Crynodeb

  • Rob Page wedi cyhoeddi enwau'r 26 o chwaraewyr fydd ar yr awyren i Qatar

  • Y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn ardal enedigol Page - Pendyrus yng Nghwm Rhondda

  • Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru gystadlu yng Nghwpan y Byd ers 1958

  • Bydd gêm gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth yn erbyn UDA ar 21 Tachwedd

  1. Diolch am ddilyn!wedi ei gyhoeddi 20:30 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Diolch am ddilyn ein llif byw wrth i ni ddarganfod y 26 o chwaraewyr lwcus fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar 2022.

    Anodd credu mai dim ond 11 diwrnod sydd yna nes dechrau'r gystadleuaeth, a 12 diwrnod tan gêm gyntaf Cymru yn y bencampwriaeth ers 64 o flynyddoedd!

    Cofiwch y bydd modd dilyn pob un o gemau Cymru ar lif byw Cymru Fyw.

    A rhag ofn eich bod chi angen eich atgoffa o'r garfan, dyma blant y Rhondda i daflu goleuni ar y sefyllfa!

    Disgrifiad,

    Carfan Cymru gan blant y Rhondda

  2. Page yn llawn canmoliaeth o'r rheiny a ddaeth o'i flaenwedi ei gyhoeddi 20:25 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Roedd Page yn llawn canmoliaeth o'r rheolwyr a ddaeth o'i flaen wrth iddo siarad ar lwyfan Neuadd Les Tylorstown.

    Dywedodd fod John Toshack yn iawn i ddod â chwaraewyr ifanc trwyddo yn hytrach na chwarae’r chwaraewyr hŷn - oedd yn ei gynnwys ef ar y pryd!

    Bu hefyd yn canmol gwaith Gary Speed, Chris Coleman a Ryan Giggs i barhau gyda’r gwaith, a rhoi’r sail i ble mae'r tîm wedi cyrraedd heddiw.

    Dywedodd hefyd ei fod wedi gwneud camgymeriad a achosodd dipyn o bryder i'r ymosodwr Mark Harris yr wythnos hon!

    Ar ddamwain, fe ffoniodd Harris yn hytrach na Mark Evans - un o staff y gymdeithas bêl droed - cyn rhoi'r ffôn i lawr ar ôl sylweddoli. Fe wnaeth Harris yna ffonio 'nôl mewn panig, yn poeni nad oedd yn rhan o'r garfan!

    “Nes i ddweud wrtho fe ‘paid poeni, ti mewn’!”

    Ychwanegodd y bydd Luke Harris a Jordan James yn teithio gyda charfan Cymru i Qatar wrth gefn, gyda'r gobaith y bydd hynny'n brofiad i’r ddau chwaraewr ifanc cyn yr ymgyrch nesaf.

    PageFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Cyngor i osgoi anafiadau ar y penwythnos olaf...wedi ei gyhoeddi 20:16 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Bydd y garfan yn ymgynnull ddydd Sul - ond cyn hynny bydd mwyafrif y chwaraewyr yn chwarae dros eu clybiau.

    Gydag anafiadau yn dal yn bosib, roedd gan Iwan Roberts air o gyngor ar Newyddion S4C: "Lapio'u hunain mewn gwlân cotwm, dyna di'r peth callaf i'w 'neud!"

    Joe AllenFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae ansicrwydd yn parhau a fydd Joe Allen yn holliach ar gyfer y gêm gyntaf yn erbyn UDA

  4. Rob Page yn gobeithio 'cael y gorau allan o chwaraewyr'wedi ei gyhoeddi 20:13 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Yn siarad ar y llwyfan bu Page yn sôn am ei ddylanwad mwyaf fel rheolwr, gan enwi cyn-reolwr Lloegr, Graham Taylor.

    “Roedd e’n gwybod pryd i gael hwyl a phryd i gymryd pethau o ddifrif,” meddai, gan ychwanegu ei fod yn ceisio gwneud yr un peth gyda Chymru.

