Crynodeb

  • Mark Drakeford yn dychwelyd i'r Senedd am y tro cyntaf ers marwolaeth ei wraig Clare.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi, a Dydd Gŵyl Dewi hapus yfory!

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Diwydiant bysiauwedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2023

    Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru yn rhybuddio y byddai torri cefnogaeth i'r diwydiant bysiau yn cael "effaith andwyol enfawr ar fywydau pobl. Byddai hefyd yn mynd yn groes i ymdrechion i hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy".

    Dywed y prif weinidog fod cynllun brys oes pandemig wedi'i ymestyn, am dri mis i ddechrau.

    Defnyddiwyd cyllid o’r Cynllun Argyfwng Bysiau i gadw gwasanaethau i redeg yn ystod anterth y pandemig.

    Yn gynharach y mis hwn dywedodd datganiad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, cynghorau a'r diwydiant bysiau eu bod "yn awr angen trosglwyddo i ffwrdd o gyllid brys".

    Roedd y cynllun i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2023, ond cafodd ei ymestyn am dri mis arall.

    Ond eglura’r prif weinidog, “Ni ellir ymestyn cyllid brys am gyfnod amhenodol y tu hwnt i’r pwynt lle arweiniodd yr argyfwng at y miliynau ar filiynau o bunnoedd sydd wedi’u canfod gan drethdalwyr Cymru i gefnogi’r diwydiant bysiau tra roedd yr argyfwng ar waith. Dros £150 miliwn yn fwy na’r miliynau o bunnoedd sydd eisoes wedi’u buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau sydd wedi’u darparu i’r diwydiant ers i bandemig Covid ddechrau.”

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  3. Deintyddiaethwedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2023

    Pan ofynnwyd iddo gan y Ceidwadwr James Evans beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod plant yn gallu cael mynediad at ddeintyddiaeth o ansawdd da, dywedodd y prif weinidog eu bod yn ystyried "syniadau ar gyfer delio â gwasanaethau deintyddol mewn ardaloedd gwledig, a'r posibilrwydd o ddeintyddiaeth symudol mewn ysgolion uwchradd".

    Deintyddiaeth
  4. Plaladdwyr niweidiolwedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2023

    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau’r defnydd o blaladdwyr niweidiol, meddai’r prif weinidog wrth Mike Hedges.

    Dywed, "ein polisi yw lleihau, i'r lefel isaf bosibl, effaith plaladdwyr ar bobl, bywyd gwyllt, planhigion a'r amgylchedd ehangach. Bu gostyngiad cyson yn y defnydd o blaladdwyr amaethyddol yng Nghymru dros y cyfnod datganoli, ond mae mwy y gallwn ac y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol."

    Dywed Mr Hedges "mae'r plaladdwyr gwaethaf yn cynnwys athrozene, hecsachlorobenzene, glyffosad, methomyl a rotenone. Yn seiliedig ar ddata Sefydliad Iechyd y Byd, maent yn arbennig o beryglus oherwydd biogronni, eu dyfalbarhad mewn dŵr, pridd a gwaddod, gwenwyndra i organebau dyfrol, a gwenwyndra i wenyn a'r ecosystem. Mae glyffosad yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd. A wnaiff y prif weinidog edrych naill ai i wahardd y plaladdwyr a grybwyllwyd uchod neu awgrymu nad ydynt yn cael eu defnyddio gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru?"

    Atebodd Mr Drakeford, "Rwy'n meddwl bod y rhain yn faterion pwysig iawn sy'n haeddu cael eu trafod yn gyhoeddus yn fwy trylwyr a rheolaidd... mae'r nodyn sydd gennyf yn dweud wrthyf fod athrozene, hecsachlorobensen a methomyl eisoes wedi'u gwahardd i'w defnyddio yn y Deyrnas Unedig."

    Mae'n ymhelaethu, "Glyffosad yw'r plaladdwyr a ddefnyddir amlaf y cyfeiriodd Mike Hedges ato. Hyd yn hyn rydym wedi dilyn y rheolau a ddefnyddir yn yr Undeb Ewropeaidd.

    "Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi ymestyn ei ganiatadau presennol ar gyfer defnyddio glyffosad am 12 mis arall o fis Tachwedd y llynedd, a disgwylir y byddant yn cyhoeddi cyngor newydd ar hynny cyn diwedd y flwyddyn galendr hon a fydd yn bwydo i mewn i gynllun gweithredu cenedlaethol newydd y Deyrnas Unedig ar gyfer defnydd cynaliadwy o blaladdwyr o 2023.

    "Gall Cymru fynd ymhellach na'r cynllun hwnnw os nad ydym yn fodlon â'i gwmpas."

    GlyffosadFfynhonnell y llun, Reuters
  5. Bwrdd iechyd sy'n 'methu'wedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2023

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn dweud bod Betsi Cadwaladr yn "fwrdd iechyd sy'n methu. Mae'n methu cleifion ac mae'n methu staff".

    Mae'n tynnu sylw at dri adroddiad damniol, "ond dim ond blaen y mynydd iâ yw hynny".

    Mae'n gofyn "faint mwy o adroddiadau damniol ydych chi'n fodlon eu derbyn ar eich gwyliadwriaeth cyn i weinidog iechyd Llafur gymryd cyfrifoldeb?"

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod "y gweinidog iechyd Llafur wedi cymryd cyfrifoldeb ddoe".

    Dywed Mr Price na ddylai'r bwrdd fod wedi ei dynnu allan o fesurau arbennig yn y lle cyntaf, ac mae'n galw eto am ad-drefnu'r bwrdd.

    Dim ond dwy flynedd yn ôl daeth y bwrdd allan o fesurau arbennig, ar ôl 1,996 o ddiwrnodau o fod o dan arolygiaeth fwy uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

    Dywed Mr Price "ddwy flynedd yn ôl a chydag etholiad ar y gorwel, roeddech am roi'r argraff eich bod wedi arwain y bwrdd iechyd drwy ddiwygio sylweddol a'ch bod wedi gwneud eich gwaith. Roedd yn gynamserol. Mae wedi profi i fod yn ddi-hid, ac fe ddangosodd hynny ddiffyg barn ac arweinyddiaeth.”

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “Rwy’n gwrthod yn llwyr yr hyn yr wyf yn ei ystyried yn gyhuddiad gwarthus bod y penderfyniadau a wnaed ym mis Tachwedd 2020 wedi’u hysgogi gan unrhyw beth heblaw’r cyngor a gafodd Llywodraeth Cymru gan y system deiran yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer penderfyniad gweinidogion.

    "Darparwyd cyngor mai dyna beth y dylem ei wneud gan yr archwilydd cyffredinol, gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a chan swyddogion Llywodraeth Cymru."

    Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  6. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladrwedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at y cyhoeddiad bod bwrdd iechyd gogledd Cymru wedi’i roi dan fesurau arbennig am yr eildro.

    Mae'n dweud ei fod yn "syndod" fod aelodau annibynnol y bwrdd wedi gorfod ymddiswyddo.

    Mae'n esbonio, "Mae trigolion gogledd Cymru - o gofio mai dim ond yn ddiweddar y tynnwyd y bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig - yn ddealladwy mewn sioc ei fod yn mynd yn ôl i fesurau arbennig ar ôl bod yn y mesurau arbennig am chwe blynedd. Roedd aelodau annibynnol y bwrdd, yn ôl geiriau adroddiad yr archwilydd cyffredinol, yn gweithio mewn modd cydlynol i ddwyn y weithrediaeth i gyfrif”.

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod y gweinidog iechyd wedi gwneud asesiad o'r hyn yr oedd yr Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton wedi'i ddweud.

    Dywed y prif weinidog nad yw penodi cadeirydd a phrif weithredwr newydd yn ddigon, ac mae'n cydnabod yr angen am weithredu mwy sylfaenol.

    Mae Betsi Cadwaladr yn rhedeg gwasanaethau GIG gogledd Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Betsi Cadwaladr yn rhedeg gwasanaethau GIG gogledd Cymru

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. Croesawu’r prif weinidog yn ôlwedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2023

    Mae’r Llywydd Elin Jones yn croesawu’r prif weinidog yn ôl i’r Siambr ar ran yr holl aelodau.

  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich 28 Chwefror 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Mae Mark Drakeford yn dychwelyd i'r Senedd am y tro cyntaf ers marwolaeth ei wraig Clare.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter