Crynodeb

  • Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb cwestiynau ASau, am y tro olaf yn 2022.

  1. Hwyl fawr a nadolig llawen!wedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yn y flwyddyn newydd.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Colled i gyllid prifysgolionwedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2022

    Mae'r prif weinidog yn rhybuddio bod prifysgolion yn wynebu cyfres o ergydion o ganlyniad i Brexit.

    Esboniodd, "gwyddom na fyddwn yn gallu digolledu'r £135 miliwn i Brifysgol Abertawe, sef yr amcangyfrif mwyaf ceidwadol o'r buddion y maent wedi'u cael o gyllid Ewropeaidd yn y fframwaith amlflwyddyn saith mlynedd diwethaf."

    Mae'n cyhuddo Llywodraeth y DU o fod wedi "methu'n llwyr â chyflawni'r warant absoliwt a gynigiwyd i ni, na fyddai Cymru geiniog ar ei cholled."

    Mae’n beirniadu “methiant Llywodraeth y DU i ddod i gytundeb ynglŷn â chyfranogiad yn rhaglen Horizon. Tynnodd Cymru i lawr gyfran lawer mwy o gyllid allan o Horizon nag y byddai gennym hawl iddo ar sail cyfran o’r boblogaeth, a sicrhaodd Prifysgol Abertawe ei hun £18 miliwn o gyllid yr UE gyda 51 o wahanol brosiectau Horizon dros y cyfnod 2014 i 2020. Nawr does dim byd."

    Prifysgol AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Pa fuddion i Gymru o daith y prif weinidog i Qatar?wedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2022

    Mae'r Ceidwadwr Joel James yn gofyn pa fuddion sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i daith y prif weinidog i Qatar yn ystod Cwpan y Byd.

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod "presenoldeb Llywodraeth Cymru yn Qatar wedi caniatáu i ni ehangu gwybodaeth am Gymru ar draws y byd ac i godi llais dros y gwerthoedd sy'n bwysig i ni. Bydd manteision diwylliannol ac economaidd ymhlith cynnyrch yr ymgysylltu hwnnw."

    Mynychodd Mr Drakeford gêm gyntaf Cymru ar 21 Tachwedd yn erbyn yr Unol Daleithiau.

    Roedd ei benderfyniad i fynd i'r twrnamaint yn wahanol i foicot gan arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer.

    Ymgasglodd Aelodau o'r Senedd yn y Siambr fis diwethaf i ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y BydFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Ymgasglodd Aelodau o'r Senedd yn y Siambr fis diwethaf i ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd

  4. 'Am Gymru gweler Lloegr'wedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn cyhuddo'r prif weinidog o fod ag agwedd "am Gymru gweler Lloegr" ynghylch dyfarniadau cyflog i nyrsys a gweithwyr eraill yn y GIG.

    Mae Mr Price yn nodi bod llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno cytundeb gwell y mis diwethaf sef 7.5% ar gyfartaledd i weithwyr iechyd oedd yn bygwth gweithredu diwydiannol.

    Bydd yn gweld y rhan fwyaf o staff y GIG yn yr Alban yn cael cynnydd o ychydig dros £2,200 y flwyddyn.

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod arweinydd Plaid Cymru "eisiau tynnu £120 miliwn allan o weithgarwch y mae'r GIG yng Nghymru wedi ymrwymo i'w wneud, a byddai'n defnyddio'r arian hwnnw i dalu pobl. Mae hynny'n ddewis ymarferol; mae ein dewis wedi gorfod bod yn wahanol oherwydd rydym yn gweld y pwysau enfawr y mae'r GIG yn ei wynebu bob dydd."

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  5. Streic nyrsyswedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2022

    Fe fydd y streic nyrsys sydd wedi ei gynllunio ar gyfer Cymru yn mynd yn ei flaen ar ôl i’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) a Llywodraeth Cymru fethu â dod i gytundeb cyflog.

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn gofyn pam nad yw'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cyflwyno cynnydd i'r codiad cyflog presennol.