    Ychwanegodd fod ei brofiad cyntaf fel hyfforddwr yn Port Vale wedi bod yn brofiad gwerthfawr. Aeth y clwb i'r wal, gan olygu nad oedden nhw'n gallu talu chwaraewyr yn iawn.

    “Roedd hwnna’n brofiad gwerthfawr iawn mewn sut i ysgogi chwaraewyr i berfformio hyd yn oed pan oedd pethau’n mynd o chwith - ac fe gaethon ni ddyrchafiad y tymor yna.”

    Ychwanegodd fod y profiad yna, er yn wahanol iawn, hefyd wedi bod yn ddefnyddiol fel rheolwr Cymru.

    “Does gyda ni ddim y pŵl mwyaf o chwaraewyr, felly mae’n rhaid i ni neud y mwyaf o beth sydd gyda ni a chael y gorau allan o chwaraewyr fel yna.”

    PageFfynhonnell y llun, PA Media
  5. Yma o Hyd gan gefnogwyr Cymru yn Tylorstownwedi ei gyhoeddi 20:11 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Tra'n disgwyl i Rob Page ddod i'r llwyfan cafodd y fersiwn newydd o Yma o Hyd ei chwarae yn Neuadd Les Tylorstown.

    Doedd y cefnogwyr methu helpu eu hunain rhag ymuno yn y canu!

    Disgrifiad,

    Yma o Hyd

  6. 'Siom' na chafodd Oli Cooper ei ddewiswedi ei gyhoeddi 20:05 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Roedd tipyn o drafod a fyddai Oli Cooper o Abertawe ymhlith 26 Page heno - er nad oes gan yr ymosodwr ifanc unrhyw gapiau dros ei wlad.

    "Dwi ychydig yn siomedig nad ydy Oli Cooper yno," meddai Kath Morgan ar BBC Radio Cymru.

    "A oes gennym ni ddigon o ansawdd yn yr attacking third i sgorio? Gallwn ni ddim bod yn or-ddibynnol ar Gareth Bale - gall hynny ddim digwydd bellach."

    Oli CooperFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    A oeddech chi'n gobeithio gweld Oli Cooper yn cael gwisgo crys coch Cymru?

  7. Page yn 'aros yn driw' i'r chwaraewyr profiadolwedi ei gyhoeddi 20:00 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Yn siarad gyda gohebydd pêl-droed BBC Cymru Rob Phillips ar BBC Radio Wales dywedodd Rob Page fod teyrngarwch yn golygu llawer iddo.

    "Rydw i am aros yn driw i'r chwaraewyr sydd wedi haeddu eu lle yn y garfan," meddai.

    "Mae rhai o'r grŵp wnaeth ein cymryd i rownd gynderfynol 2016 dal gyda ni - yr unig beth ar goll o'u CV ydy mynd i Gwpan y Byd.

    "Pwy ydw i i ddweud nad ydyn nhw wedi ennill yr hawl i fod yno?"

    ChwaraewyrFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  8. 'Cysylltiad gwell nag erioed rhwng y garfan a'r cefnogwyr'wedi ei gyhoeddi 19:56 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Yn siarad ar y llwyfan roedd Rob Page yn emosiynol wrth siarad am ba mor arbennig oedd dod 'nôl adref heddiw ar gyfer y cyhoeddiad.

    “I weld y buzz mae hwn wedi ei roi i blant, ac i oedolion, mae e wedi bod yn ffantastig," meddai.

    Ychwanegodd fod cysylltiad gwell nag erioed rhwng y garfan a'r cefnogwyr, a bod y fideo ar gyfer y fersiwn newydd o Yma o Hyd yn enghraifft o hynny.

    “Fi wedi gwylio’r fideo ‘na wyth gwaith yn barod, a fi wedi crïo bob tro fi’n ei wylio!" meddai.

