Crynodeb

  • Y Trefnydd Lesley Griffiths yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog Mark Drakeford, sydd wedi cael Covid.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich 8 Tachwedd 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Swyddogion cyswllt y lluoedd arfogwedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich 8 Tachwedd 2022

    Mae Llywodraeth Cymru yn "gwbl ymrwymedig i barhau i ariannu ein swyddogion cyswllt y lluoedd arfog," meddai'r Trefnydd wrth ymateb i'r Ceidwadwr Darren Millar sy'n ceisio'r sicrwydd hwnnw.

    Dywed Mr Millar “maen nhw wedi bod yn ychwanegiad anhygoel i’r tîm gwych sydd wedi cefnogi cymuned ein lluoedd arfog ledled Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, ac maen nhw’n gwneud gwaith gwych i sicrhau bod awdurdodau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill yn cynnal cyfamod y lluoedd arfog.”

  3. Brexit a'r amgylcheddwedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich 8 Tachwedd 2022

    Mae'r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn gofyn "pam nad yw eich llywodraeth wedi rhoi blaenoriaeth i weithredu'r corff goruchwylio llywodraethu amgylcheddol statudol a addawodd eich llywodraeth yn ystod tymor diwethaf y Senedd? Pam ydych chi wedi methu ar hyn, Trefnydd?"

    Mae'r Trefnydd yn ateb "pe na fyddem wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ni fyddai gennym unrhyw fylchau yn ein llywodraethu amgylcheddol".

    Janet Finch-Saunders
    Disgrifiad o’r llun,

    Janet Finch-Saunders

  4. Fferyllfeydd cymunedolwedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich 8 Tachwedd 2022

    O ran rôl “hanfodol” fferyllfeydd cymunedol wrth wella iechyd trigolion, dywed Lesley Griffiths fod y contract fferylliaeth newydd, Presgripsiwn Newydd, a gyflwynwyd ar 1 Ebrill, “wedi ehangu’r ystod o wasanaethau clinigol y gall pob fferyllfa eu darparu, gan leihau’r galw ar feddygon teulu a chefnogi mynediad at driniaeth heb fod angen aros am apwyntiad”.

    Mae'n tynnu sylw at eu rôl bresennol o ran darparu brechlynnau ffliw.

    Roedd y gweinidog yn ymateb i Sioned Williams o Blaid Cymru, a ddywedodd “dros y ddegawd ddiwethaf, mae gwasanaethau a ddarperir gan fferyllfeydd cymunedol wedi cynyddu, ond mae niferoedd y fferyllfeydd cymunedol wedi aros yn weddol sefydlog”.

    Lesley Griffiths
    Disgrifiad o’r llun,

    Lesley Griffiths

  5. 'Arafu wedi bod yn natblygiad ynni adnewyddadwy'wedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich 8 Tachwedd 2022

    Wrth i arweinwyr y byd drafod gweithredu i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn uwchgynhadledd hinsawdd COP27 yn yr Aifft, mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn cwestiynu pam "fel yr adroddwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, mae yna arafu wedi bod mewn datblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru ers 2015"?

    Mae'r Trefnydd yn ateb "rydym yn sicr wedi cynyddu'n sylweddol faint o ynni adnewyddadwy rydym yn ei gynhyrchu yma yng Nghymru. Nid oes gennyf y ffigur wrth law, ond yn sicr roeddem wedi gweld cynnydd, roeddwn i'n meddwl, flwyddyn ar ôl blwyddyn, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf".

    Mae Mr Price yn galw ar Lywodraeth Cymru i "efelychu'r llwyddiant yr ydym wedi'i weld yn yr Alban. Mae gennym y potensial, ond nid ydym, hyd yma o leiaf, wedi gallu ei wireddu".

    Mae arweinydd Plaid Cymru hefyd yn galw ar y prif weinidog i ailystyried mynychu Cwpan y Byd yn Qatar, gan ddweud y byddai’n anfon y “neges anghywir” i Mark Drakeford fynd yno. Daw ei safiad yn dilyn sylwadau gan lysgennad Cwpan y Byd Qatar, Khalid Salman fod bod yn hoyw yn "niwed yn y meddwl".

    Atebodd y Trefnydd, "ni allaf ateb y cwestiwn a fydd y prif weinidog yn ailystyried ei bresenoldeb oherwydd, yn amlwg, ni allaf siarad ag ef - mae'n sâl - ond rwy'n siŵr y bydd ei swyddfa wedi clywed eich cwestiynau".

    COP27Ffynhonnell y llun, Reuters
  6. Cwpan y Bydwedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich 8 Tachwedd 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn dweud ei fod yn cytuno â phenderfyniad y Prif Weinidog Mark Drakeford i fynd i Gwpan y Byd Qatar er gwaethaf boicot gan arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer.

