Crynodeb

  • Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb cwestiynau ASau, am yr ail dro yn 2023.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Dros 300 o hybiau cynneswedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2023

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod dros 300 o hybiau cynnes yng Nghymru ac yn eu disgrifio fel "yr ymdrech fwyaf anhygoel, digymell yr ydym wedi'i gweld gan gynifer o grwpiau cymunedol, clybiau chwaraeon, grwpiau ffydd, yn ogystal â chyrff cyhoeddus, i ymateb i'r anghenion y mae pobl yn eu gweld yn ystod y gaeaf hwn".

    hwb Trelái yng Nghaerdydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd Ana Cremene, rheolwr hwb Trelái yng Nghaerdydd, wrth y BBC fod y niferoedd sy’n ymweld yno am gynhesrwydd yn amrywio o ddydd i ddydd, ond roedd y llyfrgell wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn gyffredinol ers mis Tachwedd o 9,000 o ymweliadau misol i 11,000

  3. Plant sy'n aros am ddeintydd yn y gwasanaeth iechydwedi ei gyhoeddi 14:26 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2023

    Mae'r Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds yn codi pryderon am blant sy'n aros am ddeintydd yn y gwasanaeth iechyd.

    Mae hi'n dweud "ym Mhowys, mae 800 o blant wedi'u cofnodi fel rhai sydd angen, ac yn aros am, ofal deintyddol y GIG".

    Atebodd y prif weinidog, “pan wnaeth y gweinidog ei datganiad ar y contract newydd yn ôl ym mis Mehefin y llynedd, roeddem yn rhagweld tua 120,000 o apwyntiadau newydd yn neintyddiaeth y GIG yng Nghymru; byddwn yn rhagori ar hynny gyda chwarter y flwyddyn i fynd eto.

    "Er bod y sefyllfa’n parhau i fod yn heriol mewn sawl rhan o Gymru, yn rhanbarth yr aelod ei hun, gan gymryd Hywel Dda a Phowys gyda’i gilydd, bydd dros 13,000 o apwyntiadau newydd nad oeddent ar gael y llynedd a fydd eisoes wedi’u cynnal eleni, gyda mwy i ddod".

    Jane Dodds
    Disgrifiad o’r llun,

    Jane Dodds

  4. Tlodi plantwedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2023

    “Mae’r bryn i leihau tlodi plant yn mynd yn fwy serth gyda phob blwyddyn o lymder a thoriadau i wasanaethau cyhoeddus” gan lywodraeth Geidwadol y DU, meddai’r prif weinidog, sy’n tynnu sylw at gefnogaeth Llywodraeth Cymru i raglen Dechrau’n Deg.

    Mae'r Ceidwadwr Gareth Davies yn ei herio ar "loteri cod post" o dan y rhaglen ac yn dweud bod "gan Gymru'r gyfradd uchaf o blant sy'n byw mewn tlodi o gymharu â gweddill gwledydd y DU".

    Codwyd y pwnc yn wreiddiol gan Mike Hedges o’r Blaid Lafur, a ddywedodd ei fod “yn argyhoeddedig o fanteision Dechrau’n Deg, mae’n atal plant rhag dechrau addysg ffurfiol gydag oedran datblygiadol sy’n sylweddol is na’u hoedran gwirioneddol”.

    Mae Mr Hedges yn awgrymu ailwerthusiad gan ddefnyddio canlyniadau cyfrifiad 2021 "gyda'r bwriad o nodi'r tlodi plant sy'n cael eu colli".

    Mae Dechrau'n Deg yn cynnig gofal plant rhan-amser am ddim a chymorth arall - ond dim ond mewn rhai cymunedau dynodedigFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Dechrau'n Deg yn cynnig gofal plant rhan-amser am ddim a chymorth arall - ond dim ond mewn rhai cymunedau dynodedig

  5. 'Peryglus iawn'wedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2023

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn cyfeirio at benderfyniad llywodraeth y DU i ddefnyddio gorchymyn Adran 35 i atal y Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd (Yr Alban) rhag cael cydsyniad brenhinol - y tro cyntaf i’r mecanwaith gael ei ddefnyddio ers datganoli yn 1999.

    Mae Mr Price a'r prif weinidog ill dau yn defnyddio'r geiriau "peryglus iawn" i ddisgrifio'r penderfyniad.

