Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau gan ASau yn fuan ar ôl i Rishi Sunak ddod yn brif weinidog y DU.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich+1 25 Hydref 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto ar ôl toriad hanner tymor yr hydref.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Diwrnod Strôc y Bydwedi ei gyhoeddi 14:42 Amser Safonol Greenwich+1 25 Hydref 2022

    Mae'r prif weinidog yn ymuno â'r Ceidwadwr Paul Davies i dynnu sylw at Ddiwrnod Strôc y Byd a gynhelir ar Hydref 29 bob blwyddyn.

    Dywed Mr Davies “yn ardal fy mwrdd iechyd, roedd cyfradd y thrombectomi yn 2020-21 yn 0.15 y cant, sy’n golygu bod llawer rhy ychydig o gleifion strôc yn gallu cael un, ac eto, rydyn ni’n gwybod y gall y driniaeth hon wneud gwahaniaeth mawr a lleihau'n sylweddol y siawns o anableddau, fel parlys, dallineb neu anawsterau cyfathrebu".

    Mae'r prif weinidog yn dweud y bu "datblygiadau sylweddol iawn ... yn ddiweddar yn y triniaethau sydd ar gael i gleifion strôc".

    Strôc
  3. Dolydd blodau gwylltwedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich+1 25 Hydref 2022

    Dywed y Ceidwadwr Gareth Davies bod nifer o etholwyr wedi cysylltu ag ef dros yr haf "sy'n bryderus iawn am rai o'r defnydd a wneir o ddolydd blodau gwyllt mewn ardaloedd preswyl adeiledig. Nawr, gallaf yn sicr weld budd dolydd blodau gwyllt a'r effeithiau cadarnhaol yn hyrwyddo bioamrywiaeth a bywyd gwyllt yn sir Ddinbych, ond a fyddech yn ymuno â mi, brif weinidog, i alw ar sir Ddinbych ac awdurdodau lleol i fabwysiadu ymagwedd fwy synnwyr cyffredin at brosiectau o’r fath?"

    Mae'r prif weinidog yn llongyfarch prosiect blodau gwyllt Sir Ddinbych am greu "bron i 50 erw o ddolydd brodorol o darddiad lleol ar draws y sir. Mae hynny'n gyflawniad arwyddocaol iawn. Mae'n gyfraniad go iawn i gynnal bioamrywiaeth."

    Ychwanega'r prif weinidog, "Wnes i ddim dychmygu'r prynhawn yma y bydden ni'n clywed bod plaid y Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn blodau".

    Prosiect Dolydd Blodau GwylltFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych
    Disgrifiad o’r llun,

    Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt

  4. Rhaglen prentisiaethau graddwedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 25 Hydref 2022

    Mae'r prif weinidog a'r Ceidwadwr Laura Anne Jones yn cyfnewid ystadegau am raglen prentisiaethau gradd Llywodraeth Cymru.

    Mae prentisiaethau gradd yn rhan o nod Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y prentisiaethau lefel uwch.

    Dywed Laura Anne Jones "rydym yn gweld niferoedd isel o ddynion gwyn dosbarth gweithiol yn cael eu derbyn i'r brifysgol. Sut yn union ydych chi'n ceisio unioni'r sefyllfa?"

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “mae’r rhaglen prentisiaeth gradd wedi’i chynllunio i ganolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae gennym ni anghenion penodol yn economi Cymru, gyda gweithgynhyrchu digidol, ynni a gweithgynhyrchu uwch yn eu plith—meysydd lle mae menywod yn hanesyddol wedi’u tangynrychioli ond dynion gwyn ifanc sydd i raddau helaeth iawn yn y mwyafrif. Ac, er gwaethaf ein hymdrechion i ddenu merched ifanc i'r meysydd hynny drwy'r rhaglen prentisiaeth gradd, mae hynny'n parhau i fod yn wir."

    Laura Anne Jones
  5. Galwad ffôn gyda rhif 10wedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 25 Hydref 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn nodi bod Mr Drakeford wedi dweud na chafodd wahoddiad i siarad â Liz Truss yn ystod ei chyfnod wrth y llyw.

    Mae'n awgrymu bod y prif weinidog yn dangos menter ac yn ffonio Rishi Sunak.

    Dywed Mr Price pan fydd y ddau arweinydd yn siarad, y dylai Mr Drakeford "danlinellu mai'r un peth na ddylai Mr Sunak ei wneud yn ei gyllideb Calan Gaeaf yw tywys i mewn gyfnod newydd o galedi, a phlymio'r economi i ddirwasgiad, pobl i mewn i dlodi a'n gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, i mewn i argyfwng dyfnach fyth."

    Mae’r prif weinidog yn ateb “Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd cyswllt cynnar gan y weinyddiaeth ddiweddaraf, ac os oes, yna gallwch fod yn sicr y byddaf am gael perthynas adeiladol gyda’r prif weinidog newydd.

    "Os caf gyfle, bydd cyfres o bethau y byddaf am eu rhoi yn gynnar ar ei restr o flaenoriaethau. Dyfodol y Deyrnas Unedig ei hun—fe fyddaf yn ei atgoffa mai Llywodraeth Cymru yw'r unig lywodraeth unoliaethol ddiamwys arall y bydd ganddo gysylltiad â hi, a byddwn am weithio gydag ef i wneud yn siŵr bod dyfodol llwyddiannus i’r Deyrnas Unedig.

