Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau ASau, ar ddiwrnod pleidlais y Senedd ar gyllideb y llywodraeth.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:26 Amser Safonol Greenwich 7 Mawrth 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyrwedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich 7 Mawrth 2023

    Mae'r prif weinidog a'r Ceidwadwr Tom Giffard yn dadlau am berfformiad Cymru mewn profion rhyngwladol mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

    Dywed Mr Giffard "dangosodd canlyniadau olaf y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn 2018 fod Cymru ar waelod safleoedd y DU am y pumed tro yn olynol. Cawn weld beth sy'n digwydd pan ddaw canlyniadau 2022 allan yn ddiweddarach eleni, ond ers hynny, dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi gweld tarfu sylweddol ar addysg plant yng Nghymru oherwydd y pandemig COVID-19 a nawr streiciau athrawon hefyd."

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “Cymru oedd yr unig ran o’r Deyrnas Unedig i weld gwelliant ym mhob un o dri dimensiwn PISA pan gyhoeddwyd y ffigurau hynny ddiwethaf. Gwn fod Aelodau Ceidwadol yn meddwl mai eu gwaith nhw yw diystyru Cymru, ond, mewn gwirionedd, roedd canlyniadau PISA ar ben arall y sbectrwm hwnnw”.

    Mae sampl o ddisgyblion 15 oed mewn 79 o wledydd a rhanbarthau yn cymryd profion PISA bob tair blynedd.

    Mae’r rhaglen wedi’i gosod gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ac mae’n caniatáu i ni gymharu sgiliau sylfaenol pobl ifanc yn eu harddegau mewn mannau ar draws y byd.

    PISAFfynhonnell y llun, PISA
  3. 'Gorchest beirianyddol ryfeddol'wedi ei gyhoeddi 14:15 Amser Safonol Greenwich 7 Mawrth 2023

    Mae'r prif weinidog yn disgrifio ffordd Blaenau'r Cymoedd fel "gorchest beirianyddol ryfeddol", gydag "agweddau amgylcheddol yn cael sylw mor ofalus".

    Mae Llywodraeth Cymru yn troi’r darn 30 milltir o hyd rhwng Y Fenni a Hirwaun yn ffordd ddeuol.

    Fis diwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i bob heol newydd yn y dyfodol basio meini prawf llym sy’n golygu bod yn rhaid iddynt beidio â chynyddu allyriadau carbon, rhaid iddynt beidio â chynyddu nifer y ceir ar y ffyrdd, rhaid iddynt beidio ag arwain at gyflymder uwch ac allyriadau uwch, ac ni ddylent gael effaith negyddol ar yr amgylchedd.

    ffordd Blaenau'r CymoeddFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Cystadleurwydd porthladdoedd Cymruwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich 7 Mawrth 2023

    Ynghylch cytundeb llywodraeth y DU gyda’r UE ar newidiadau mawr i Brotocol Gogledd Iwerddon, mae’r prif weinidog yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn "rhoi sylw arbennig i effaith fframwaith Windsor ar gystadleurwydd porthladdoedd Cymru".

    Mae'r protocol yn rhan o gytundeb Brexit sy'n pennu rheolau masnach Gogledd Iwerddon.

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  5. Trafnidiaeth gyhoedduswedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich 7 Mawrth 2023

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn nodi y bydd prisiau tocynnau trên yn Lloegr yn codi hyd at 5.9% o fis Mawrth.

    Mae'n gofyn pam fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i'r un cynnydd yng Nghymru.

    Mae'r prif weinidog yn dweud mai'r arfer fyddai cynyddu prisiau tocynnau trên yn unol â chwyddiant, a fyddai "wedi golygu cynnydd o 12.3%".

    Mae Mr Price yn cynnig y gallai trethi incwm gael eu codi i helpu i ariannu tocynnau trên rhatach.

