Crynodeb

  • Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb cwestiynau ASau, am y trydydd tro yn 2023.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:38 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. 'Angen camu’n ôl o’r dibyn'wedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr 2023

    Mae’r prif weinidog yn galw ar lywodraeth y DU i “gamu’n ôl o’r dibyn” ynghylch eu cynlluniau i ddileu cyfreithiau yr UE sydd wedi’u copïo i gyfraith y DU ar ôl Brexit.

    Bydd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) yn golygu y bydd miloedd o gyfreithiau yn dod i ben yn awtomatig ar ôl mis Rhagfyr, oni bai eu bod yn cael eu cadw neu eu disodli'n benodol.

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod y Bil "yn peri risgiau sylweddol iawn i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd hon".

    UEFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Gwasanaethau fasgiwlar 'ddim yn gweithio'wedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr 2023

    Dyw gwasanaethau fasgiwlar "ddim yn gweithio" i gleifion yn Arfon, meddai Siân Gwenllian.

    Mae'n cyfeirio at "etholwr o Arfon sydd wedi dioddef yn enbyd yn sgil camgymeriadau sylfaenol a difrifol iawn gan yr uned fasgiwlar yn Ysbyty Glan Clwyd".

    Dywed y prif weinidog, "dros yr wythnosau nesaf, bydd sawl adroddiad yn helpu’r bwrdd gyda’r gwaith angenrheidiol o wella’r gwasanaeth fasgiwlar i gleifion yn Arfon. Bydd hynny'n cynnwys yr ail-arolygiad diweddar o’r gwasanaeth gan Arolygiaeth Iechyd Cymru, archwiliad cynaliadwyedd annibynnol, a'r adroddiad a gafodd ei gomisiynu drwy banel ansawdd fasgiwlar y bwrdd ei hun."

  4. Dibyniaeth ar gyffuriauwedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr 2023

    Dywed y Ceidwadwr Tom Giffard, "Mae'n ddrwg gen i ddweud bod Abertawe yn dioddef o'r nifer fwyaf o farwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru, gyda bron i 200 o bobl yn marw o gamddefnyddio cyffuriau dros y pum mlynedd diwethaf... Yn gyffredinol yng Nghymru, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau wedi neidio 44 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf."

    Mae'n dweud bod "y cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau yn methu â chyflawni ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf".

    Nid yw'r prif weinidog yn derbyn bod y cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau yn methu.

    Mae'n esbonio, "Mae'n gywir i ddweud bod marwolaethau, a adroddwyd, gan gyffuriau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, y mae ffigurau ar gael ar eu cyfer, wedi codi yng Nghymru, fel y gwnaethant ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, ond maent wedi disgyn yn Abertawe. Felly, mae hynny'n bwysig i'w gydnabod hefyd. Rwy'n derbyn bod heriau penodol yn ardal Bae Abertawe, ac mae angen ymrwymiad llawn gan bob aelod o'r bwrdd cynllunio yn yr ardal honno i sicrhau gwelliant."

    Mark Drakeford
  5. 'Dylai Ystâd y Goron gael ei datganoli'wedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr 2023

    Dylai Ystâd y Goron gael ei datganoli i Gymru, meddai'r prif weinidog wrth ymateb i Llyr Gruffydd o Blaid Cymru.

    Ond ychwanega "gyda llywodraeth bresennol y DU, ni fydd cyfle, dydw i ddim yn meddwl, i symud ymlaen gyda'r syniad hwnnw".

    Dywed Llyr Gruffydd, "Mi ddywedodd y Brenin Siarl wythnos diwethaf ei fod yn awyddus i weld cyfran o elw Ystad y Goron yn cael ei ddefnyddio at les cyhoeddus ehangach. Nawr, byddai nifer ohonom ni'n dadlau y dylai holl arian Ystâd y Goron gael ei ddefnyddio at les cyhoeddus ehangach. Mae'n bolisi, wrth gwrs, bellach i nifer ohonom ni, i ddatganoli Ystâd y Goron."

    Yn yr Alban, cafodd yr ystâd ei datganoli yn sgil refferendwm annibyniaeth 2014.

    Beth sy'n berchen i Ystâd y Goron yng Nghymru?

    • 65% o'r arfordir a gwely afonydd;
    • Holl wely'r môr hyd at dros 13 milltir o'r arfordir;
    • Dros 50,000 erw o dir;
    • 250,000 erw o dir mwynol;
    • Unrhyw aur ac arian sy'n cael ei ddarganfod.
    Mae gwerth £603m o dir yng Nghymru, gan gynnwys gwely'r môr o amgylch yr arfordir, yn berchen yn swyddogol i'r Goron.Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae gwerth £603m o dir yng Nghymru, gan gynnwys gwely'r môr o amgylch yr arfordir, yn berchen yn swyddogol i'r Goron.

  6. Argyfwng?wedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr 2023

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn galw ar y prif weinidog i dderbyn bod y GIG yng Nghymru mewn "argyfwng".

    Mae'r prif weinidog yn cydnabod bod y GIG yng Nghymru o dan "bwysau aruthrol".