    "Rwyf am siarad ag ef am rai materion unigol sy'n bwysig yma yng Nghymru, dyfodol Tata Steel, er enghraifft."

    Adam Price
  6. Apwyntiadau meddyg teuluwedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 25 Hydref 2022

    Yr wythnos diwethaf, fe ffrwydrodd Mark Drakeford mewn dicter wrth wynebu cwestiynau gan Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, am amseroedd aros hir ambiwlansys.

    Mae Mr Davies nawr yn gofyn am anawsterau o ran cael apwyntiadau meddyg teulu - "Rwyf wedi gweld bod ymrwymiadau mewn rhannau eraill o'r DU wedi'u gwneud, os oes angen apwyntiad meddyg teulu ar rywun, y byddant yn ei gael o fewn dau ddiwrnod. A ydych yn barod i wneud ymrwymiad tebyg yma yng Nghymru?"

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "nid oes unrhyw sicrwydd o gwbl y bydd yr addewid hwnnw'n cael ei gyflawni. Rwyf wedi ei glywed yn cael ei wneud gan weinidogion iechyd Ceidwadol dro ar ôl tro dros fwy na degawd."

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod gan feddygon teulu "gefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru" wrth wynebu "penwyntoedd sylweddol iawn, iawn o ran gallu darparu’r gwasanaeth i bawb yn y ffordd y byddem yn dymuno gwneud hynny”.

    Dywed hefyd nad yw tua 1,000 o staff y GIG yng Nghymru mewn gwaith oherwydd Covid.

    Andrew RT Davies
  7. Etholiad yn 'anghenraid democrataidd ac economaidd'wedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 25 Hydref 2022

    Ynghylch y ffaith mai Rishi Sunak bellach yw 57fed prif weinidog y DU, dywed Mr Drakeford bod y "wlad angen etholiad cyffredinol" y mae'n ei ddisgrifio fel "anghenraid democrataidd ac economaidd".

    Rishi Sunak
    Disgrifiad o’r llun,

    Mr Sunak y tu allan i Downing Street ar ôl gorffen ei araith gyntaf fel prif weinidog.

  8. Dim ffordd liniaru i'r M4wedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 25 Hydref 2022

    Mae'r Ceidwadwr Altaf Hussain yn tynnu sylw at "y tagfeydd parhaus ar yr M4 yn nhwneli Brynglas yng Nghasnewydd".

    Mae'r prif weinidog yn ateb na fydd yn ailedrych ar y mater o adeiladu ffordd liniaru i'r M4. Dywed fod y mater wedi ei setlo yn yr etholiad diweddaf.

    Ychwanegodd, "yr hyn yr ydym yn ei wneud yw ein bod yn bwrw ymlaen â chynigion comisiwn Burns, sef cyfres o gamau ymarferol y gellir eu cymryd i fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4. Byddwn yn cwblhau'r gwaith o ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd, a fydd yn golygu y bydd traffig trwm sy'n dod o Ganolbarth Lloegr yn gallu mynd yn syth i dde-orllewin Cymru heb orfod dod i lawr a mynd trwy Gasnewydd".

    M4
  9. Galw am godi budd-daliadau yn unol â chwyddiantwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 25 Hydref 2022

    Mae'r prif weinidog unwaith eto yn galw am uwchraddio budd-daliadau yn unol â chwyddiant, "byddai hynny'n newyddion da i'r teuluoedd tlawd hynny yng Nghymru".

    Fodd bynnag, ychwanega, "hyd yn oed os caiff budd-daliadau eu huwchraddio yn unol â chwyddiant, yna dywed y Resolution Foundation y bydd tlodi plant ar draws y Deyrnas Unedig yn codi i 34 y cant—yr uchaf ers dros 20 mlynedd".

    Mark Drakeford
  10. Tlodi plantwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 25 Hydref 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae Sioned Williams o Blaid Cymru yn gofyn ynghylch mesurau Llywodraeth Cymru i drechu tlodi plant.

    Roedd Llywodraeth Cymru wedi targedu dileu tlodi plant erbyn 2020, ond cafodd y targed ei ddileu yn 2016.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb, "rydyn ni yng nghanol argyfwng tlodi, ac yn gwneud popeth y gallwn ni ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys plant. Eleni, drwy raglenni sy’n amddiffyn cartrefi sydd dan anfantais, a chynlluniau sy’n rhoi arian nôl ym mhocedi pobl, rydyn ni wedi darparu gwerth £1.6 biliwn o gymorth."

    Ychwanegodd fod y gweinidog cyfiawnder cymdeithasol wedi ymrwymo i gyhoeddi strategaeth tlodi plant ar ei newydd wedd.

    Dywed Sioned Williams bod "Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun y bobl a fyddai'n gwneud i'r pecyn cyflog fynd ymhellach, ymestyn prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd a chynyddu lwfans cynhaliaeth addysg".

    Sioned Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Sioned Williams

  11. Croesowedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 25 Hydref 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o wythfed sesiwn ar hugain y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.