Crynodeb

  • Y Trefnydd Lesley Griffiths sy'n ateb y cwestiynau, yn dilyn marwolaeth Clare Drakeford, gwraig y prif weinidog,

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich 14 Chwefror 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto ar ôl toriad hanner tymor y gwanwyn.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. HS2: Galw am ystyried y prosiect fel un 'Lloegr yn unig'wedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich 14 Chwefror 2023

    Mae Lesley Griffiths yn dweud na all hi ddeall sut y gall llywodraeth y DU honni bod HS2 yn brosiect i Gymru a Lloegr.

    Yn 2021 galwodd grŵp trawsbleidiol o ASau yn San Steffan am i HS2 gael ei ystyried fel prosiect i Loegr yn unig fel bod Cymru’n derbyn arian cyfrannol.

    Dywedon nhw fod dadansoddiad llywodraeth y DU ei hun wedi dod i'r casgliad y byddai'r prosiect rheilffordd yn creu "anfanteision economaidd i Gymru".

    Eglura Lesley Griffiths, “Rwy’n meddwl bod y ffaith bod llywodraeth y DU yn parhau i gategoreiddio HS2 fel prosiect Cymru a Lloegr, er gwaethaf argymhellion y Pwyllgor Materion Cymreig i'w ystyried fel prosiect Lloegr yn unig, wir yn chwalu ein gallu i allu buddsoddi yn y rheilffyrdd yng Nghymru, a gwn fod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn parhau i wneud y pwynt hwnnw i’r Trysorlys, naill ai i’r Canghellor neu i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, ac wedi gofyn i lywodraeth y DU ailedrych ar y penderfyniad dosbarthu, ac yna rhoi swm canlyniadol Barnett i Gymru a fyddai tua £5 biliwn”.

    HS2Ffynhonnell y llun, HS2
  3. Trafnidiaeth integredig?wedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich 14 Chwefror 2023

    Dywed y Ceidwadwr Janet Finch-Saunders “yng nghytundeb cydweithredu Llafur Cymru a Phlaid Cymru, rydych yn gwneud addewid clir i ofyn i Trafnidiaeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol yng ngogledd-orllewin Cymru a Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau ar gyfer trafnidiaeth integredig. Nawr, yn hytrach na gweld cynnydd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Gwynedd a Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni ar gyfer fy nghymunedau yn nyffryn Conwy."

    Atebodd Lesley Griffiths, “rydym yn gweithio ar fodel newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru, a fydd yn caniatáu inni weithio gydag awdurdodau lleol fel y gallwn ddylunio’r rhwydweithiau bysiau sydd eu hangen ar eu cymunedau gyda’n gilydd, oherwydd nhw yw’r rhai sydd yn y sefyllfa orau i'n galluogi i weithio gyda nhw a gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi contractau ar waith i'w cyflawni.

    "Yr hyn y byddwn yn ei wneud fel llywodraeth yw rhoi pobl cyn elw".

    Janet Finch-Saunders
    Disgrifiad o’r llun,

    Janet Finch-Saunders

  4. Cyllid codi'r gwastadwedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich 14 Chwefror 2023

    Mae Lesley Griffiths yn disgrifio cyllid codi'r gwastad llywodraeth y DU fel "ymosodiad ar y setliad datganoli".

    Mae’n dweud ei fod yn gyfystyr â “cholli £1.1 biliwn o'r hyn oedd yng nghronfeydd yr UE, toriad yng nghyllideb Cymru mewn termau real”.

    Ychwanegodd, "rwy'n meddwl nad yw cael rhaglenni diffygiol iawn gan lywodraeth y DU yn rhywbeth i'w ddathlu o gwbl. Byddan nhw'n cael effaith gyfyngedig iawn. Mae'n debyg y byddan nhw'n werth gwael am arian hefyd.

    “Rwy’n meddwl bod llawer o gynigion rhagorol wedi’u cyflwyno, ond yn anffodus collwyd y rhain oherwydd bod gweinidogion y DU yn Llundain wedi dewis enillwyr a chollwyr a gwneud penderfyniadau ar brosiectau lleol yma yng Nghymru”.

    Dywed y Ceidwadwr Sam Rowlands “mae’r cynghorau hynny yng Nghymru yn ymgeisio’n llwyddiannus am yr 11 prosiect hynny gyda gwerth £200 miliwn o gyllid, rwy’n siŵr, i’w groesawu gan lawer o gymunedau ac yn mynd i fod yn drawsnewidiol i bobl ar hyd a lled Cymru. Yn fwy cyffredinol, wrth gwrs, derbyniodd Cymru deirgwaith swm y pen o gyllid na de-ddwyrain Lloegr - yr ardal uchaf y pen o gyllid ar draws Prydain Fawr”.

    Lesley Griffiths
    Disgrifiad o’r llun,

    Lesley Griffiths

  5. Tynnu cwestiwn yn ôl yn anghonfensiynolwedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich 14 Chwefror 2023

    Mae’r Llywydd yn nodi bod y Ceidwadwr Laura Anne Jones wedi tynnu ei chwestiwn yn ôl yn anghonfensiynol er ei bod yn bresennol yn y Siambr.

    Roedd hi i fod i ofyn "pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i Fil Diwygio Cydnabod Rhywedd yr Alban wrth greu Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru?"

  6. Cynllun Argyfwng Bysiauwedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich 14 Chwefror 2023

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymestyn y Cynllun Argyfwng Bysiau - oedd i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2023 - am gyfnod trosiannol o dri mis yn unig.

    Dywed Mr Price fod “tri chwarter o’r holl deithiau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cael eu gwneud ar fws, ond mae bysiau’n cael cyfran fach iawn o’r buddsoddiad sydd wedi’i glustnodi ar hyn o bryd gan y llywodraeth ar gyfer rheilffyrdd.

    “Bydd torri’r cyllid hwnnw ymhellach ar adeg o ostyngiad yn nifer y teithwyr a chostau cynyddol yn difetha’r rhwydwaith bysiau; bydd yn rhoi menywod, plant a phobl ifanc, yr henoed, yr anabl, gweithwyr ar incwm isel, a chymunedau gwledig a’r Cymoedd o dan anfantais anghymesur.

    “Mae torri cymhorthdal i drafnidiaeth bws yng nghanol argyfwng costau byw ymhlith y gweithredoedd mwyaf anflaengar yr ydych erioed wedi’u cynnig”.

    Dywed Lesley Griffiths fod y cynllun wedi'i gyflwyno i gadw gwasanaethau bws hanfodol i redeg trwy gydol y pandemig a bod angen iddynt nawr ddechrau trosglwyddo i ffwrdd o gyllid brys.

    Mae hi'n dweud bod yr estyniad o dri mis yn rhoi "sefydlogrwydd tymor byr" i'r diwydiant.

    Mae Lesley Griffiths hefyd yn dweud nad yw defnydd o fysiau wedi dyvhwelyd i'r hyn ydoedd cyn y pandemig.

    "Mae llawer ohono'n ymwneud â chyllid, ni allwch wario cyllid nad oes gennych chi".

    Ychwanegodd: "Rydym mewn sefyllfa anodd iawn yn ein cyllideb. Nid ydym wedi gallu cadarnhau pecyn ariannu'r diwydiant bysiau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf eto".

    Addawodd ddiweddariadau pellach "wrth i ni fynd trwy'r mis hwn".

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  7. Bil Aer Glân yn cael ei gyflwyno eleniwedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich 14 Chwefror 2023

    Mae Lesley Griffiths yn dweud wrth Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, y bydd Bil Aer Glân (Cymru) yn cael ei gyflwyno eleni.

    Byddai targedau ansawdd aer newydd yn cael eu gosod gan weinidogion a gofyniad am adolygiad o gynlluniau i fynd i'r afael â llygredd aer bob pum mlynedd.

    Byddai awdurdodau lleol yn cael mwy o bwerau i fynd i’r afael â cherbydau sy’n cael eu stopio ag injan yn segura, gan gynnwys y tu allan i ysgolion a lleoliadau gofal iechyd, a byddai’r cosbau y gallant eu rhoi yn cynyddu.

    Dywed Mr Davies fod y ddeddfwriaeth arfaethedig "wedi cael ei thrafod ers blynyddoedd lawer" ac yn disgrifio cyd-destun "2,000 o farwolaethau cynamserol a £1 biliwn o wariant gyda'r GIG yng Nghymru. Dyna gost aer budr ar ysgyfaint pobl a chyflyrau iechyd cysylltiedig."

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  8. Effaith yr argyfwng costau byw ar bobl ifancwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich 14 Chwefror 2023

    Mae aelod Llafur De Clwyd, Ken Skates yn gofyn pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar bobl ifanc.

    Dywed Lesley Griffiths "mae dadansoddiad yn dangos bod teuluoedd â phlant yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw, yn enwedig plant o gartref sydd â nodweddion gwarchodedig. Rydym yn cefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd, gan gynnwys ein cynnig gofal plant, cymorth gyda chostau ysgol, prydau ysgol am ddim, a’n gwarant i bobl ifanc”.

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich 14 Chwefror 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Y Trefnydd Lesley Griffiths sy'n ateb y cwestiynau heddiw, yn dilyn marwolaeth Clare Drakeford, gwraig y prif weinidog,

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Mark a Clare DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark a Clare Drakeford