    Dywed Mr Drakeford y gallai fod yn “llethr llithrig iawn” ond ei bod yn “gynamserol” i ddweud a fydden nhw’n cefnogi unrhyw her yn y Goruchaf Lys.

    Ond ychwanegodd: “Rydym wedi gwneud yn siŵr o’r blaen fod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli yn y Goruchaf Lys, pan oedd materion o arwyddocâd cyfansoddiadol i Gymru yn y fantol, a byddem yn sicr yn barod i wneud hynny.”

    Ni wnaeth ateb cwestiwn gan Adam Price yn gofyn a oedd yn cytuno â Keir Starmer a ddywedodd nad oedd yn credu y dylai rheolau newydd yr Alban fod yn berthnasol i bobl ifanc 16 a 17 oed.

    Mae Mr Price hefyd yn cwestiynu'r prif weinidog ar yr anghydfodau cyflog yn y sector cyhoeddus a beth yw strategaeth y llywodraeth "i atal y gaeaf hwn o anfodlonrwydd rhag parhau i'r gwanwyn a'r haf".

    Mae Mr Drakeford yn gwrthod yr honiad bod trafodaethau gyda'r undebau iechyd yr wythnos ddiwethaf wedi "methu" ond mae'n cydnabod yr angen i "ail-ymddiried yn y broses adolygu cyflogau".

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  6. Maes Awyr Caerdyddwedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at gwmni hedfan Wizz Air yn gadael maes awyr Caerdydd.

    Dywed, "hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi neu wedi darparu £225 miliwn i'r maes awyr - bron i £0.25 biliwn. Chi yw perchnogion y maes awyr, er eich bod wedi sefydlu cwmni hyd braich i weithredu'r maes awyr. A ydych chi'n credu bod £225 miliwn yn arian sy'n cael ei wario'n dda?"

    Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb, “Rwyf bob amser wedi credu bod maes awyr rhanbarthol yn rhan hanfodol o seilwaith economaidd unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig sy’n ceisio cefnogi’r amodau modern y mae’n rhaid i’r economi weithredu oddi tanynt. Nid oedd y sector preifat yn gallu gwneud hynny. Roedd yn iawn bod y pwrs cyhoeddus wedi camu i'r adwy. Mae'n fuddsoddiad yn nyfodol economi Cymru".

    Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. Trefn rheoli cymorthdaliadau newyddwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2023

    Dechreuodd trefn rheoli cymorthdaliadau newydd y DU ar 4 Ionawr 2023.

    Dywed y prif weinidog "nid dyma'r drefn y byddai Llywodraeth Cymru wedi'i chynllunio, ac nid oedd yn un a gefnogir gan y Senedd hon. Fodd bynnag, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau cyhoeddus i arfogi staff i ddeall a defnyddio'r drefn newydd, gan liniaru ei hamherffeithrwydd niferus."

    Yn ôl llywodraeth y DU "mae'n galluogi awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys gweinyddiaethau datganoledig ac awdurdodau lleol, i roi cymorthdaliadau sydd wedi'u teilwra i'w hanghenion lleol, ac sy'n sbarduno twf economaidd tra'n lleihau afluniad i gystadleuaeth y DU ac yn amddiffyn ein rhwymedigaethau rhyngwladol."

  8. Ynni adnewyddadwy yn y môr Celtaiddwedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2023

    Mae'r Ceidwadwr Samuel Kurtz yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy yn y môr Celtaidd - y dyfroedd oddi ar dde Cymru a de orllewin Lloegr.

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford bod "buddsoddiad mewn seilwaith ffisegol a gweithlu medrus ar gyfer y dyfodol" ymhlith y camau gweithredu.

    Mae Mr Drakeford hefyd yn dweud wrth y Senedd y dylai'r Grid Cenedlaethol gael ei wladoli.

    Mae’n esbonio, “Fy newis i fy hun fyddai dod â’r Grid Cenedlaethol o dan reolaeth gyhoeddus, fel ei fod yn cael ei redeg er budd y cyhoedd, a lle nad oedd unrhyw ollyngiad i elw preifat o adnoddau’r cwmni hwnnw. Yn y cyfamser, rydyn ni’n gweithio gyda'r cwmni, a chydag eraill yma yng Nghymru".

    Mark Drakeford
    Mae'r Grid Cenedlaethol yn berchen ar seilwaith ynni fel ceblau pŵerFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Grid Cenedlaethol yn berchen ar seilwaith ynni fel ceblau pŵer

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.