Crynodeb

  • Mark Drakeford sy'n ateb cwestiynau, ar ôl colli sesiwn yr wythnos ddiwethaf i fynychu Cwpan y Byd yn Qatar.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Datganiad yr hydrefwedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae lefelau sŵn yn codi yn y Siambr wrth i’r Ceidwadwr Gareth Davies sôn am “y chwistrelliad o £1.2 biliwn i Gymru o ddatganiad yr hydref Llywodraeth y DU” a’r prif weinidog yn ateb drwy honni ei fod yn golygu toriad mewn termau real o biliwn o bunnoedd i gyllideb Llywodraeth Cymru oherwydd chwyddiant.

  3. Amseroedd aros ambiwlansyswedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    O ran amseroedd aros ambiwlansys, mae’r prif weinidog yn rhybuddio yn erbyn “cymhariaethau ffôl” â Lloegr, oherwydd “mae pobman yn y system o dan bwysau aruthrol, bod clinigwyr ym mhobman yn gweithio’n galed iawn i geisio mynd i’r afael ag ef, bod llywodraethau ym mhobman yn ceisio dod o hyd i atebion i broblem sydd yr un peth yng Nghymru, yr Alban, ac yn Lloegr, ac yn waeth eto yng Ngogledd Iwerddon."

    Mae'r Ceidwadwr Laura Anne Jones yn rhannu ei phrofiad o fod yn yr adran damweiniau ac achosion brys i blant gyda'i mab yr wythnos diwethaf.

    Meddai, "yn ystod y nos roedd 67 o blant i'w gweld, a dau feddyg yno. Mae'r galw'n cynyddu. Brif Weinidog, pa fesurau ar unwaith rydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod ein hamseroedd aros ambiwlansys yn gwella, a hefyd, yn y pen draw, nid yw cleifion yn talu'r pris eithaf oherwydd cynllunio gwael y llywodraeth hon neu ddiffyg gweithredu?"

    Mae'r prif weinidog yn esbonio mesurau gan Lywodraeth Cymru i leddfu'r pwysau ar y gwasanaeth, gan gynnwys y "canolfannau gofal sylfaenol brys sydd bellach wedi'u sefydlu ym mhob rhan o Gymru".

    Mae hefyd yn cyfeirio at "recriwtio rhagor o staff ychwanegol, trefniadau rota diwygiedig, gostyngiadau mewn absenoldeb salwch a buddsoddiad newydd mewn technoleg i gefnogi gwneud penderfyniadau clinigol."

    Laura Anne Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Laura Anne Jones

  4. Neuadd Dewi Santwedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae Rhys ab Owen - sydd heb grŵp ar hyn o bryd wedi iddo gael ei wahardd o grŵp Plaid Cymru ym Mae Caerdydd tra'n wynebu ymchwiliad gan gorff gwarchod safonau'r Senedd i achos honedig o dorri'r cod ymddygiad - yn gofyn pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd ynglŷn â dyfodol Neuadd Dewi Sant.

    Mae'n mynegi pryder am y posibilrwydd y gallai cwmni preifat gymryd yr awenau oddi ar gyngor y ddinas.

    Meddai, "mae Neuadd Dewi Sant wedi cynnig profiadau gwych i blant ysgol ar hyd y blynyddoedd. Dwi'n gallu dweud fy hunan trwy Urdd Gobaith Cymru a trwy'r ysgol i mi allu perfformio ar lwyfan y neuadd hynny. A ydych chi felly, brif weinidog, yn bryderus pe byddai Live Nation Inc o Beverley Hills yn cymryd rheolaeth dros Neuadd Dewi Sant na fyddai plant Cymru o hynny ymlaen yn gallu cael yr un profiadau?"

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb, "mae'n rhy gynnar i bryderu dwi'n meddwl, achos dydyn ni ddim yn gwybod digon o fanylion.

    "Dwi wedi cael cyfle heddiw i siarad gydag arweinydd y cyngor yma yng Nghaerdydd, a dwi'n siŵr bod e'n ymwybodol o bob pwynt mae Rhys ab Owen wedi codi.

    "Mae'n gwneud y gwaith gyda nid jest un cwmni ond mwy nag un cwmni sydd wedi dangos diddordeb i gydweithio gyda'r cyngor dros ddyfodol Neuadd Dewi Sant.

    "Dwi'n gwybod bod arweinydd y cyngor wedi rhoi gwahoddiad i bob Aelod o'r Senedd lleol i gwrdd gyda fe i glywed am y trafodaethau, a dwi'n siŵr ar ôl cael y cyfle i siarad gyda Huw Thomas y bydd ef yn benderfynol, os bydd rhyw fath o gytundeb am y dyfodol, i warchod nid jest beth mae'r ysgolion yn gwneud ar hyn o bryd yn y neuadd, ond defnydd y gymuned i gyd o rywbeth sy'n hollol bwysig i fywyd pobl sy'n byw yn y brifddinas."

