a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. 'Dal digon o egni gan Loegr'

    Cymru 0-3 Lloegr

    Gwennan Harries

    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Maen nhw’n dîm trefnus iawn Lloegr - mae eu siâp nhw’n ddisgybledig iawn.

    Mae dal digon o egni gyda nhw a gwaith corfforol.

    Maen nhw'n dal i 'neud e’n anodd i ni.

  2. 'Cwestiynu Ward am y dair gôl'

    Cymru 0-3 Lloegr

    Owain Tudur Jones

    Cyn-chwaraewr Cymru ar S4C

    'Swn i yn cwestiynu Danny Ward am y dair gôl os dwi’n bod yn onest - mae ei safle fo’n wael.

    Mae chwaraewyr Cymru yn gwybod dim ond cymeriad sydd ar ôl rŵan.

    Danny Ward
  3. Joe Allen i lawr

    Cymru 0-3 Lloegr

    Mae Joe Allen wedi llwyddo i gael 80 munud dan ei felt. Ond mae'n gadael y maes gyda Rubin Colwill yn cymryd ei le.

    Fe lwyddodd i gerdded oddi ar y maes, ond doedd Allen ddim i weld yn gwbl hapus gyda'i ffitrwydd.

  4. 'Ddim yn gorfforol agos at Loegr'

    Cymru 0-3 Lloegr

    Kath Morgan

    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Ni 'di colli Neco Williams yn gynnar, ni 'di gorfod newid safleoedd ac yn y blaen.

    Mae hynny o bosib wedi effeithio ar Gymru.

    Ond 'dan ni ddim yn gorfforol yn agos at Loegr, nac yn dechnegol - ac mae hynny'n ffaith.

  5. 'Heb weld diwedd y sgorio'

    Cymru 0-3 Lloegr

    Iwan Roberts

    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Gas genna i i'w ddweud o, ond dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi gweld diwedd ar y sgorio gan Loegr.

    Lloegr
  6. Dim hat-tric i Rashford

    Cymru 0-3 Lloegr

    Mae Jack Grealish yn dod i'r maes yn lle Marcus Rashford.

    Bydd amddiffynwyr yn falch o'i weld yn gadael.

    Yn y cyfamser mae Harry Wilson yn dod i'r maes i Gymru yn lle Dan James.

    Llai na chwarter awr o'r 90 munud sy'n weddill.

  7. 'Un seren ar ôl y llall gan Loegr'

    Cymru 0-3 Lloegr

    Nic Parry

    Sylwebydd Sgorio ar S4C

    Un seren ar ôl y llall sy’n camu ar y maes dros Loegr.

    Mae’n garfan eithriadol o gryf.

  8. 'Connor Roberts yn cysgu'

    Cymru 0-3 Lloegr

    Iwan Roberts

    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Doedd Connor Roberts ddim yn gwybod pa ffordd i droi.

    Roedd o just yn rhy hawdd i Lloegr - cafodd Connor Roberts ei ddal yn cysgu.

    Rashford yn sgorio'i ail
    Image caption: Marcus Rashford yn sgorio'i ail
  9. Cymru 0-3 Lloegr

    Yn ngeiriau'r sylwebydd Nic Parry ar S4C:

    "Mae Cymru yn cael eu chwalu'n racs. 'Da chi'n teimlo fel bod Lloegr yn gallu sgorio fel y mynnen nhw."

    gol
  10. 'Gwthio a gweiddi rhwng Cymry a'r Saeson'

    Cymru 0-2 Lloegr

    Iolo Cheung

    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Mae ‘na ddigwyddiad yng nghefn eisteddle Cymru, rhwng Cymry a Saeson, a ‘chydig o wthio a gweiddi i’w weld.

    Mae’r stiwardiaid draw yn sortio’r mater rŵan, ond mae ‘na densiwn yn yr awyr.

  11. 'Ramsey methu amseru ei dacl'

    Cymru 0-2 Lloegr

    Kath Morgan

    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Dyw Ramsey ddim yn chwaraewr budur o gwbl - ond dyw e ffaelu amseru ei dacl, just ffaelu cyrraedd.

    Stori Cwpan y Byd Aaron Ramsey yw bod e just methu cyrraedd.

  12. 'Y Cymry mewn sioc'

    Cymru 0-2 Lloegr

    Iolo Cheung

    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Wel, dyna ni, mae’r ddwy gôl ‘na wedi diffodd y gobeithion bellach.

    Mae’r Saeson wedi canfod eu llais go iawn, a’r Cymry mewn sioc dwi’n meddwl.

    Mae’r ddau gyfle ‘na i Gymru wedi cyffroi’r dorf ychydig eto, ac mae Hen Wlad Fy Nhadau yn atseinio.

  13. Cerdyn melyn i Gymru

    Cymru 0-2 Lloegr

    Mae Aaron Ramsey yn cael cerdyn melyn am dacl hwyr (iawn) ar Jordan Henderson.

    Ramsey
  14. Eilyddio i Gymru

    Cymru 0-2 Lloegr

    Ben Davies yn gorfod gadael y maes a Joe Morrell yn dod ymlaen yn ei le.

  15. Eilyddio i Loegr

    Cymru 0-2 Lloegr

    Harry Kane, Kyle Walker a Declan Rice yn gadael.

    Callum Wilson, Kalvin Phillips a Trent Alexander-Arnold ymlaen yn eu lle.

    Bron i 58 munud ar y cloc.

  16. 'Lloegr yn ogleuo gwaed'

    Cymru 0-2 Lloegr

    Iwan Roberts

    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Dan ni'n sôn am gymeriad ac ysbryd, a bod 'na ddigon ohono fo yn nhîm Rob Page.

    Wel, maen nhw'n gofyn am bob un owns o'r cymeriad a'r ysbryd yna nawr.

    Mae hon yn ail hanner ofnadwy o anodd - mae chwaraewyr Lloegr yn gallu ogleuo gwaed.

  17. Cyfleoedd i Gymru

    Cymru 0-2 Lloegr

    Dan James yn ergydio heibio i'r postyn ac yna, yn fuan wedi hynny, Kieffer Moore yn tanio o bellter ac yn ennill cic gornel i Gymru.

    Ymateb positif gan y Cymry.

  18. Cymru 0-2 Lloegr

    Phil Foden yn sgorio'r ail i Loegr.

    Beryg iddi droi'n hyll...

    gol
  19. Cymru 0-1 Lloegr

    Marcus Rashford yn sgorio cic rydd i Loegr.

    gol
  20. 'Bale heb wneud digon i fod yn ffit'

    Cymru 0-0 Lloegr

    Iwan Roberts

    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Fe gafodd y cwestiwn ei ofyn - ydy Bale am fod yn ffit i chwarae tair gêm mewn wyth diwrnod?

    Doedd o byth am fod yn ddigon ffit.

    Mae angen iddo fo edrych ar ei hun - ydy o wedi gwneud digon i gael ei hun i le dyla fo fod o safbwynt ei ffitrwydd, i ddod mewn i gystadleuaeth mor fawr â hyn?

    Ydy o'n hapus yn ei yrfa yn eistedd ar y fainc efo'i glwb yn America?

    Dwi ddim yn meddwl bod Bale na Ramsey wedi gwneud digon i fod yn ffit ar gyfer Cwpan y Byd.