    “Fi erioed wedi gweld cysylltiad rhwng y cefnogwyr a’r tîm fel sydd ‘na erbyn heddiw.”

    Page
  9. Tom Lockyer yn 'haeddu ei le yn y garfan'wedi ei gyhoeddi 19:51 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Un sydd heb chwarae i Gymru ers 2021 ond sydd wedi’i enwi yna garfan yw Tom Lockyer.

    Mae Rob Page wedi bod yn egluro’r rheswm dros enwi’r amddiffynnwr yn y garfan ar ôl cadarnhau absenoldeb Rhys Norrington-Davies oherwydd anaf.

    “Mae’n ergyd fawr i Rhys Norrington-Davies,” meddai wrth BBC Radio Wales.

    “Dwi wedi siarad gydag e ac roedd yn siomedig iawn gan ei fod wedi chwarae’n arbennig yn ddiweddar.

    “Mae’n gallu chwarae mewn mwy na un safle ble rydym ychydig yn brin.

    “Roeddwn yn meddwl os bydden ni’n colli amddiffynnwr canol arall y bydden ni’n wannach yn y safle penodol yna.

    “Rwyf wedi siarad gyda Nathan Jones [rheolwr Luton] ac roedd yn ganmoladwy iawn ynglŷn â sut oedd Locks yn chwarae. Mae wedi haeddu ei le yn y garfan."

    LockyerFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  10. Page 'wedi gwobrwyo chwaraewyr'wedi ei gyhoeddi 19:49 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Fe wnaeth Page addo y byddai'r chwaraewyr oedd yn gyfrifol am gyrraedd Cwpan y Byd yn cael eu gwobrwyo, "a dyna'n union mae o wedi ei wneud," yn ôl cyn-amddiffynwr Cymru, Kath Morgan.

    "Mae'n rhaid i ni ymddiried yn ei benderfyniadau, a gobeithio y byddan nhw'n arwain at lwyddiant yng Nghwpan y Byd," meddai ar BBC Radio Cymru.

    Rob Page
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd angen ymddiried ym mhenderfyniadau Rob Page, medd Kath Morgan

  11. Y prif weinidog yn ymuno â'r cyffrowedi ei gyhoeddi 19:45 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Roedd yna gryn cyffro ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'r cyhoeddiad - gan gynnwys neges o longyfarchiadau gan y Prif Weinidog Mark Drakeford.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. 'Tom Bradshaw yn anlwcus i fethu mas'wedi ei gyhoeddi 19:43 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Fe fyddai Jack Bethell o Dreorci wedi hoffi gweld ymosodwr Millwall, Tom Bradshaw, wedi'i gynnwys yn y 26.

    "Fi'n meddwl bod Tom Bradshaw yn anlwcus i fethu mas," meddai Jack, oedd yn y neuadd ar gyfer y cyhoeddiad.

    "Nes i weld e wythnos o'r blaen yn cael hat-trick yn erbyn Watford, sy'n dîm da.

    "Chi byth yn gwybod, yn erbyn Iran neu rywun fel 'na, 0-0 gyda 10 munud i fynd, gallai rhywun fel fe wneud gwahaniaeth."

    Jack Bethell
  13. 'Rhoi pob cyfle i Joe Allen fod yn ffit'wedi ei gyhoeddi 19:38 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Yn ôl Page, er bod Joe Allen yn gwella o anaf, roedd yn teimlo fod rhaid ei gynnwys yn y garfan.

    "Dyw hi ddim yn ddelfrydol a bod yn onest, ond 'dyn ni'n rhoi pob cyfle i'w gael yn ffit ac yn y tîm i ddechrau'r gêm gyntaf.

    "Mae cwpl o chwaraewyr eraill mewn sefyllfa debyg ond mae Joe wedi bod mor bwysig i mi dros y blynyddoedd diwethaf - sut rydw i eisiau chwarae a sut mae'n eistedd o flaen yr amddiffynwyr.