    Mae Plaid Cymru yn dweud ei bod yn “anodd anghytuno" gyda llefarydd Llafur ar drafnidiaeth, Louise Hauge AS, a ddywedodd y byddai’r cynnydd yn "jôc sâl i filiynau sy’n dibynnu ar wasanaethau sy'n dadfeilio”.

    Mae Mr Drakeford yn dweud mai dyma'r "fargen orau y gallen ni ddod iddi yng Nghymru o fewn yr adnoddau sydd ar gael", a bod cyfraniad y trethdalwr yn cynyddu.

    Ychwanega Mr Price: “Beth yw pwynt y lle hwn os ydym yn syml yn senedd torri a gludo sy’n gweithredu llymder Torïaidd yn oddefol?

    “Fe allech chi fod wedi gwneud yr hyn a wnaeth llywodraeth yr Alban, sef lleihau prisiau brig a thalu amdano trwy ddefnydd cynyddol o’ch pwerau treth incwm.”

    Mae Mr Price hefyd yn cyhuddo Mr Drakeford o "dorri cymhorthdal i'r diwydiant bysiau".

    “Rydych chi i bob pwrpas yn gwthio rhannau helaeth o’r diwydiant bysiau dros ymyl y dibyn ddiwedd mis Mehefin," meddai.

    Mae Mr Drakeford yn ateb: “Rwy’n hyderus y byddwn yn gallu parhau i ddod o hyd i ragor o arian.

    "Mae'r arian ychwanegol yn arian brys - ni all fynd ymlaen am byth.

    “Rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o gytuno gyda’r diwydiant ar ateb cynaliadwy yn y cyd-destun nad yw nifer y teithwyr sy’n defnyddio bysiau wedi gwella i’r man lle’r oeddent cyn y pandemig.

    “Rwy’n hyderus o’r trafodaethau a gawsom ddoe y byddwn yn dod o hyd i ragor o gyllid y tu hwnt i’r £12m i gynnal cyllid brys hyd at chwarter cyntaf eleni ac y byddwn yn ei wneud ochr yn ochr â’r diwydiant i ddod i sefyllfa ariannol gynaliadwy”.

    Dywedodd Mr Drakeford fod trafnidiaeth gyhoeddus yn "flaenoriaeth bwysig iawn i'r llywodraeth hon".

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  6. Amddiffyn lesddeiliaidwedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich 7 Mawrth 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu deddf sy'n amddiffyn lesddeiliaid.

    Mae'r Ddeddf Diogelwch Adeiladau yn golygu y gellir gorfodi datblygwyr yn Lloegr i ariannu atgyweiriadau fel gosod cladin newydd.

    “Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn dod ymlaen ac yn mabwysiadu’r ddeddfwriaeth sydd wedi’i rhoi i lawr yn Lloegr, i gymryd adrannau 116 a 125, i roi hawliau i lesddeiliaid fel y gallant hwythau ddwyn y datblygwyr i gyfrif?” gofyna Mr Davies.

    Mae grŵp ymgyrchu'r Cladiators Cymreig wedi dweud nad oedd gan Gymru "unrhyw gynllun gorfodi".

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "mae'r gweinidog yn cadw'r holl ddadleuon hynny am adrannau 118 i adran 125 dan adolygiad."

    Ychwanegodd, "y sefyllfa, serch hynny, yw bod y rheoliadau hynny - yr adrannau hynny - wedi'u hysgrifennu'n benodol ar gyfer y gyfundrefn diogelwch adeiladau yn Lloegr. Nid yw mor syml â'u codi a'u gollwng i'r cyd-destun Cymreig gwahanol iawn.

    "Ac mae rhai anfanteision i lesddeiliaid, sy’n cael eu hunain o fewn y drefn honno, oherwydd yma yng Nghymru ein bwriad yw na ddylai fod yn ofynnol i lesddeiliaid dalu am y camau adfer sy’n ofynnol i’w hadeiladau, tra bod yr adrannau hynny yn gwneud lesddeiliaid yn agored i filiau i fyny i £10,000, a dydyn ni ddim yn bwriadu gwneud hynny yng Nghymru."

    Yn dilyn trasiedi Tŵr Grenfell yn Llundain yn 2017, canfuwyd bod nifer o flociau o fflatiau yng Nghymru â diffygion diogelwch tân.

    Mae gwaith trwsio diffygion ar lawer o'r blociau hyn eto i'w wneud, yng nghanol dadleuon ynghylch pwy ddylai dalu.

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. 'Gofal iechyd darbodus'wedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich 7 Mawrth 2023

    Mae aelod Llafur Canol Caerdydd, Jenny Rathbone yn gofyn "pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran ymgorffori gofal iechyd darbodus ym mhob agwedd ar iechyd a llesiant".

    Dywed y prif weinidog y bu'n bolisi gan Lywodraeth Cymru ers tro byd.

    Mae’n rhoi enghraifft, “Rwy’n cofio, rai blynyddoedd yn ôl bellach, pan oeddwn yn weinidog iechyd, ymweld â Phenygroes, ardal Gymraeg ei hiaith ym maes glo Rhydaman, i weld gwasanaeth dementia, a chael gwybod gan y meddygon teulu a oedd yn ei redeg mai eu ffynhonnell bwysicaf o atgyfeiriadau oedd trinwyr gwallt ar brif stryd y pentref, oherwydd roedd y trinwyr gwallt hynny’n adnabod eu cwsmeriaid; gallent weld y person nad oedd yn ymdopi cystal ag yr oeddent yn arfer gwneud, gyda’r arian, gyda’r sefydliad, a byddent yn gwneud atgyfeiriad cynnar i’r gwasanaeth dementia, fel y gallai pobl gael yr ymyriad ataliol hwnnw sy’n bosibl pan fyddwch yn llwyddo i adnabod pobl yn gynnar ar y siwrnai honno.”

    Pan oedd Mark Drakeford yn weinidog dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, cyhoeddodd ddogfen yn 2016 yn esbonio bod "gofal iechyd darbodus yn disgrifio’r ffordd arbennig o lunio’r GIG yng Nghymru i sicrhau ei fod wastad yn ychwanegu gwerth, yn cyfrannu at ganlyniadau gwell ac yn gynaliadwy".

    Egwyddorion gofal iechyd darbodus, yn ôl y ddogfen, dolen allanol, yw:

    • Cyflawni iechyd a lles gyda’r cyhoedd, cleifion a gweithwyr proffesiynol yn bartneriaid cyfartal yn y broses drwy gydgynhyrchu;
    • Gofalu am y rhai sydd â’r anghenion iechyd mwyaf yn gyntaf, gan wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r holl sgiliau ac adnoddau;
    • Gwneud dim ond yr hyn sydd angen ei wneud, dim mwy, dim llai; a pheidio ag achosi niwed.
    • Lleihau amrywiadau amhriodol gan ddefnyddio arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn modd cyson a thryloyw.
  8. 'Loteri cod post'?wedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich 7 Mawrth 2023

    Mae'r prif weinidog yn gwadu honiad y Ceidwadwr Joel James bod "loteri cod post" yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

    Meddai Mr James, "Roedd gan fwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, sy'n cynnwys cwm Cynon, ynghyd â Phen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a gweddill Rhondda Cynon Taf, 13,732 o gleifion yn aros mwy nag 14 wythnos am wasanaethau diagnostig a therapi, allan o boblogaeth o 450,000. Mae hyn yn cynrychioli 36 y cant o gyfanswm y bobl sy'n aros mwy na 14 wythnos yng Nghymru."

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "mae hyn oherwydd bod Cwm Taf Morgannwg yn gwasanaethu un o'r poblogaethau hynaf a mwyaf sâl a welwn yn unrhyw le yng Nghymru. Ac mae'r galw am wasanaethau iechyd yn adlewyrchu anghenion y boblogaeth leol honno."

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich 7 Mawrth 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.