Crynodeb

  • Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb cwestiynau ASau, am y tro cyntaf yn 2023.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich 10 Ionawr 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladrwedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich 10 Ionawr 2023

    Dywed y prif weinidog fod y digwyddiad mewnol critigol a ddatganwyd o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 19 Rhagfyr "oherwydd pwysau cynyddol Covid, cynnydd mewn achosion o ffliw, pryder y cyhoedd am strep A, streic nyrsys ar 20 Rhagfyr a streic ambiwlans ar 21 Rhagfyr. Mae datgan digwyddiad fel hyn yn arwain at gamau i leihau'r pwysau ar y system, fel y gwelwyd mewn mannau eraill yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig".

    Ymatebodd Rhun ap Iorweth o Blaid Cymru "ei bod hi'n teimlo ei bod hi'n gritigol ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ddydd ar ôl dydd, i gleifion sy'n aros yn hir am driniaeth, i staff sydd yn gweithio dan bwysau rhyfeddol ac i weithwyr ambiwlans sydd wedi cael llond bol ar aros tu allan i'n hysbytai ni."

    Roedd ciwiau o ambiwlansys y tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor y diwrnod y cyhoeddwyd y digwyddiad critigol
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd ciwiau o ambiwlansys y tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor y diwrnod y cyhoeddwyd y digwyddiad critigol

  3. 'Elw cyn anghenion teithwyr'wedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich 10 Ionawr 2023

    Pan ofynnwyd iddo gan ei gydweithiwr Llafur Mike Hedges am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus, dywed y prif weinidog fod system y bysiau yng Nghymru “dros nifer o flynyddoedd wedi rhoi elw cyn anghenion teithwyr, a dyna pam y bydd y llywodraeth hon yn cyflwyno Bil bysiau o flaen y Senedd i wneud yn siŵr bod gennym ddull gwahanol o drefnu gwasanaethau bysiau yng Nghymru – un sy’n caniatáu inni roi pobl cyn elw a gwneud yn siŵr bod y symiau helaeth o arian y mae’r cyhoedd yn eu buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn adlewyrchu budd y cyhoedd."

    Mae disgwyl i holl wasanaethau TrawsCymru fod yn sero allyriadau erbyn 2026Ffynhonnell y llun, LLYWODRAETH CYMRU
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae disgwyl i holl wasanaethau TrawsCymru fod yn sero allyriadau erbyn 2026

  4. Amseroedd aros yn y gwasanaeth iechydwedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich 10 Ionawr 2023

    Mae Sioned Williams o Blaid Cymru yn codi mater amseroedd aros am lawdriniaeth orthopedig, gan dynnu sylw at achos etholwr "sydd wedi bod yn dioddef gyda phroblemau pen-glin ers 15 mlynedd, ac sydd wedi bod yn aros am bum mlynedd, bron i'r diwrnod, am ddau ben-glin newydd, mewn poen cyson drwy’r amser, ac wedi gorfod rhoi’r gorau i’w thafarn o ganlyniad.”

    "Mae yna bobl sy'n aros yn hirach nag y bydden ni'n dymuno" mae'r prif weinidog yn cydnabod.

    Meddai ef, “rydym wedi ymrwymo i leihau amseroedd aros ar draws Cymru gyfan, gan fuddsoddi £170 miliwn yn rheolaidd i gefnogi gwelliant, a £15 miliwn i gefnogi trawsnewid gwasanaethau. Mae data mis Hydref yn dangos bod amseroedd aros dros ddwy flynedd wedi gostwng 26 y cant ers Mawrth 2022 ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe."

    Sioned Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Sioned Williams

  5. 'Codiad cyflog o 8% yn bosib i nyrsys'wedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich 10 Ionawr 2023

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn honni bod cynnig codiad cyflog o 8% yn bosib i nyrsys gan ddefnyddio'r arian wrth gefn presennol a chyllid heb ei ddyrannu.

    Dywed Mr Price fod gwybodaeth a gafwyd gan y gweinidog cyllid yn profi bod gan Lywodraeth Cymru ddigon o arian i gynnig codiad cyflog sydd fwy na 3% yn uwch na'r hyn sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd.

    Atebodd y prif weinidog, "ni allwch wario arian untro i dalu am filiau rheolaidd".

    Ychwanegodd, "Rydym wedi rhoi pecyn o fesurau at ei gilydd... mae un elfen o'r pecyn hwnnw yn ymwneud â chynnig taliad anghyfunol untro yn y flwyddyn ariannol hon. Mae'r swm o arian sydd wedi'i ddwyn ynghyd ar gyfer hynny wedi’u hennill yn galed dros gyfnod y Nadolig, lle bu’n rhaid i gydweithwyr yn y Cabinet edrych ar gynlluniau gwariant yn chwarter olaf eleni, a chytuno ar ffyrdd y gellid aildrefnu hynny i ryddhau arian i gefnogi’r cynnig hwnnw.”

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  6. Rhyddhau cleifion o ysbytaiwedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich 10 Ionawr 2023

    Dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, "dros yr wythnos ddiwethaf rydych wedi cyflwyno cynnig ac wedi cyfarwyddo'r GIG i ryddhau cleifion heb gynlluniau gofal a darpariaeth addas yn y gymuned. Mae meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol wedi dweud y gallai cleifion farw neu gael niwed difrifol. A ydych yn cytuno â'r meddygon a'r gweithwyr iechyd proffesiynol ar eu hasesiad o'ch cynlluniau?"

    Ymatebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford "mae'n gwbl anghyfrifol iddo gamliwio cyngor nid Llywodraeth Cymru ond y dirprwy brif swyddog meddygol a phrif swyddog nyrsio Cymru."

    Ychwanega, "Mae gennyf eu llythyr o'm blaen ac nid yw mewn unrhyw fodd yn cadarnhau'r cyhuddiadau y mae arweinydd yr wrthblaid newydd eu gwneud. Mae'n cyfeirio drwyddi draw at ryddhau'n ddiogel.

    "Ond, yr hyn y mae'n ei wneud yw dweud bod yn rhaid i’r system roi sylw i’r cydbwysedd risg ar draws yr holl bobl hynny y mae’n ceisio darparu gofal ar eu cyfer.

    "Mae gennym ni bobl, fel y mae’n gwybod yn iawn ac y mae’n aml yn dweud wrthyf ar lawr y Senedd, sy’n cael trafferth i gael mynediad i ddrws ffrynt y system hon, yn aml pobl ag anghenion sylweddol iawn. Ar ben arall y system, cyn y Nadolig, roedd gennym 1,200 o gleifion mewn gwely gwasanaeth iechyd yng Nghymru a oedd yn feddygol ffit i gael eu rhyddhau."

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. Gofal wedi’i gynlluniowedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich 10 Ionawr 2023

    Pan ofynnwyd iddo gan y Ceidwadwr Altaf Hussain pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddileu arosiadau aml-flwyddyn am driniaeth GIG, mae’r prif weinidog yn ateb, "yn ystod y chwe mis ar ôl cyhoeddi'r rhaglen adfer gofal wedi'i gynllunio, mae amseroedd aros hir yn y GIG yng Nghymru wedi gostwng 23 y cant. Mae hynny'n ganlyniad buddsoddiad ychwanegol sylweddol, cyfleusterau estynedig, diwygio gwasanaethau, ac, yn bennaf oll, ymdrech enfawr staff y GIG eu hunain.”

    Dywed Mr Hussain "mae arosiadau aml-flwyddyn wedi bod o gwmpas ers ymhell cyn y pandemig, yn enwedig mewn orthopedeg. Mae un o fy etholwyr wedi bod yn aros am ben-glin newydd ers 2019. Mae wedi bod yn aros mewn poen am dair blynedd a hanner."

    Altaf Hussain
    Disgrifiad o’r llun,

    Altaf Hussain

  8. Effaith yr argyfwng costau byw ar sefydliadau'r trydydd sectorwedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich 10 Ionawr 2023

    Mae'r Ceidwadwr Peter Fox yn mynegi pryder am effaith yr argyfwng costau byw ar sefydliadau'r trydydd sector (sector gwirfoddol).

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford bod "sefydliadau trydydd sector yng Nghymru yn darparu cymorth hanfodol i eraill yn yr argyfwng costau byw ac yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr argyfwng eu hunain. Rydym wedi cynyddu cyllid i'r sector ar y ddau gyfrif, gan amlaf ochr yn ochr â'n partneriaid awdurdod lleol."

    Mark Drakeford
  9. Y triawdwedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich 10 Ionawr 2023

    Mae'r flwyddyn yn dechrau gyda'r un arweinwyr wrth y llyw yn y prif bleidiau ag yr adeg hon y llynedd.

    A fydd hynny'n wir ar ddiwedd y flwyddyn? Amser, fel bob amser, a ddengys.

    y tri arweinyddFfynhonnell y llun, BBC/Getty
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford, Adam Price, Andrew RT Davies

  10. Croesowedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich 10 Ionawr 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.