    Dywed y prif weinidog na allai ei lywodraeth wneud cynnig cyflog uwch heb arian ychwanegol gan lywodraeth y DU.

    Bydd nyrsys yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd yn streicio.

    Dywed Mr Davies "Rwy'n deall ei bod yn sefyllfa anodd, rwy'n deall bod arian yn brin, ond rydych chi'n siarad yn gyson am fod eisiau mwy o bwerau. Mae gennych chi'r pwerau dros delerau ac amodau o fewn y GIG. Mae gennych chi'r pwerau ariannol i godi mwy o refeniw os ydych chi'n dewis gwneud hynny."

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod pobl yng Nghymru yn talu mwy o dreth nag ar unrhyw adeg yn y 70 mlynedd diwethaf o ganlyniad i benderfyniadau llywodraeth y DU.

    Roedd codi trethi ymhellach yn “awgrym rhyfeddol iddo ei wneud”, meddai wrth arweinydd y Torïaid, Mr Davies.

    “Ydy e’n meddwl am eiliad ei fod yn gynnig difrifol i’w roi i lywodraeth yma yng Nghymru?

    “Ar adeg pan na all pobl brynu bwyd ac na allant fforddio talu am ynni y dylem dynnu hyd yn oed mwy o arian allan o'u pocedi nag y mae ei lywodraeth yn ei gymryd yn barod?

    “Nid yw hynny’n ddewis y byddai llywodraeth ddifrifol yn ei wneud yma yng Nghymru.”

    Hyd yn oed pe bai trethi’n codi, ni fyddai’n dod “unrhyw le yn agos” at godi digon o arian ar gyfer bargeinion cyflog sy’n cyfateb i gyfradd chwyddiant, ychwanega Mr Drakeford.

    Mae gan Lafur ymrwymiad maniffesto i osgoi codiadau treth incwm yn dilyn y pandemig, ond nid yw gweinidogion wedi diystyru’r syniad pan ofynnwyd iddynt yn y cyfnod cyn y gyllideb ddydd Mawrth.

    Mae meddygon teulu, meddygon ymgynghorol a nyrsys yng Nghymru yn cael cynnig codiad cyflog o rhwng 4% a 5.5%
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae meddygon teulu, meddygon ymgynghorol a nyrsys yng Nghymru yn cael cynnig codiad cyflog o rhwng 4% a 5.5%

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  6. Cynnydd o 23,000 o drigolion a aned yn Lloegrwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2022

    Mae’r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn dadlau bod canlyniadau’r cyfrifiad "yn gwrthgyferbynnu'n uniongyrchol â'ch sylwadau yn y Pwyllgor Materion Cymreig, lle'r oeddech fel petaech yn awgrymu, rywsut, fod hunaniaeth Brydeinig ar drai a hunaniaeth Gymreig yn unig yn cynyddu."

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod "y cwestiwn hunaniaeth yn y cyfrifiad yn un diddorol iawn, ac mae'r canlyniadau yn bendant yn werth eu harchwilio'n iawn."

    Mae Mr Drakeford hefyd yn nodi bod canran y trigolion a aned y tu allan i Gymru wedi codi o 27.3% o’r boblogaeth (837,000) yn 2011 i 29.1% (905,000) yn 2021, sy’n cynnwys cynnydd o 23,000 o drigolion a aned yn Lloegr.

    Janet Finch-Saunders
    Disgrifiad o’r llun,

    Janet Finch-Saunders

  7. Digartrefedd dros gyfnod y Nadoligwedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2022

    Mae Luke Fletcher, AS Plaid Cymru, yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r pwysau ar wasanaethau atal digartrefedd dros gyfnod y Nadolig.

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford bod "ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â digartrefedd i ben yn parhau i fod yn ddiwyro bob amser o'r flwyddyn. Mae cyfanswm ein buddsoddiad mewn atal digartrefedd a chymorth tai dros £197 miliwn eleni, gan helpu i sicrhau nad oes neb ar ôl heb y cymorth na'r llety sydd ei angen arnynt."

    Mark Drakeford
  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.