    Ond mae'n dweud ei fod yn gresynu at y penderfyniad na fydd y Dirprwy Weinidog Chwaraeon Dawn Bowden nawr yn mynychu gêm Cymru yn erbyn Iran yng Nghwpan y Byd.

    Dywed Mr Davies “Rwy’n meddwl y byddai hynny’n arwydd cadarnhaol—anfon menyw i chwarae [sic] yn erbyn gwlad sydd yn y pen draw yn gormesu hawliau menywod—a’r hyn y dylem fod yn ei wneud yw cael dirprwy weinidog yn cynrychioli Llywodraeth Cymru yn y gêm honno. A gawn ni weld a ellir diddymu’r penderfyniad hwnnw, ac yn y pen draw anfon neges gadarnhaol fod menywod a dynion yma yng Nghymru yn gyfartal a hawliau’n cael eu parchu, ac y dylai hynny fod ar draws y byd?"

    Atebodd Lesley Griffiths, "fel llywodraeth, rydym yn adolygu'n rheolaidd sut orau y gallwn hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd-eang, a'n penderfyniad yw ei bod yn gymesur i'r prif weinidog a gweinidog arall fynychu dwy o'r gemau grŵp. Os byddwn yn symud ymlaen, ac rydym i gyd yn sicr yn gobeithio y bydd Cymru yn symud ymlaen drwy’r gemau grŵp ac ymlaen i’r cam nesaf, byddwn yn ystyried presenoldeb priodol gweinidogion yn y gemau hynny.”

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. Pobl ifanc a'r argyfwng hinsawddwedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich 8 Tachwedd 2022

    Mae Delyth Jewell o Blaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys pobl ifanc mewn penderfyniadau sy'n ymwneud â mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

    Mae hi'n dweud bod lleisiau pobl ifanc "yn ystyfnig o absennol o gymaint o benderfyniadau ar y mater hwn fydd yn llywio gweddill eu bywydau".

    Mae'r Trefnydd Lesley Griffiths yn cyfeirio at ddigwyddiad COP ieuenctid Cymru, sydd wedi’i fodelu ar uwchgynadleddau y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd.

    Wedi’i drefnu gan elusen Maint Cymru, dolen allanol - sydd wedi’i hariannu yn rhannol gan Lywodraeth Cymru - mae’r digwyddiad deuddydd hwn yn "cynnig cyfle i bobl ifanc brofi digwyddiad newid hinsawdd ar raddfa fawr", medd y trefnwyr.

    Climate change
  8. 'Unwaith eto yn adeiladu tai cyngor'wedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich 8 Tachwedd 2022

    "Mae'n dda gweld cyngor Caerffili yn adeiladu tai cyngor unwaith eto," meddai Lesley Griffiths.

    Roedd hi'n ymateb i'w chydweithiwr Llafur Hefin David a ddywedodd fod adeiladu tai cyngor "am y tro cyntaf ers cenhedlaeth... yn rhywbeth dwi'n meddwl y dylid ei ganmol yn anfesuradwy".

    Ychwanega’r Trefnydd, “Rwy’n meddwl bod llawer o arbenigedd wedi’i golli dros y 30 mlynedd diwethaf mewn perthynas ag adeiladu tai cyngor, ac mae wedi bod yn dda gweld ein partneriaid yn dod at ei gilydd ledled y wlad mewn perthynas â hynny”.

  9. Y Trefnydd yn mynychu ar ran y prif weinidogwedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich 8 Tachwedd 2022

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cael prawf positif am Covid-19 am yr eildro, yn ôl Llywodraeth Cymru.

    Mewn datganiad dywedodd y llywodraeth fod Mr Drakeford, 68, yn gweithio o adref.

    Dyma'r ail waith iddo ddal yr haint, wedi iddo hefyd gael prawf positif fis Chwefror eleni.

    Y Trefnydd Lesley Griffiths sy'n mynychu sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar ei ran.

    Y tro diwethaf i'r Trefnydd ateb cwestiynau ar ran y prif weinidog oedd ar 27 Medi pan ddewisodd ef yn lle hynny ymweld â’r Alban i gwrdd â Nicola Sturgeon.

    Bryd hynny atebodd Lesley Griffiths 10 cwestiwn mewn 45 munud. “Da iawn” ymatebodd y Llywydd Elin Jones, a awgrymodd fod y Trefnydd yn rhoi “tiwtorial i’r Cabinet ar sut i roi atebion cryno mewn cwestiynau llafar”.

    Mae'r Llywydd yn gwerthfawrogi "atebion cryno"
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Llywydd yn gwerthfawrogi "atebion cryno"

  10. Croesowedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 8 Tachwedd 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o nawfed sesiwn ar hugain y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.