Crynodeb

  • Y Trefnydd Lesley Griffiths sy'n ateb y cwestiynau, yn dilyn y newyddion trist am farwolaeth sydyn Clare Drakeford, gwraig y prif weinidog,

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich 31 Ionawr 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Cyllid rheilffyrddwedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich 31 Ionawr 2023

    Mae Rhys ab Owen yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar lywodraeth y DU i "ddarparu'r cyllid digonol" ar gyfer y rheilffordd o Fae Caerdydd i Lantrisant "a'r cyllid sydd ei angen i gynyddu lefel y gwasanaethau sydd eu hangen ym mhob gorsaf yng Nghaerdydd."

    Dywed Lesley Griffiths bod "Llywodraeth Cymru wedi galw dro ar ôl tro ar lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol mewn seilwaith rheilffyrdd ym mhob rhan o Gymru".

  3. Gwasanaethau arbenigol meddygolwedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich 31 Ionawr 2023

    Mae'r AS Llafur John Griffiths yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaethau arbenigol meddygol ymhellach ar draws Cymru.

    Meddai, "bythefnos yn ol, cyfarfûm ag un o'm hetholwyr iau, Elliot, a'i fam, Lucy. Mae y ddau yma yn y Senedd heddyw yn yr oriel gyhoeddus yn gwylio y trafodion. Mae Elliot yn bum mlwydd oed, ac yn dioddef o gyflwr prin o’r enw nychdod cyhyrol duchenne, anhwylder genetig a nodweddir gan golli cyhyr cynyddol. Fel rhan o’i driniaeth, mae Lucy yn awyddus iawn bod Elliot yn cael cyfle i gael mynediad i dreialon clinigol. Ar hyn o bryd, nid oes capasiti yng Nghymru i gynnal treialon clinigol o'r fath. Nid oes arbenigwr niwrogyhyrol yn ne Cymru".

    Atebodd Lesley Griffiths, "os nad yw'r treialon ymchwil hyn ar gael yng Nghymru, gall Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hwyluso mynediad cleifion i dreialon mewn rhannau eraill o'r DU".

  4. Diogelwch bwydwedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich 31 Ionawr 2023

    Mae Jenny Rathbone o'r Blaid Lafur yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau diogelwch bwyd yng Nghymru.

    Mae Lesley Griffiths yn ateb, "mae'r system fwyd yn gweithredu ar sail y DU gyfan. Mae Llywodraeth Cymru felly'n gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig i nodi risgiau ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i'w rheoli. Yng Nghymru, rydym yn hyrwyddo diogelwch bwyd drwy fuddsoddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd, cefnogi amaethyddiaeth, a darparu cefnogaeth sylweddol i amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol."

    Dywed Jenny Rathbone, "nid oes nesaf peth at ddim o'r bwyd sy'n dod i'r farchnad gyfanwerthu yn cael ei dyfu yng Nghymru. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr y gwaith yr ydych chi, weinidog, wedi'i wneud fel y gweinidog materion gwledig i geisio ehangu'r sector garddwriaeth yng Nghymru, ond mewn gwirionedd nid yw'n ddigon".

    Lesley Griffiths
    Disgrifiad o’r llun,

    Lesley Griffiths

    Jenny Rathbone
    Disgrifiad o’r llun,

    Jenny Rathbone

  5. Gweithlu'r GIGwedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich 31 Ionawr 2023

    Dywed arweinydd Plaid Cymru Adam Price, "A gaf innau, ar ran grŵp Plaid Cymru yn y Senedd, ond hefyd ar ran y blaid yn fwy eang, estyn ein cydymdeimladau dwysaf ni hefyd i'r prif weinidog ar ei golled. Mae'n ergyd y mae'n anodd amgyffred â hi, a dweud y gwir, ac rŷn ni eisiau gwneud yn sicr ei fod e'n ymwybodol faint o gefnogaeth rŷn ni eisiau dangos iddo fe yn y cyfnod anodd yma, ac mae hynny, fel sydd wedi cael ei ddweud eisoes, yn cael ei rannu mor eang. Mi oeddwn i yng nghynhadledd Melin Drafod ar y penwythnos, ac mi oedd pobl yno hefyd wedi teimlo yr ergyd o'r golled yma a'r ing y mae'r prif weinidog yn ei wynebu."

    Wrth symud ymlaen at bwnc y GIG, dywed Mr Price bod "swyddi gweigion i fyny, cyfraddau salwch i fyny, gwariant ar asiantaethau i fyny, cyfraddau gadael i fyny. Yr unig beth sy'n mynd i lawr, Trefnydd, yw morâl y staff a'u hymddiriedaeth yn y llywodraeth Lafur hon. Beth yw eich cynllun i newid y sefyllfa hon?"

    Atebodd Lesley Griffiths, "y ffigurau sydd gennyf o'm blaen ynghylch ystadegau gweithlu'r GIG - a staff a gyflogir yn uniongyrchol yw hyn - yw bod y gweithlu bellach ar y lefelau uchaf erioed. Mae gennym dros 105,000 o bobl, 90,943 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn, a gyflogir yn uniongyrchol gan sefydliadau GIG Cymru."

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  6. Diogelwch adeiladauwedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich 31 Ionawr 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at gyhoeddiad llywodraeth y DU o derfyn amser chwe wythnos i ddatblygwyr arwyddo cytundeb llywodraeth i drwsio eu tyrau anniogel neu gael eu gwahardd o'r farchnad.

    Meddai, “drwy Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 sydd wedi’i phasio yn San Steffan, mae mesurau i wneud yn siŵr bod pobl sy’n byw mewn yr hyn a elwir yn adeiladau amddifad, sef adeiladau sydd wedi’u hadeiladu gan gwmnïau sydd wedi dymchwel unwaith y mae prosiect wedi'i orffen, yn gallu cael eu hadfer a'r rhwymedigaethau yn cael eu talu gan y cwmnïau. A wnewch chi, fel llywodraeth, godi'r mesurau hynny a'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru yma, fel y gall trigolion sy'n canfod eu hunain mewn adeiladau tebyg gael yr amddiffyniadau hynny?"

    Dywed Lesley Griffiths bod gweinidog newid hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James, yn "gweithio'n agos gyda llywodraeth y DU i weld pa agweddau o'r ddeddfwriaeth y gallwn ni edrych arnyn nhw".

    Mae disgwyl i’r ymchwiliad i’r tân – lle bu farw 72 o bobl – adrodd yn ddiweddarach eleniFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae disgwyl i’r ymchwiliad i’r tân – lle bu farw 72 o bobl – adrodd yn ddiweddarach eleni

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. Trais yn erbyn menywodwedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich 31 Ionawr 2023

    Wedi cyhoeddiad y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol y llynedd, dywed AS y Rhondda Buffy Williams bod achosion yn cynyddu ar ddiwrnodau gemau rygbi rhyngwladol.

    Meddai, "Gyda dechrau'r chwe gwlad, rwy'n ymgyrchu, ym mis Chwefror, gyda phartneriaid, i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth lleol a chenedlaethol sydd ar gael i ddioddefwyr a throseddwyr".

    Dywed Lesley Griffiths fod "Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu cynghorwyr rhanbarthol a gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys llinell gymorth Byw Heb Ofn 24/7".

    Buffy Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Buffy Williams

  8. Cydymdeimlad a chefnogaethwedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich 31 Ionawr 2023

    Mae aelodau’r Senedd yn arsylwi munud o dawelwch i ddiweddar wraig Mark Drakeford, Clare.

    Wrth gychwyn cyfarfod llawn cyntaf y Senedd ers ei marwolaeth, dywedodd y Llywydd Elin Jones fod y prif weinidog a’i deulu “yn ein calonnau a’n gweddïau”.

    Meddai: "rydyn ni gyd yn boenus ymwybodol am golled sydyn y prif weinidog dros y penwythnos. Ac, ar ein rhan ni gyd, rydw i yn cydymdeimlo gyda fe a’i deulu".

    Dywedodd y Trefnydd Lesley Griffiths y byddai Mr Drakeford yn ddiolchgar am gydymdeimlad yr Aelodau o'r Senedd.

    Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Sadwrn fod Mrs Drakeford wedi marw'n sydyn, yn 71 oed.

    Aelodau yn talu teyrnged i Clare Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Aelodau yn talu teyrnged i Clare Drakeford

    Mark a Clare DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark a Clare Drakeford

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich 31 Ionawr 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Y Trefnydd Lesley Griffiths sy'n ateb y cwestiynau heddiw, yn dilyn y newyddion trist ddydd Sadwrn am farwolaeth sydyn Clare Drakeford, gwraig y prif weinidog,

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.