brenin newydd yng Nghaerdydd

  11. Gadael Neuadd Westminster am y tro diwethafwedi ei gyhoeddi 10:46 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    gfx

    Ar hyn o bryd mae Arch y Frenhines yn cael ei chludo o Neuadd Westminster i Abaty Westminster.

    Mae'n cael ei chario ar Gerbyd Gynnau y Llynges Frenhinol - cerbyd sy'n cael ei dynnu gan 142 o forwyr.

    Y tro diwethaf i'r cerbyd gael ei ddefnyddio oedd yn 1979 yn angladd ewythr Dug Caeredin, yr Arglwydd Mountbatten.

    Cafodd hefyd ei ddefnyddio yn angladd tad y frenhines, George V1, yn 1952 - roedd Tudor Noakes o Fwlch-llan yn Ngheredigion, brawd y diweddar Archesgob George Noakes, yn o'r cludwyr yn yr angladd.

    Mountbatten
    Disgrifiad o’r llun,

    Y tro diwethaf i Gerbyd Gynnau y Llynges Frenhinol gael ei ddefnyddio oedd yn angladd yr Arglwydd Mountbatten

  12. 'Rhyfedd o dawel' ger Abaty Westminster ben borewedi ei gyhoeddi 10:46 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Disgrifiad,

    Distaw ger Abaty Westminster fore Llun

    Yn Abaty Westminster fydd rhan gyntaf yr angladd.

    Yn ôl Rhodri Llywelyn, roedd hi'n "rhyfedd o dawel" yno ben bore.

    Mae'r drysau wedi agor fel y gall gwesteion gyrraedd yn brydlon.

    Bydd y gwasanaeth i 2,000 o bobl yn dechrau yno am 11:00.

  13. Y Brenin Charles wedi cyrraeddwedi ei gyhoeddi 10:42 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Brenin Charles

    Bydd y Brenin Charles yn dilyn yr arch gyda'i deulu i mewn i Abaty Westminster.

  14. Derbyn corff y Frenhines a mynd i'w hangladd "yn fraint"wedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    yr archFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae cyfnod gorffwys y Frenhines yn Neuadd Westminster bron ar ben - oddeutu 10:44 bydd ei harch yn cael ei chludo i Abaty Westminster.

    Roedd y cyn-Dwrnai Cyffredinol,yr Arglwydd John Morris, ymhlith y rhai a fu'n derbyn corff y Frenhines Elizabeth II yn swyddogol i Neuadd Westminster a bydd hefyd yn mynd i ail ran angladd y Frenhines.

    Fe wnaeth yr Arglwydd Morris gwrdd â'r Frenhines sawl gwaith, a dywedodd bod ganddi'r ddawn o fod yn "ffurfiol ac anffurfiol".

    Roedd yn cofio un achlysur wrth deithio ar awyren o Gaernarfon i Lundain tra'n eistedd drws nesaf i'r Frenhines.

    "Fe holodd hi fi'n fanwl ac yn gwrtais am y tri chwater awr y parodd y siwrnai am fy mholisïau," eglurodd yr Arglwydd Morris.

    "Roedd ganddi ddiddordeb byw yn beth oedd yn digwydd o'i chwmpas."

    Ef oedd hefyd yn goruchwylio dathliadau Jiwbilî Arian y Frenhines yng Nghymru.

    "Rwy'n meddwl mai'r amser gorau gafodd hi oedd awr fach dawel yng Ngerddi Bodnant yng nghanol y blodau heb neb i darfu arni," dywedodd.

    Mae'n cofio'r Frenhines Elizabeth II fel rhywun oedd yn "agos iawn atoch chi".

    Disgrifiad,

    Stori o cael sgwrs gyda'r Frenhines ar awyren wrth deithio o Gaernarfon.

  15. Canu'r gloch am bob blwyddyn o fywyd y Frenhineswedi ei gyhoeddi 10:38 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Ar hyn o bryd mae cloch denor Abaty Westminster yn canu unwaith bob munud - mae'r clychau yn canu unwaith ar gyfer bob blwyddyn o oes y Frenhines (96).

    Bydd y clychau yn dod i ben ryw funud cyn gwasanaeth yr Angladd Gwladol am 11.

    Ar ddiwedd y gwasanaeth fe fydd dwy funud o dawelwch - mae disgwyl i hynny fod ddwy funud cyn hanner dydd.

    Abaty WestminsterFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Yr olygfa o'r Mall fore Llunwedi ei gyhoeddi 10:36 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Ein gohebydd Steffan Messenger sydd ar y Mall fore Llun.

    Mae'n prysuro yno wrth i bobl aros i weld yr arch yn teithio i Abaty Westminster.

    Disgrifiad,

    Yr olygfa o'r Mall fore Llun

  17. Modd gweld yr angladd yma ...wedi ei gyhoeddi 10:35 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mae modd gweld yr angladd a digwyddiadau'r dydd yma - gwasgwch y botwm ar frig y dudalen hon.

    Mae yna gyfle hefyd i wrando ar raglenni arbennig Radio Cymru.

  18. Y band yn gorymdeithio ar drothwy'r angladd am 11wedi ei gyhoeddi 10:33 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Disgrifiad,

    Band yn chwarae ger Abaty Westminster

  19. Y Prif Weinidog Liz Truss wedi cyrraeddwedi ei gyhoeddi 10:30 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Liz Truss

    Mae Liz Truss wedi cyrraedd yr Abaty. Mae cyn brif weinidogion y DU yno hefyd.

  20. Neges Prif Weinidog Cymru ar drothwy'r angladd gwladolwedi ei gyhoeddi 10:26 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2022

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford yn Abaty Westminster

    Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn ei sedd ar ôl cyrraedd yr Abaty gyda Phrif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter