Crynodeb

  • Y Trefnydd Lesley Griffiths sy'n ateb y cwestiynau, yn dilyn marwolaeth Clare Drakeford, gwraig y prif weinidog,

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich 7 Chwefror 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Cwmnïau casglu dyledionwedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich 7 Chwefror 2023

    Mae Peredur Owen Griffiths yn mynegi pryderon am "gostau annheg" sy'n wynebu pobl sy'n "brwydro i dalu dyled".

    Meddai, "mae'n ymddangos nad yw'r system a fabwysiadwyd gan rai cwmnïau casglu dyledion yn ddim mwy na raced sy'n manteisio ar y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae'n rhaid iddo ddod i ben. A all y llywodraeth gyhoeddi canllawiau i'r sector cyhoeddus a chwmnïau cyfleustodau fel eu bod dim ond gweithio gyda chwmnïau casglu dyledion sy'n gweithio ar y cyd â'r bwrdd ymddygiad gorfodi? Byddwn yn ddiolchgar pe gallech hefyd archwilio unrhyw ffyrdd o gwtogi ar weithrediadau twyllodrus yn y sector hwn er mwyn amddiffyn ein dinasyddion."

    Atebodd Lesley Griffiths, "rydych yn codi pwynt pwysig iawn, a gwn fod y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yr wythnos nesaf, yn cyfarfod â chwmnïau gorfodi i gyflwyno'r union bwynt hwnnw a wnewch."

    Lesley Griffiths
    Disgrifiad o’r llun,

    Lesley Griffiths

  3. Cŵn perygluswedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich 7 Chwefror 2023

    Mae Hefin David yn cyfeirio at ddwy farwolaeth wedi ymosodiadau gan gŵn yn ardal Caerffili mewn ychydig dros flwyddyn.

    Y llynedd, cafodd dau berson eu carcharu ar ôl cyfaddef eu bod yn berchen ar gi peryglus neu â gofal am gi oedd allan o reolaeth yn dilyn marwolaeth Jack Lis, 10 oed, ym mis Tachwedd 2021.

    Ac ym mis Rhagfyr, bu farw Shirley Patrick, 83, 17 diwrnod wedi ymosodiad gan gi. Cafodd pedwar o bobl eu harestio a'u rhyddhau dan ymchwiliad.

    Dywed Hefin David, “mae rhaglen ddogfen Panorama gan y BBC yn ddiweddar wedi tynnu sylw at weithgareddau bridwyr cŵn diegwyddor, sy’n bridio cŵn ac sy’n cyfuno bridiau i fynd heibio i fylchau yn y gyfraith, ac mae’r cŵn hynny wedyn yn canfod eu ffordd i mewn i gymunedau fel Penyrheol ac eraill ar draws Cymru.

    "Felly, wrth ddiweddaru Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014, yr ydych wedi ymrwymo iddynt, a ellir ystyried y mater hwn, yn enwedig croesfridio?"

    Atebodd Lesley Griffiths, "Rwy'n sicr yn hapus iawn i edrych ar eich awgrym. Fel y gwyddoch, gwnaethom ddiweddaru'r rheoliadau trwyddedu lles anifeiliaid, a gwnaethom gau bylchau yno yn ymwneud â gwerthu anifeiliaid anwes i geisio gwella gorfodi gan awdurdodau lleol."

    Ychwanegodd, "Ond mae mwy y gallwn ei wneud. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau edrych eto ar drwyddedu cŵn. Pan oeddwn yn ifanc, roedd yn rhaid i bobl gael trwydded cŵn, ac efallai mai dyma'r amser i edrych ar hynny. Rwyf wedi gofyn i'm prif swyddog milfeddygol dros dro wneud hynny i mi."

    JackFfynhonnell y llun, Llun teulu
    Disgrifiad o’r llun,

    Disgrifwyd Jack gan ei deulu fel "bachgen mor annwyl"

  4. Cyflogau yn y GIGwedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich 7 Chwefror 2023

    "Pam gymerodd hi mor hir i chi ?" meddai arweinydd Plaid Cymru Adam Price ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnig 3% yn ychwanegol i wyth undeb iechyd ar ben y £1,400 a addawyd eisoes.

    Gohiriwyd streic gan staff GIG Cymru yn dilyn cynnig gwell gan weinidogion.

    Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol, y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, Coleg Brenhinol y Bydwragedd a staff ambiwlans undeb y GMB wedi gohirio streiciau.

    "Dyma'r gyllideb galetaf i mi fel gweinidog erioed" meddai Lesley Griffiths.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynnig newydd o 3% ychwanegol - wedi’i ôl-ddyddio i Ebrill 2022, gyda 1.5% ohono wedi’i gydgrynhoi.

    Mae hyn yn golygu y byddan nhw'n derbyn 3% eleni a 1.5% o dâl ychwanegol y flwyddyn nesaf.

    Mae Mr Price yn ailadrodd galwad Plaid Cymru am gynnydd 1c yn y bunt i bobl sy'n ennill dros £12,500, cynnydd o 2c ar gyflogau dros £50,000, a 3c ychwanegol i'r rhai sy'n ennill mwy na £150,000.

    Dywed y gall yr arian ychwanegol fynd ar dâl y GIG a gofal cymdeithasol.

    Atebodd Lesley Griffiths, “Mae ein safbwynt ar drethi yn glir iawn; mae unrhyw ddadansoddiad o’r ysgogiadau sydd ar gael i ni fel llywodraeth drwy gyfraddau treth incwm Cymru yn dangos na allwn godi digon, yn ddigon teg, i wneud iawn am y tyllau sydd wedi’u creu gan yr argyfwng economaidd, a sicrhau cyflogau uwch yn ein gwasanaethau cyhoeddus.

    “Felly, dydw i ddim yn meddwl y byddai’n iawn mewn argyfwng costau byw i ofyn i unrhyw un sy’n talu’r gyfradd incwm sylfaenol dalu unrhyw arian ychwanegol”.

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  5. Cymorth rhyngwladolwedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich 7 Chwefror 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn gofyn pa gyfraniad y gall Cymru ei wneud fel rhan o’r ymdrech cymorth rhyngwladol yn ne Twrci a gogledd Syria yn dilyn daeargryn enfawr sydd wedi lladd mwy na 5,000 o bobol.

    “Mae gan Gymru draddodiad balch o helpu mewn sefyllfaoedd fel hyn,” meddai.

    Mae Lesley Griffiths yn ateb bod ei chydweithiwr yn y cabinet Jane Hutt wedi gofyn i swyddogion ddechrau trafodaethau gyda llywodraeth y DU ar y mater.

    “Rwy’n siŵr bod yna bobl eisoes yn cael eu hadnabod i fynd i gefnogi’r ymgyrch achub,” ychwanega.

    Yna mae Mr Davies yn cyfeirio at farn archwilydd cyffredinol Cymru bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu "ar frys y gellid fod wedi ei osgoi" i brynu fferm ym Mhowys at ddefnydd posib gŵyl gerddoriaeth y Dyn Gwyrdd.

    Mae Mr Davies yn tynnu sylw at ddiffyg cofnodion o gyfarfodydd ynghylch prynu Fferm Gilestone am £4.25m, gan nodi chwe chyfarfod heb gofnodion rhwng gweision sifil a Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

    "Mae gwersi i'w dysgu bob amser," meddai Lesley Griffiths, gan ychwanegu bod "llawer o bethau cadarnhaol yn llythyr yr archwilydd cyffredinol".

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  6. Diogelwch adeiladau bwrdd iechyd Betsi Cadwaladrwedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich 7 Chwefror 2023

    Mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, yn gofyn pa asesiad y mae'r gweinidog wedi'i wneud o ddiogelwch adeiladau y mae Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn berchen arnynt.

    Dim ond 62% o adeiladau'r bwrdd iechyd sy'n "weithredol yn ddiogel," mae adroddiad gan y bwrdd wedi datgelu.

    Mae'r bwrdd yn berchen ar 238 eiddo ar draws gogledd Cymru.

    Meddai'r adroddiad: "Mae yna risg y gallai methu â darparu amgylchedd adeiledig diogel sy'n cydymffurfio arwain at niwed y gellir ei osgoi i gleifion a staff."

    Dywed Janet Finch-Saunders "yn syml, nid yw hyn yn sefyllfa dda i fwrdd iechyd sy'n gwyro o un argyfwng, neu un sgandal neu stori, o wythnos i wythnos".

    Mae'r Trefnydd Lesley Griffiths yn ateb bod y bwrdd yn "gyfrifol am gyflwr ei ystâd ei hun. Gellir cyflwyno achosion busnes i Lywodraeth Cymru am arian cyfalaf ar gyfer blaenoriaethau asesedig y bwrdd iechyd, y mae'n rhaid eu hystyried yn erbyn cefndir o bwysau cyfalaf sylweddol ar draws GIG Cymru."

    Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod angen £348m i ddod ag adeiladau i fyny i'r safon
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod angen £348m i ddod ag adeiladau i fyny i'r safon

  7. 2 Sisters: 730 o swyddi yn y fantolwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich 7 Chwefror 2023

    Mae Rhun ap Iorwerth, AS Ynys Môn, yn holi ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad y 2 Sisters Food Group ar gau ei safle yn Llangefni.

    Byddai rhyw 730 o swyddi yn cael eu colli.

    Dywed Lesley Griffiths bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i roi ei chefnogaeth lawn i'r gweithwyr yr effeithir arnynt, ond mae'n rhaid iddi "baratoi ar gyfer y gwaethaf".

    Dywed fod cyfarfod cyntaf tasglu wedi'i gynnal yr wythnos ddiwethaf.

    Mae’n cynnwys uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, a chynrychiolwyr ar ran Cyngor Ynys Môn, Llywodraeth y DU, 2 Sisters Poultry Ltd ac Undeb Unite. Cytunodd y tasglu mai’r amcan pennaf oll yw ymchwilio i ffyrdd newydd o sicrhau dyfodol y ffatri a'r swyddi yn Llangefni.

    Dywed Rhun ap Iorwerth os bydd y ffatri'n cau, "rhaid i'r ymateb fod yn sylweddol ac yn gyflym, a hynny gan lywodraethau Cymru a Phrydain", gyda "chefnogaeth ariannol sylweddol".

    Atebodd Lesley Griffiths, “Rydym, unwaith eto, yn annog llywodraeth y DU i weithredu’n gyflym i gefnogi busnesau Cymru, ac, fel llywodraeth, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu.”

    Ers dechrau rhedeg y ffatri yn 2013, dywed 2 Sisters eu bod wedi buddsoddi £5m yn y safle yn Llangefni
    Disgrifiad o’r llun,

    Ers dechrau rhedeg y ffatri yn 2013, dywed 2 Sisters eu bod wedi buddsoddi £5m yn y safle yn Llangefni

  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich 7 Chwefror 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Y Trefnydd Lesley Griffiths sy'n ateb y cwestiynau heddiw, yn dilyn marwolaeth Clare Drakeford, gwraig y prif weinidog,

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Mark a Clare DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark a Clare Drakeford