    Mae'r neuadd yn cynnal digwyddiadau gan gynnwys BBC Canwr y Byd CaerdyddFfynhonnell y llun, MICK LOBB/ GEOGRAPH
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r neuadd yn cynnal digwyddiadau gan gynnwys BBC Canwr y Byd Caerdydd

  5. A oes gan Gymru'r hawl i hunanbenderfyniad?wedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn cyfeirio at ddyfarniad y Goruchaf Lys na all Llywodraeth yr Alban gynnal refferendwm annibyniaeth heb ganiatâd Lywodraeth y DU.

    Mae Mr Price yn gofyn a oes gan Gymru'r hawl i hunanbenderfyniad.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud "mae yna lawer iawn o atgyweirio cyfansoddiadol sydd angen ei wneud i'r Deyrnas Unedig ac y bydd gan y llywodraeth Lafur nesaf gyfrifoldeb gwirioneddol i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd."

    Mae Mr Price yn gofyn yn benodol, "a fyddai cynnal pôl ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru gan ddefnyddio is-ddeddfwriaeth, ac felly imiwn i her gyfreithiol ar gymhwysedd, yn ganiataol, o bosibl, gan ddefnyddio'r llwybr hwn yn eich barn chi?"

    Atebodd y prif weinidog, "Rydym yn astudio'r dyfarniad ac rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael cyngor yn ei gyfanrwydd ynghylch lle mae'r dyfarniad hwnnw'n amharu ar gyfrifoldebau a phosibiliadau'r Senedd.

    "Nid wyf yn gwybod digon i fod yn siŵr y gallaf ateb cwestiwn arweinydd Plaid Cymru yn ei holl fanylion. Mae gennyf amheuaeth na fydd mor syml ag y gallai feddwl."

    Clywodd y Goruchaf Lys ddau ddiwrnod o ddadleuon cyfreithiol gan lywodraethau’r DU a’r AlbanFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Clywodd y Goruchaf Lys ddau ddiwrnod o ddadleuon cyfreithiol gan lywodraethau’r DU a’r Alban

  6. Adrannau brys ysbytaiwedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at brofiadau annymunol yn ardaloedd aros adrannau brys ysbytai.

    Dywed Mr Drakeford fod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £2.7 miliwn i uwchraddio ardaloedd aros adrannau brys y gaeaf hwn.

    Mae'n ychwanegu bod rhai o'r problemau yn ysbyty'r brifysgol yng Nghaerdydd dros y penwythnos (amodau ystafell aros gwael gan gynnwys cyfog y tu allan) yn cael eu hachosi gan gleifion eraill.

    Cyhoeddwyd lluniau ar-lein o bentyrrau o fonion sigaréts a biniau yn gorlifo.

    Mae’r prif weinidog hefyd yn cyfeirio at “ganran y bobl sy’n dod yno oherwydd camddefnyddio alcohol, yr ymddygiad y mae’n rhaid i aelodau staff ddelio ag ef gan leiafrif sylweddol – lleiafrif yw e, ond mae i’w weld pryd bynnag rydych chi yno – gan bobl y maent yn ceisio darparu gofal ar eu cyfer."

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. 'Camau cynnar y dirwasgiad'wedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod yr economi "wedi cyrraedd camau cynnar y dirwasgiad" ac mae'n beio "12 mlynedd o gamreoli economaidd gan Lywodraeth y DU."

    “Bydd hynny’n ychwanegu diweithdra cynyddol at yr heriau a wynebir eisoes”.

    Prif weinidog
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r prif weinidog yn un o nifer o Aelodau o'r Senedd heddiw sy'n gwisgo'r rhuban coch fel symbol o ymwybyddiaeth a chefnogaeth i bobl sy'n byw gyda HIV.

  8. Mynediad cleifion at eu meddyg teuluwedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Mae'r Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Daw'r cwestiwn cyntaf gan y CeidwadwrTom Giffard, sy'n gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am fynediad cleifion at eu meddyg teulu.

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford bod "y safonau meddygol cyffredinol, y cytunwyd arnynt gyda meddygon teulu yng Nghymru, yn gwella mynediad ac yn sicrhau cysondeb ar draws y wlad. Mae cyflawniad wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gydag 89 y cant o'r holl bractisau bellach yn cyrraedd yr holl safonau."

    Dywed Mr Giffard ei fod yn "cael gohebiaeth gynyddol gan etholwyr ym Mhorthcawl sy'n pryderu am argaeledd apwyntiad gyda'u meddyg teulu lleol".

    Mae rhai cleifion yn cael trafferth i gysylltu gyda'r feddygfaFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae rhai cleifion yn cael trafferth i gysylltu gyda'r feddygfa

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich 29 Tachwedd 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Ymgasglodd Aelodau o'r Senedd yn y Siambr bythefnos yn ôl i ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y BydFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Ymgasglodd Aelodau o'r Senedd yn y Siambr bythefnos yn ôl i ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd