Crynodeb

  • Mark Drakeford yn dychwelyd ar ôl colli sesiwn yr wythnos diwethaf oherwydd Covid.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich 15 Tachwedd 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Hetiau bwcedwedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich 15 Tachwedd 2022

    Gyda Chwpan y Byd pêl-droed dynion yn cychwyn y penwythnos hwn yn Qatar, mae sawl aelod o'r senedd yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth drwy wisgo eu hetiau bwced.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 2
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 3

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 3
  3. Llymder 'wedi methu'wedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich 15 Tachwedd 2022

    Wrth i’r Canghellor orffen ail becyn ariannol Llywodraeth y DU mewn llai na dau fis, mae prif weinidog Cymru yn disgrifio’r hyn y mae’n ei weld fel “degawd o arbrawf diffygiol sydd wedi methu gyda llymder yn y Deyrnas Unedig, sydd wedi ein gadael ni i gyd yn waeth ein byd nag y bydden ni wedi bod fel arall”.

    Fel enghraifft, dywed "rhwng 2010 a 2021, bob un o'r blynyddoedd hynny o dan lywodraeth Geidwadol yn San Steffan, tyfodd cynnyrch domestig gros y pen yn y Deyrnas Unedig 6 y cant yn unig mewn termau real. Tyfodd 11 y cant yn yr Almaen, tyfodd 17 y cant yn Unol Daleithiau America."

    Ddydd Iau, bydd Jeremy Hunt yn dadorchuddio ei Ddatganiad yr Hydref - Cyllideb ym mhob dim ond enw.

    Mae Mr Hunt i raddau helaeth wedi gwrthdroi polisïau ei ragflaenyddFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Mr Hunt i raddau helaeth wedi gwrthdroi polisïau ei ragflaenydd

  4. Casglu mafon ym mis Tachweddwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich 15 Tachwedd 2022

    Mae'r prif weinidog yn dweud mai atgof arall o newid hinsawdd yw ei fod wedi casglu mafon yn ei randir y mis hwn.

    Mae'n dweud bod "grant cymorth rhandiroedd Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £750,000 eleni ar draws awdurdodau lleol i helpu i wella a chynyddu'r ddarpariaeth o randiroedd".

  5. Tâl yn y sector cyhoedduswedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich 15 Tachwedd 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn codi mater tâl yn y sector cyhoeddus.

    Mae'n gofyn i'r prif weinidog a yw'n "barod i sefyll mewn undod" gydag unrhyw weithwyr yn y sector cyhoeddus sy'n cynnal streic.

    Mae'n dweud mai Llywodraeth Lafur Cymru y bydd nyrsys ac athrawon "yn streicio yn ei herbyn".

    Mae'r prif weinidog yn ateb "rwy'n cydnabod y dicter a'r siom y mae llawer o weithwyr gwasanaethau cyhoeddus yn ei brofi ar hyn o bryd. Pan fydd eich cyflog wedi'i ddal i lawr drwy ddegawd o galedi, a'ch bod bellach yn wynebu codiadau cyflog islaw lefel chwyddiant, yna mae'n gwbl ddealladwy pam mae gweithwyr yn yr amgylchiadau hynny yn teimlo yn y ffordd y maent yn ei wneud a pham eu bod yn pleidleisio i weithredu."

    Mae'n disgrifio'r cyfyng-gyngor sy'n gysylltiedig â'r ffaith bod gan ei lywodraeth "gyllideb sefydlog".

    Mae nyrsys ym mron pob un o sefydliadau GIG Cymru wedi pleidleisio i streicio dros gyflog.Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae nyrsys ym mron pob un o sefydliadau GIG Cymru wedi pleidleisio i streicio dros gyflog.

  6. Galw eto am ymchwiliad Covid yn benodol i Gymruwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich 15 Tachwedd 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn galw eto am ymchwiliad Covid yn benodol i Gymru.

    Meddai, "yr unig berson sy'n atal ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru yw chi, brif weinidog".

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn amddiffyn barn Llywodraeth Cymru mai ymchwiliad i'r DU gyfan oedd orau ar gyfer deall profiadau pobl Cymru.

    Dywed Mr Davies y bydd ei blaid yn gorfodi pleidlais i geisio sefydlu ymchwiliad pwyllgor yn y Senedd i Covid yng Nghymru.

    Mae'n gofyn i Mr Drakeford a fyddai'n chwipio ei aelodau i wrthwynebu hynny.

    Ateb Mr Drakeford yw nad oedd yn mynd i wneud sylw ar rywbeth nad yw wedi ei weld eto.

    Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn datgelu "cannoedd o filoedd o ddogfennau" i ymchwiliad Covid y DU.

    Mae pleidiau gwleidyddol wedi gwrthdaro yng Nghymru dros yr angen am ymchwiliad penodol i GymruFfynhonnell y llun, Getty Images/BBC
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ymchwiliad Covid yn benodol i Gymru

  7. 'Anghydbwysedd rhwng y galw am dai a'r cyflenwad'wedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich 15 Tachwedd 2022

    Mae yna "anghydbwysedd rhwng y galw am dai yng Nghymru a'r cyflenwad ohonyn nhw" meddai'r prif weinidog.

    Roedd yn ymateb i Heledd Fychan a ofynnodd "onid yw'n bryd cyflymu ac ehangu'r rhaglen Unnos y cytunwyd arni, ymgymryd ag addasu tai ac adeiladu tai ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen, er mwyn sicrhau bod gan blant ac oedolion gartrefi diogel ac addas?"

    Dywed y prif weinidog fod "gan brosiect Unnos ran i'w chwarae, rhan bwysig i'w chwarae, wrth ganiatáu i ni gyflymu'r gwaith o adeiladu tai fforddiadwy hirdymor i bobl ym mhob rhan o Gymru".

    Mae'r Cytundeb Cydweithio, dolen allanol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cynnwys ymrwymiad i "sefydlu Cwmni Adeiladu Cenedlaethol, Unnos, i helpu cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy".

    Tai
  8. Tanwydd hydrogen ar gyfer cerbydauwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich 15 Tachwedd 2022

    Mae'r Ceidwadwr Joel James yn gofyn beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio tanwydd hydrogen ar gyfer cerbydau modur yng Nghymru.

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford "ledled Cymru, o’r gogledd i’r de ac o’r gorllewin i’r dwyrain, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag eraill i ddatblygu cynlluniau ymarferol ar gyfer defnyddio hydrogen i ddatgarboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru.”

    Mae adroddiad ‘Hydrogen yng Nghymru, dolen allanol’ yn nodi "llwybr ar gyfer datblygu'r sector ynni hydrogen yng Nghymru". Ymhlith y cynigion mae:

    • defnyddio bysiau celloedd tanwydd
    • creu marchnad / galw cynnar am gerbydau celloedd tanwydd
    • denu diwydiant modurol allyriadau sero newydd i Gymru
    • arddangos trên / trenau celloedd tanwydd
    • ceisio datblygu cyfleoedd hydrogen ‘seiliedig ar le’ o fewn ardaloedd lleol neu ranbarthol.
    hydrogenFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich 15 Tachwedd 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o ddegfed sesiwn ar hugain y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.