    Mae Mark Drakeford mewn "cyflwr o wadu" gyda "datgysylltu llwyr" o'r ffordd y mae gwasanaethau GIG Cymru yn ei chael hi'n anodd ar lawr gwlad, meddai Adam Price.

    Mae'n annog y prif weinidog i gyfaddef bod yna argyfwng i adlewyrchu "difrifoldeb a brys yr heriau".

    Dywed Mr Drakeford na fyddai "ateb seicodrama" yn helpu.

    Mae arweinydd Plaid Cymru yn gofyn i Mr Drakeford pam roedd Llafur yn "barod i ddatgan bod y GIG mewn argyfwng ym mhobman arall heblaw yma yng Nghymru, lle mae gennych chi gyfrifoldeb ac wedi gwneud hynny ers dros 25 mlynedd".

    Mae'r prif weinidog yn dweud er gwaethaf yr holl heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd ei fod yn "llwyddo pob dydd i gyrraedd miloedd ar filoedd o bobl na fyddai byth, pe na bai'r gwasanaeth iechyd yno, yn cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw".

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  7. 'Honiadau hynod ofidus'wedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at "honiadau hynod ofidus" yn rhaglen BBC Wales Investigates.

    Mae cyn bennaeth rygbi merched Cymru wedi dweud ei bod wedi ystyried hunanladdiad oherwydd "diwylliant gwenwynig" o rywiaeth yn Undeb Rygbi Cymru.

    Dywed Mr Drakeford fod Llywodraeth Cymru "wedi ei gwneud yn glir" i URC ei bod am weld "camau brys a thryloyw" i helpu i adfer hyder yn y sefydliad.

    Mae’r undeb “yn meddiannu lle ym mywyd cyhoeddus Cymru y mae angen iddo’i hun ei gydnabod”, ychwanega’r prif weinidog.

    Byddai’r llywodraeth yn “parhau i fod mewn sgwrs heriol, lle bo angen, gyda nhw i wneud yn siŵr bod dyfodol yn cael ei osod allan i Undeb Rygbi Cymru sy’n ennyn hyder pawb sy’n chwarae y gêm ac sydd eisiau gweld dyfodol llwyddiannus”.

    Mae Andrew RT Davies yn dweud y dylai pwyllgor chwaraeon Senedd Cymru ystyried sut y gall gefnogi “y rhai sydd wedi derbyn y driniaeth hon” a gweithio gydag URC i gyflwyno mesurau diogelu.

    Mae Mr Davies hefyd yn holi am adroddiad a ddatgelodd mai dim ond 62% o adeiladau’r GIG yng ngogledd Cymru oedd yn “weithredol ddiogel”.

    Mae'r adeiladau yn eiddo i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a dreuliodd flynyddoedd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

    Yn Ysbyty Abergele, dim ond 15% o'r adeilad sy'n cyrraedd safonau iechyd a diogelwch, meddai'r adroddiad.

    “Pam mae’r sefyllfa hon wedi datblygu ac a wnewch chi ymddiheuro amdani?”gofynna Mr Davies.

    Dywed Mr Drakeford fod “materion cydymffurfio” wedi’u darganfod gan arolygon ar adeiladau 30 oed, ond bod yr alwad honno am waith atgyweirio “yn rhagori ar ein gallu i gyflawni’r galw hwnnw”.

    Roedd cyllid cyfalaf ar gyfer y GIG – yr arian ar gyfer adeiladau a seilwaith – yn mynd o £335m eleni i £375m y flwyddyn nesaf, meddai Mr Drakeford, gan ychwanegu bod cyllid wedi’i wasgu gan lywodraeth y DU a bod y swm y gall Llywodraeth Cymru ei fenthyg wedi ei rhewi ers 2016.

    “O ble mae’r aelod yn meddwl bod yr arian yn dod i wneud y pethau mae’n eu hawgrymu,” mae’n gofyn.

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  8. Amseroedd ymateb ambiwlansyswedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr 2023

    Mae'r Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds yn mynegi pryder am amseroedd ymateb ambiwlansys.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb, "mae lefelau uwch nag erioed o alw wedi rhoi pwysau gwirioneddol ar amseroedd ymateb ambiwlansys, gydag oedi hir i rai cleifion. Serch hynny, ym mis Rhagfyr - y mis anoddaf - ymatebodd y gwasanaeth i'r nifer uchaf erioed o alwadau coch o fewn y targed wyth munud."

    Roedd nifer y galwadau 'coch' gafodd eu hateb gan y gwasanaeth ambiwlans o fewn yr amser targed wedi gostwng i'w lefel isaf erioed.

    Dim ond 39.5% o'r galwadau 999 mwyaf brys gafodd eu hateb o fewn wyth munud ym mis Rhagfyr, i lawr o 48% - ffigwr oedd eisoes yn record.

    Roedd nifer y galwadau 'coch' - 5,949 - hefyd ar eu huchaf erioed, yn ogystal â'r amseroedd y bu'n rhaid i gleifion aros mewn adrannau brys ysbytai.

    ambiwlansFfynhonnell y llun, Getty Images
    Jane Dodds
    Disgrifiad o’r llun,

    Jane Dodds

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.