    "Mae'n un o'r rheiny o 2016 pan oedden nhw'n cael llwyddiant - pan roedd o'n chwarae'n dda iawn, iawn, roedd Cymru'n ennill gemau.

    "Eto, mae'n haeddu ei le yno. Fe wnes i siarad gydag e deuddydd yn ôl ac mae'n bositif ac yn edrych ymlaen."

    Joe AllenFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. 'Cystadleuaeth fwyaf yn y byd i Gymru'wedi ei gyhoeddi 19:36 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Dyma ymateb Ben Davies i gael ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. 'Tîm solid sydd wedi bod gyda'i gilydd ers blynyddoedd'wedi ei gyhoeddi 19:34 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Roedd John Noble a'i fab Jaxon, 6, yn ddau o'r rheiny oedd yn Neuadd Les Tylorstown am y cyhoeddiad.

    "Do'n i ddim yn synnu, hwnna oedd y garfan ro'n i'n disgwyl," meddai John.

    "Mae'n dîm solid sydd wedi bod gyda'i gilydd ers blynyddoedd.

    "Ro'n i wedi meddwl mynd i wylio fe'n Tenerife, ond ni'n mynd i wylio fe yn y dafarn mae'n siŵr."

    John a Jaxon
  16. Ble mae'r chwaraewyr ifanc?wedi ei gyhoeddi 19:32 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Roedd 'na drafod wedi bod a fyddai ambell un o'r chwaraewyr ifanc sydd wedi bod o gwmpas y garfan yn ddiweddar yn hawlio lle ar yr awyren i Qatar.

    Ond yn ôl Owain Llyr, fe ddaw eu cyfle nhw.

    Disgrifiad,

    Ble mae'r chwaraewyr ifanc?

  17. Page: Anodd hepgor Roberts a Matondowedi ei gyhoeddi 19:26 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Roedd penderfyniadau anodd yn anochel wrth ddewis y 26 o chwaraewyr fyddai’n teithio i Qatar, meddai Rob Page wrth S4C.

    “Tyler Roberts a Rabbi Matondo oedd y rhai anodd i fi – maen nhw wedi bod yn rhan o’r peth, mae ganddyn nhw lawer i’w gynnig, a dwi wedi gorfod gwneud penderfyniad anodd.

    "Dyw hynny ddim yn golygu nad oes ganddyn nhw ddyfodol gyda ni.

    “Ond mae'n rhaid canolbwyntio ar y 26 nawr.”

    Rabbi MatondoFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ni fydd Rabbi Matondo yn teithio i Qatar

  18. Dim gormod o anafiadau?wedi ei gyhoeddi 19:23 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Mae 'na ambell un o chwaraewyr Cymru fydd yn methu mynd i Gwpan y Byd oherwydd anafiadau, ond fel mae Lowri Roberts yn esbonio, mae 'na hefyd newyddion calonogol am rai o'r lleill.

    Disgrifiad,

    Dim gormod o anafiadau?

  19. Bale: 'Breuddwyd yw cyrraedd Cwpan y Byd'wedi ei gyhoeddi 19:20 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Mae capten Cymru, Gareth Bale wedi bod yn siarad gyda Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Catrin Heledd ar S4C.

    "Mae wedi bod yng nghefn fy meddwl ers rhai wythnosau bellach, dwi'n edrych ymlaen at Gwpan y Byd," meddai.

    "Mae'n swrreal - mae pawb yn breuddwydio am gyrraedd Cwpan y Byd.

    "Dwi'n edrych ymlaen at fynd a gwneud fy ngorau dros y cefnogwyr a dros ein gwlad."

    BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Page yn dewis yr enwau cyfarwyddwedi ei gyhoeddi 19:18 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2022

    Dyma’r ymateb o Tylorstown gan Iolo Cheung, wrth i Rob Page gyhoeddi pwy fydd yn y garfan ar gyfer Cwpan y Byd.

    Disgrifiad,

    Page yn dewis yr enwau cyfarwydd